Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
11'\ Eisteddfod Freohinol Gonedlaethol Cymru, OAERNARFON, AWST Slain, 22ain, 23ain, a'r Main, 1906. Llywydd: Y Mwyaf Urddasol ARDALYDD BUTE. Dymunir dalw sylw arbennig Beirdd, Llenorion, Cerdd- orion, a Chelf-nyr Cymru at Wyl Fawr y Cymry, yn yr hon y cymer prif ddynion y genedl ran swyddogol. Heb- law y cystadleuon arferol ceir Perfforniadau GodidoJ e Welthiau Newyddion, yn cynwys Cantawdau a Drama Hanesyddol yn Gymraeg. Cofied y Cystadleuwyr y rhaid i'w henwau a'u cyfan- soddiadau fod yn llaw Ysgrifenydd yr Eisteddfod erbyn J dyddiadau a ganlyn :— Corau a Cbystadleuwyr, MehefinlSfed; Cyfamoddiadau Llenyddol a Cherddorol, Mehefin 23ain; Y Traethawd ar Lech Chwareli, Gorphenaf 31ain; Cynyrohion yn yr Adran Gelfyddydol, Gorphenaf 28ain. Y Rhestr Testynau (drwy'r post 7c.) a phob manylion t'w cael gan Ysgrifenydd, Eisteddfod Oenedlaethol 1906, Caernarfon. 2 -Stroke Petrol Engines for all pupposes. I h.p. as shown, complete, £25. J. S. CUNNINGTON & CO., 93, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau "The EdÜor"; pob Hysbysiad, "The Adver. tising Manager"; a phob Archeb, "The Manager," a'r oll i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Martin's Lane, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd vsgrifau gwrthod. •edig.
Nodiadau Golygyddol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nodiadau Golygyddol. DYSGU CYMRAEG. Un o'r pethau sy'n peri mwyaf o boen a blinder i bob Cymro gwladgarol ydyw diofalwch .ac esgeulusdra ein cenedl i ddysgu a meistroli yr hen iaith. Nid ydym wrth ddweyd felly yn golygu fod yr iaith yn trengu. Gwyddom yn amgen. Ni fu unrhyw adeg fwy o ddefnyddio arni nag sydd yn awr fel iaith llafar ac iaith lien. Ond yr ydym fel pe yn ystyried nad oes eisieu i Gymro ddysgu iaith ei fam yr un fath ag y dysga ieithoedd eraill drwy astudio ei gramadeg ac ymgydnabyddu a'i theithi a'i deddfau. A'r canlyniad yw fod iaith llafar yn amrywio cymaint mewn gwahanol ardaloedd nes ei bod bron yn amhosibl i wyr Llanerchymedd, dyweder, ddeall gwyr Aberdar, a gwyr Ty Ddewi ddeall gwyr Treffynon oddigerth yn amherffaith iawn. Clywsom yn ddiweddar am wraig yn sir Gaer- narfon yn gofyn i ymwelydd o sir Gaerfyrddin a arosai dan ei chronglwyd siarad Saesneg er mwyn iddi fedru ei ddeall. Dywed Saeson sy'n dysgu Cymraeg-ac y mae nifer fawr ohonynt yn gwneyd-mai eu hanawsder pennaf hwy ydyw y ffaith fod iaith llafar, hyd yn nod Cymry deallgar a diwylliedig, mor amrywiol ac mor anhebyg hefyd i iaith Ilyfrau a gyfrifir yn safonol. Ac ronid oes llawer iawn o'n hiaith lien yn garpiog a dilun dros ben ? Mor ami y mae ieithyddwyr fel yr Athro John Morris Jones ac eraill wedi cernodio y papurau newyddion oblegid tlodi ac anafau iaith, ac nid heb achos. Ond beth pe gwelsent yr adroddiadau a'r gohebiaethau fel y derbynia y golygwyr hwy Er lliosoced ein heisteddfodau a'n cyfarfodydd cystadleuol, ac er cymaint o Gymraeg a ysgrifenir yn feunyddiol, y mae yn rhyfedd mor lleied o'n cenedl sy'n abl i ysgrifennu llythyr heb ddarnio a chlwyfo yr iaith wrth wneud hynny. Cyfeirir yn ddigon ami at wallau digrifol a wna Cymry wrth ysgrifenu Saesneg, ond meiddiwn ddweyd fod Saesneg Cymru yn llawer cywirach a gloywach na'i Chymraeg. Yr achos o hyn ydyw na roddir dim, neu y nesaf i ddim, hyfforddiant mewn Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Ac y mae y cyfrifoldeb paham na wneir ar y Cymry eu hunain. Yr ydym yn addef mai yn gymharol ddiweddar y cafodd Cymru hawl i wneud ei hiaith ei hun yn un o ganghenau addysg ei phlant. Ond y mae yr hawl ganddi ers blynyddoedd bellach, a hi yn unig sy'n gyfrifol am beidio gwneud defnydd o'r hawl. Gwyddom am Fyrddau Ysgol yn rhai o gymydogaethau mwyaf Cymreig y wlad a wrthodasant yn