Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
Y STRIKE.
Y STRIKE. FEL yr hysbyswyd yn y DARIAN ddi- weddaf, cynaliwyd cyfarfod lluosog o feistri Deheudir Cymru a sir Fynwy ddydd Gwener diweddaf yn Nghaer- dydd, yr hwn a lywyddwyd gan Mr. R. Fothergill, A.S. Cymerodd y cyfarfod sefyllfa bresenol y fasnach dan ystyr- iaeth; ac wedi dadleu maith, penderfyn- wyd taflu yn agored yr holl lofeydd perthynol i Undeb y Meistri ddydd LIun, gan roddi i'r gweithwyr siawns o ddychwelyd at eu gwaith ar y gos- tyngiad o 15 y cant ar y gyflog a delid yn Rhagfyr diweddaf. Penderfynwyd hefyd fod y rhai sydd yn byw yn nhai y meistri, ac heb dalu y rhent er Ionawr, yn rhwym o dalu o hyn allan. Yr oedd rhai o feistri yr Uudeb am gael 20 y cant o ostyngiad, ond cariwyd y cynygiad o 15. Achosodd hyn gyn- hwrf yn mhlith gwersyll y gweithwyr, yn gymaint a bod y gostyngiad wedi cael ei ychwanegn o 5 y cant. Meddylid wrth y siarad personol a gymerai le ddydd Sadwrn yn Nowlais a Merthyr y derbynid amodau y meistri, ac yr elid i mewn ar unwaith. Dydd LIun, cynaliwyd cyfarfod yn Mountain Hare gan weithwyr Dowlais a Merthyr, pryd yr amlygwyd gwrthwynebiad cryf i fyned i mewn ar y gostyngiad ychwan- egol o 5 y cant. Yn y cyfarfod, ethol- wyd cynrychiolwyr i siarad a'r meistri, ac i ddatgan eu boddlonrwydd i fyned i mewn ar y gyflog a dderbynient pan y cawsant eu cloi allan, os byddai i'r cy- tundeb dyddiol gael ei dynu yn ol, ac i fwrdd ymgymodol gael ei ffurfio er atal strikes yn y dyfodol. Cynaliwyd ail gyfarfod yn Mountain Hare ddydd Mawrth, er clywed adrodd- iad y cynrychiolwyr a apwyntiwyd i ymweled a'r meistri. Llywyddwyd y cyfarfod hwn drachefn gan Mr. William Williams, Abercanaid. Dywedodd un o gynrychiolwyr Dowlais fod Mr. Menelaus wedi dweyd wrthynt o barthed i'r cytundeb dyddiol, ei fod yn anmhosibl iddo wneud dim o hono ei hun, ond ei, fod. yn credu na fyddai o un lies i feistri na gweithwyr. 0 barthed i'r 95 y cant gostyniad ychwanegol, fod sefyllfa bresenol y farchnad yn ei ofyn, ac nad oedd y meistri wedi ei ychwanegu er dial ar y dynion. Dywedai nad ellid cario yn mlaen y gweithfeydd ar y 10 y cant, ac os byddai i weithwyr Aberdar a'r Rhondda gael yr ben bris, y byddai iddynt hwythau ei gael befyd. Ei fod ef yn foddion ar i fwrdd cyflafareddiad gael ei apwyntio. Dywedodd cynrychiolydd o Gyfarthfa ei fod wedi siarad a Mr. Crawshay y boreu hwnw. Ei fod wedi dweyd na wnelai efe, i ffwrdd a'r cytundeb dydd- iol, ond nad oedd efe yn credu y cy- merai lock-out byth le eto. Fod rhai o'r meistri yn nghyfarfod Caerdydd eisieu 20 y cant o ostyngiad, ac nad allai efe agor y gweithfeydd ond ar y telerau a roddwyd. Cynrychiolydd Plymouth a ddywed- odd ei fod wedi gweled Mr. Hosgood a Mr. Howell, ond nad allent hwy wneud dim y diwrnod hwnw. Nad allent wneud dim ar wahan o herwydd rheolau Undeb y Meistri. Os byddai i'r gweithwyr fyned i mewn ar y 15 y cant o ostyng- iad, nad oeddent yn credu y byddai i gloiad allan gymeryd lie. Na fyddai i'r meistri gyfarfod hyd ddydd Gwener wythnos i'r nesaf os na fyddai i ry wbeth alw. Y gallent gyfarfod mewn diwrnod neu ddau, Terfynwyd y cyfarfod trwy basio penderfyniad yn erfyn am gael deall- dwriaeth gyffredinol rhwng holl fwn- wyr y deyrnas, a chael rhyw foddion i atal strikes a cholliadau yn y dyfodol. Am dri o'r gloch, cyfarfyddodd 1,500 o lowyr yn nghapel Zion, Mer- thyr, er