Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. DYDD Mawrth diweddaf ymgyfarfydd- odd y Weinyddiaeth bresenol am y tro cyntaf eleni. Nid yw yn debyg en bod wedi ymgyfarfod er gwneud gwaith, ond yn hytrach er torchi eu llewis yn barod am waith, a phenderfynu pa beth i fyned ato pan y dechreuant.
[No title]
Y MAE dwylaw yr agerlong Dudley, perthynol i Newcastle, yr hon a gy- rhaeddodd borthladd Shields ddydd Llun diweddaf, yn ein hysbysu am ddamwain ofidus a gymerodd le ar y mor boreu dydd Sadwrn diweddaf, rhyw naw milldir oddiwrth y Dudgeon Light. Dywedant i'w hagerlong ddyfod i wrth- darawiad a'r llestr Elizabeth, perthynol i Sunderland, ac i'r Elizabeth gael ei niweidio frfathraddau, fel y suddodd mewn ychydig fynydau. Taflwyd ei dwylaw oil i'r mor, ond gallodd tn o honynt gyrhaedd yn ddiogel i fwrdd yr agerlong, a boddodd y pedwar ereill.
[No title]
YR oedd y cynulliadau yn nghyfarfodydd Moody a S^key, ddydd Sul diweddaf, yn Sheffield, yn lluosocach nae erioed. Yr oedd y neuadd wedi ei gorlenwi yn y prydnawn a'r hwyr, tra yr oedd miloedd yn methu myned i mewn. Er anerch y rhai a fethent fyned i mewn yn y pryd- nawn, cynaliwyd cyfarfod yn y fynweiit, ac anerchwyd hwynt gan amryw wemid- ogion. Yn yr hwyr, ymfoddlonai y canoedd a'fethent fytfed i'r neuadd trwy ganu hymnau Mr. Sankey. trwy ganu hymnau Mr. Sankey.
[No title]
YR wythnos ddiweddaf y cynaliwyd cydchwil ar gorff y glowyr anffodus a gollasant en bywydau trwy y danchwa a gymerodd le ryw bymthegnos yn °1 y1} Bignall, Gogledd Staffordshire. Erniai yr hen reithfarn arferol o Farwolaeth Ddamweiniol a ddychwelwyd, eto barnai y rheithwyr na ddylid arfer goleu lioeth o gwbl yn y lofa, ac nad oedd y gofal priodol wedi ei gymeryd yn y gwaith. Y mae yn anhawdd deall yn ngwyneb y fath ddadganiad, pa fodd y gallodd y rheithwyr ddyfod o hyd i "farwolaeth ddamweiniol" yn yr am- gylchiad. Mewn ychydig oriau wedi cyhoeddiad y rheithfarn hon, cymerodd tanchwa arall le yn Aldwarke, ger Rotherham, a hyny trwy yr un achos, sef defnyddio goleu noeth. Nid oes ond rhyw saith wythnos er pan y cymerodd tanchwa Rawmarsh Ie, pryd y collwyd 23 o fywydau, a'r ddamwain hono hefyd o herwydd yr un achos. Nid ydym yn meddwl y dylai y ddadl o ddyogelwch glofa," a'i bod yn "rhydd o nwy," fod yn ddadi o gwbl dros ddef- nyddio goleu noeth mewn glofeydd, lie gall cwymp disymwth ychydig o lo fod TO achos i ddadguddio gelyn a all fod yn ddinystr i'r oil a ddygwydd fod ar y pryd yn y weithfa. Dylai yr am- gylehiadau hyn fod yn rhybudd i swyddogion a berthyn i'n glofeydd nwyol.
YMGAIS GALED AM WRAIG.
