Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Cymru yn y Senedd. Mr. J.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymru yn y Senedd. Mr. J. H. Roberts, Gorllewin Sir Ddinbych. DEDDF Ad-drefniad 1884 a ddygodd etholaeth Gorllewinbarth Dinbych i fod. Yn flaenorol i hynny dychwelai yr holl sir ddau aelod, ac o 1868 hyd 1885-cyfnod o ddwy flynedd-ar-byrntheg-y ddau aelod oeddynt y diweddar Syr Watkin Williams Wynn a'r diweddar Syr George Osborne Morgan. Mae Gorllewinbarth y Sir yn un o'r etholaethau eangaf a mwyaf gwasgarog, yn cyrhaedd o Froncysyllte i Lanrwst, ac o Abergele hyd Langwm, ac yn cynwys dyffrynoedd breision Dyfrdwy, Clwyd, a Chonwy, ac ucheldiroedd llwm Tir Ial a Hiraethog. Fe ddealla y cyfarwydd mai Etholaeth Amaethyddol ydyw hon yn hollol, yr unig drefi o'i mewn, heb fod yn fwrdeisdrefi, ydyw Llangollen, Llanrwst, ac Abergele, ac nid yw dwy o'r tair onid trefi marchnad i amaethwyr y cylchoedd. Yn ethol- iad 1885, y cyntaf ar ol ffurfio yr etholaeth, cafodd y Milwriad Cornwallis West, o Gastell Rhuthyn, ei ddychwelyd fel Rhyddfrydwr gyda mwyafrif o fwy na phymtheg cant. Y flwyddyn ddilynol gadawodd y Rhyddfrydwyr i'r Milwriad gael ei ail-ethol, er ei fod wedi pleidleisio yn erbyn Mesur Ymreolaeth i'r Werddon. Ond pan welsant ei fod wedi ymwadu a'r ffydd Rydd- frydol bron yn llwyr, ac yn cefnogi holl fesurau y Llywodraeth Undebol, penderfynasant ei wrthwynebu, a dewisasant Mr. J. Herbert Roberts yn ymgeisydd. A phan ddaeth yr etholiad drachefn yn 1892, er fod y Milwriad West yn ymladd fel ymgeisydd Undebol gyda holl ddylanwad y tirfeddianwyr o'i blaid, nid yn unig dychwelodd y Rhyddfrydwyr eu dyn, ond rhoddasant iddo fwy o fwyafrif o lawer o ugeiniau nag a gawsai eu hymgeisydd yn 1885. Bu raid i Mr. Roberts ymladd drachefn yn 1895, a'r pryd hwnnw chwyddodd ei fwyafrif drachefn, ac er hynny nid oes neb wedi ceisio aflonyddu arno. Cafodd "walk OlJer" yn y ddau etholiad diweddaf. Cysylltiadau Teuluol. Pan gofir fod mwyafrif aruthrol etholwyr Gorllewinbarth Dinbych yn Ymneillduwyr, nid yw yn gymaint o syndod fod Mr. Herbert Roberts mor boblogaidd pan y daeth allan gyntaf yn ymgeisydd, wrth ystyried ei gysyllt- iadau. Mab ydyw i'r diweddar Mr. John Roberts, Bryngwenallt, Abergele, yr hwn a fir yn Aelod Senedd dros Fwrdeisdrefi Fflint o 1898 hyd 1892. Bydd enw Mr. John Roberts yn barchus ac anwyl gan bob Cymro a garo ddyrchafiad ei genedl drwy y cenedlaethau, oblegid efe fu y prif offeryn i sicrhau i Gymru Ddeddf Cau y Tafarndai ar y Sabboth. Yr oedd y ffaith ei fod yn fab i dad a wnaethai y fath wasanaeth yn ddigon i'w godi i ffafr. ar unwaith. Ac onid oedd hefyd yn wyr i Mr. David Roberts, y dyngarwr crefyddol a haelionus o Lerpwl a Than'rallt—un o gyfranwyr mwyaf tywysogaidd y ganrif ddiweddaf ? Ac onid oedd ei fam yn ferch i'r diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl, awdwr hygtod Methodistiaeth Cymru ?" Cynysgaeth ardderchog i ddyn ieuanc yw hannu o stoc dda, a chafodd Mr. Herbert Roberts y gynysgaeth honno mewn helaethrwydd. Dyddiau leuenctid. Ganwyd Mr. Roberts yn 1863, ac y mae yn hynaf o dri brawd a thair chwaer. Ar ol cwrs o addysg mewn ysgolion preifat o'r radd oreu, aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, a threuliodd yno y tymhor angenrheidiol i raddio. Yn fuan MR. J. HERBERT ROBERTS, A.S. wedi