ystyried cynygiad y, meistri. Cadarnhawyd penderfyniad cyfarfod dydd Llun, a pbasiwyd y canlynol yn unfrydol:—" Fod y cyfarfod hwn yn taer ddymuno ar ein cydweithwyr yn Aberdar, Rhondda, a lleoedd ereill, i ffurfio pwyllgor er ail ystyried sefyllfa glowyr yr haiarn-weithiau, gyda'r am- can o gydweithredu trwy holl Dde- heudir Cymru a Swydd Fynwy, ac i ddod i ddealldwriaeth drwyadlar ba delerau yr ail ddechreuid gweithio, fel na byddai i un adran fradychu y llall. Penderfynwyd hefyd ar fod i bwyllgor gyfarfod dydd Mercher, am ddau o'r gloch, yn y New Duke Inn, Merthyr, er ystyried pa gamrau pell- ach a gymerid. Dymunir ar i wyr Aberdar a'r Rbondda ystyried cais y cyfarfod, a dysgwylir cyfarfod a'r cyf- ryw dydd Iau (heddyw) yn Aberdar. 0
LLYTHYR AT SYR GEORGE ELLIOT,…
LLYTHYR AT SYR GEORGE ELLIOT, A.S. YB ydym yn cael fod y llythyr canlyn- ol wedi ei gyfansoddi gan y pwyllgor o saith, perthynol i ddosbarth Aberdar, er ceisio, trwy ryw foddion, unol a phenderfyniad ac ysbryd y gweithwyr, ddyfod a'r annealldwriaeth presenol i derfyniad. Y mae yn sicr, fel yr aw- grymasom o'r blaen, fod yn debycach cael pethan i derfyniad wrth geisio at hyny nac wrth adael llonydd iddynt; ac yn gweithredu oddiar yr egwyddor hono, y mae y llythyr presenol wedi ei gyfansoddi, ac nid ydym ni yn gallu gweled ei fod yn croesi dim ar ysbryd penderfyniadau blaenorol y gweithwyr. "BYE,—Mewn cyfarfod o weithwyr Glofeydd Powell Dyffryn, a gynaliwyd yn y Lamb & Flag, Aberaman, pen- derfynwyd yn unfrydol i wneud apel atoch chwi yn bersonol, er ceisio, os yn bosibl, rhoddi terfyn ar yr annealldwr- iaeth dinystriol sydd yn Neheudir Cymru er's pedwar mis, ac heb y go- baith lleiaf o'i gael i derfyniad. Yn wybyddus o'r ysbryd cymedrol a ar- ddangoswyd genych yn Nghaerdydd yn 1871, yr hwn a effeitbiodd i derfynu y strike mewn modd anrhydeddus i weithwyr a meistri, ac heb adael ar ei ol y teimladau chwerwon a adawyd gan strikes blaenorol; ac hefyd, wedi darllen eich anerchiad rhagorol yn Casnewydd, yr ydym wedi cael ein codi i hyderu am gael eich presenoldeb yn ein plith yn Neheudir Cymru un- waith eto, ac yn gobeithio y bydd eich gallu mawr yn ddigonol i sefydlu bwrdd cyflafareddol sefydlog yn ein plith. Y mae yr egwyddor gyflafar- eddol wedi gweithio yn dda, ae atal strikes yn Lloegr, paham ynte yn Nghymru. Syr, yn y gynadledd olaf rhwng meistri a gweithwyr yn Nghaerdydd, gofynodd Llywydd Undeb y Meistri i gynrychiolwyr y gweithwyr, os oedd arnynt eisieu i'r meistri gadw eu gweithfeydd yn agored er colled idd- ynt. Ni fu erioed y fath gyfeiliornad. Nid ydym am i'r meistri gadw eu gweithfeydd yn mlaen ar y golled, fel y profa ein hymddygiadau yn amlwg er dechreu yr annealldwriaetb: nid ydym yn gweithredu yn unol a'r fath ddymuniad. Pe ewyllysiem i'r meistri gadw eu gweithfeydd yn mlaen felly, ni fuasem erioed wedi gofyn am gael y pwne wedi ei benderfynu gan fwrdd an. mhleidiol o gyflafareddwyr. "Eindymuniad er dechreu yr an- nealldwriaeth ydyw ar fod i'r meistri a7 gweithwyr ethol nifer benodol o foneddigion er ei derfynu, ac unrhyw annealldwriaeth a ddichon godi yn y dyfodol. Syr, yr ydym yn gobeithio1 y bydd i chwi fod mor garedig a chyfarfod cynrychiolaeth o-,h gweithwyr, I dy- weder yn Swyddfa Aberaman, neu yn unrhyw le arallcyfieua i chwi, i'r dy- ben o ymddyddan ar bynciau perthynol i'r annealldwria3th presenol."