YMGAIS GALED AM WRAIG. DYDD Sadwrn diweddaf, yn Southport, cyflawnwyd gweithred gellweirus a dyn o'r enw J. Barge, yr hwn a ddaeth yno o Birkenhead i chwilio am wraig. Y mae yn ymddangos fod Barge wedi hysbysu yn y newyddiaduron am gyd- mar bywyd, yr hwn a atebwyd gan ddynion ieuainc o Southport. Goheln- wyd yn garwriaethol, ac hysbyswyd ef mewn atebiad i'w ymholiadau, fod gan y ferch £ 400 yn y flwyddyn o waddol. Yr oedd y mab ieuanc yn ddyn hardd, oddeutu 35 oed, a boddlonwyd ef yn fawr yn y ferch. Anfonodd y naill i'r llall eu darluniau, a chytunwyd o'r diwedd i gyfarfod a'u gilydd yn South- port. Dydd Sadwrn, cyrhaeddodd y mab ieuanc yno, a derbyniwyd ef yn gariadus gan ferch ieuanc. Cymer- wyd ef ganddi i'r first-class resfresh- ment-room, lie y galwodd yntau am ddognau i'w hyfed. Yn fuan, bob yn un, daeth lluaws.o bersonau i mewn, ond m feddyliai ef fod un drwg yn bod. Ond wedi i'r gynulleidfa gynyddu i ryw haner cant, cymerasant y dyn ieuanc y tuallan i'r orsaf, a thaflasant laid a fflwr arno nes ei fod yn waeth ei drefn na mochyn. Yn fuan daeth nifer o heddgeidwaid yn mlaen y rhai a'i gwaredasasnt rhag ei boenydwyr.
COLLIAD TYBIEDIG YR AGERLONG…
C TYBIEDIG YR AGER- LONG "KATHLEEN MARY." ODDIWRTH yr holl a ellir ei gasglu, y dyb gyflredin yw fod yr agerlong Kathleen Mary," yr hon a gychwyn- odd o Gaerdydd ar y 7fed o Hydref diweddaf, am Odessa, ac a gychwynodd oddiyno am gartref ar y 7fed o'r mis canlynol, wedi suddo, a'r holl ddwylaw gyda hi. Gadawodd Gibralter ar y 30am o Dachwedd, a dylasai gyrhaedd y wlad hon rhwng y 7fed a'r lOfed o Ragfyr. Yr oedd ar ei bwrdd ryw 25 o forwyr.
LLONGDDRYLLIAD DYCHRYN.LLYD…
LLONGDDRYLLIAD DYCHRYN- LLYD ARALL. 250 FYWYDAI: WEDI EU COLLI. Y MAE bancs gofidus arall wedi ein cyrbaedd o'r mor. Y mae y gauaf presenol wedi bod yn bynod am golled- ion arforawl. Yn canlyn colliad y La Plata a tkri ngain o fywydau, daeth hanes colliad yr Alpha a naw o fyw- ydau. I ganlyn hono drachefn, cawsom 'drydedd a phedwaredd, a cholliad chwech o bersonau, ac y mae genym yn awr y gorchwyl o gofnodi hanes colliad llong fawr arall, ar hvrdd yr hon 9 yr oedd naw ar huga;n o ddwylaw, y zn rhai a gollwyd oil ond pedwar. Cy- merodd y llongddrylliad ddiweddaf hon le yn y Hay of Biscay. Yr agerlong oedd y Cortes, yr hon a berthynai i'r dosbarth flaenaf a nonai y wendon. Ar yr 16eg o Ragfyr diweddaf daliwyd hi gan ystorom ddychrynllyd yn y Bay, ac wedi i gadwynau ei holwyn gael eu tori, daeth y llestr yn annbrin- iadwy. Torodd y tonau trwy y ffenestri, a buan y diffoddwyd y tan gan y dwfr. ac yr oedd bron yn anmhosibl sefyll ar y bwrdd. Gorchymynodd y cadben barotoi y cychod, ac aeth pedwar o'r morwyr i un o honynt, yr hon a sicr- bawyd wrth y Cortes a chadwen. Modd bynag, tua 10 o'rgloch boreu yr 16eg, torwyd y rhaff gan nerth y gwynt, a gwahanwyd y Cortes a'r cwch oddiwrth eu gilydd. Yr oedd y pedwar oedd yn y cwch ar brydiau yn cael golwg ar y llong, er eu bod bob eiliad yn ofni cael eu claddu yn yr eigion. Yr unig long oedd yn agos ar y pryd oedd yr Osceo, yr hon a bigodd i fyny y pedwar oedd yn y cwch, ac a geisiodd ddynesu at y Cortes; ond methodd. Gwelwyd y llestr anffodus yn myned i lawr, ac y mae yn ofnus, y pump ar hugain oedd ar ei bwrdd.
