Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.|
YR WYTHNOS. ETHOLIAD TIPPERARY. DYCHWELWYD lklr. John Mitchell yn aelod seneddol dros Tipperary dydd Mawrth diweddaf, yn ddiwrthwyneb- iad. Yn 1848, cafwyd ef yn euog o drosedd yn erbyn cyfraith y wlad, ac alltudiwyd ef i Van Dieman's Lamd. Y mae yn awr ar ei ffordd i'r wlad hon o'r America. Y inae yn debyg y bydd i Mr. Disraeli wneud cynygiad am writ newydd i Tipperary, yn gy- maint a bod Mitchell yn anghyfreith- Ion i eistedd fel aelod. Os cyrhaedda Mitchell i Loegr cyn i gynygiad Dis- raeli gael ei wneud, bydd iddo ym- ddangos yn y Ty, a dywedir ei fod yn barod i gymeryd y llw.
. DYCHWELIAD DR. KENEALY.
DYCHWELIAD DR. KENEALY. CAFODD Dr. Kenealy ei ddychwelyd dydd Mawrth diweddaf yn aelod sen- eddol dros Stoke-on-Trent, a hyny gyda ddwy fil o fwyafrif. Achoswyd y wagsedd drwy ymneillduad Mr. George Melly.
—;. COLLIAD TYBIEDIG AGERLONG…
—; COLLIAD TYBIEDIG AGERLONG 0 BORTHCAWL. Y MAE yn ofnus fod yr agerlong haiarn c, Y George Batters," yr hon a adaw- odd Borthcawl ar yr 22ain o'r mis diweddaf, ac am yr hon na chlywyd gair mwyach, wedi cael ei cholli. Yr oedd dau ar hugain o ddwylaw ar ei .bwrdd.
+r' TWR LLUNDAIN.
+ r' TWR LLUNDAIN. IVTA-F, yn dda genym ddeall fod yr hyn sydd wedi cael ei hir ofyn gan y cy- hoedd o barthed Twr Llundain, erbyn hyn wedi cael ei ganiatau gan Lyw- odraeth ei Mawrhydi, sef yw hyny, ,cael y Twr yn agored i'r cyhoedd yn rhad ddau ddiwrnod yn yr wythnos. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr cenedl- aethol, gan fod y sefydliad fel pe -byddai yn cael ei wneud yn eiddo i'r cyhoedd. Yr ydym yn deall, modd bynag, y bydd gan y cyhoedd eu rhan i'w wneud," yn gymaint ag y bydd yn .rhaid ymddwyn yn ol rheolau penodol. Pa reolau bynag a osodir i lawr, nid oes genym ond gobeithio y bydd pawb mor ddoeth a gweithredu yn eu hpl, a gwylied dros y pethau hynod rhain o eiddo y wlad fel pe byddent yn eiddo personol iddynt hwy eu hunain.
♦—j Y RHYFEL CARTREFOL YN…
♦— Y RHYFEL CARTREFOL YN YSBAEN. YR ydym yn cael fod y milwyr Bren- inol wedi enill dwy fuddugoliaeth yn ystod yr wythnos ddiweddaf.. Y mae y Cadfridog Loma wedi gorchfygu y Carlistiaid yu eu hymosodiad ar lanau yr Oria, a hyny gyda choiled fawr. Y mae Dovregaray hefyd wedi cael ei erlyn ger Gondesa, ac wedi gorfod encilio. Modd bynag, dywed adrodd- iadau o Santander fod y milwyr Bren- inol wedi gorfod encilio, a bod y Carlistiaid wedi cael eu hadgyfnerthu. Y mae Llywodraeth Ysbaen wedi pen. derfynu gwneud ychwanegiad mawr at ei byddin-70,000. Dywedir fod y Llywodraeth yn bwriadu anfon 15,000 yn ychwanegol i Cuba.
• i i 1V'i■. :■ PASTWN RHYFEL…
• i i 1V' i PASTWN RHYFEL FIJI. Y MAE y Freiihines wedi derbyn, drwy larll Caernarfon, pastwn rliyfel y Brenin Thackombau, yr hwn bastwn, mewn amseroedd a aethaiit heibio, oedd yn arwyddlun o benaduriaeth yn Ynysoedd Fiji, a'r hwn yn awr sydd wedi cael ei roddi i'w Mawrhydi fel æ-wydd o'i ymostyngiad iddi.
YMFUDIAETH I CANADA.
