Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y LLOFFT FACH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLOFFT FACH [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XVI. Y Llofft Fach" yn son am ddau Hen Ffrind. Mae cymaint a ddywedais am Malaci Mosus -er nad oedd yn llawer—wedi dwyn i'm cof dwsged o bethau difyr iawn, i ba rai yr oedd yr hen ffrind yn ganolbwynt go bwysig. Efe ddaeth i fyw i'r Mount ar ol i nwncwlod Dinah fyn'd i "ffordd yr holl ddaear"; ac yr oedd yn garitor mor wreiddiol yn ei ffordd a neb yn y wlad. Er ei fod yntau wedi myn'd i'r byd mawr er's blynyddoedd, mi a'i gwelaf yn awr yn d'od i fewn drwy'r drws yn ei holl hynod- rwydd dihafal, fel pe na byddai ond ddoe ddwaetha'n y byd. Oblegid yr oedd y'mhob- peth yn hynotach na phawb. Mae chwant arnaf ei alw i fyny'n gorfforol fel yr oedd, am fod ei wel'd yn un o amodau penaf ei werth- fawrogiad. Ond os na wnaf well busnes arno nag a wnaeth y witch hono ar Samuel-os oedd yr hen Zacri yn darllen yr hanes yn reit pwy nos—cystal i mi roi fy ffidil yn y to. Ond un budur yw Zacri am gyfansoddi. Pe deuech i fewn yma amser cwrdd, neu i'r capel gerllaw, mentrvra unpeth yn y byd taw Malaci fyddai un o'r gwrth'rychau cyntaf y disgynai eich llygaid arno. Clobyn o ddyn mawr corffol, esgyrnog, cyhyrog, brest-lydan. Pen o ffurf a maint gwahanol i'r cyffredin- ychydig o wallt teneu, mewn rhyfel parhaus a'r grib, yn tyfu bob ochr iddo—a'i goryn mor foel a llithrig a choryn y Foel Felen ar haf sych. Gwyneb yn llawn mynegiant, a'r ddau lygad mwya' byw a welsoch erioed yn llechu odditan aeliau o'ent berth'nasau agos i'r gwallt. Traed a herient unrhyw grydd i'w gwneud yn garcharorion anobeithiol mewn par o esgidiau. A chyfandir o gorff rhwng yr eithafion a barai i chwi gymeryd eich llw fod yna "syrffed" o glai lie crewyd Malaci Mosus. Yr oedd yna ryw sydynrwydd bywiog yn ei holl symudiadau. Pan fyddai'n siarad, yr oedd y fath gleciadau yn ei barabliad nes gwneud imi feddwl weithiau am ambell i ail was ffarm y'myn'd i'r calch heibio'r Llofft Fach ar lasiad y dydd, dan glecian ei chwip nes tarfu'r cwningod o'u gwal. Yr oedd yn boerwr medrus. Gwelais ef yn saethu ei boer i lygad y tan yn groes i'r llawr heb syflyd o'i gadair, na symud dim ond ei wefusau. P'run bynag ai canu, ai gweddio, ai d'weyd ei brofiad y byddai, chwys- trellai ar ganol y cwbwl, pan fyddai taro, yn union ar ei gyfer; a chadwai ei gym'dogion ar ddihun i wylio cyfeiriadau'r saethau cyhyd ag y byddai wrthi. Ond er pob gwyliadwriaeth, byddai anffawd dost yn digwydd ambell i dro. Yr wyf yn cofio pan gafodd gwas y Gwndwn siwt o ddillad newydd o liw glasoleu, yr hon oedd yn tynu sylw ac edmygedd pawb. Ond nos Lun eisteddodd yn rhy agos i Malaci, ac