. DAMWAIN ANGEUOL YN MELINAU…
DAMWAIN ANGEUOL YN MELINAU PAPYR ELY. PRYDNAWN dydd Llun diweddaf cymer- odd damwain ofnadwy ac angeuol Ie yn melinau papyr Ely, ger Caerdydd. Gorchwyl dyn ieuanc o'r enw James Green yn y melinau hyn oedd cymeryd gofal o ddwfr berwedig, yn yr hwn y rhoddid math o ddefnydd er ei wneud yn bapyr. Rhan o'i- orchwyl hefyd oedd symud y cyfryw yn y dwfr, a phan wrth y gorchwyl hwn ddydd Llun, syrthiodd ar ei ben i'r dwfr. Wrth syrthio rhoddodd ysgrech ddychrynllyd, yr hyn a dynodd sylw cydweithiwr, yr hwu a lwyddodd i godi y creadur an- ffodus allan. Bu fyw mewn poenau I mawrion hyd foreu dydd Mawrth. Ei pedran oedd 21.
YR ANNEALLTWRIAETH PRESENOL.
YR ANNEALLTWRIAETH PRESENOL. Y MAT*, yn aVtT bymthegnos wedi myned heibio er pan y mae rhyw 52,000 o'n cydweitliwyr, y glowyr, wedi peidio a gweithio, a hyny o herwydd y gostyng- iad cynygiedig iddynt yn eu cyflogau. Y mae y dosbarth hwn, yn ystod y flwyddyn a aeth heibio wedi derbyn yn ddirwgnach ddau ostyngiad yn eu cyf- logau, ac wedi en derbyn felly am eu bod yn cael lie i gasglu fod y farchnad yn farwaidd, a phris y glo wedi gostwng fel ag i gyfiawnhau hyny. Ond yn yr amgylchiad presenol y mae y gweithwyr wedi methu gweled fod gostyngiad cyf- logau yn ddyledus, a'r meistri hefyd wedi methu dangos hyny. Yn gymaint a bod y gweithwyr yn methu gweled y rhesymoldeb o gymeryd y gostyngiad cynygiedig presenol, a'r meistri o'r tu arall yn benderfynol o'i roddi mewn gweithrediad, yn hytrach na thynu yn ol, cynygiodd y gweithwyr ar fod yr annealltwriaeth i'w roddi i gyflafaredd- iad, ond gomeddodd y meistri gydsynio a hyny chwaith. Nid ydym yn deall fod y meistri wedi gwneud un ymgais at ddangos i'r glo- wyr fod marchnad a phris y glo yn gofyn am ostyngiad o 10 y cant yn en cyflogau, ond eu dadl yw fod y farchnad haiarn mor wael, fel y mae yn anmhosibl cadw y gweithfeydd yn agored, a chys- y n tadlu a gwledydd ereill. oni cheir gos- tyngiad yn mhris y glo er gwneud haiarn, ac er cael gostyngiad yn mhris y glo, fod yn rhaid gostwng cyflogau y glowyr, a bod y fath gysylltiad rhwng y ddwy fasnach, sef y glo a'r haiarn, fel nad yw yn ddichonadwy eu gwahan- iaethu. Dywed y meistri pe byddai i'r gweith- wyr gymeryd y gostyngiad presenol, y byddent eto mewn llawer gwell sfefyllfa nag yr oeddynt cyn yr adfywiad di- weddaf ar fasnach; ond y mae y gweith- wyr, hwythau, yn ystyried y byddent llawn mor isel, wrth gymeryd i ystyr- iaeth ddrydaniaeth. Jioll angenrheidiau bywyd. Wrth weled fod nifer mawr o lowyr DeheudirCymruheb gael y gostyngiad, nac ychwaith wedi cael rhybydd am y cyfryw, bu miloedd a weithwyr glo mor yn gwanobeithio am y pymthegnos di- weddaf y tynid y gostyngiad