Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. LLOFRUDDIAETH DYCHRYN- LLYD YN NGH AEIID YD I). BOBEU dydd Sadwrn diweddaf, cy- merodd llofruddiaeth ofnadwy le yn Bute Road, Caerdydd. Y man y cy- merodd le ydyw No. 200, rhan isaf o'r hwn anedd-dy a breswylir gan Mr. Kinmoutb, gwertliwr p'oultry. Yr es- gynlawr gyntaf a breswylir gan Mr. Colston, a'r esgynlawr uchaf gan ddyn o'r enw George Richards (incite ar tug-boat yn Caerdydd), ei wraig, a saith o blant, yr ieuengaf o ba rai nid yw ond pythefnos oed. Y mae Ri- chards wedi bod allan o waith am gryn amser, ac mewn dygn dlodi. Gwnaed casgliad iddo ychydig ddyddiau yn ol yn y dociau er ei gynorthwyo. Pan y ganwyd y plentyn, nid oedd yn y ty ddim heb ei wystlo, a gorfuwyd cael cadachau o dy cymydog i roddi y plen- tyn ynddynt. Y mae y gwr wedi bod yn isel iawn o'r herwydd, ac yr oedd yn ddyn sobr a diwyd. Aeth ef a'i wraig, yr hon oedd oddeutu 35 oed, i'w gwely nos Wener heb gad tamaid o fwyd. Ymddangosai pob peth yn -ddistaw, ac nid oedd neb ond efe, ei wraig, a'r baban yn yr un ystafell. Yn yr ystafell nesaf y cysgai Miss Colson, yr hon a ddeffrowyd oddeutn saith o'r gloch, trwy glywed curo ar y mur oedd rhwng y ddwy ystafell. Arosodd yn ddystaw am funyd, ond yn deall fod yno rhyw swn anarferol, aeth at ddrws ystafell Richards, lie y gwelodd ef wrth y gorchwyl o dori gwddf ei wraig a chyllell. Gwaeddodd allan, a rhedodd i lawr at ei thad, yr hwn a alwodd i mewn heddgeidwad. Pan aeth yr heddgeidwad i fyny, cafodd Richards a'i wraig yn gorwedd ochr yn ochr, a'r gwely yn orchuddiedig gan waed. Yr oedd y gwaed ar y pryd yn ffrydio allan o'r archoll yn ngwddf y wraig. Rhedai gwaed hefyd o wddf y gwr, ond nid cymaint ac o wddf y wraig. Cyr- haeddodd y meddyg mewn ychydig fyny dan, ac mewn pryd i glywed y wraig, druan, yn dweyd mai ei gwr a wnaeth y weithred, ac wedi hyny a dorodd ei wddf ei hun. Nad oedd dim wedi dygwydd rhyngddynt, ac nad oedd yn gwybod yr achos. Bu farw yn mhen ychydig fynydau. Trodd y meddygon erbyn hyn eu sylw at y gwr. Deallasant y gellid ei wnio, ae felly y gwnaethant. Cyn gwnio ei wddf, dywedodd y gwr, "Myfi a gyf- lawnodd y weithred, myfi a dorodd ei gwddf; o achos tlodi yn unig, yr oeddym yn newynu." Cafwyd gafael yn y gyllell waedlyd dan y gwely. Symudwyd y plentyn ar unwaith o'r ystafell, ond yr oedd y cwbl o'i amgylch yn orchuddiedig a gwaed. Dywedodd Richards amryw weithiau na wyddai -efe paham y gwnaeth y fath weithred; fod yn rhaid mai tlodi a'i hachosodd. Y mae tlodi mawr y teulu hwn wedi cael ei achosi gan y strike a'r cloiad allan presenol, yr hyn sydd wedi .effeithio gymaint ar Gaerdydd ag ar unrhyw Ie.

4 DAMWAIN ANGEUOL YN NHREORKI.

PREGETH RECTOR MERTHYR AR…

DERBYNIAD CYNYGIAD MR. DOYLE…

+■ DAMWAIN ANGEUOL YN ABERDAR.

+ TROSEDDWYR IEUAINC.

Y LOCK-OUT.

—♦ HENRY THOMAS A'R ANNEALLDWRIAETH…

—* CYNADLEDD MWXWYR Y DEYRNAS.

LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG PLENTYN.

+ CLYNCORWG, CYNGHERDD.

FFESTINIOG.

MASNACHWYR TREORCI A'R STRIKE.

EISTEDDFOD TREHBRBERT.