yn union gyferbyn ag ef pan oedd yn gweddio. Yr oedd wedi ei forteisio hefyd rhwng dwy fintai, fel na fedrai ysgogi. Mae ol y gawod ar ei ddillad byth. Priododd y gwas hwnw ferch y ffarm nesa', lie mae heddyw yn hen wr cyfrifol; ond mi wna lw taw'r un siwt sy' ganddo o hyd. Mae'r 'smotiau sydd arni yn help i gadw llfalacz'n fyw. Pan elwid arno i weddio, cwympai'n sydyn ar ei ddwylin, a daliai ei gorff mor syth nes gwneud i chwi ddal eich anadl rhag iddo syrthio'n ol ar ei gefn. Yr oedd yn arferiad i'r rhai oedd yn byw bellaf o'r ty cwrdd i dd'od a bwyd gyda hwy, a'i wneud yn y Llofft Fach ar ol yr Ysgol. Mae felly eto, o ran hyny. Yr oedd Malaci Mosus yn un o honynt, ac yn ei dro gelwid arno i geisio bendith ar y bwyd. Safai ar ei draed yn unionsyth ar ol codi, ac mor a'mhlygedig ag un o byst y ,galeri. A phan y codai, fe wnai hyny mor ddirybudd nes gwneud i'r rhai a eis- teddent nesaf ato haner godi yr un pryd. Son am gof! nid oedd neb ddeuai yn agos iddo am stoc o bethau newydd a hen." Yr oedd mor gyfoethog o chwedlau am ddynion ac anifeiliaid nes ei bod yn bwnc o ddadl droion pa un ai ei gof ai ei ddychymyg oedd gryfaf. Ond 'doedd hyny'n gwneud un gwahaniaeth i'r cwmni; oblegid yr oedd yn eu hadrodd mor ddoniol nes eu cadw mewn pangfeydd o chwerthin cyhyd ag yr o'ent yno. Gan Malaci Mosus y gwelais 1'r watsh gynta' ffor' yma. Mi soniais am dani o'r blaen megis ar ddamwain, os ydych yn cofio. Yr oedd gwyneb mawr iddi, a swn y gall'sech ei glywed o glos y ty cwrdd ar noson dawel. Cariai hi mewn poced fechan dan ei wasgod o'r golwg; a rhag iddo anghofio ble'r oedd, yr oedd lot o seliau a 'dwn I beth i gyd yn hongian o'r tu allan, yn gyfarwyddyd iddo. Chwanegodd hyn dipyn at bwysau Malaci, yn enwedig y'nghlorian y plant. Pan ddaeth watshes yn fwy cyffredin, diflanodd y gyfaredd. Bu'r hen ffrind ryw dro yn cyrchu i gapel y Bedyddwyr. Yr oedd hyny cyn iddo dd'od i'r ardal yma, a lie yr oedd ei enwad ei hun heb roi ei droed i lawr. Clywais ef yn adrodd droion am ymdrechion y brodyr yn y "capel bach i'w berswadio i gymeryd ei drochi, a'r modd y "ffustodd" hwy yn y diwedd. Yr oedd brawd iddo'n Fedyddiwr yn barod; a ryw ddiwrnod, yr oedd y ddau frawd yn cydgerdded encyd o ffordd am y clawdd i'r afon, a gweinidog y "capel bach gydä. hwy. Go brin y mae eisiau d'weyd beth oedd y siarad rhyngddynt, erbyn y cofiwch fod dwy ran o dair o'r gymdeithas yn Fedyddwyr. Ac ebe'r gweinidog wrth Malaci: Twt, twt, wa'th i ch'i roi 'fyny heb ragor o ble 'rydan ni'n benderfynol o'ch ca'l ch'i dros y'ch pen cyn y cwplwn ni a ch'i Erbyn hyn yr o'ent wrth ffor' gart" oedd yn arwain i lawr at yr afon, a phwll go ddwfn ger- llaw. Safodd Malaci gyda'i sydynrwydd arferol, ac ebai: "O'r gore'. Dyma bwll