yn ol, ac y celid ail ddechreu ar yr heu bris. Y mae y meistri, hwythau, wedi bod yn dysgwyl yn ddyddiol wrth y gweithwyr i syrthio i mewn i'w telerau, ac yn y gobaith o hyny yn caniatau i'r neb a fynai fyned i mewn, gan ddysgwyl y C5 canlynai y lleill. Ond yn hytrach na myned i mewn, er fod gweithwyr gweithfeydd haiarn Dowlais, Cyfarthfa, Plymouth, Ebbw Vale, Tredegar, a manau ereill wedi myned at waith ar y gostyngiad, eto y mae cyfangorff gweithwyr y gIo moryn dal yn dyn yn erbyn derbyn y gostyng- iad presenol hyd nes y dangosir iddynt y cyfiawnder o hono oddiwrth sefyllfa y fasnach. Nid ydynt mewn un wedd am gael eu huno a'r gweithfeydd tan, ond am gael sefyll ar eu gwadnau euhunain, a chael codi a gostwng yn ol fel y byddo y nwydd a weithiant hwy yn gwerthu yn y farchnad. Wrth weled fod y gweithwyr fel hyn yn dal yn ystyfnig, ac yn debyg o gymeryd mantais o'r nifer sydd wedi myned i mewn i gadw ereill allan, y mae yn debyg fod y meistri wedi bod yn gohebu â'u gilydd, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o gynal eyfarfod dydd Gwener nesaf, ac yr ydym wedi clywed ar sail dda mai canlyniad eu cyfarfod fydd, cyhoeddi lock-out cyffredinol hyd nes y bydd y gweithwyr oil wedi pen- derfynu myned i mewn. Y mae y si ar led hefyd mai yr ail benderfyniad fydd peidio gadael i neb fyned i mewn heb ostyngiad pellach o 10 y cant, a chyn diwedd yr annealltwriaeth eu bod yn meddwl gwthio i lawr gyddfau y gweithwyr y contract rules sydd wedi cael eu tynu gan eu Hundeb. Dywed un gohebydd o Mountain Ash ar y pwnc fel hyn: Nid oes amheu- aeth nad yw y meistri wedi rhag-gyn- llunio eu hymosodiad presenol, ac hefyd wedi bwrw y draul, ond y mae yn amheus iawn a ydym ni fel gweithwyr wedi gwneud yr un peth. Mae amser i bob peth, ond yr hyn yr ydwyf yn amheus o hono yw, ai yn awr ydyw yr amser priodol i ni wrthsefyll ymosodiad presenol y meistri. Un peth sydd eithaf amlwg, ein bod yn fwy ymranedig o ran ein syniadau ar y strike presenol nag y buom erioed, nid, cofier, o barthed teilyngdod a chyflawnder y gostyngiad, ond o barthed yr adeg i'w gwrthsefyll." Y mae amryw gynygiadau wedi cael eu gwneud gan weithwyr Abernant i gael ail ddechreu ar waith, ond yr oil hyd yma wedi troi yn fethiant. Mae gweithiau haiarn Aberaman hefyd ar stop o eisieu glo, a'r gweithwyr erbyn hyn wedi eu talu ymaith. Wrth aufon i ni helynt pethau yn Merthyr, dywed ein gohebydd fel hyn Os ydyw marwolaeth Mr. Stephens wedi tynu deigryn o lygad llawer un, mae marwolaeth y strike wedi rhoddi gwen ar wyneb y gymydogaetli hon. Pythefnosbruddaidd iawn fa y pythefhos ddiweddaf yma, yr archellylles strike yn ysgyrnygu danedd, yn bygwytb bwyta cnawd, ac yfed gwaed plant