bendant gymeryd mantais ar y cyfle oedd yn eu cyrhaedd, a'r esgus a roddasant ydoedd mai i ddysgu y pethau a fyddent yn help i ennill bara chaws y bodolai yr ysgolion, ac na byddai dysgu Cymraeg yn ddim help i hynny. Y mae rhai o aelodau y Byrddau Ysgol hynny ar Gynghorau Sir a Phwyllgorau Addysg Cymru heddyw, ac yn ysbeilio ieuenctyd Gwalia o'r wybodaeth y deuant i'w meddiannu yn yr ysgolion. Mae'n dda genym ddeall fod pethau yn dechreu newid, a bod arwyddion y ceir clywed acenion swynol a pher y Gymraeg rhwng muriau pob ysgol o fewn y tir cyn bo hir iawn. Disgwyliwn mai dyna y peth cyntaf a wna y Cyngor Cenedlaethol pan sefydlir ef, gwneud Cymraeg yn un o'r pynciau y rhaid eu dysgu ymhob ysgol elfenol a chanolraddol o fewn deuddeg sir Cymru er mwyn sicrhau grants. Ond ni raid aros hyd nes i'r Cyngor Cenedl- aethol ddod i fodolaeth. Medr unrhyw Gyngor Sir neu Dref roddi cyfarvryddyd i'w Bwyllgor Addysg i drefnu dosbarthiadau Cymraeg yn awr. Mae amryw Gynghorau wedi penderfynu fod y safonau isaf i gael gwersi mewn Cymraeg, a bod llyfrau dwyieithog i'w defnyddio. Ond gallant wneud llawer iawn rhagor, os dewisant. Paham na ddysgir Cymraeg yn yr holl safonau, yr un fath ag y dysgir Saesneg ? Mae yr ateb yn amlganghenog. Un rheswm, a'r penaf efallai, yw gwrthwynebiad yr athrawon. Ac nid yw yn b syndod mawr eu bod yn gwrthwynebu. Nid ydynt am ddatguddio eu gwendid. Esgeulus- wyd eu haddysg hwy eu hunain i'r fath raddau gwaradwyddus fel nas gwyr wyth o bob deg ohonynt ddim am ramadeg Cymraeg. Ond nid yr athrawon sydd i fod yn feistriaid. Rhaid iddynt ymgymhwyso ar gyfer y gwaith y gofynir iddynt ei gyflawni, ac oni wnant rhaid cael eraill yn eu lie. Da genym ddeall fod Pwyllgor Addysg Aber- tawe yn awr yn ystyried oni ddylid gwneud Cymraeg yn bwnc gorfodol yn holl ysgolion y dref, a'i fod yn debyg o symud i geisio cael holl Bwyllgorau Addysg Cymru i gydweithredu. Dylai deffroad mawr y teimlad cenedlgarol, a'r callineb ydym wedi ennill drwy brofiad alaethus y gorphenol, beri i'r holl wlad gydgodi yn aiddgar i wneud yr hyn sydd iawn yn y mater. Nid yw yn bosibl i genedlgarwch fyw lie y diystyrir iaith cenedl. A byddai dysgu yr iaith y ddisgyblaeth feddyliol oreu ellir gael i blant Cymru. Cydnebydd pawb sy'n awdurdod nad oes unrhyw gangen o astudiaeth yn deffroi ac yn tynnu allan alluoedd yn gyffelyb i ieith- yddiaeth. Ar y pen hwn derbyniasom lythyr oddiwrth foneddwr sydd wedi talu sylw manwl i'r pwnc, ac mewn safle i ffurfio barn gywir am dano. Wedi clywed am fwriad Pwyllgor Aber- tawe yr ydoedd, a dyma fel yr ysgrifenodd :— Yr ydwyf fi fy hun yn teimlo yn gryf iawn dros hyn, ac y mae yn hynod dda genyf ddeall fod yr oil o Gymru yn awr yn deffro i'w dyledswydd. Y mae dysgu yr Iaith a Gramadeg Cymraeg o ran gwerth masnachol ac ymenyddol yn llawn mor bwysig ag unrhyw bwnc arall yn yr ysgol. Ond heblaw hyn y mae parchu ein Hiaith, ac felly ein cysylltiadau, yn ein gwneud fel Cymry yn uwch yn ein golwg ein hunain, ac felly o angenrheidrwydd yn genedl fwy dyrchafedig ac urddasol yng ngolwg y cenhedloedd o'n cwmpas. Credaf mewn gwirionedd fod ein hyswildod a'n hurtrwydd fel cenedl i'w briodoli i esgeulusdra ein tadau ynglyn a'r mater hwn." Ie, ein hyswildod a'n hurtrwydd." Dyna daro yr hoelen ar ei phen. Ymddiheuro dros ymddangos yn y byd yma yw gorchwyl pcnaf y Cymro yn rhy ami. Ac ymddiheuro y bydd nes y meddianna hunanbarch a pha fodd y gall barchu ei hunan cyhyd ag yi ystyrir iaith ei fam yn rhy ddiwerth i neb drafferthu i ddweyd wrtho pa fodd i'w siarad a'i hysgrifenu yn briodol ?