Llwyndu yn y fan, trochwch fi'n awr—'rwy'n ildo Tybiai'r ddau Zelotes taw cellwair oedd ond yr oedd Malaci mor sobr a mwnc. Wrth wel'd hyny, trodd y proselytiwr yn ei dresi, ac ebai: "'Dyw hi ddim yn saff i'ch trochi ch'i 'nawr 'man hyn; 'does genoch ch'i ddim ddillad i newid, a ch'i gaech anwydalle droi'n ange' i chi." Oho ebe Malaci, os y'ch ch'i'n cysylltu perygl ag un o ordinhade'r Efengyl fel yna, 'dy'ch ch'i 'rio'd wedi 'dyall hi Prinach y mae eisiau d'weyd i Malaci Mosus gael llonydd ar bwnc bedydd o'r dydd hwnw allan. Oblegid yr oedd yn gofyn fod i'r gwr a ymaflai godwm ag ef fod wedi ei yswirio yn lied drwm. Hen gono difyr arall oedd gwr y Breindir. Dyna'r enw yr adwaenid ef wrtho fynychaf. Nid wyf yn sicr a fuasai neb yn ei adwaen wrth un enw arall; a phrin yr awn yn feichiau a fuasai ef ei hun ar d'rawiad yn deall pe cyfarchech ef wrth ei enw priodol. Dyn o doriad cwbl wa- hanol i Malaci o ran teithi meddyliol oedd gwr y Breindir; ond nid oedd eu ffram mor an- nhebyg. Cydnerth o gorff, a 'sgwarog o'i goryn i'w sawdl-gwyneb llyfndew, a'i fynegiant yn sarug pan fyddai'r prif linellau'n gorphwyso, ond yn ddymunol dros ben pan yr aflonyddid ar eu tawelwch gan ryw rog o gerub ar lun stori fachog neu ryw sylw gogleisiol wrth basio-ei ddwylo yn dyn y'ngwaelod ei bocedi isaf, a'i wddf yn torchi'n dew ac yn goch mewn canlyniad-ei draed yn blanedig yn y ddaear bob cam a roddai-a phob ystum o'i eiddo yn adsain pen- derfyniad y dyn y clywais y scwl yn son pwer am dano D'wedwch a fynoch, troi mae hi! Perthyn i lwyth Issachar, yn ddiddadl, yr oedd gwr y Breindir. Nid oedd neb a mwy o'r asyn asgyrnog" yn ei natur ag efe ac nid oedd neb parotach i ddwyn ei ysgwydd dan deyrnged gyda chan lleied o daddwrdd. Yr oedd "pletiau" rhyfedd ynddo. Beth bynag fyddai ar droed yn y cwrdd eglwys, neu ar law yn yr Ysgol, neu ar y gweill y'nglyn a'r Gymanfa Ganu, chwi allech fentro y byddai yn eich erbyn ar bob cwestiwn. Dadleuai mor bengam a llyswenog nes gwneud i'ch gwrychyn godi heb t) yn wybod i chwi. Ond yr oedd mor llawn o natur dda drwy'r cwbl nes eich gwneud i ddigio wrthych eich hunain am eich bod mor ffol a sylwi arno. A 'does dim dowt gen I nad ei ddifyrwch mwyaf oedd gwel'd y lleill y'myn'd ma's o'u co'. Chwareuai direidi yn ei ddau lygad, codai ei ddwy ysgwydd i fyny at ei ddwy- glust, ac ymsiglai drosto heb dynu ei ddwylo o'i bocedi. A dyma lle'r oedd rhagoriaeth gwr y Breindir yr oedd mor barod a neb i gydweithio dros yr hyn a feirniadai mor ddidrugaredd, fel pe na ddywedasai air erioed yn ei erbyn. Yr oedd yn rhaid iddo gael ei ble; ac yr oedd yn werth iddo gael ei ble, gan y dychwelai fwy i chwi nag a fynai iddo ei hun. Hoffai godi toll ar y gweithrediadau cyn cychwyn ond nid oedd nac yma nac acw. Credai'n gryf mewn seryddiaeth, ac yn gryfach mewn ser-ddewiniaeth; a chredai'n gryfach fyth yn ei allu ei hun i ddehongli cenadwri'r planedau, a datguddio cyfrinach y cariadon sydd try yn tramwy dros y "Llwybr Llaethog." Ond er ei ystyfnigrwydd a'i hynodion i gyd, yr oedd gwaelod ardderchog i wr y Breindir; a phan gollwyd ef, collwyd pwer o ddiniweidrwydd o'r Llofft Fach. Cyn rhoi llaw ffarwel iddo, adroddaf 'stori am dano fydd yn dangos i chwi yr ochr yna i'w gymeriad-yr ochr yr wyf wedi bod yn son am dani. Aeth pie (fel arfer) rhyngddo a haner dwsin o'r dynion oedd wedi cyrchu i'r Llofft Fach cyn y cwrdd chwech nos Sul. Testyn y pie oedd y cof. D'wedodd Malaci Mosus fod y cof, fel pobpeth arall, yn cryfhau wrth ei ddefnyddio; a dygodd fraich y got, a'r hen dermau yna yn un rhes, i brofi ei osodiad. Daliodd gwr y Breindir ar y frawddeg ysgubol-" pobPeth arall"—a dd'wedasai Malaci, a disgynodd ar ei war fel bar cud. Na," meddai, 'dydi pobpeth ddim yn cryf- hau wrth ei iwso." Odi," ebai Malaci, gan ei ollwng allan fel bwled. Nag ydi," ebai'r Breindir, gan roi awgrym i'w ben, mor hamddenol a phe buasai yn ei wely. Cochodd Malaci, a chwystrellodd yn gryf i'r tan. Gwnaeth hyny ddwywaith neu dair cyn cymeryd i fyny'r ddadl, oblegid nid oedd byth yn hoffi cael ei drechu. Na'r Breindir chwaith. Yn fuan, dyma fwled arall yn d'od o gannon Malaci- Odi!" Gyda'r tamed lleia' o godiad yn ei lais. Bid fyno, yn yr un pwll tro yr ymddifyrai ei wrthwynebydd o hyd; ac wrth wel'd hyny, y gofynodd Malaci iddo a welai yn dda dd'we) d beth oedd yn gwanhau wrth ei iwso ? Spring watsh oedd yr atebiad ar ei ben, mor ddigwmpas a phe yn d'weyd pris treisiad ar ben ffair. Yr oedd golwg gas ar wyneb Malaci Mosus. Bu agos iddo lyncu'r bilsen dybaco oedd yn ei fochgern, oblegid yr oedd e'n cnoi hefyd. Tybiai y dylasai fod yn gwybod mwy am "spring watsh "na neb arall oedd yno, ac yr oedd yr erfinen dan ei wasgod yn ei gyhuddo'n uchel yn y llys. Pan chwarddodd y cwmni wrth atebiad annisgwyliadwy gwr y Breindir, tybiodd rhai taw gwell oedd troi'r ymddiddan i gyfeiriad arall. 'Roedd y ddau hen ffrind mor gyfartal a'u gilydd ar dir dadl, ac mewn dal penrheswm. Os byddai un i fyny heddyw, y Hall fyddai i 'Y fyny 'fory ac anturiaeth go beryglus lyddai i chwi ochri un yn (wy na'r llall. Mae'r ddau wedi myn'd i'r tu hwnt i'r lien. Ni fu fawr llun ar y Breindir ar ol claddu'r hen wraig. Un fer, fain, felen oedd hi, ond yr ore'n y wlad at fyw. Pan adawodd ei hen gynefin, cododd yntau ei bac yn y nos, ac aeth ar ei hoi. Nid oedd y Breindir yn cnoi nac yn mygu, os wyf yn cofio'n iawn; ac nid wyf y'meddwl fod Malaci Mosus chwaith yn gwneud yr un o honynt yn y byd y mae wedi myn'd iddo. (I'w barhau).