Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y LLOFFT F A C H.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLOFFT F A C H YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Cany Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] J. PENOD XVII. Y Llofft Rich" yn rhoi Hanes un o'r FiJdd- loniaid. Hyd o fewn i ychydig flynyddoedd yn ol, yr oedd yn byw yn ymyl yr orsaf ddyn o'r enw Darnel Gruffydd. Ac yr oedd iddo wraig a dwy o ferched. Cadwai iard lo y tu cefn i'r orsaf, ac yr wyf y'meddwl ei fod yn gwneud bywioliaeth reit gysurus. Yr oejd ei dy yn union ar fin y ffordd, a'i dalcen i'r hewl; ei ffrynt yn gwynebu'r afon, a'i gefn yn gwynebu'r orsaf. Nid oedd ond ergvd careg o'r iard lo, a thrwy hyny yr oedd yn od o gyfleus i'r mas- nachwr wel'd y ceirt y'myn'd ac yn d'od heb iddo syflyd o'r gegin. Un o draddodiadau'r wlad oedd fod gan y teulu fodd i fyw arno heblaw yr hyn a ddeuai i fewn oddiwrth y fusnes. Hwyrachfod; ond ni chlywais neb yn d'weyd ar ba sail y credid felly. Yr wyf wedi sylwi fwy o weithiau nag a garwn dd'weyd os bydd teulu yn cadw ei hun yn lan a chryno, yn talu ei ffordd a digon dros ben, yn ateb cyd- wybod yn eu cyfraniadau arianol tuag at yr achos, ac yn barod i helpu pan fo taro— £ pd y gym'dogaeth yn gwneud ei meddwl i fyny yn ddiymdroi fod yna hen hosan yn rhywle, a thipyn o gregin ynddi. Mi allwn feddwl taw dyna i gyd o sail oedd i'w gael i draddodiad o'r fath am deulu'r Henblas. Hanai'r ddau o deuluoedd parchus iawn o bob tu i'r afon--yr afon y gwynebai ffrynt yr Henblas ami. Ffermwyr oeddynt i gyd, ond yr oedd mwy o ryw fath o fyn'd o'i hochr hi; ac yr oedd y myn'd hwnw yn tyfu'n ormod o "fyn'd" weithiau, nes y deuai'n atalnod sydyn yn erbyn y wal. Gwyr traed oedd ei bobl ef, yn prysuro'n araf ac yn llwyddo'n sicr yn y byd. Sut bynag am yr arian, yr oedd y dalent y'mrid Daniel Gruffydd; a pherch'nogai ef ei hun fesur o honi. Nid oedd wedi bod yn ddarllenwr mawr erioed, yr oedd wedi bod yn fwy o feddyliwr; ac yr oedd ganddo ryw "grap" greddfol am enaid syniad neu bwnc. Siaradai yn rhigil a braidd yn isel, ac nid oedd pall ar ei eiriau na thor ar ei froddegau. Ni fu neb yn mwynhau'r Efengyl yn well erioed, ac yr oedd mymryn o doddiant yn llais y pregethwr yn ei yru'n swp o dan y set. Siaradai a'r Brenin Mawr yn union fel y siaradai a dynion-yn un ffrwd dawel, lefn; ac anaml y dybenai n drefnus, gan fel y byddai ei deimladau yn ei drechu. Arosai yn hir ar ei liniau ar ol gorphen gweddio; a gwelais ef yn codi yr un pryd a'r gweddiwr nesaf ato ragor na siwrne Yr oedd tine y Cristion yn ei brofiad } n y seiat, ac yr oedd mor barod i dagu wrth dd'weyd hwnw ag y byddai Tomos y gwe'ydd gynt. D'wedai 'stori cystal a Malaci Mosus yn ei ddydd am ei ddanedd; ac yr oedd ei ddull 'smala o'i d'weyd, a'i chwerthin- iad iachus pan gjrhaeddai gnewyllyn y 'stori, yn llacio peirianau'r gwrandawyr heb yn wybod idd) nt. Nid wyf yn gwybod am neb all'se daclu 'stori o ddim yn well nag ef. Nid ydynt o un gwerth i mi eu d'weyd yn y fan yma; yr oedd yn rhaid cael Daniel ei hun i'w gosod allan. Os ydych yn ameu, mi ro'f un neU ddwy yn engraff. Yr oedd hen frawd diniwed yn cyrchu'n ffyddlon i'r Ysgol Sul, ac nid oedd un cwestiwn ) ri ei basio heb ei fod yn rhoi rhyw fath o atebiad iddo. Mi allwn I feddwl taw rhai go ddiniwed o'ent oil yn y dosbarth hwnw, heb eithrio'r athraw. Pan yn darllen yr adnod: "Ac efe a aeth i'r