YMFUDIAETH I CANADA. DYWEDIR fod llywodraeth Ontario, a phwyllgor Undeb y llafunvyr Amaeth- yddol wedi dyfod i gyd-ddealldwriaeth i anfon mil o ddyniou i'r dalaeth hono. Y mae y fintai gyntaf i gychwyn ar unwaith, a'r gweddill y mis nesaf.
+ CLADDU TREF DAN EIRA.
+ CLADDU TREF DAN EIRA. RHYDD y Salt La Tee Herald am Ion- awr yr 2 lain, fanylion am drychineb arswydus a oddiweddodd Alta, tref fwn- awl, drwy ba un y claddwyd y dreflan o dan eira a lithrodd i lawr o'r mynydd uwchlaw iddi, gan ddymchwelyd y tai, a gwneuthur galanastra anferth ar fyw- ydau. Yn ffodus, cafodd y nifer ln- osocaf o'r trigolion rybudd prydlawn, o ba un y gwnaethant ddefnydd priodol; ond daliwyd lluaws, a chladdwyd hwy yn fyw. Caed un teulu cyfan yn feirw; y tad ag asgwra ei gefn wedi ei dori, y fam a'i baban yn ei breichiau, a thri ereill o blant bychain, oil wedi mygu i farwolaeth. Mewn man arall, darganfyddwyd chwech o ddyniou, a aethent i geisio estyn gwaredigaeth i'r trueiniaid. wedi cyfarfod a'r un dynged eu hunain, a gorweddent yn hollol feirw o dan fynydd o eira. Fe'n hysbysir hefyd am amryw farwolaethau unigol. Saif tref Alta yn gyfagos i fwnglawdd enwog Emma. Rhedodd yr avalanche dinystriol. i lawr llechwedd amryw fill- diroedd o bellder. Y mae dychryii a chyfyngdra mawr yn ffynudrwy yr holl ddosbarth.
. G\VEITHIAU tiLO Y GADLYS…
G\VEITHIAU tiLO Y GADLYS ABERDAR. Y MAE gweithiau glo y Gadlys, Aber- par, yn myned yn mlaen yn hwylus anarferoL Codwyd yn ystod y mis a derfynodd y 13eg cyfisol, 24,157 o dynelli o lo braisg, a 4,537 o lo man. Yn ystod dydd Gwener diweddaf codwyd yno 1,569 o dynelli olo braisg, a 425 o lo man.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Yr oedd marchuad haiarn Cleveland, ddydd Llun diweddaf, yn well nag y mae wedi bod am beth amser, a'r pig iron yn swllt uwch«ei bris na'r wythnos flaeuorol. Yr oedd gofyn gwell am bob math o haiarn, a dywedir fod amryw archebion wedi eu derbyn yn Lloegr ZD oddiwrth feistri haiarn Cymru. Gioenith.—Mae masnach v gwenith wedi bod yn araf a thrymaidd drwy yr wythnos, a phob math o yd yn rhatach i'w brynu.
YSBYTY ST. THOMAS, LLUNDAIN.
YSBYTY ST. THOMAS, LLUNDAIN. YN yr arholiad a gynaliwyd ar y 4ydd eyfisol yn St. Thomas' Hospital, Llun- dain, am y gradd o L. S. A., yr oedd yn lion genym ganfod enw ein cyd- drefwr ieuanc, Charles Morgan Jones, Ysw., mab John Jones, Ysw., Tre- cynon Brewery, Aberdar. Llwydd- iant iddo i gyrhaedd pinael enwog- rwydd yw ein gwir ddymuniad.
[No title]
CYMERODD Mr. Gladstone a Mr. Bright eu lleoedd yn Nhy y Cyffredin, am y tro cyntaf eleni, nos LUll diweddaf. Dywedai rhai newyddiaduron fod Mr. Gladstone yn debyg o roddi ei sedd i fyny dros Greenwich, ac i ymneillduo o fywyd cyhoeddus, ond y mae yn dda genym ddeall erbyn hyn nad oes y sail lleiaf i'r cyfryw adroddiad. Y MAE etholiad cyffredinol wedi cy- meryd lie yn South Australia, yr hwn sydd wedi troi allan yn ifaftiol i'r Llywodraetb, a dychweliad yr holl hen weinidogion.
[No title]
DEALLWN fod y Parch D. Devies Risca, wedi derbyn galwad unfrydol eglwysi Glynnedd o Phontneddfechan.
Y LOCK-OUT.