dynion, a'r gauaf digllon a'i rew a'i eira yn ymosod o'r tu arall. Ond dydd Mercher, cynal- iwyd cyfarfod yn y Neuadd Ddirwestol gan y glowyr a'r mwnwyr perthynol i Plymouth a Chyfarthfa, i ystyried eu sefyllfa ac er mat annhegwch dybryd yw y gostyngiad, eto penderfynwyd mai gwell ydyw ei dderbyn ar hyn o bryd. Felly mae Plymouth a Chyfarthf^ wedi dilyn Dowlais, ac wedi dechreu gweithio. Ar ddiwedd y cyfarfod pasiwyd pender- fyniad i ail ymuno a'r Undeb, a chafwyd anerchiadau galluog gan Mr. Connick ac ereill, ar ran yr Undeb, a dyledswydd. y gweithwyr i'w chefnogi. Mynai rhai ail ymuno heb dalu yr ol-ddyledion, ond dangosodd Mr. Connick fod hyny yn anghyfansoddiadol, a derbyniwyd ei sylwadau gyda chymeradwyaeth." Y mae yn ofnus, os gwir a ddywedir, fod llawenydd ein cyfeillion yn Merthyr, o herwydd ail gychwyniad y gweith- feydd, i fod o fyr barhad. Yr ydym yn cael o wahanol gymyd- ogaethau fod effaith y sefyll allan eisioes yn cael ei deimlo yn fawr mewn rhai teuluoedd, ac angen wedi dyfod i mewn. Y mae y gweithiwr felly yn cael ei wasgu o'r ddau du. Mae yn anhawdd cymeryd gostyngiad yn y gyflog, yn enwedig os. nad ellir cael rheswm dros hyny, ond y mae yn anhawddaeh fyth ddyoddef eisieu angenrheidiau bywyd, yn enwedig lie y mae teuluoedd. Taenwyd y si ar led y dydd o'r blaen fod terfysg wedi dechreu cyfodi yn Mountain Ash, abodllu o heddgeidwaid wedi cael anfon am danynt yno; ond erbyn gwneud ymchwiliad aeth y mynydd yn dwmpath gwadd. Nid ydym yn ofni terfysg o gwbl mewn cysylltiad a'r strike hon, ragor strikes o'r blaen yr ydym erbyn hyn wedi dyfod yn rhy wareiddiedig fel dosbarth, ac yn deall yn dda os na lwyddwn i gael ein hiawnderau trwy deg mai ofer fydd yr holl. Dywed ein gohebydd o Dowlais fel y canlyn:— "Hynod o farwaidd y mae y gwaith tan yn myned yn mlaen. Y mae rhai o'r morthwylfeydd yma heb weithio er ys pump wythnos. Hefyd, y mae un o'r melinau yn segur er ys misoedd bellach, ac nid oes yr un arwydd am iddi gychwyn yn fuan. Mae pedair o'r fiwrueisiau blast wedi eu chwythuallan I yn y gwaith newydd. Dydd Llun,!yr 28am cyfisol, cymerodd damwain le yn y felin gopr, trwy i ran o'r peirianwaith dori. Achosodd hyny i fil o ddynion gael eu taflu allan o waith. Dywedir na fydd yn barod cyn mis Mawrth. Ac i ni osod marweidd-dra y gwaith trwy y flwyddyn ddiweddaf at en gilydd, y mae y gweithwyr haiarn yn wirresynns. Gorfu i lawer o'r gweithwyr haiarn wynebu ar y flwyddyn 1875 heb nac ymborth na than i'w cynhesu. Ond y mae yn dda genym i un forthwylfa gychwyn y Llun diweddaf, yr hon a fu yn segur am bum wythnos. Y mae y gweithfeydd yma wedi arfer myned yn mlaen yn dda er ys blynyddau, a gobeithiwn y bydd eto yr un fath yn fuan."
