Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
CLEBER O'R CLWB:
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLEBER O'R CLWB: [Gan yr Hen Shon.] Beth sydd yn cyfrif am gynydd yr ysbryd Seisnig yma yn ein plith y dyddiau hyn ? Y mae'r hen syniad fod siarad yr iaith Gymraeg yn fath o sarhad ar ddyn fel pe'n dod 'nol eto, ac argoelion fod yn rhaid i Gymro, os am fod yn rhywun, i droi yn Sais rhonc ar unwaith. Dyna oedd barn rhai o'r cwmni yn y Clwb pwy noson pan yn ceisio penderfynu'r cwestiwn. Dyma ni yn y Clwb Cymraeg, fel engraifft. Yma 'does ond Saesneg yn cael ei siarad bron ar bob adeg. Yn wir, pe siaradem Gymraeg wrth y swyddog- ion, nis gallent ein deall, a'r canlyniad yw nad yw'r Clwb ond yn un Cymraeg mewn enw yn unig. Nid beio'r perchenogion a'r aelodau yr wyf, eithr nodi ffaith eglur, a'i gosod allan fel esiampl o'r hyn a geir ynglyn a phob mudiad Cymraeg yn y ddinas heddyw. Dyna Ysgol Gymraeg yn Ashford heb neb o'r swyddogion yn Gymry mewn iaith, a Chymdeithas yr Hen Frythoniaid—Saeson bob un; a llawer o fan gymdeithasau a elwir yn Gymraeg, ond pe's anfonech lythyr yn Gymraeg atynt buasai yn creu cyffro nid bychan cyn byth y cawsech ateb Cymraeg iddo. Mae'r capelau a'r eglwysi yn dilyn yr un arferiad. Rhoddir bri ar y bregeth Seisnig yn ein huchel-wyliau—ni waeth pa mor sal fydd y traddodiad. A rhai o'n pregethwyr mor bell a thioi'r gwasanaeth foreu Sul yn Saesneg dan yr esgus o foddio'r teuluoedd Seisnigaidd sydd yn ein cynulleidfaoedd, a llawer o'r siarad yn ein cyfarfodydd cyhoeddus a droi'r i iaith ein cymydogion heb yr un rheswm ond i geisio boddio y rhan fwyaf bynheddig o'u cefnogwyr cyfoethog. Nid arwydd er daioni yw hyn, oherwydd gwyr y neb sydd gyfarwydd a'n bywyd crefyddol yn y cylchoedd Cymreig mai ychydig yw'r nifer sy'n glynu wrth yr achosion Cymreig ar ol gwneyd eu ffortiwn yn y byd masnachol Seisnig. Dyna eto ein gwleddoedd cenhedl- aethol yn cael eu troi i Saesneg bron yn gyfan- gwbl, a gwaeth na'r oil dyma'r Undeb yn y cyfarfod terfynol yn gwahodd Saeson i siarad wrth y bobl ieuainc-am gadw eu cenedlaeth- oldeb feallai—a hyny mewn iaith na fydd y mwyafrif o honom ond yn siaradwyr trwstan ynddi. Credaf y dylem ni, y rhai sy'n honni bod yn Gymry, wneud ein goreu ar bob adeg i sicrhau fod y parch dyladwy yn cael ei roddi iddi. Mae'r hen gred nad oes a fyno iaith a chenedl- aetholdeb wedi ei thaflu i'r gwynt .ers blynydd- oedd, a gwyr pobl y Werddon a'r Alban erbyn heddyw faint o ddrwg a wnaeth yr hen syniad hwnnw iddynt hwy. Er ceisio dadwneud y mawrddrwg yngl) n a cholli'r iaith, y mae'r bobloedd hyn ar eu heithaf heddyw yn ceisio adfer yr hen ieithoedd yn eu gwkdydd hwy; ac os na ofelir genym ninau mewn pryd, am gadwr- aeth yr iaith, bydd yr un genhadaeth yn aros i'n disgynyddion ninnau yng Nghymru cyn pen llai na dwy genhedlaeth eto. Buasai yn well i ni ddechreu yn y Clwb, a throi hwn ar y dechreu yn Gymraeg mewn iaith yn ogystalagmewnsyniad. tY
Am Gymry Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HANES CVMRU.- Trem ar hanes a chymeriad cenedl y Cymry oedd testyn papur galluog a roed gan Mr. Harry Jones, is-olygydd y Daily Chronicle. o flaen Cymdeithas y Tabernacl nos Sadwrn, Mawrth Iofed. Cynwysai amlinelliad dyddorol o hanes y genedl, a phrofai yn eglur fod yr awdwr wedi ymgydnabyddu a'r haneswyr goreu gan adael o'r neilldu yr hen chwedlau a'r ofergoelion am ddyfodiad y bobl o ardal Caerdroia draw." Am gymeriad y Cymro credai hefyd ei fod yn llai enwadol nag a dybir yn gyffredin ac yn Ilawer mwy cyndyn yn ei ymladdfeydd dros ei hawliau cenedlaethol. Cadeiriwyd iddo gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., ac ar y diwedd rhoed pleidlais o ddiolch iddo am y papyr gan Mri. D. Thomas a Watkin Jones. WALHAM GREEN.