Y LOCK-OUT. WELE y seithfed wythnos wedi dyfod i ben er pan y dechreuodd yr anneall- dwriaeth presenol rhwng meistri a gweithwyr yn ein cymydogaethau. Yr ydym wedi bod yn llygad-dyst o strikes hirion o'r blaen, ond nid ydym yn credu fod y fath druniii a thylodi wedi bod yn ein plith erioed o'r blaen. Daeth yr annealldwriaeth presenol ar ein gwarthaf yn mron heb ei ddys- gwyl, ac, o ganlyniad, heb barotoi ar ei gyfer. Y maey ffaith fod miloedd o'n cymydogion yn dyoddef o eisieu angenrheidiau bywyd, ac yn foddlon ymgymeryd ag unrhyw fath o orchwyl er enill ychydig i gadw corS* ac enaic1 yn nghyd, ie, hyd yn nod a gwasan- aethu swyddogion ein plwyfeydd am swllt neu ddan yn y dydd-y mae y ffaith,hon, meddwn, o roddi ystyriaeth iddi yn ddigon i lethu unrhyw greadur ag yehydig o ddynoliaeth yn perthyn I iddo. Fel y gwyr ein darllenwyr, y mae miloedd gweithwyr Merthyr a Dow- lais wedi eu gyru i'r fath sefyllfa o dylodi, fel y maent wedi boddloni er's wythnosau i fyned yn mlaen o dan y gostyngiad; ond er boddloni i delerau y meistri, a hyny o dan yr argyhoedd- iad eu bod yn cael cam oddiar eu Haw, eto, trowyd hWYllt allan. Mor belled ag y mae y cyhoedd yn gallu barnu oddiwrth y fiigyraV! masnachol sydd yn cael eu cyhoeddi, nid oes an- mheuaeth yn meddwl neb nad yw y meistri yn yr amgylchiad presenol yn ymddwyn yn annheg a gorthrymus 1.3 9 tuag at y gweithwyr, ac os ydyw y casgliad yn anghywir, credwn inai eu dyledswydd ydyw rhoddi goleuni i'r wlad ar yr achos. Y mae amryw o'n meistri wedi elwa ugeiniau o filoedd, a rhai eu myrdd- ianau o buuoedd trwy lafur eu gweitli- wyr, ond eto, er fod eu coffrau yn llawnion o'r aur melyn, goddefant i'w hen weithwyr a'u teuluoedd, a hyny yu ngolwg eu palasdai, ddyoddef o eisieu angenrheidiau bywyd. Cynaliwyd cyfarfod yn Merthyr dydd Mawrth diweddaf gan weinidogion y gwahanol enwadau, yn yr hwn y penderfynwyd erfyn ar y meistri i agor eu gweithfeydd haiarn a glo i'r dynion hyny ag ydynt yn foddlon derbyn y gostyngiad. Mae 1111 person hefyd yn cynyg ar fod i weithwyr Merthyr gynal cyfarfod cyhoeddus mawr, ac erfyn ar eu cydweithwyr yn Aberdar a'r Rhonddai dderbyn telerau cynygiedig y meistri, ac felly eu gwaredu hwy o'r cyfyngder diail ag y maent ynddo yii bresenol, a chymeryd mautais ar adeg mwy Iwydd- ianus i ofyn am godiad cyflogau. Y mae yn sicr na fyddai cyfarfod o'r fath yn hollol ddifudd, ac nid ydym yn credu (er fod y meistri yn gallu can en tosturi oddiwrth eu cyd-ddynion) y gallai gweithwyr Aberdar a Rhoudda gwrthod eu cais i'w cydweithwyr yn Merthyr a Dowlais, ond y byddai yn well ganddynt abcrthu teimladac iawn- der er rhoddi drws o ymwarcd, os ydyw hyny yn wir angenrheidiol. Y mae y llythyron a fu rhwllg Arglwydd Aberdar a Mr. Halliday o barthed yr anghydwelediadau presenol, wedi eu cyhoeddi yr wythnos hon. Yn llythyr cyntaf Mr. Bruce at Mr. Halli- day, mown cysylltiad a phendcrfyniad cyfarfod Merthyr, i ofyn i'w Arglwydd- iaeth ohebu a'r meistri, dywed ei fod yn ystyried y byddai ei waith yn ymbil mor aflwyddianus ag a fyddai o anghyson, trwy ei fod wedi datganyn flaenorol