Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Y STRIKE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y STRIKE. FEL yr hysbyswyd yn y DARIAN ddi- weddaf, cynaliwyd cyfarfod lluosog o feistri Deheudir Cymru a sir Fynwy ddydd Gwener diweddaf yn Nghaer- dydd, yr hwn a lywyddwyd gan Mr. R. Fothergill, A.S. Cymerodd y cyfarfod sefyllfa bresenol y fasnach dan ystyr- iaeth; ac wedi dadleu maith, penderfyn- wyd taflu yn agored yr holl lofeydd perthynol i Undeb y Meistri ddydd LIun, gan roddi i'r gweithwyr siawns o ddychwelyd at eu gwaith ar y gos- tyngiad o 15 y cant ar y gyflog a delid yn Rhagfyr diweddaf. Penderfynwyd hefyd fod y rhai sydd yn byw yn nhai y meistri, ac heb dalu y rhent er Ionawr, yn rhwym o dalu o hyn allan. Yr oedd rhai o feistri yr Uudeb am gael 20 y cant o ostyngiad, ond cariwyd y cynygiad o 15. Achosodd hyn gyn- hwrf yn mhlith gwersyll y gweithwyr, yn gymaint a bod y gostyngiad wedi cael ei ychwanegn o 5 y cant. Meddylid wrth y siarad personol a gymerai le ddydd Sadwrn yn Nowlais a Merthyr y derbynid amodau y meistri, ac yr elid i mewn ar unwaith. Dydd LIun, cynaliwyd cyfarfod yn Mountain Hare gan weithwyr Dowlais a Merthyr, pryd yr amlygwyd gwrthwynebiad cryf i fyned i mewn ar y gostyngiad ychwan- egol o 5 y cant. Yn y cyfarfod, ethol- wyd cynrychiolwyr i siarad a'r meistri, ac i ddatgan eu boddlonrwydd i fyned i mewn ar y gyflog a dderbynient pan y cawsant eu cloi allan, os byddai i'r cy- tundeb dyddiol gael ei dynu yn ol, ac i fwrdd ymgymodol gael ei ffurfio er atal strikes yn y dyfodol. Cynaliwyd ail gyfarfod yn Mountain Hare ddydd Mawrth, er clywed adrodd- iad y cynrychiolwyr a apwyntiwyd i ymweled a'r meistri. Llywyddwyd y cyfarfod hwn drachefn gan Mr. William Williams, Abercanaid. Dywedodd un o gynrychiolwyr Dowlais fod Mr. Menelaus wedi dweyd wrthynt o barthed i'r cytundeb dyddiol, ei fod yn anmhosibl iddo wneud dim o hono ei hun, ond ei, fod. yn credu na fyddai o un lies i feistri na gweithwyr. 0 barthed i'r 95 y cant gostyniad ychwanegol, fod sefyllfa bresenol y farchnad yn ei ofyn, ac nad oedd y meistri wedi ei ychwanegu er dial ar y dynion. Dywedai nad ellid cario yn mlaen y gweithfeydd ar y 10 y cant, ac os byddai i weithwyr Aberdar a'r Rhondda gael yr ben bris, y byddai iddynt hwythau ei gael befyd. Ei fod ef yn foddion ar i fwrdd cyflafareddiad gael ei apwyntio. Dywedodd cynrychiolydd o Gyfarthfa ei fod wedi siarad a Mr. Crawshay y boreu hwnw. Ei fod wedi dweyd na wnelai efe, i ffwrdd a'r cytundeb dydd- iol, ond nad oedd efe yn credu y cy- merai lock-out byth le eto. Fod rhai o'r meistri yn nghyfarfod Caerdydd eisieu 20 y cant o ostyngiad, ac nad allai efe agor y gweithfeydd ond ar y telerau a roddwyd. Cynrychiolydd Plymouth a ddywed- odd ei fod wedi gweled Mr. Hosgood a Mr. Howell, ond nad allent hwy wneud dim y diwrnod hwnw. Nad allent wneud dim ar wahan o herwydd rheolau Undeb y Meistri. Os byddai i'r gweithwyr fyned i mewn ar y 15 y cant o ostyng- iad, nad oeddent yn credu y byddai i gloiad allan gymeryd lie. Na fyddai i'r meistri gyfarfod hyd ddydd Gwener wythnos i'r nesaf os na fyddai i ry wbeth alw. Y gallent gyfarfod mewn diwrnod neu ddau, Terfynwyd y cyfarfod trwy basio penderfyniad yn erfyn am gael deall- dwriaeth gyffredinol rhwng holl fwn- wyr y deyrnas, a chael rhyw foddion i atal strikes a cholliadau yn y dyfodol. Am dri o'r gloch, cyfarfyddodd 1,500 o lowyr yn nghapel Zion, Mer- thyr, er ystyried cynygiad y, meistri. Cadarnhawyd penderfyniad cyfarfod dydd Llun, a pbasiwyd y canlynol yn unfrydol:—" Fod y cyfarfod hwn yn taer ddymuno ar ein cydweithwyr yn Aberdar, Rhondda, a lleoedd ereill, i ffurfio pwyllgor er ail ystyried sefyllfa glowyr yr haiarn-weithiau, gyda'r am- can o gydweithredu trwy holl Dde- heudir Cymru a Swydd Fynwy, ac i ddod i ddealldwriaeth drwyadlar ba delerau yr ail ddechreuid gweithio, fel na byddai i un adran fradychu y llall. Penderfynwyd hefyd ar fod i bwyllgor gyfarfod dydd Mercher, am ddau o'r gloch, yn y New Duke Inn, Merthyr, er ystyried pa gamrau pell- ach a gymerid. Dymunir ar i wyr Aberdar a'r Rbondda ystyried cais y cyfarfod, a dysgwylir cyfarfod a'r cyf- ryw dydd Iau (heddyw) yn Aberdar. 0

LLYTHYR AT SYR GEORGE ELLIOT,…

BLAENAFON.

BLAENLLECHAU.

YR ; WYTHNOS.

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

TREHERBERT-GWERTHU DIOD

CHWECH 0 BERSONAU WEDI EU…

PEDWAR AR HUGAIN 0 BERSONAU…

Y DIENYDDIAD YN BRYSTE.

MASNACH YD LLUNDAIN.

Y SENEDD.

CYNADLEDD LEEDS.

PEIRIANWYR ABERDAR,

GORLIFIAD GLOFA.

LLANILLTYD FAERDREF.

TYNANT A'R IDA COLLIERIES.