Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

MOODY A SANKEY YN LLUNDAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MOODY A SANKEY YN LLUNDAID. Y mae y ddau Efengylydd uchod wedi cynhyrfu yr holl deyrnas. Y mae eu gweinidogaeth wedi effeithio ar yr holl wlad, fel gweinidogaeth Elias, Eliseus, loan Fedyddiwr, Crist a'i apostolion, a gellir dweyd, fel gweinidogaeth Knox, Luther, Calvin, Zuinglius, WJiifc- -field, Wesley, Rowlands, Harris, a Spurgeon. Dywed y dynion beiddgar hyny a elwir Our London Correspondents mai pwnc siarad pawb o bob gradd ac yn mhob man yn Llundain, yw gwein- idogaeth Moody a Sankey. Yr oedd trigolion "Jerusalem a Loll Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn myned allan at loan yn niffaethwch Judea," i wrandaw arno yn llefain Parotowch ffordd yr Ar- glwydd, gwnewch yn uniawn ei lwybr- au ef. Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd gryfach na myfi, yr hwn nid wyf deilwng i ddatod carai ei esgidiau. Oen Duw yr hwn sydd yn tynu ymaith ibechodau y byd. Rhaid iddo ef gy- jiyddu, ag i minau leihau." Gweinidogaeth yr un ffunud o ran mater, ysbryd, amcan, a symledd, yw gweinidogaeth Moody a Sankey, a gweinidogaeth loan, Crist, a'i apostol- ion, a holl ddiwygwyr pob oes. A dyma yr unig weinidogaeth, y gwel y nef- oedd yn dda gynhyrfu y byd i waelod ,ei galon, trwyddi. Nis gellir rhoddi eyfrif am lwyddiant mawr y cenhadan Americanaidd ar sail dim sydd yn fawr, yn ddylanwadol, yn mhlith dyn- ion y byd. Nid oes titl colegaidd yn hongian wrth enw un o honynt. Nid ydynt yn foneddigion uchel mewn gwaedoliaeth na chyfoeth. Nid oes ganddynt balasau gorwych, na cher- bydau ysblenydd, na gweision mewn gosgordd-wisgoedd barwnol. Nid oes ganddynt ddim o'r addurniadau diw- eddaraf, ar ba rai y mae canoedd o bregethwyr wedi ynfydu, fel y pethau mwyaf cynorthwyol i ddylanwad yr efengyl, o ddysg, o athroniaeth, o ddoniau areithyddol, o gefnogaetb cyf- oeth, a phoblogrwydd ar gefn swn heb feddwl, gwirionedd, gwreiddioldeb, nac egwyddor. Dynion syml yw Moody a Sankey, heb fod yn feistriaid ar hyd yn nod yr English Grammar-, ond wedi derby n nerth o'r nef trwy bregethu Crist yn Geidwad i'r byd, i fod yn feistriaid ar deimladau a phenderfyniadau llond gwlad o ddynion mewn dwy flynedd. Y mae London Correspondent y South Wales Daily News' wedi dangos ei baganiaeth anffyddol yr wythnos ddiweddaf yn ei sylwadau ar anerch- iadau Moody yn Llundain. Dywedodd yr hurtyn tywyll Mr. Moody, like Mr. Spurgeon, is not particular what figure or trope he lays hold of for his pur- pose. Last night he told the people I God used a worm to thrash a mount- ain.' This is not refined. Mr. Mathew Arnold would find neither sweetness nor light in it." Y mae y gydmariaeth yn mha un nis gallai yr anffyddiwr Mathew Arnold, lla'i ddisgybl, yn y South Wales Daily News, un o staff y papyr hwnw, gael na "melusder na goleuni ynddo, i'w gweled yn yr unfed benod a deugain o lyfr prophwydoliaeth Esay, yn y Beibl, yr hyn ni wyddai dyn sydd yn astudio llyfrau