ei fod yu ystyried sefyllfa bre- senol masnachyr ardal yn gotyn am y gostyngiad, ac mai a'r gweithwyr eu hunain y dylid ymbil. Dywed hefyd os byddai ei wasanueth o unrhyw les yn y eyfeiriad hwn, y byddai yn dda ganddo ei roddi mewn anerch cyfar- fodydd mawrion o weithwyr sydd yn sefyll yn erbyn y gostyngiad, dan y grediniacth eu bod yn cael aughyfiawn- der. Yr atebiad a roddodd Mr. Halliday i'w Arglwyddiaeth ydyw ei fod yn eithaf hyderus y byddai i'r oil gael ei derfynu yn dra buan pe ymostyngai y meistri i roddi adroddiad o'r gostyngiad a gymer- odd le yn mhris y glo rhwng Awst 81 a'r laf o Ragfyr; ac os byddai ei Arglwyddiaeth yn. Llundaillyr wythnos ddyfodol, y byddai yn dda ganddo gael f ymddyddan ag ef. Erfyniodd hefyd am iddo wneud a allai i ddwyn yr anghydfod i derfyniad. Yn yr ail lytliyr a anfonodd Arglwydd Aberdar at'llalliday, dywed fod yn rhaid gwneud yr apel at y dyn- ion ac nid at y meistri. Fod apel at y meistri i wneud adroddiad o barthed pris y glo wedi cael ei wneud yn gy- hoeddus yn Abertawe, Ion. 18fed, a'i fod wedi cael cyfieusdra i wasgu hyny ar rai o aelodau undeb y meistri rhwng hyny a'r lock-out. Ei fod yn gorfod casglu fod hyuy wedi ei wrth- od, ar ba dir, nis gwyddai; ond nad oedd amheuaeth ganddo nad oedd y glo wedi gostwng, ac o ganlyniad, tod 11 ;n y pris wedi gostwng. Ni chredai, o gan- lyniad, y byddai i un fantais ddeilliaw o ail erfyn yr un peth. .1 Fel y canlyn y dywed ein goBehwyr am helyntkm eu cymydogaethau; Bvitou Ferry, Marwaidd i^wn y w pob peth yn y lie hwn ond lueddwdod go anniuvioideb Y mae y He yn l'hy fywiog yn byny, fel y mae gwaethaf y modd. Y mae pob masnach yn farwaidd, a phob moddion cyhoeddns yn ddifywyd, ond canu cyhoeddus yr heolyddgan y rhai sydd wedi en cloi allan o'u gweithfa- oedd ar yr adeg dorcalonus presenol. Peth cyftredin ydyw gweled cliwech neu wyth obartion yn canu achardota ar hyd ein heolydd am eu bara ben- nyddiol. Gwawrio yn fuan wnelo y boreu pan fyddo yr annealldwriaeth hwn drosodd.—G. Resolven. N os Sadwrn diwedd af talodd y brody r Samuel Davies ac Edward Williams, trysorydd ac ysgrifenyddAdran Aber- dar o Undeb y Glowyr, ynvweliad a'r Ilehwn, gyda y bWriad o roddi cy- northwy i'r rhai a allasai fod yn dy- oddef o herwydd y strike presenol.^ Cafwyd anerchiadau buddiol a phwr- pasol ganddynt yn ygyfrinfa, cynaledig yn y Vaughan's Arms; ond y mae yn dda genym hysbysu iddynt gael pawb yn gweithio yn y lie ar hyny o bryd. Siaradwyd yn wresog gan y swyddog- ion ar undeb, a chawsant dderbyniad croesawus. Yr oedd yn llawen genym glywed am y cyfraniadan sydd yn dyfod i mewn o amryw fanau ac oddi- wrth wahanol undebau. Yn wir, y mae yn fraint fod genym swyddogion fel y rhai hyn—bechgyn â'll calon yn "Y y gwaith, ac yn ytndrechu eu goreu dros en cydweithwyr. Y mae yn dda genym ddweyd hefyd fod yr U ndeb ar gynydd yn y lie hwn, a gwelir rhai yn dyfod i'r gyfrinfa yn awr nad ydynt wedi presenoli en hunain er ys misoedd lawer. Yr ydym o'r farn y bydd yr Undeb yn y lie hwn yn n wcb nag y bn erioed yn fuan iawn.—UNDBBWR.
PWYLLGQR CYNORTHWYOL TRECYNON.