llong, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun "-dyma gwestiwn yn cael ei roi: Pwy ydi'r efe sydd yn yr adnod ? Acth y cwestiwn yn ei dro heibio i ddau neu dri cyn d'od'at Morgan, ond gan nad oeddynt yn ddigon sicr pwy oedd, yr oedd yn well gan- ddynt beidio gosod eu huriain yn y fagl; a gadawsant iddo fyn'd. Dyna sut y cafodd Morgan ei gyfle. Pwy wyt ti'n ddeud yw e' ? ebe'r athraw. We], 'dwn I ddim, 'snad Mosus yw e' ebe yntau. Ar ol i'r cwestiwn yna gael ei setlo gan rywun, dyma un arall tebyg iddo yn cychwyn ar ei daith. "Am bwy mae'r adnod yn son, iddo fyn'd drosodd ? Barnodd y brodyr trofalus a ddeuent o flaen Morgan taw gwell oedd iddynt fod ar yr ochr reit i'r berth y tro hwn eto, fel na ddaethant hwy drosodd o gwbl. A dyma'r hen frawd yn cael cynyg arall: Pwy a'th drosodd,' ma'r adnod yn ddeud, Morgan?" Mosus, debcin I," ebe yntau eilwaith. Wel, fe setlwyd hwna drachefn, gan yr athraw neu rywun. Yr athraw yn unig allse setlo pynciau dyrus o'r natur yna'n ddiddadl. Ond dyma drydydd o'r un dosbarth a'r lleill yn d'od heibio: Ei hun,' ebe'r adnod-pwy o'dd hwnw?" Llechu'r tu ol i'r gwrych wnat'r bechgyn cyntaf o hyd; ond yr oedd Morgan yn barod i hwn drachefn. Yr oedd yn barod er's meityn, fel na chafodd yr athraw ond yn brin ofyn Pwy o'dd e' ? nad oedd atebiad Morgan yn ei daro yn ei wyneb Mosus o'dd e'! Nage, nage," ebe'r athraw, "'rwyt ti'n methu bob tro." Mor ddidramgwydd a phlentyn, ebe Morgan Wel, mi stica' I at Mosus, ta beth Cystal ag awgrymu, dim ond iddo stico," y byddai Mosus ac yntau'n siwr o gwrdd a'u gilydd yn y diwedd. Ond yr oedd yn rhaid i chwi glywed Daniel Gruffydd ei hun yn d'weyd y 'stori i fedru ei gwerthfawrogi'n iawn. Yn niffyg hyny, yr wyf yn siwr eich bod o'r un farn a minau taw cystal i mi roi pen ar y mwdwl yn y fan yna. Mwdwl y streuon, deallwch. Nid wyf wedi d'weyd dim am Lydia ei wraig. Y gair a ga'i yn yr ardal oedd ei bod yn gyntaf yn byrticlar," ac yn ail yn "gintachlyd." Yr oedd peth gwir yn y gair, ond 'doedd y gwir i gyd ddim ynddo. Ei glanweithdra oedd yn peri'r nail, a'i gwendid corfforol oedd yn peri'r llall. Yr oedd ei thy yn bictiwr, fel pin mewn papyr, ac arogl syberwyd yn llanw eich ffroenau ar y trothwy. Fe allse'r mwya' pyrticlar ei 'stumog fwyta pryd o fwyd ar ganol y parth, heb ddim rhwng y bwyd a'r tcils. Ac yr oedd pob teilsen fel drych, a phob celfigyn fel haul bychan yn cadw busnes ei hun. Ni wn am neb oedd yn cymeryd cymaint o falchder yn ei chaban a Lydia Gruffydd; a brath i'w chalon oedd gwel'd 61 traed Daniel ar gareg y drws pan yn d'od i fewn o'r iard. Twtiai y merched a hithau drwy'r dydd o gwmpas y ty ac yr oedd yr hen wraig bob amser a siol dros ei phen a "dwster yn ei Haw, yn erlid ar ol pob llwchyn anffodus a ddeuai ar 'strai y tu fewn i'r muriau. Ond yr oedd ei charedigrwydd yn gwneud i fyny am bob rhyw rodres o'r fath yna a phan yn eistedd i fwyta wrth y ford gron a'i Man gwyn, anghofid y cwbl. Hwyrach ei bod yn cintach tipyn ar y mwya', ond a Daniel y gwnai hyny, ac yr oedd Daniel yn ei 'nabod yn ddigon da. Pwy aiff rhwng gwr a gwraig ? 