BLAENAFON.
BLAENAFON. Y MAE y newydd wedi cyrbaedd ein swyddfa fod glowyr Blaenafon, mewn cyfarfod a gynaliwyd ganddynt bryd- nawn dydd Mawrth diweddaf, wed penderfynu myned i mewn ary gostyng- iad, ac i ddecbreu gweithio ar unwaith.
BLAENLLECHAU.
BLAENLLECHAU. YE ydym yn cael fod un wedi dechreu gweithio yn mhwll No. 1, Blaenllechau. Dywedir i ddau gychwyn eu ffordd, ond mai un a fu yn ddigon gwrol i fyned i lawr.
YR ; WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Y DYDD o'r blaen, pan yr aeth clerc an- ffodus a gwys i dy masnachwr yn swydd Cavan, Iwerddon, saethwyd ef, a derbyn- iodd archoll angeuol. YN Nghyfarfod blynyddol Undeb y Bedyddwyr, dangoswyd fod yn agos i £260,000 wedi eu codi gan yr enwad yn ystod' y flwyddyn ddiweddaf tuag at achosion crefyddol, a bod cynydd o dros 10,000 wedi ei wneud at aelodau y gymanfa. Y MAE gweithwyr haiarn Glasgow, yn ystod yr wythnos a aeth heibio, wedi boddloni i ostyngiad o Is. y dydd yn eu cyflogau. Y ThIAE perchenogion glofeydd North Staffordshire wedi penderfynu gostwng cyflogau eu mwnwyr a'u glowyr 10 y cant. Y mae y gostyngiad i ddyfod i weithrediad ar y 15fed o'r mis nesaf, a bernir y gwneir gwrthsafiad yn ei erbyn. YR oedd y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone, a'r anrhydeddus A. F. Kinnaird, A.S., ar yr esgynlawr yn ngwasanaeth Moody a Sankey nos Sul diweddaf yn yr Agricultural Hall. Y MAE y newydd wedi ein cyrhaedd o New York fod tair agerlong wedi eu dinystrio trwy dan yn New Orleans, ac amryw fywydau wedi eu colli. AR yr afon Dart, dydd Sadwrn di- weddaf, cafodd Mr. Howard Pearce, mab y diweddar Parch. Mr. Pearce Gowar, Abertawe, ei foddi trwy ddam- wain i fad. » —
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r "Daily News," Llundain) EBRILL 19, Middlesborough.-Masnach I; mewn pig iron wedi bod yn farwaidd trwy yr wythnos ddiweddaf. Prisoedd yn is. Ychydig yn cael ei anfon i'r Cyfandir. Cyflafareddiad ar waith glo Durham. Rhyngfarnydd (umpire), Mr. W. E. Forster, A.S. Dysgwylir lleihad yn nghyflogau glowyr. Llawer o gais am coke. Ebrill 21, Middlesborough.-Llawer yn marchnad yr haiarn. Ychydig o fywyd yn y fasnach a gwledydd tramor. Ychydig rhagor o orders am rails. Gwaith yn lew mewn Haw. Glo yn myned i lawr. Cyflogau yn uchel. Ebrill 23, Birmingham.—Cryn lawer yn y farchuad. Ychydig o brynu, am fod prisoedd haiarn yn uchel. Meistri yn dadgan nas gallant werthu yn is nes y delo pris y gloi lawr. Galwad bywiog am lo, o achos fod gweitbiau glo De- heudir Cymru yn sefyll, fel y tybid. +
TREHERBERT-GWERTHU DIOD
TREHERBERT-GWERTHU DIOD < HEB DRWYDDED. CAFODD gweddw ieuane o'r enw Lewis, yr hon hefyd a dderbyniai gynorthwy plwyf- ol, ei dirwyo o 25 a chostau gan ynadon Treherbert, ddydd "Llun diweddaf, ain werthu diodydd'meddwol heb drwydded yn Mlaenrhondda,
CHWECH 0 BERSONAU WEDI EU…