anffyddol, fel rhai Colenso a 'Mathew Arnold, yn fwy o lawer na'r Beibl. Nid Moody na Spurgeon, wiaaeth y gydmariaeth, ond yr anfeidrol ddoeth Dduw, yn ngenau y prophwyd. Rhodd- odd Esay hi megys y cynhyrfwyd- ef gan yr Ysbryd Glan." A bu Moody yn ffyddlon fel gwas i Dduw trwy bregethu y gair a chalonogi ei wran- dawyr a'r geiriau a ddysgir yn y bro- phwydoliaeth. Ni feddyliodd holl gyfieithwyr dysgedig y Beibl, i dros ganto wahanol ieithoedd y byd, eu bod hwy yn gwarthruddo eudysg wrth osod y gydmariaeth nchod yn ffyddlon yn eu eyfieithiadau. Y mae miloedd fel y Salmydd, wedi earych ar y gyd- mariaeth hon, a'i chyffelyb, fel yn felusach na'r diliau mel, a nnvy o oleuni gan myrddiwn o weithinu ynddi, nac yn holl weithiau dychymygol atli- ronwyr beilchion y byd. Nid rhyfedd fod anffyddwyr, gelynion Duw a'i air, yn methu cael melusder na goleuni yn ngeiriau y Beibl. Hynod fel y mae gelynion Duw, fel Herod a Philat, yn myned at eugilydd pan yn gwrthwynebu Crist a'i air. Y mae y Pabydd balch, Cardinal Cullen, wedi condemnio Moody a Sankey am nad ydynt yn dyrchafu seremoniau dynol uwchlaw pregethn Crist yn Geidwad i bechadur. Ac y mae y Church Herald, papyr y Defodwyr Pabyddol, yn uno a'r papyr anffyddol a gamenwir The Christian TVorld, yr hwn sydd yn proffesu ei fod yn bleid- iol i grefydd, i daflu sarhad ar weith- rediadau Efengyfaidd Moody a Sankey. Ond ni buasai prawf fod eu gweinid- ogaeth o Dduw pe buasai Pabyddion ac anffyddwyr proffesedig yn ei chy- meradwyo. Am nad ydych o'r byd y mae y byd yn eich casau clrwi," meddai Crist wrth ei ddysgyblion. Ac nid oes neb yn fwy gelynol i weinidog- aeth yr efengyl yn ei symledd, a'i hamean i ddwyn pechaduriaid at Grist, na swyddogion eglwysig, ac eglwysi, y rhai sydd wedi gorlwytlio eu crefydd, fel y Phariseaid, a bydolrwydd. Ond er yr holl bethau hyn, y mae miloedd ar filoedd yn ymgasglu i wrandaw Moody a Sankey. Ac y mae papyrau newyddion mwyaf dylanwadol y deyrnas yn rhoddi hanes manwl a ffafriol iawn am danynt o hyd. Mae sylwadau rhai erthyglau yn y papyrau hyn yn profi fod eu hysgrifenwyr yn deal] yr efengyl yn eu hysbryd a'i ham- can. Y mae yr ysgrifenydd yn y Daily News, Llundain, wedi dangos o'r de- chreu ei fod yn cymeryd llawer o ddy- ddordeb i roddi y manylion mwyaf tarawiadol a chynhyrfus yn nghylch Moody a Sankey, a'r hyn a ddywedant ac a ganant. Y mae oddeutu 18,000 wedi bod yn eu gwrandaw yn Liundain eisioes, a miloedd ambell noson yn gorfod troi ffwrdd o eisiau lie yn yr Agricultural Hall. Y mae gweinidogion o bob enwad, a boneddigion o bob gradd, aelodau y senedd, arglwyddi, yr Ar- glwydd Ganghellydd, ac ereill yn tyru i'w gwrandaw. Yr oedd penaethiaid yr luddewon yn myned i wrandaw loan a Christ. Hyderwn y bydd y ddau efengylydd yn fendith i filoedd.

DAMWAIN DDYCHRYNLLYD.

[No title]

DAMWAIN ANG-EUOL YN ABERTEIFI.

Y CLOIAD ALLAN.

. Y LOCK-OUT.

LLOFRUDDIAETH YN¡ DEPTFORD.

[No title]

[No title]

ETHOLIAD BWRDD YSGOL CLYDACH.

ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR.

Advertising