g. rphen ei gwrs yn y Brifysgol, pender- fynodd gymeryd taith bron o amgylch y byd, er mwyn eangu ei wybodaeth a'i brofiad. Yn gymdeithion iddo ar y daith yr oedd Mr. J. Herbert Lewis, A.S., a Mr. H. R. Davies, Tre- borth. Ymwelsant a'r Unol Daleithau, Canada, Japan, India, ac Awstralia. Mae Mr. Herbert Roberts wedi cyhoeddi cyfrol Saesneg o hanes y daith o dan y teitl "A World's Tour," a dengys y gyfrol hon ei fod yn sylwedydd craff. Bu y daith hon o fwy na deuddeng mis yn barotoad rhagorol iddo ar gyfer Ei Yrfa Seneddol. Cafodd gyfle i weled beth yw diffygion yn ogystal a rhagoriaethau gwladweiniaeth Brydeinig o'i chymharu a gwladweiniaeth gwledydd eraill, a chyfle hefyd i ddeall neillduolion ac angenion India ac amryw o'r Trefedigaethau. Mae wedi gwneyd India yn arbenig yn faes ei astudiaeth ac yn nod ei ymdrechion. Diau fod a fynno y ffaith fod gan y Methodistiaid Calfinaidd Genhadaeth yn Cassia,gryn lawer a hyn. Fodd bynnag, y mae ers amryw flynyddoedd yn Ysgrif- enydd Pwyllgor Seneddol India, ac yn 1903 dewiswyd ef i olynu y diweddar Mr. W. S. Caine, ei dad-yng-nghyfraith, fel Ysgrifenydd yr Anglo- Indian Temperance Association. Ymdrechion Dros Ddirwest. Tra y mae Mr. Herbert Roberts, fel y gallesid disgwyl i Ymneillduwr a "blaenor Methodus fod, yn rhoddi ei holl ddylanwad i geisio sicrhau i Gymru y ddeddfwriaeth a rydd chware teg i'w bywyd ymddadblygu, ei ddymuniad penaf ydyw ei chael yn Gymru sobr. Ni fedd y mudiad Dirwestol gefnogwr mwy ffyddlon ac ymdrech- gar yn y Senedd nag allan o honi. Gwelir ef yn bresenol bob amser yng nghyfarfodydd Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd a chyfarfodydd Cyngrhair y Deyrnas Gyfunol, ac ni raid gofyn ddwywaith iddo ymddangos ar unrhyw lwyfan dirwestol. Mae yn Llywydd Cangen Llundain o Gyngrhair y Deyrnas Gyfunol er 1904. Ei brif nod yn Nhy y Cyffredin ydyw gwella a pherffeithio Deddf Cau y Tafarndai ar y Sul. Fe gofir i Gommissiwn amser yn ol chwilio i weinyddiad ac effeithiolrwydd y Ddeddf honno, ac er mai Commissiwn a ddewiswyd i felldithio ydoedd, fe welodd yn dda, fel Balaam gynt, fendithio yn hytrach. Awgrymodd yn ei adroddiad amryw welliantau, yn neillduol yn adran y bona fide traveller. Byth er hynny y mae Mr. Roberts wedi ceisio pasio Mesur i ddwyn yr awgrymiadau hynny yn Ddeddf. Hyd yn hyn ni lwyddodd yn ei ymdrechion. Ni roddai y Llywodraeth fu mewn swydd am y deng mlynedd diweddaf ddim help iddo, gwell oedd ganddi basio Mesurau i noddi a chadarn- hau y fasnach mewn diodydd meddwol na Mesurau i lesteirio a chyfyngu dim arni. Ond gobeithia y dirwestwr pybyr y ca gynorthwy y Weinyddiaeth bresenol i wneyd yn fwy effeithiol y Ddeddf fwyaf bendithiol ei dylanwad a gafodd Cymru gan Senedd Prydain erioed. Ac y mae yn galondid cofio ei fod yn cael cefnogaeth lliaws mawr o Geidwadwyr ac Eglwyswyr yn y gwaith da hwn, yn enwedig eiddo yr Esgob Edwards o Lanelwy. Yn ystyr oreu yr ymadrodd y mae Mr. Herbert Roberts yn Wir Wladgarwr Cymreig. Mae yn deall dyheuadau ein cenedl yn gym- deithasol a chrefyddol, ac nid arbeda ei hun yn yr ymdrech i'w gwasanaethu. Gwna waith rhagorol o'r tuallan i'r Senedd fel swyddog o'r Cyfundeb parchus y mae'n aelod mor amlwg ynddo, fel Ynad Heddwch yn sir Ddinbych, fel hyrwyddwr addysg, ond yn benaf oil fel un wedi ymgysegru i gael Cymru Ryddfrydol ac Ymneill- duol yn Gymru sobr.