CHWECH 0 BERSONAU WEDI EU LLOFRUDDIO GAN WALLGOFDDYN. Y MAE amgylchiadau dychrynllyd newydd gymeryd lie yn Saint-Maurice- sur-Averon (Loiret.) Y mae gwall- gofddyn wedi llofruddio cymaint a chwech o bersonau. Ymosododd i i ddechreu ar weinidog y plwyf, yr hwn a ddychwelai o fod yn ym- weled a rhyw gleifion, gan hollti ei benglog a bwyell. Cafodd yr ynfydyn wedi hyny afael mewn offeryn medi, a lladdodd ag ef bump o bersonau. Cafodd y seithfed ei arddwrn wedi ei dori ymaith. Mawr y drafferth a gaf- wyd i'w sicrhau, wedi yr hyn yr an- fonwyd ef i wallgofdy Orleans. »
PEDWAR AR HUGAIN 0 BERSONAU…
PEDWAR AR HUGAIN 0 BER- SONAU WEDI BODDI. CYMERODD damwain arswydus le y dydd o'r blaen yn agos i Parma. Fel yr oedd nifer o weithwyr yn dychwelyd oddiwrth eu gwaith, ac yn gorfod croesi yr afon Po, pan ar ganol yr afon, trodd y bad wyneb i waered, a boddwyd 24 o bersonau. Ni achub- wyd ond un plentyn, yr hwn a daflwyd i dir gan y don. 0 herwydd tywyllni y nos a'r gwynt cryf, methwyd gweini dim cynorthwy ar yr achlysur. ♦
Y DIENYDDIAD YN BRYSTE.
Y DIENYDDIAD YN BRYSTE. BOREU dydd Llun diweddaf, cafodd William Hole ei ddienyddio yn nghar- char Bryste am lofruddio ei wraig, Alice Hole, yn Awst diweddaf. Cyr- haeddodd y dienyddwr Marwood, yr hwn a ddienyddodd Gibbs, dydd Gwe- ner. Ymwelodd brawd y llofrudd ag ef dydd Sul, ond ni wnaeth unrhyw gyfaddefiad. Treuliodd nos Sul mewn darllen a gweddio nes myned i'w wely. Cysgodd ar adegau hyd bump neu chwech o'r gloch. Ymwelwyd ag ef oddeutu chwech gan ddau weinidog. Bwytaodd foreufwyd gweddol, ac ar ei ol yfodd ddau lasiad o frandy a dwfr. Yn agos i glwyd yr ardd, lie yr oedd y crogbren wedi ei godi, dechreuodd y gweinidog gerdded o flaen y condem- niedig, gan ddarllen y gwasanaeth claddu. Cerddai yn ddiysgog, ond yr oedd golwg chwithyg ar ei wyneb. Yn gymaint a bod y cap yn dyn, ac heb ddyfod dros eu enau, gwelid ei wef- usau yn ysgogi fel pe yn gweddio. Wedi i'r follt gael ei thynu, syrthiodd trwy yr esgynlawr, a bu farw ar un- waith.
MASNACH YD LLUNDAIN.
MASNACH YD LLUNDAIN. MARWAIDD iawn oedd y fasnach yd yn Llnndain. ddydd Llun diweddaf, a hyny oherwydd hyfrydwch y tywydd a go- beithion rhagorol y cynbauaf. Y mae yr adroddiadau ag sydd yn cael eu derbyn o wabanol wledydd y cyfandir yn ein hysbysu fod golwg mwy gq- beithiol ar y cnydau gwenith eleni nag a welwyd er's deng mlynedd ar hugain.
Y SENEDD.
Y SENEDD. YN Nhy y Cyffredin, nos Fercher yr wythnos ddiweddaf, cynygiodd Mr. Osborne Morgan yr aelod anrhydeddus dros sir Ddinbych, ei Ysgrif ar Gladdfa- oedd, ac eiliwyd yr Ysgrif gan Mr. Wykaham Martin. Cynygiwyd gwrth- wynebiad i'r Ysgrif gan Col. Egerton Leigh. Siaradwyd dros yr Ysgrif gan Mr. Gladstone, yr hwn a ddywedai y pleidleisiai efe dros yr ail ddarlleniad gyda llawenydd. Cynrychiolwyd y Llywodraeth gan y Solicitor-General, yr hwn a gefnogwyd gan oddeutu dwsin o aelodau y Toriaid. Cymerwyd rhan yn y ddadl hefyd gan Mr. Forsyth, