Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodiadau Golygyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Golygyddol. EIN HUNAIN. Y mae'r rhifyn presenol o'r CYMRO A CHELT LLUNDAIN yn dechreu cyfnod arall yn ei hanes. Prynwyd hawlfraint y newyddiadur a'i holl eiddo gan gwmni Cymreig ddechreu yr wythnos hon, ac o hyn allan dygir ef allan yn rheolaidd o hen swyddfa'r Celt, yn 211, Gray's Inn Road. Wrth ymadael a swyddfa Mri. Harrison, rhaid cydnabod iddynt wneyd eu rhan ynglyn a chyhoeddi papyr teilwng o'n cenedl bob wythnos, ond bu'r anturiaeth i fesur yn anffodus gan iddynt golli yn gynar un o'r cyfarwyddwyr oedd a gofal y papyr. 0 hyn allan bydd y cyfan tan reolaeth Cymry profedig, gwyr a wyddant am bob cangen o'r gwaith, ac yn cynrychioli pob adran o'n cydgenedl yn y brif- ddinas. Am ei genhadaeth yn y dyfodol nid ydym am addaw yr hyn nas gwyddom y gellir ei gyflawni. Pan drefnwyd i gychwyn papyr wythnosol at wasanaeth Cymry Llundain rhyw ddeuddeg mlynedd yn ol gan rai o honom, addawsom mai nid rhyw fflachiad dros amser fyddai'r mudiad, ac oddiar hyny hyd yn awr yr ydym wedi gofalu fod cofnodion wythnosol o weithrediadau Cymry'r ddinas wedi eu gosod ar gof a chadw yn ei ddalenau. Byddai'n anfantais fawr i ni fel preswylwyr oddicartref" pe na bae genym gyhoeddiad o'r fath i ddyweyd ein hanes ac i goffhau ein mudiadau, ac hyderwn y ceir y gefnogaeth haeddianol gan bob gradd a dosbarth i'w wneyd yn fwy llesol ac yn gryfach ei ddylanwad yn y cylchoedd Cymreig nag y mae, hyd yn oed, wedi bod hyd yn awr. Gwyddom yn dda beth yw ei ddiffygion, ond yr ydym yn ymwybodol hefyd o'r anhawsderau sydd raid eu goresgyn cyn cael newyddiadur a fyddai wrth ein bodd. Nis gellir ei berffeithio ar unwaith, ond fe amcenir dwyn i'w golofnau nifer o gyfnewidiadau a gwelliantau yn ystod yr wythnosau dyfodol, y rhai fyddant, ni a gredwn, yn dderbyniol gan ei ddarllenwyr lluosog. Ar yr ochr arall, gall y darllenydd wneyd llawer er hwylusu y gwelliantau hyn, sef trwy eangu ei gylchrediad a gwneyd pob defnydd dichonadwy o'i golofnau hysbysebol. Gyda chydweithrediad o'r natur yma, a chalondid y lluaws ysgrifenwyr talentog sydd .wedi addaw eu cynyrchion, ni fydd angen pryderu na ddaw y papyr yn allu cenedlaethol yn ein mysg, ac yn lies parhaol i gadwraeth yr iaith ymysg Cymry "ar encil o'u genedigol wlad."

SWYDDOGION UNIAITH.

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.

[No title]

Am Gymry Llundain.