Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.'
YR WYTHNOS.' EIN MARCHNADOEDD. Y R oedd y glo yn marchnad Llundain ddechreu yr wythnos hon yn llai nag arferol, a chymerodd codiad o swllt y dynell le yn mhris y mathau goreu. Gwerthai y glo yno dydd Llun diwedd- af am o 18s. i 21s. y dynell. Yr oedd marchnad yd Llundain dydd Linn diweddafyn gadarn, a llwyddwyd mewn rhai amgylchiadau i gael swllt y chwarter o godiad yn mhris ein gwen- ith cartrefol goreu. Addefir yn gy- ffredinol fod ein gobeithion cynhauafol yn rhagorol, ac nid yw yn debyg y cymer unrhyw godiad o werth le yn mhris defnydd ein bara. Nid oedd ond ychydig fywyd yn marchnad chwarterol glo a haiarn Cleveland, yn Middlesboro', dydd Mawrth diweddaf. Ni chymerodd nemawr o gyfnewidiad le yn y prisoedd.
DAU BLENTYN WEDI LLOSGI I…
DAU BLENTYN WEDI LLOSGI I FARWOLAETH. CYMERODD tânle boreu dydd Mawrth diweddaf yn Old Ford, mewn ty lie y preswyliai amryw deuluoedd, a llosg- wyd dau blentyn i farwolaeth.
:4 GWLEDD HYNOD YN PARIS.
4 GWLEDD HYNOD YN PARIS. DYDD Sadwrn diweddaf, cymerodd gwledd Ie yn Paris ar gig ceffyl, asyn, a bastardd mnl. Eisteddodd oddeutu 70 i ymgyfranogi o'r danteithion. Cy- merwyd y gadair gan Mr. Bicknell, yr hwn a olrheiniodd gig ceffyl fel ym- borth er yr adeg boreuol, gan hysbysu mai prif amcan y gymdeithas a baro- todd y wledd hon oedd lladd y rhagfarn yn erbyn y cyfryw ymborth. Dywedai fod y rhagfarn mor gryf yn Lloegr fel nad oedd yn credu y llwyddid o gwbl yn yr anturiaeth o agor masnach mewn cig ceffyl. Hysbyswyd yn ganlynol y rhoddid tlws o anrhydedd i'r neb a wnai brawf o hyny yn Llundain, yn gystal ag X20 i'w rhanu i dlodion y cyfryw gymydogaeth. Yr oedd y wledd yn un hynod flasus a llwyddianus
EIN MARCHNAD GWENITH.
EIN MARCHNAD GWENITH. DYDD Sadwrn diweddaf derbyniasom fryshysbysiad o Awstralia yn ein hys- bysu am gyfanswm cynyrch cynauaf gwenith y wlad hono, yr hwn adrodd- iad oedd newydd gael ei wneud i fyny. Yn Awstralia Deheuol yr oedd y cy- nyrch yn ddeg miliwn o fwsieli, yr hyn a roddai rhyw 183,000 o dynelli i'w hallforio. Yn Victoria y mae y cynyrch yn bum miliwn o fwsleli. Yn gymaint a'n bod wedi cael ein bendithio a chyn- auaf toreithiog y flwyddyn a aeth heibio, ac arwyddion am un cyffelyb eleni eto, nid yw y newydd da hwn oddiwrthein gwrthdroedwyr mor bwysig. Er's ugain mlynedd yn ol ni byddai cynyrch cyn- auaf yn Awstralia yn cael nemawr o ddylanwad ar ein marchnad cartrefol. Yr adeg hono cymerai bedwar mis i'n hysbysu o'r ffaith fod gwenith i'w gael yno, a phedwar arall i ddwyn y cyfryw o'r naill wlad i'r llall, heblaw fod yr ymgymeriad o'i drosglwyddo yn un peryglus ac anmhroffidiol. A'r hyn oedd yn wirionedd am Aswtralia oedd hefyd yn wirionedd am America a lleoedd ereil, Ond nid felly yn ein dyddiau ni. Awr neu ddwy yn awr sydd yn ddigon i anfon archeb am wenith i lanau un o lynoedd America, ac mewn pymthegnos gwelir y gwenith yn mhorthladd Liverpool. Gynt yr oedd- ym yn gorfod ymddibynu bron yn gyfangwbl ar ein cynyrch cartrefol, ondyn awr gallwn dderbyn adgyf- nerthion o bob gwlad sydd yn cynyrchu gwenith ac nid oes amheuaeth nad y wlad hon ydyw yr oreu i werthu gwen- ith iddi o boll wledydd y byd, tra y mae gwledydd tramor yn ei ystyried yn werth cynyrchu y cyfryw er eiii mwyn. Yn ein dyddiau ni, nid oes neb yn ar- swydo wrth feddwl am gynhauaf gwael, canys nid all pris defnydd ein bara godi yn uwch na 45s. y chwarter, nes y dylifa i mewn o bob rhan o'r America yr hyn sydd ganddynt yn weddill, yn hytrach na'i ddefnyddio, fel y gwneir yn awr yn fynych, i godi ager o dan eu peirianau.