♦"" CYFARFOD GORUCHWYLWYR…
♦ CYFARFOD GORUCHWYLWYR Y GLOWYR YN ABERDAR. DYDD Mawrth diweddaf, yn y Bute Arms, Aberdar, cynaliwyd cyfarfod gan oruchwylwyr y glowyr, ac un o pob dosbarth yn swydd Fynwy a De- heudir Cymru. Yn mhlith pethau ereill a fuont dan sylw ac y deuwyd i gyd-ddealltwriaeth arnynt,— 1. Penderfynwyd fod taer ddymun- iad ar bawb sydd yn gweithio i dalu 2s. yn wythnosol, er gwneud ymgais i gynorthwyo pawb sydd yn awr ar strike-pob dosbarth neu lofa i anfon eu. cyframadau i Mr. Samuel Davies, ysgrifenydd, 3, Albion-street, Aber- dar, yn enw Mr. Edward Williams, trysorydd, Bute Arms, Aberdar. 2. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal dydd Mawrth, y 26ain cyfisol, yn yr un man, gan gynrychiolwyr o bob dos- barth.
1 BWRDD MASNACH A'R LOCK-OUT.
1 BWRDD MASNACH A'R LOCK-OUT. Y CHYDIG ddyddiau yn ol cyhoeddodd y Bwrdd uchod eu bysbysiad o werth a swm y glo a allforiwyd yn y flwyddyn ddiweddaf. Yr hyn o'u cydmaru a'r flwyddyn o'r blaen sydd yn dadguddio ffaith bwysig ac sydd yn cadarnhau nad yw y gostyngiad cynygiedig, a phris y glo yn cyduno a'u gilydd. Yn j flwyddyn 1873, allforiwyd 12,6l7,566mi_ o 4dynelli, gwerth £ 13,188,511, Jnris- averago 20s. 8c. y dynell. Yn 1874, allforiwyd 13,908,958 o dynelli, gwerth ■ £11,954,255, yn averago 17s. y dynell. Wrth weithio y fligurau hyn allan, gwelir nad yw y gostyngiad yn ngwerth cyffredinol y gio, ond prin 18 per cent. Yn fanwl, nid yw yn rhagor na 17 Beth ddywed Mr. Fothergill & Co., yn ngwyneb hyn, wys- facts are stubborn thingsOnid yw yn drueni ynte gyfeillion, yn ngwyneb ffeithiau fel hyn, os bydd yn rhaid i ni gymeryd gostyngiad, oblegid ein annibendod ein hunain. MABON.
'♦ MARCHNADOEDD.
♦ MARCHNADOEDD. ARAF iawn oedd marchnad yd Llun- dain dydd Llun diweddaf, a gellid ei bryn u, oddici thr y mathoreu, am Is. y chwarter yn is na'r wythnos flaenoroL Yr oedd y fflwr hefyd yn rywfaint yn rhatach. Araf iawn hefyd oedd marchnad y cig yn Llundain, ond cyrhaeddai y cig eidion goreu i 6s. 6c. y 14 pwys, tra y gwerthai y cig gwedder yn well. Tebyg hefyd oedd sefyllfa y farchnad greadur- iaid yn L'erpwl. Gellid prynu glo goreu tai yn Llun- dain dydd Llun diweddaf 6e. y dynell yn rhatach na'r wythnos flaenorol. Pris y glo yno yn bresenol ydyw o 20s. i 25s. y dynell.
[No title]
Y MAE meistri gweithfeydd haiarn Gogledd Cymru wedi penderfynu rhoddi rhybudd o 10 y cant o ostyng- iad yn nghyflogau gweithwyr eu ffwrn- esi blast.