—Nos lau diweddaf cynhal- iwyd cyfarfod te a chyngherdd blynyddol yr eglwys uchod. Darparwyd te a phob dan- teithion gan y chwiorydd, a mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol. Cadeirydd y cyngherdd oedd Mr. D. R. Evans, Farringdon Road. Cafwyd anerchiad da ganddo ac yn llawn cyd- ymdeimlad a'r gwaith mae yr eglwys yn ei wneyd yma. Cymerwyd rhan yn y canu, &c., gan Misses Nancy Parry, Eva Smith, Rosina Jenkins, Judith M. Thomas, — Godfree, a E. Wheeler, ac Meistri Owen Ashford, R. H. Pierce, Tom Jones, J. M. Hughes, a S. Wood- ward. Cafwyd cyngherdd rhagorol, a daeth cynulliad da ynghyd. Disgwylir elw da i leihau tipyn ar y ddyled fawr sydd ar yr eglwys. Diolchwyd yn gynes i'r cadeirydd, y cantorion (am wneyd eu gwaith mor ardderchog), ac i'r chwiorydd (am y wledd de flasus), gan Meistri J. Thomas (North End Road), Isaac T. Lloyd, John Hughes, a W. B. Davies. Haedda yr ysgrifenydd, Mr. Jenkin Davies, ganmoliaeth mawr am gario allan drefniadau y pwyllgor mor ddidramgwydd. Terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." CHARING CROSS ROAD.-Dadl oedd ar y rhaglen yng Nghymdeithas Ddirwestol y lie uchod nos Fercher, Mawrth 14eg. Daeth cynulliad da ynghyd. Testun yr ymdrafodaeth oedd A ydyw yr achos ddirwestol yn gwella ? Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Gymdeithas Ddirwestol Wilton Square, yn cael ei harwain gan Mr. John Morgan, tra ar y naccaol agorodd Mr. Goronwy, o ochr Charing Cross Road. Siarad- wyd ym mhellach gan y personau canlynol:- Mri. J. W. Jones, Stanley Davies, J. Evans, Ivor Evans, a T. Lloyd Roberts. Pan ddaeth yr amser i bleidleisio, caed fod y mwyafrif yn credu yn y naccaol. Llywyddwyd y cyfarfod mewn modd teilwng gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. CLAPHAM JUNCTION.—Ynglyn a Chymdeithas Ddiwylliadol y lie uchod cafwyd darlith ar Ddeheudir Affrica" gan Mr. Llew. Morgan, Lavender Gardens, nos Fercher, i4eg cyfisol. Cafwyd taith bleserus ac addysgiadol, ynghyda darluniau gyda'r magic lantern o'r prif leoedd o Cape Town i fyny mor belled a Rhodesia, ac hanes dyddorol o'r gwahanol olygfeydd sydd i'w gweled yn y rhan bellenig yma or byd. Yr oedd desgrifiadau o'r gweithfeydd aur a'r mwnau diamwnd, ac hefyd arferion y trigolion, yn eglur a chryno iawn. Y peth oedd yn gwneyd y ddarlith yn fwy blasus oedd y ffaith fod Mr. Morgan wedi bod trwy y lleoedd a ddangoswyd, yn ystod y rhyfel diweddar, gyda'r Imperial Yeomanry, DIRWRSTOL.-Mynd ar gynydd mae'r galwad- au am aelodau y Gymdeithas Ddiwylliadol, Clapham Junction, ymhlith ein cyfeill on Saesneg, a nos Sadwrn diweddaf, mewn cysyllt- iad a Chymdeithas Ddirwestol Eglwys y Wesleyaid, Broomwood Road, cynhaliwyd cyngherdd, o dan lywyddiaeth Mr. O. T. Williams, I Jywydd y Gymdeithas. Ymhlith y rhai oedd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod oedd Mrs. D. O. Evans, Mrs. K. Hughes, Miss Enid Edwards, Miss M. E. Williams, Miss M. Harris, Miss Arry Baird, a Miss Mail LI yd-George a D. O. Evans, Mr. D. Jones (Llew Caron), Mr. Jenkins, a chor o dan arweiniad Mr. D. O. Evans. Heb fanylu dim ar y cantorion, digon yw dweyd eu bod oil wedi boddhau pawb, ond yr oedd datganiad y cor o Dyddiau Dyn sydd fel Glaswelltyn a In this hour of softened splendour yn haeddu canmoliaeth uchel. GOHEBYDD. DEWI SANT, PADDINGTON.—Nos Fawrth, y 13eg o'r mis hwn, gerbron y Gymdeithas Lenyddol, traddododd Mr. Thomas Jones, cenhadwr, ddarlith gampus ar y foneddiges dalentog a duwiol, Frances Ridley Havergal, awdures yr emyn poblogaidd hwnw— Thy life was given for me, What have I given for Thee ? Heblaw emynau cyssegredig, cyfansoddodd hefyd lawer o donau. Merch ydoedd i offeiriad, sef y Parch. W. H. Havergal, o anfarwol goffadwriaeth. Adnabyddir ei thad fel cerddor o fri, ac awdwr llawer o gorganau, tonau, ac anthemau. Eglurid y ddarlith drwy gyfrwng yr hudlusern. Cynygiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Mr. Jones, gan y Caplan, Parch. W. Richards, ac eiliwyd yn bwrpasol gan Mr. Evan Lloyd, Kilburn. Diweddwyd y cyfarfod drwy weddi a maw!. EAUNG.—Cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, sef y pedwerydd yn ystod y tymor, mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul yn y lie hwn, nos Fercher, Mawrth i4eg, yn Swift's Assembly Rooms, High Street, pryd y daeth lliaws ynghyd i fwynhau gwledd o ddanteithion a barotowyd trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Gray, Clovelly Road. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. T Rowlands, Ealing Road. Yr oedd rhaglen ddeniadol wedi ei threfnu erbyn y noson. Y cantorion oeddent Misses Price, Robinson, a Mrs. Rowlands; Mri. Clifford Evans, D. Walter, ac E. Hughes. Adroddwyd gan Misses Hughes a Thomas, a chymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan blant yr Ysgol Sul. Rhoddwyd unawd ar y berdoneg gan Mr. Leo Edwards, a chwareuwyd ar y mandoline gan Mr. G. L. Bullocke. Cyfeiliwyd i'r oil mewn dull medrus gan Mr. D. Richards, A.R.C.O. Bydd y Parch. R. O. Williams, Holloway, yn pregethu y Sul nesar, 25ain cyfisol, am 3 o'r gloch yn y pryd- nawn. Dymunir ar i holl Gymry y gymydog- aeth roddi eu presenoldeb. RADNOR STREET.-Nos Lun cafodd Cym- deithas Ddiwylliadol Radnor Street ei hanrhyd- eddu drwy ymweliad y Parch. J. Morgan Gibbon, Stamford Hill. Edryohid ymlaen at y noson gyda dyddordeb anghyffredin, ac nid yn ofer ychwaith. Traddododd Mr. Gibbon anerchiad godidog ar Home Questions from a Foreign Standpoint." Cymharu y sefyllfa grefyddol ym Mhrydain i'r hyn yw yn y lleoedd yr ymwelodd efe a hwy y flwyddyn ddiweddaf a wnai y darlithydd—Malta, Athens, Caer- cystenyn, ac Odessa. Yr oedd yr amddiffyniad cryfaf i Brotestaniaeth a wrandawsom ers llawer dydd. ST. PADARN'S, HOLLOWAY, N.-On Thursday last, March 15th, a coffee supper and an evening ccncert was held at the Emmanuel Mission Hall, Hornsey Road, in connection with the above Church. This was given by the Churchwarden, Mr. John Hughes, and Mrs. Hughes, Hornsey Road. Mrs. Hughes pre- sided at the tables, and was ably assisted by Miss Hughes, Miss Steadman, Mrs. Jones, and Mrs. Newton. After supper, before going on with the programme, the Rev. Henry Bloomer, vicar of Emmanuel, Holloway, delivered a speech rousing the feeling of Welsh people present against the Disestablishment of the Church in Wales, a measure shortly to be intro- duced into Parliament. He urged upon the audience to strenuously support the Church at the forthcoming crisis. This speech was received with hearty cheers and great zn enthusiasm. The next thing was the pro- gramme, which was exceptionally long. The following gave solos :-Misses Bottwood, Florrie Davies, Jennie Davies, Bowyer, Clarke, Ada Davies, and Mr. Barry Lindon. A duet was sung by Misses Clarke and Bowyer. Piano- forte solos were given by Miss Lizzie Hughes (Hornsey Road), and Miss Lindon. Several banjo solos were given by Mr. Nelson. A sketch, entitled "A Village Scandal," was given by a party of young ladies consisting of Misses; Violet Plater, Connie Tuck, Jessie Alford,, Ethel Page, Ruby Boyd, and Maud Wells. The accompanists were Misses Saer, Clarke, Lindon, and Ada Davies. At the end of the concert the Rev. William Davies, the chaplain, made a short speech, in which he thanked Mr. and Mrs. Hughes for their repast, and also the helpers at the tables, and the artistes, who all did their part so well. The concert was brought to a close by Mr. John Pierce, of St. Padarn's,. singing the National Anthem. Mr. T. Vincent Davies, organist of St. David's, Paddington, rendered valuable assistance by accompanying several of the singers.