Y LOCK-OUT.
Y LOCK-OUT. PEDAIR wythnos ar ddeg wedi dirwyn i ben er dechreu yr annealldwriaeth, ac eto heb nemawr o wawr gobaith am ei derfyniad. Y mae yn dda genym ddeall, modd bynag, fod ychydig gy- nhwrf yn y gwersyll, ac ychydig o ar- wyddion fod y pleidiau am ymwasgu at eu gilydd. Yn wir, yr ydym yn credu fod y naill a'r Hall wedi dangos ychydig gormod o ystyfnigrwydd. Nid gwaseidd-dra yw dangos awyddfryd am ddyfod i ddealldwriaeth; ac er methu unwaith ac eilwaith, nid yw neb yn llai o ddyn i dreio y drydedd waith. Fel y gwyr ein darllenwyr, y mae Mr. Henry Thomas, diweddar oruchwyliwr dosbarth Aberdar, wedi cynal cyfar- fodydd er ceisio dyfod o hyd i ryw gynllun i gael y ddwy blaid at eu gilydd, ac er na chafodd ond derbyniad gwael yn Nyffryn Aberdar, yr oedd ei dderbyniad yn well yn Cwm Rhondda, a gwahoddiad i ail ymweled a'r lie hwnw. Yn deall fod dirprwyaeth wedi cael ei benodi i gyfarfod a'r meistri ddydd Mawrth diweddaf o Gwm Rhondda, er nad oedd y meistri yn cyfarfod o gwbl ar y cyfryw ddydd, eto, rhag achosi unrhyw ddiflasdod. i'r mudiad, aeth is-gadeirydd Undeb y Meistri, Mr. D. Davis, Maesyffynon, Aberdar, i Gaer- dydd er cyfarlod a'r eyfryw gynrych- iolwyr. Cafodd Mr. Henry Thomas a'r Canon Jenkins ar ddeall gan Mr. Davis fod eyfarfod blynyddol y meistri er ethol swyddogion, i'w gynal ddydd Gwener nesaf, ac nad oedd amheuaeth na byddai iddynt dderbyn cynrychiol- aeth oddiwrth y gweithwyr os de- wisent.
Y GADLYS.
Y GADLYS. ANFYNYCH iawn y gwelwn ddim o hanes y lie uchod ar eicli TARlAN wreichionawl. Nis gvrn pa beth yw yr achos, gan fod yma gystal llenorion o fedd un gwaith, a'r rhai hyny yn ddarllenwyr cyson, ac yn bleidwyr i'r pen iddi, a gwn mai ad- sain calon pob un o honom yw,— Yn der daeth atom DARIAN-Y GWEITHIWB, I goethi'n gwlad eirian Traethodau, gemau y gan, Ddaw i ni o'i dda anian. Boed-ei gylcb dros y byd gwyn,- a'i oes fo Yn oes fawr heb derfyn Mwy ei saeth fo'n nmeuthyn, Yn trefna a dysgu'r dyn. Pwnc mawr y dydd yn bresenol ydyw, nid yn unig yn y gwaith hwn, ond gan bawb bron sydd yn y cylchoedd. Felly, ar gais Iluaws o'r lie hwn yr ydym yn anfon i chwi ychydig bach o'n hares fel rhai sydd yn teimlo a gweithredu er lies y rhai sydd allan; ac er prawf, gosodwn ychydig o'n cyfrifon yma, gan hyderu fod pawb yn cydweithredu. "Actions cries louder than words." Ein casgliad oddiar y dechren ydyw £262 2s., ond cofier fod y swm uchod yn perthyn i'r Hen Bwll, yn nghyda'r masnachwyr haelionus sydd yn ein cy- northwyo, y rhai a ddylem eu parchu a'u hedmygu. Dyna Mr. Jones, Wayne's Arms, y fan yr ydym yn cynal ein c-yfar- fodydd, dywedodd ef wrthym fod yr ystafell yn rhydd at ein gwasanaeth; heblaw hyny y mae Mr. Jones ynrhoddi yn wir haolionus; cyfraha yn barhaus i Bwyllgor Trecynon; hefyd rhydd trwy gyfryngwriaeth yr Hen Bwll i Bwyllgor y Bute Arms, Aberdar. Hefyd y mae y gofiaid a'r seiri cyfranu yn haelionus. Mae eu gweithredoedd yn dangos eu bod yn teimlo dros eu cydweithwyr. Mr. Watkins, grocer, Aberdar, a rydd ei bed- -R war swllt bob pythefnos. Hefyd, der- byniasom dcleg swllt yn ddiweddar gan un nad yw foddlon dangos ei enw. Mae calon y gwr hwn yn ei lie os ydyw y byd o'i Ie, Clywsom hefyd fod Pwll Dar yn casglu yn dda yn ol eu rhifedi. Cyn terfynu teimlwn yn ddyledswydd arnom ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoddi i'n trysorfa yn neillduol. GLAN LLIEDY. Ebrill 2il, o'r darfodedigaeth, wedi hir gystudd, priod Mr. J. Bevan, 28, Gadlys- street, Aberdar, yn 39 mlwydd oed. Cafodd gystudd caled, ond dyoddefodd ef yn da,wel. Dydd Mawrth canlynol, hebryngwyd-hi i gladdfa newydd Tre- cyuon, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Thomas Rowlands, Aberdar. Gadawodd ar ei hoi briod anwyl a thri o blant by chain i ylaru eu colled,
. MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Y MAE y byd yr ydym yn byw ynddo fel ryw grochan berwedig, y naill beth ar ol y llall. Yr wythnos hon yr oedd ym- drechfa fawr Bwrdd y Tylodion, Ponty- pridd i gymeryd lie, ond trwy i Evan Griffiths, Ysw., Brynteg House, Ponty- yridd, dynu yn ol, a thrwy hyny atal y draul fawr, y mae yr oil drosodd. Y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. Grif- fiths am y weithred dda hon, o herwydd pe buasai yn cario ei ymrwymiad allan, buasai yn achosi gwario llawer iawn, y rhai sydd gan y Bwrdd yn awr at bethau mwy angenrheidiol. Yr ydym wedi cael llawer iawn. o etholiadau yn y Bwrdd Iechyd a Bwrdd y Tylodion trwy fod ryw berson unigol yu parhau i ddal yn mlaen. Ond nid felly Mr. Griffiths, canys y mae efe wedi tynu yn ol eleni er mwyn^arbed traul dan y fath amgylch- iadau yr ydym ynddynt yn bresenol. Gobeithio y bydd yr ymddygiad hwn o eiddo Mr. Griffiths yn foddion i ereill wneud yr un fath. Mountain Ash. D. THOMAS.
4 BWRDD IECHYD ABERDAR.
4 BWRDD IECHYD ABERDAR. WARD NO. 1. SYE,—-Meddylais ei fod yn awr yn bryd i mi ddiolch, drwy gyfrwng y DARIAN i'r canoedd lawer o gefnogwyr sydd genyf fel ymgeisydd am sedd ar y Bwrdd Iechyd. Yr-oedd cael requisi- tion, neu gais, fel y gellir ei alw, na chyflwynwyd ei fath i'r un person o'r blaen er sefydliad y Bwrdd, yn beth ag y dylwn deimlo yn gryn an- rhydedd o'i herwydd eto, nid oeddwn yn credu y buasai fy achos yn cael ei gymeryd i fyny gyda'r fath frwdfryd- edd, hyd nes yr ymwelais ag amryw o fanau yn yr Adran. Erbyn hyn y mae y frwydr yn myned yn boethach, boethach bob dydd, ac y mae digon o dystiolaeth i'r ffaith na fydd dim ar ol gan ein gwrthwynebwyr heb ei wneud, os gallant fy rhwystro i fyned i mewn. Yr ydym wedi clywed am beth o'r ystranciau sydd yn cael eu harfer; ond mentraf ddweyd wrth fv nghefnogwyr, y gallant ddisgwy'l eto bethau na ddarf'u iddynt ddycliymygu erioed i gymeryd lie cyn y bydd yr ymdrechfa drosodd; felly rhaid i mi geisio gan fy nghyfeillion fod yn effro a gwyliadwrus dros ben. Y mae cyfiawnder tu cefn i'r ym- drech. Fe wel pawb nad ydym yn cael cyfiawnder yn bresenol, am nad oes yr un, fel cynrychiolydd o'r lie, i ddweyd gair am angenrheidiau glan- n 9 weithdra Hirwaun yn y Bwrdd, pan y mae rhyw un a sedd ar y Bwrdd o bob parth arall o'r plwyf ond y lie hwn. Geilw y trethgasglwr yma fel y gwna mewn manau ereill. Nid ydyw wedi anghofio ymweled a Hirwaun o gwbl; ond hynod mor lleied ydym yn ei gael am ein harian. Wedi bod yn y sefyllfa hon am liir arnser, er i ni ymdrechu yn y blynydd- au a basiodd i ddychwelvd un aclod i'r Bwrdd o'r lie, ond metbasom,—danu i mi, fel ymgeisydd y tro hwn, fyned i ddweyd ein cwyn fel lie wrth dreth- dalwyr Penywaun. Cwmdar, Trecynon, a Llwydcoed, ac i ofyn am gynortbwy er mwyn i'r lie hwn gael yr uu chwareu teg ag y mae rhanau ereill o'r plwyf yn ei gael; ac y mae yn dda genyf gael ar ddeall nad ydyw yr apeliad'a wnaethum wedi bod yn ofer. Ac yr wyf yn teimlo yn wir ddiolchgar i'r canoedd sydd wedi addaw pleidlmio droswyf, ac hefyd i'r rhai hyny sydd wedi myned oddiamgylch i ganfasio, llawer o ba rai nad adwaenwn. A'r hyn sydd yn coroni y cwbl ydyw, en bod yn gwneud eu gwaith yn hollol ewyllysgar ac yn ddi-dal. Glowyr a gweithwyr ereill ydyw fy nghefnogwyr mwyaf gwresog ac os bydd i mi gael fy nychwelyd, gwn mai trwy help meibion llafur y bydd hyny, gan nas gallaf ddysgwyl cynorthwy o un cyfeir- iad arall. Caniataer i mi yn y fan hyn i gry- bWjll fod gwedd hollol newydd i'w gweled yn yr ymdrechfa bresenol. Pwy glywodd erioed o'r blaen am scriw yn cael ei defnyddio mewn cy- sylltiad ag etholiad aelodau Bwrdd Iechyd ? Cymeraf yr hyfdra i ddweyd, neb erioed. Ond nid oes eisieu gotyn a ydyw y scriw ar waith yn awr ai peidio. Y mae hyny yn eitliaf hysbys; ac arwydd o wen did ydyw bob amser a bwriad rhyw rai ydyw ymladd yn annheg. Felly, rhaid i mi erfyn ar y Trethdalwyr i fynu chwareu teg i mi hyd v gallont, yna ni bydd raid i mi ofni y canlyniad. Pa gyfrif ellir roddi am rai yn arfer y scriw yn yr ymdrech- fa hon, y rhai oeddynt yn 1868 (yr Etholiad cyffredinol), pan y safai Mr. Bruce, Mr. Richard, a Mr. Fothergill, yn myned oddiamgylch y pryd hwnw i gasglu pleidleisiau, ac yn drwgliwio Mr. Bruce yn mhob dull a modd, am nad oedd yn bleidiior i'r .Ballot! Gwrided y cyfryw, os nad ydynt wedi myned yn rhy bresaidd eu gwynebau i deimlo dim. Os bydd i rai o'r rhai diegwyddor hyn ddyfod heibio i'r Trethdalwyr eto, cyn y bydd y papyr- au yn cael eu casglu, dylid gofyn iddynt y rheswm am y cyfnewidiad mawr a welir ynddynt yn awr, rhagor i'r hyn oeddynt yn 1868 ? Rhoddodd rhai eu henwau i mi, gan adelaw pleid- leisio droswyf; ond ni feiddiant wneud hyny. Y mae hyn yn rby ddrwg, onid ydyw ? Cyfaddefir yn gyffredinol mai y pleid- leisiwr ydyw iawn berchen y bleidlais, ond myn rhai mai eu heiddo hwy ydyw. Camsynied i gyd. Er enghraifft, mae rhai perclienogion tai yn honi mai hwy ydyw perchen y bleidlais fel perchenog, a'r bleidlais yn bei'thyn i'r'hwn sydd yn byw yn y ty. Y mae hyn yn afresymol, canys y mae yn ymofyn, fel y dywedir, "y geiniog a'r geiniog- werth." Perthyn i'r oesoedd y aethan t heibio ydyw y scriw. Nid ydyw yn gweddu y bedwarydd ganrif ar bym- 1 9 theg. Ond waeth i mi ysgrifenu neu beidio, ei harfer a gaiff yn yr etuoliad prcsenol; gan hyny, yr wyf yn dymuno ar bob glowr i arfer ei ddylanwad yn ei herbyn, aci ddangos ei fod yneifneiddio a'i clirmygu i'r fath raddau na fydd i'r rhai nad ydynt wedi addaw eu pleid- leisiau i mi i gymeryd rhan yn yr ethol- iad o gwbl, er dangos eu hatgasrwydd at y fatb peth. Bum bron anghofio fy oclir inau. Ni chlywais air fod neb yn arfer y scriw droswyf n ond glowyr ydyw fy mhleid- leiswyr yn benaf. Cas beth fyddai gan un o'r eyfryw ei harfer. Os oes un yn inhlith y canoedd lawer sydd wedi addaw ei bleidlais i mi, wedi gwneud hyny o dan ddylanwad y scriw, gwell geuyfheb ei chael. Chwareuteg ibawb r roddi eu pleidleisiau fel y dymunent- eu hunain, ac nid ereill. A ddarfu i rywun erioed glywed son am unrhyw ddyn yn myned at berchen y ty yu mha un yr oedd yn byw i ymofyn ei bleidlais ? Atebaf, nid oes un i'w gael. Paham, o'r ochr arall, yr a per- chenog at y deiliad i ofyn am ei bleid- lais ef? Os bydd y perch enog yn cael ei rent yn rheolaidd, nid oes yr un awdurdod gauddo i fod ar yr hwn sydd yn byw odditauo ar adeg etholiad. Ter- fynat*. gan ddiolch yn fawr i bawb sydd yn teimlo ac yn gweithio droswyf ar yr adeg bresenol. ,71 Hirwaun. D. E. WILLIAMS.
. ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR.
ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR. WARD NO. 1. Y MAE Mr. D. E. Williams, o Hirwaun, yn orawyddus i gael eisteddle ar y Bwrdd Iechyd. Diau mai tegweh a'r trethdalwyr ydyw rhoddi hysbysiad iddynt pa mor ami y mae Mr. Williams yn rhoddi ei bresenoldeb yn y gwahanol Fyrddau y mae yn bresenol yn aelod o honynt. Y mae Mr. Williams yn gadeirydd Bwrdd Addysg Rhigos. Y mae yr Elementary Education Act, 1870,yn darbodi "nad oes dim llai nag un cyfarfod i gael ei gynal yn fisol gan y Bwrdd." Ai nid ydyw yn ffaith. ddarfod i Mr. Williams absenoli ei hun am cliweeh mis yn rhywle oddiwrth gyfarfodydd Bwrdd Addvsg Rhigos ? Mewn gwirionedd, nid oedd un cyfar- fod o fath yn y byd wedi ei gynal am tna 12 mis wedi sefydliad y Bwrdd! Beth oedd y canlyniad o hyn ? Ddarfod iddo beidio bod yn Fwrdd o gwbl. Yr oedd Byrddau Addysg Aberdar a Plien- deryn, rnewu canlyniad, yn gwbl an- 'alluog i ddarparu adeilad priodol a cliyfaddas i blant Hirwaun, y rhai sydd yn byw yn mhlwyfi Aberdar, Penderyn, a Rhigos. Yr wyf yn dweyd yn ddi- dderbynwyneb mai Mr. Williams sydd yn gyfrifol am yr holl oediad sydd wedi cymeryd lIe mewn gwneud ycliwanegiad at yr ysgoldy presenol, a'r cyfnewidiad- an y cydunwyd arnynt gan Fyrddau Aberdar a Phenderyn. Rhieni plant, meddyliwch am hyn! Gadewch i ni am eiliad edrych i Fwrdd y Gwarcheidwaid. Yn sicr, y mae Mr. Williams yn amlygu y gofal mwyaf am hwn, 'does bosibl. Yr wyf yn dal yn fy Haw yr abstract am yr haner blwyddyn yn terfynu Mawrth, 1875. Yr wyf yn cael ynddo ddarfod i Mr. Williams roddi ei bre- senoldeb 7 o weithiau yn ystod yr hane-r blwyddyn Ai dyma y llwybr, tybed, i ofalu am y tlodion—rhoddi ei bresenoldeb unwaith y mis, a chyfar- fodydd y Bwrdd yn cael cu cynal un- waith yr wythnos. Nid yw yn bosibl fod Mr. Williams yn ymesgusodi drwy ddweyd nad oes ganddo amser! Yn ystod yr un cyfnod cawn fod Mr. Rhys wedi rhoddi ei bresenoldeb 23 o weith- iau, a Mr. Williams 7 o weithiau! Gyd-etholwyr, meddylier am eiliad fod bob un o'r gwarcheidwaid mor ddifeddwl a diofal a Mr. Williams am y tlodion, beth, mewn gwirionedd, a ddeuai o honynt? Edrychwch drosyr holl fyrddau ag y mae Mr. Williams yn aelod o honynt,. a chewch weled ei fod ef yn hynod ar gyfrif ei absenoldeb -—tra ananil y mae yn bresenol. Digon iddo ef ydyw cael yr enw o fod yn aelod. Tybier fod Mr. Williams yn cael ei ethol i'r Bwrdd Icchyd, a ydych ckwi yn meddwl y byddai iddo gyflawni ei ddyledswyddau fel aelod ? Na thwyller chwi: edrychwch ar yrfa gyftredin Mr. Williams mewn cysyllt- iad a'r Byrddau.. AnamI iawn y mae yn bresenol, a thra ananil yn agor ei enau pan yn bresenol. Credweh fi, yr oil a geisia Mr. Wil- liams, yw cael yr enw a'r anrhydedd o fod yn aelod, yna bydd mewn mwyn- had o'i uchelgais—ni waeth ganddo ef pwy gyflawna gwaith y Bwrdd. Y cwbl a geisia Mr. Williams yw yn unig, galwer dy enw di arnat fi. SYLWEDYDD.