Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

"EILUN CENEDL."-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"EILUN CENEDL." Dyma fel y canodd Dyfed, yr Archdderwydd, i'r Gwir Anrhyd. D. Lloyd-George, A.S., ar adeg ei ymweliad a Chaerdydd. Nid oes eisieu dweyd i'r prif-fardd gael hwyl anghyffredin wrth ddarllen y pennillion noson y wledd. Mae eilun cenedl heno yn y wledd, A'r bwrdd oleuir gan ei barch a'i fri; I'r Cymmrawd uchel ar ei newydd sedd Estynwn law, a chalon ynddi hi. "Llwyd" yw ei enw, ond nid llwyd ei ddawn, Fel nant y mynydd y mae hono'n glir A'i dirf athrylith dan ei blodau'n llawn, Yn gwasgar peraroglau dros y tir. Gwladweinydd doeth, a iawnder.ar ei fin, Apostol rhyddid, cyfaill Gwalia wen I fyny dringodd yn ei nerth ei hun, A bendith calon Cymru ar ei ben. Fe glywodd gri y werin yn ei gwaed, Fel llais colomen glwyfus yn yr yw A chododd genedl gyfan ar ei thraed I wrthod marw, ac i hawlio byw. Dyrchafodd fyrdd i ddial cam ei wlad,' Yn frwd ei galon ac yn glir ei farn Cadfridog Cymru Fydd, ar flaen y gad, A'i wladgar gledd yn fflamio hyd y earn. Yn wyneb lleng, dros hawliau Cymru lan, Ni thry yn ol, ni fwria'i arf i lawr; A phoeth yw gwreichion ei wladgarol dan Ar hapchwareuon Senedd Prydain Fawr. Mab y mynyddoedd, tua gloewach nen Yn dal i ddringo er ei fore ddydd Ac fel mynyddoedd yr Eryri wen, Cadernid creigiau yn ei natur sydd. Pwy dd'wed fod Cymru'n dlawd ? Mae tir a thon Yn llawenychu yn ei chyfoeth llawn Llywiawdwyr fegir ar ei thyner fron, A thyf brenhinoedd yn ei thai to cawn. Hir fu y nos, ond mae telynau'r wawr Yn dechreu canu cerddi eu rhyddhad Ac ysbryd Arthur a Llewelyn fawr Ar hyd y bryniau'n dod yn ol i'w gwlad. Hen wlad fy nhadau, gwlad y derw goed, Ac fel y derw cedyrn yw ei phlant Mae'r iaith yn fyw, mor hyawdl ag erioed, A cherddi'r Mil Blynyddoedd ar ei thant.

HOW THE LEEK CAME TO WALES.

Advertising

YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.

.Cymru yn y Senedd. Mr. J.…