Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

YiMJDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YiMJDDIDDAN Y TRI CHERDDOR. Personalt Huw Llwyd, oed 75 Dechreuwr canu eymmer- adwy yn ei ddyddiau goreu, ond bellach wedi ymneillduo o'i swydd. Arthur Morgan, oed 55 Ymwelyddi Llanfadryn, wedi ymwneyd liawer a cherddoriaeth yn ei gwahanolganghennau. John Haydn Jones, oed 35 Cymmydog Huw Llwyd, ac olynydd iddo yn ei swydd; ar- weinydd corawl hefyd, a lleisydd o gryn fri yn ei ardal. Lie: Y Bryniau: Preswylfod Huw Llwyd, ger Llan- fadryn. Amser: 1905. II. Haydn Jones.—Ni wnaethum i ddim mwy nag amddiffyn fy hun, ac yr oeddych chwi eisoes wedi gwneyd yr un peth. Galwer fi i drefny foment y troseddwyf reolau dadl deg neu foesgarwch cyffredin. Ond cyn i Mr. Morgan fyned yn ei flaen, Huw Llwyd.—Trefn, trefn. Arthur Morgan.—'Does gen' i ddim gwrth- wynebiad i'ch awgrymiad chwi, Haydn, mai tir canol a gymmeraf; ond paham y dywedwch fod hynny yn amhosibl nid wyf yn gweled. Ni fyddwn ond yn mynegi gwirionedd gor-amlwg (truisni) pe dywedwn fod llawer gradd yn bod rhwng dau eithaf ymhob dim. J. If. J.—rMaddeuwch i mi; ond nid byfryd gen.iyf yw cae} fy ngalw yn eithafol. A. J/.—Welaf fi ddim pa ymadrodd gwell allwn ei gael na "dau eithaf" i ddynodi golyg- ladau mor hollol groes i'w gilydd a'r eiddoch chwi eich dau etto deallwch mai pell ydwyf o'i arfer yn ddiystyrlh d. RhyfNg na fynnwn fod yn euog ohono fyddai cymmeryd arnaf fy hun ddibrisio barn yr un ohonoch oherwydd digwydd iddi fod yn wahanol i'm barn i. Ac ni raid i neb gywilyddio oherwydd golygiadau eithafol ynddynt eu hunain; ond gwareder ni oil rhag bod yn eithafol yn y mynegiad o unrhyw olygiad bynnag. Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar," ïe. ei llafar eofn a difloesgni, ond nid ei Ilafar anghymedrol. Yr un mor bosibl ydyw i mi ar y "tir canol" fod yn eithafol yn hyn ag i chwithau yn y ddau eithaf. J. H. J.-Etto, er hyn oil, 'fedra' 'i ddim dygymmod a chael fy ngalw yn eithafol. H. LI.—'Rwyt ti'n deneu iawn dy groen, John, ac yn gwastraffu amser. Da chwi, Mr. Morgan, ewch ymlaen, ac eglurwch i ni y safle a gymmerwch chwi. A. M.Wel, yn fyr, dyma fo, derbyn y da, a gwrthod y drwg, yn mha le bynnag y'u ceir, yn ol hynny o farn ag a feddaf; neu, a siarad yn vsgrythyrol, "profi pob peth, a dal yr hyn sydd dda." Nid da o angenrheidrwydd pob ton sillafol, na drwg pob ton an-sillafol. Y mae'r gwael a'r da yn y ddau ddosbarth fel eu gilydd. J. H. J. Mi addefaf fi fod tonau gwael i'w cael yn mysg ein tonau sillafol, ond a oes tonau da yn y dosbarth an-sillafol sydd fater arall. H. Ll. Onid yw Alexander a Moriah yn donau da ? J. H. J-Ydynt, yn ddiammeu; ond yn y dosbarth y dadleuaf fi drosto yr wyf fi wedi arfer eu cyfrif hwy yn wastad. H. LI—Mae'n debyg dy fod yn meddwl y gelli hawlio pob ton oedd yn 11) fr Ieuan Gwyllt, eich apostol mawr chwi, sillafwyr, fel yn eiddo i chwi; ond y mae nodau y tonau a eflidiai ef ac eraill wedi eu cerfio yn rhy ddwfn ar y ddwy don honno i neb allu eu dwyn oddiarnom. Onid wyf yn gywir, Mr. Morgan ? A. M .-Tybiaf eich bod, a thybiaf hefyd fod Ieuan Gwyllt ei hunan yn ystyried mai i ddos- barth na chymmeradwyai efe mohono ar y cyfan y perthynent. J. H. J.-Ni ddisgwyliwch imi dderbyn syniad fel yna yn ddibrawf. A. M:-Na ddisgwyliafj a'm bwriad oedd rhoddi fy sail drosto pe cawswn amser gennych. Y mae Mr. Llwyd yn cofio, os nad ydych chwi, mai yn yr Attodiad i lyfr tonau Ieuan Gwyllt (1859) yr ymddangosodd "Moriah," ac na chy- hoeddodd efe mo "Alexander" hyd nes y daeth ei "Ychwatiegiad" allan flynyddoedd ar ol hynny. Yn yr Attodiad yr oedd amryw o donau heblaw Moriah" oedd yn dra gwahanol eu nhodwedd i'r rhai sillafol oedd yng nghorff y llyfr, megys "Nebo," Llangeitho" a "Llan- fair." Ac erbyn cyhoeddiad yr Ychwanegiad yr oedd yr ychydig wedi myned yn llawer. Y casgliad naturiol oddiwrth hyn oil ydyw fod y gol)gydd wedi troi i loffa o feusydd yr aethai efe heibio iddynt o'r blaen, er mor hysbys iddo oedd eu cynnyrch, neu, mewn geiriau eraill, yr oedd efe yn graddol ymryddhau oddiwrth yr egwyddorion caeth a osodasai arno ei hun wrth barottoi ei lyfr cyntaf. H. LI.