'Roedd e'n gweithio'n galed ei wala yn yr iard, drwy'r dydd a phob dydd ond yr oedd y dw'r ymolch, a'r slipars, a'r bwyd yn barod iddo'n wastad, heb aros dim am danynt. Ac nid wyf yn siwr iawn a f'asai Daniel mor hapus heb gintach Lydia. Mi wn y b'asai'n teimlo y'mhell o fod yn reit; oblegid yr oedd fel saws ar btatied o gig a thato. Ond pan y byddai'r tair y'myn'd yn ei ben yr un pryd, yr oedd yn bryd cael datguddiad ar y cwestiwn pwy oedd Iwyaf yn y deyrnas ? Yr oedd y pedwar o deimladau drylliog i'w ryfeddu, ac nid oedd eisiau peth mawr i'w toddi'n llymaid. Nid oedd Mr. Aaron yn byw ffordd bell oddiwrthynt, a byddai yno yn amlach nag unman arall. Dyn diguro oedd Mr. Aaron yn syniad Daniel, ac nid oedd dyn duwiolach na Daniel i'w gael y'marn y gweinidog. Pan brynai Mr. Aaron lyfr newydd mwy difyrus na'i gilydd, yr oedd yn rhaid ei ddarllen i deulu'r Henblas; a nosweithiau i'w cofio oedd y rheiny. Rhwng el fod e'n ddarllenwr da, a hwythau'n wrandawyr da, yr oedd myn'd anghyffredin ar ambell i lyfr. Gydag "Aelwyd Fewyth' Rhobet ac Adgofion fy Ngweinidogaeth y caed yr hwyl fwya'. 'Doedd dim taw ar siarad Daniel am y llyfrau yna. Adroddai ddarnau o honynt yn y Llofft Fach pan gai gyfle; a dyna sut y de's I i wybod am danynt, ac am lawer o bethau eraill yn hanes teulu'r Henblas. Pe baech yn gofyn i'r gym'dogaeth bum' mlynedd yn ol: p'run ai'r gwr ynte'r wraig oedd debyca' o fyn'd gynta' i'r byd mawr ? ni f asai neb yn petruso. Lydia bid siwr. Rhwng ei bod mor wanaidd a chintachlyd," ni ofynodd neb iddi yswirio ei bywyd. Ond Daniel ga dd y blaen. Ac yr wyf wedi coffa'r pethau hyn am danynt er mwyn coffa am ei gystudd a'i farwolaeth. Dechreuodd dori yn ei wedd fisoedd lawer cyn ei farw. Aeth i warru'n ddireswm, a'i olygon i ballu. Bu gorfod iddo gadw dyn yn yr iard yn ei Ie, am ei fod y'methu bod yno ei hun ambell i ddiwrnod. Ond daliai i dd'od i'r cwrdd o hyd, ac ni chymerai arno ei fod yn gwaethu dim. Brwydrai a'i ddolur yn ddewr; ond yr oedd Lydia a'r merched wedi d'od i wel'd ei fod yn colli'r dydd cyn iddo ef ei hun gyfadde' wrthynt sut yr oedd pethau. Yn y cyfamser, pan ddeallodd Mr. Aaron ei fod yn y ty ryw ddiwrnod, aeth yno a llyfr yn ei boced, gan feddwl ei ddarllen i godi tipyn ar ei galon. "'Rydw I wedi cael llyfr newydd o'r diwedd," meddai; a thynodd ef allan. Do wir ?" ebe Daniel, gan hybu'n union. Bedi enw hwna ? "Rhys Lewis. Mae o allan er's tro, ond wsnos i heddy' y ce's i gyfle i'w brynu. Mae o mor dda fel 'rydw i wedi myn'd trwyddo bob gair oddiar hyny." Bedi seis o ? Hw'rach 'doedd hyny fawr o gamp." "Dyma fo. Mae ynddo bedwar cant o dudalenau," ebai Mr. Aaron. Estynodd Daniel ei law am dano, a'r pryd hwnw y deallodd y gweinidog ei fod wedi myn'd fel Isaac, a'i deimlad wedi cymeryd lie ei olygon. Swmpodd ef drosto, ac meddai, wrth ei roi'n ol: Ydi, mae o'n llyfr go fawr, a mae o'n bownd o fod yn un da i'ch cadw ch'i wrtho fo am wsnos heb godi." Chwarddodd Mr. Aaron. Ddwedes I mo hyny chwaith, Daniel. Ond wir, 'doedd dim posib' 'i adel o'n hir iawn ar ol dechre' i ddarllen o. Leiciech ch'i i mi ddarllen peth o hono fo i chi'r dyddie damp yma ? Ymloewodd i gyd ond ei ddau lygad aeth rheiny'n bwl gan ddagrau. Yr oedd Lydia fel pe bai dan anwyd mawr er's meityn, a'r merched yn pesychu 1 fwrw diarth." Mae Mr. Aaron yn geind iawn, Daniel bach," ebai Lydia. 'Dewch ch'i ddim i'r iard heddy', 'does yna ddim ceirts wedi d'od. Mi geiff ddarllen y llyfr newydd i ch'i, a mi gaiff de hefo ni ar ol cwpla." Ac felly cytunwyd. Cyn cychwyn Pwy gna'th o ? ebe Daniel; ac am be' mae o'n son ? Rhys Lewis wedsoch ch'i oedd 'i enw o ? 'Ro'wn I 'nabod un o'r enw yna 'slawer dydd. Dyn o blwy, Llaneisin oedd hwnw, 'r ochor arall i'r afon yna; mi ga'dd ddau lwyth o lo gen I dair blynedd yn ol, a thalodd am