Notes of the Week.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Notes of the Week. The Constitution of the National Council.- Contrary to the fears of many, and the hopes of few, perhaps, the Conference which met at Llandrindod Wells on Friday to consider resolutions for constituting the Welsh National Council and defining its powers, came to what must be regarded on the whole as a satisfactory understanding. It was a drawback that the Lord Mayor of Cardiff, who, in connection with Mr. Lloyd-George has worked so well in con- nection with the project, and who would have presided, was prevented from being present by illness. In his absence Mr. P. P. Pennant was voted to the chair, and no better substitute could have been found. All the local authorities of Wales, except one, were represented. Mr. Brynmor Jones, in moving the resolutions pre- pared by the consulting committee, made it quite clear that there was not the slightest intention of binding the delegates to the con- troversial clauses of the Education Bill. In particular he emphasised the point that the National Council would have nothing to do with the management of elementary schools, nor that it would have no power to deal with religious instruction or any of those matters which had been subjects of heated controversy during the last few years. And he gave an undertaking that on certain points there would be the right of appeal from the decisions of the Education Authorities and the County Councils, not to the National Council but to the Board of Education in London. After these assurances the Conference, with only four dissentients, approved of the proposal to establish a Welsh National Council of Education and to urge the Government to secure its establishment. Basis of Representation.—The Conference experienced far greater difficulty when it came to discuss the constitution of the Council. On this question Glamorgan and Monmouthshire were against the rest of Wales. So far as population and rateable value go the two above mentioned counties have a right to a very con- siderable majority of the members of the Council, and if Wales is to be treated as a whole the most populous and wealthiest counties must be allowed the powers of majorities. At present the rural and smaller counties are as independent as the big ones, and it was difticult for them to agree to a proposal which meant that they would be very much at the mercy of their two big sisters. But Mr. Lloyd-George's appeal to patriotism carried the day against jealousy of local independence. After a long discussion, and the moving and withdrawal of several resolutions and amendments, it was agreed with only seven dissentients, that the membership of the Council be not less than 90, nor more than 95, and that the proportion of representation be fixed and adjusted by the King in Council under the following condi- tions :-That Glamorgan and Monmouthshire shall together have a majority of one on the Council; that the meetings of the Council shall be peripatetic and held in South, North, and Mid Wales, alternately, unless and until other- wise resolved by a majority of at least two-thirds voting on the question and that each Welsh county council, county borough, and urban district council, whose population exceeds 50,000 shall have one representative on the Executive of the Council, with an additional representative for each 100,000, or part thereof after 100,000. Under this agreement, whilst the larger counties will have a majority of one on the Council, the smaller counties will have a majority of one on the Executive. We do not know what counties the seven dissentients represented, but we sincerely hope that they and those who delegated them will see the wisdom of acquiesing in the arrangement. It is a very fair solution of a very thorny problem. We were afraid that the whole scheme would have come to grief on this rock, much more so than we were afraid of the voluntary school difficulty.