—Gwir bob gair, Mr. Morgan, ac ami y bum yn gwenu wrth sylwi ar waith y gwr yn ceisio ymryddhau o'i lyffetheiriau hunan- osodedig. Ond cybolfa a wnaeth efe ohoni wed i'r "wbl yn ei ymgais i ymddadrys o'i anhawsder. J. H. y.—Wrth siarad fel yna yr ydych yn bwrw anfri ar un a wnaeth fwy i ddyrchafu caniadaeth eglwysig yng Nghymru na neb o'i flaen nac ar ei o), ie, ac na hwyrit oil gyda'u gilydd. Fel cerddor efe a saif yn y rheng flaenaf; a phwy sydd genym i'w gyffelybu ag ef fel ysgrifenydd cerddorol ac fel golygydd llyfr tonau? Mewn gwybodaeth a barn a medr efe a gerfiodd iddo ei hunan enw uwch na neb arall o'n Salmyddwyr Cymreig. II. IJ.—Anodd iawn, John bach, ydyw gwrando yn amyneddgar arnat yn canmol un a wnaeth ei oreu i ddiStr)wio yr hen donau anwyl y rhai y dylasai efe eu cadw o'i lyfr os oedd efe yn eu hystyried yn annheilwng o le ynddo fel y cenid hwy gan ein cyndadau. Pa ddyn dirag- farn sydd a gymmeradwya yr ysfa oedd ynddo at ymyrryd a chyfansoddiadau oeddent wedi ennill iddynt eu hunain le cyssegredig yn serch- iadau ein cenedl cyn ei eni ef? Nid oes enw gwell i'w roddi ar anfidwaith o'r fath, yn cael ei gyflawni ar raddfa mor eang, mewn gwaed oer, na chigyddiaeth noeth. Mi ddyweda' '1 i chwi stori dda am Ieuan. Pan yn parottoi ei lyfr tonau i'r wasg, efe a ddarlithiai yn Liverpool ar ganiadaeth gynnulleidfaol, ac wedi traethu yn helaeth ar ragoriaeth y tonau sillafol ar eu hen chwiorydd mwy bvwiog, a nodweddai efe fel yn hollol anaddas i'w hamcan, gwahoddodd y gynnulleidfa i ganu dwy dôn yn engreifftiau o'r naill ddosbarth a'r llall, fel y gallent weled a theimlo yr hyn y dadleuai efe drosto. Ar ei gais a than ei arweiniad ef fe ganwyd French yng nghyntaf, ac nid rhyw lawer o flas a glfwýd arni. Yna fe ganwyd "Y Delyn Aur," etto dan ei arweiniad ef ond nid cynt yraethpwyd trwy'r llinellau blaenaf nag y cipiwyd hi i fyny gan y gynnulleidfa gyda brwdfrydedd hollol annisgwyl- iadwy i'r darlithydd; ac erbyn cyrhaedd y geiriau "Ni bydd diwedd, Byth ar swn y delyn aur," aeth y cantorion a'r arweiniad o'i ddwylaw, a chanwyd hwynt drosodd a throsodd drachefn gyda'r fath wres ac arddeliad fel y llwyr orch- fygwyd y darlithydd yn ei amcan. Cynnyrchodd y tro hwn ar bethau dipyn o ddifyrwch yn mysg ei wra' dawyr, ac ami wen ddireidus a welid yn chwareu ar eu hwynebau, ond pa fynegiant a wisgai gwedd y darlithydd ni'm hyspyswyd. J. H. J.-Stori fel llawer un o'i blaen o wneuthuriad rhyw elyn anghymmodlawn H. Ll.-Nage, ond hanes awdurdodedig gan dyst pe y rhoddwn ei enw na ofynnid am gadarnhad i'w dystiolaeth. A. M. — Stori dda, yn wir, ac anhawdd fyddai meddwl mai un wnevd ydyw hi; ond os ei dyfeisio a gafodd, \r oedd ei hnvdwr yn ddyn o athrylith. Etto, er cystled yw hi fel stori. ni ellir dweyd ei bod hi ynddi ei hun yn profi y gwrthwyneb i'r hyn y dadleuai Ieuan Gwyllt drosto. Myfi a fyddai'r diweddaf i seilio fy nurn ar ddedfryd cynnulliad cymmy-g o bobl ar fatter nad oes neb ond cerddorion cyfarwydd a fyddai yn gymmwys i eistedd mewn barn arno, sef teilyngdod cymhariaethol tonau. J. H. J- Un peth sydd sicr, fodd bynnag, y byddai dweyd fod "Y Del) n Aur" yn gystal ton a French" ymron cyn waethed a dweyd fod mwn haiarn neu blwm o gymmaint gwerth ag aur coeth. Ac os bu neb cerddor erioed a wyddai beth sydd bur, ac addas, a dyrchafedig mewn caniadaeth eglwysig Ieuan Gwyllt oedd hwnnw. Yn hyn, yn anad dim, yr oedd efe yn anffaeledig. H. LI.—Wel, John, dene ti wedi ei wneyd o yn Bab o'r diwedd

[No title]

Advertising

Y LLOFFT F A C H.'