Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Pobl a Phethau yng Nghymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE Arglwydd Kenyon wedi ysgrifennu llythyr cryf yn protestio oherwydd i rywrai ei enwi fel gwrthymgeisydd i Syr Isambard Owen am y swydd o Ganghellydd hynaf Prifysgol Cymru. Dywed i hynny gael ei wneud yn hollol groes i'w ewyllys, ac heb iddo gael ei hysbysu o'r bwriad o gwbl. DISGWYLIR yn hyderus am ffrwyth ymgyng- horiad y Pwyllgor a gyfarfu yn Llandrindod i ystyried cyfansoddiad y Cyngor Cenedl- aethol. Y farn gyffredin yw y llwyddir i ddod dros bob anhawsder yn foddhaol. Bydd yn rhaid i'r cyfansoddiad ddarpar i ddwyn y Cyngor o dan arolygiaeth Ty y Cyffredin ryw- fodd. Gall wneud hynny drwy i ysgrifenydd Seneddol dros Gymru gael ei benodi, neu drwy i gadeirydd y Cyngor fod yn aelod Seneddol ac yn gyfrifol i Dy y Cyffredin am ei holl weith- rediadau. MAE Mr. Samuel Moss, A.S., yn ei swydd o Ddirprwy-Farnwr Llys y Manddyledion yng Ngogledd Cymru, yn dangos mai nid gwr i gellwair ag ef ydyw. Dywedodd wrth un tyst, os na siaradai yn uwch y gosodai ef ymhen draw y neuadd, ac y byddai raid iddo godi ei lais o'r fan honno. Dywedodd wrth un arall na chredai yr un gair a ddywedid ganddo. RHODDODD Mrs. Vaughan, o Nannau, ddarn o dir a nifer o fythynod i Gyngorau Trefol a Gwledig Dolgellau i adeiladu ysbytty ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth afiechydon heintus. Yr oedd mawr angen yno am yspytty o'r fath, ond hyd yn hyn methai y Cynghorau a chael tir pwrpasol. UN o'r ymwelwyr yn y Gynhadledd Pan- Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddwy flynedd yn ol oedd M. Alfons Parcsewski; a darllenodd bapyr ar Barthlen leithyddol o Ewrop." Y mae yn aelod o Senedd (Duma) Rwsia. Anfonodd lythyr o St. Petersburg yn dweyd ei fod, drwy wahoddiad, am ddyfod i Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Pan dderbyniodd y gwahoddiad, meddai ef, yr oedd yn brysur gyda'r symudiad cenedlaethol a gychwynwyd drwy gyhoeddiad y maniffesto yn mis Hydref. Ar ol bod am dymor yn ngharchar, bu yn ffoadur yn Awstria; ac yn ystod ei ab- senoldeb, dewiswyd ef yn aelod Seneddol dros Kalisz. Dywed fod ganddo barch mawr i'r symudiad cenedlaethol Cymreig. MAE rhai o destynau Eisteddfod Genedl- aethol Abertawe y flwyddyn nesaf wedi eu hysbysu. Cynwysant ganiadau gwladgarol mewn arddull neillduol: telynegau cymhwys i'w canu ar y testynau (I) "Plant yn chwareu," (2) Can y Coleg," (3) Cwmni Priodas," (4) Gorphwys amser cynhauaf," (5) "Ymwelwyr min y mor myfyrdraith, Pygmalion; traethawd beirniadol ar Gymraeg y tri chyfieithiad o'r Testament Newydd-cyfieithiad William Salesbury, cyf- ieithiad Dr. Morgan, a chyfieithiad Dr. Richard Davies"; traethawd, Prif ddiffygion llenydd- iaeth Gymreig y dyddiau presenol V traethawd, "Pechod yng ngoleuni dadblygiad traethawd, Perthynas y Wladwriaeth a bywyd masnachol y genedl." Rhoddir gwobrwyon hefyd am gasgliad o len gwerin Cwm Tawe a Chwm Nedd. PAN aeth George Borrow drwy Gaerphili yn 1854 ni chlywodd yno air o Saesneg, dim ond Cymraeg glan gloew gan bawb. Heddyw anaml y clywir gair o'r hen iaith o enau neb o bres- wylwyr prifddinas y caws. MAE Cymry yn d'od yn awdurdod ar liaws o bynciau ynglyn a gwyddoniaeth gymharol." Ymhlith y llyfrau a gyfrifir o werth mawr rhestrir eiddo y Proffeswr Lloyd Morgan ar Feddyleg l 11 Gymharol"; eiddo Mr. R. E. Hughes ar "Addysg Gymharol," ac eiddo y Proffeswr 0 E. O. Davies ar "Dduwinyddaeth Gymharol."

SANT BEUNO.

CYMANFA GYFFREDINOL Y METHODISTIAID…