Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. MAE ynadon Reading wedi dirwyo dan faclio-enyn i 10s. a ehostau am omedd myned i'r Eglwys, er fod yr amaethwr gyda'r hwn yr oeddent yn byw wedi dweyd wrthynt beidio. CAFODD menyw o'r enw Young ei saethn mewn tafarndy yn Poliock Shaws, Renfrewshire, nos Sadwrn di- weddaf gan ddyn o'r enw Thompson, yr hwn sydd yn awr yn y ddalfa. Bu farw y fenyw dydd Linn. MAE menyw o'r enw Ireland wedi cael ei chymeryd i fyny yn Torquay am losgi plentyn. Rhedodd i'r heol y dydd o'r blaen gan waeddi, "Yr wyf wedi ei wneud." Wedi chwilio ei hys- tafell, cafwyd penglog a darnau ereill o blentyn llosgedig yno. DYDD Gwcnerdiweddaf darfu i lofeistri Durham benderfynu gostwug cyflogau eu gweithwyr 20 y cant, y gostyngiad i gymeryd lie yn nghanol Mawrth. Y MAE Manes Bywycl Crist, gan Dr. Farrar, wedi cyrhaedd y 12fed argraff- iad, yr hyn sydd yn amgylchiad hynod iawn pan ystyrir fod y gwaith yn werth 24s., ac nadydywwedibod allan ond oddeutu blwyddyn. Y MAE yr elfen gydweithredol ar gy- nydd. Hysbysa y Civil Service Re- view fod y Civil Service Supply Asso- ciation ar enill iddynt en hunain safle newydd i'r de-orllewin o Bedford-street a Chandos-street, Covent Garden. Bydd ei werth tua 15,000. Cynaliwyd cyfar- fod poblogaidd yn y Rhondda yr wyth- nos ddiweddaf, o dan lywyddiaeth D. Rosser, Ysw., er cymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o gael gweithiau glo a haiarn yn eiddo gweithwyr, &c., drwy yr elfen gydweithredol. Efurfiwyd pwyllgor, a bwriedir gychwyn yn y blaen a'r gwaith. Nid oes unrhyw am- heuaeth na allasai pob gweithiwr ddyfod yn ran-berchenog ar weithiau glo a haiarn ond iddo fod dipyn yn ddar- bodus. Golygir fod yn Aberdar a Merthyr o weithwyr o bob gradd rywle tua 40,000 mewn sefyllfa i osod mewn cronfa pe ond deg swllt bob mis am flwyddyn, yr hyn a gyrhaeddai y swm anrhydeddus o £ 240,000.

■" ' SP AIN.

CHINA.

DIRWEST A'R EGLWYS SEFYDLEDIG.

AGORIAD Y SENEDD.

ARWEINYDD Y BLAID RYDDFRYDOL.

COLLIAD TYBIEDIG LLONG ARALL.

HUNANLADDIAD HEN DROSEDDWR.

MARWOLAETIIAU DYCHRYN-LLYD…

L IMEDDWDOD A THRUENI.

CUMBERLAND ORLLEWINOL.

--_.. COLLIAD CIIWECH O FYWYDAU…

-----TALIAD UNDEBOL ARALL…

Y CAUAD ALLAN.

PENDERFYNIAD Y MEISTRI YN…

--CYFARFOD Y GLOWYR YN NGHWMAFON.

-----CYFARFOD TRIMISOL UXDEB-WYR…

NEWYDD DA 0 LANSAMLET.