PWYLLGQR CYNORTHWYOL TRECYNON. Y AT AV, avnaf ddyled mawr i ddiolch i chwi, gyhoeddwyr y DAKIAN, am eich caredigrwydd y 11 eich gwaith yn can- iatau i hysbysiad gweithrediadau y pwyllgor hwn i gael ymddangos yn eich TARIAN glodwhv, a hyny yn rhad, yr hyn sydd yn eithriad i'r wasg yn Aber- dar. Dymunaf hysbysu holl fasnacliwyr y cylch ag y mae y pwyllgor hwn wedi ymgynieryd a chasglu ynddo, yn gys- ,y tal a chyfranu at bawb a geir yn y cylch hwn mewn augen yn yr adeg bresenol. Aduabyddir y cylch wrth enwau y dosbarthiadan caulynol Cwmdar, Llwydcoed, Trecynou, Tre- salem neu Roberts' Town, Twyncoch, a chymydogaetli y (J-adlys, hyd at gledr- ffordd Cwmpeini Taff Vale, yr hon sydd yn rhedeg i Gwmdar. Bydd y pwyilgor yn ddiolcligar am uiirhyw hysbysiad a'u harweillia i wybodaeth o unrhyw deulu yn goddef yn y cyleh hwn,"nad ydynt hyd yn liyn yn gwybod am dano. Teimlem hefyd aw veld i roddi ychydig o argymhelliad i fasnach- wyr y peutref i ddeffroi at eu dyled- swyddau, yn gymaiut a bod amryw deuluoedd oddiyno yn appelio atom ni am gymhorth. Y mae yn dda genyf hysbysu y cy- hoedd fod y pwyllgor hwn yn meddii ar ddigon o barodrwydd i gyfranu i bawb yn ol eu gallu, ond nid ar draul hebgor masnachwyr cyfoethog Aberdar. Taer ddymunaf hefyd ar i bawb sydd a chalon i roddi i wneud hyny yn rliydd ac ewyllysgar, heb edrych a yw y casglwr yn gyfaill iddo neu peidio ond bydded i ni fod yn gvfeillion i gyd mewn amcan o'r fatU hwn, gan golli golwg ar bobpeth gorplieuol ac edrych ar y gwir amcan presenol, Hefyd y mae geiiyf air at Wil dweyd y Gwir pi rhifyn yr wythnos ddiweddaf. Y mae yma ifyddlondeb mawr wedi ei ddangos hyd yn hyn, ond v mae Wil wedi hysbysu fod Dosbarth Trecynon yn gwneud masnach go dda wrth gasgm. Pa beth a teddylia Wil wrth fasnach, carWll gael eglurhad ganddo, gan ei fod yn effeithio er niwed ar Ifyddlondeb y oil. Cynghor- af y Wil hwn, a phob Wil arall, i fod yn ddoeth a phwyllog rhag iddo fod yn rhwystr i neb wneuthur daioni. Gan obeithio y cynier yr awgrym. Dros y Pwyilgor, JOHN PiiOSSERj 17, Cemetiy Road, Trecynon. DARLLENWIT> Ysgi'if Dwfr Dosbarth Castellnedd yr ail waith yn Nhy y Cjdfredin dydd Mawrth diweddaf.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Chwefror 13, priod Mr. D. Davies, r/rocer, Canon-street, Aberdar, ar ferch. Ah! denawl yw Dia-na Un,-heb ball, Mae'n werth y byd cyfan; Eneiniog dlysni anian—sy'n chwareu Yn nglwys foehau r angyles feciian. n I'w rhan boed hir, hir einioea,—a hono Yn ddysglaer heb ddrygfoes; Dalied ei gruddiau diloes Yn dirfion hyd derfyn oes. MARWOLAETHAU. Yn ddweddar, yn dra sydyn. o'r scarlet ferer, merch fechan Mr. John Morgan, o ymyl Godreucoedfach, ger My 11 went y Grynwyr. Chwefror 16, yn 87 mlwydd oed, wedi hir nychdod, yr hen chwaer dduwiol Joanna. Nicholas, Heolyfelin, Aberdar. Yr oedd yn un o hen aelodau Carmel, ond nid oedd yn cyrchu i'r moddion, o herwydd yr oedd wedi myned yn ;dda,ll er ys 18 mlvnedd. Gadawodd fachgen ar ei hoi i alaru ei cholled.—OLVDVDD. Chwefror 15, o'r brain fever, yn 6 oed, Walter, mab Mr. David Morgan, engineer, David-street, Trecynon.—CLUDYDD,
-.---------TEIMLAD Y BAllDD…
TEIMLAD Y BAllDD CYN PRYNU CEFFYL. EDRYCH pa faint yw oedran—y ceffyl, Fel caffiwyf fi amcan 0 herwydd fod yr arian Yn drfod o god y gwan. Cvrmdare. T. AB GWILY31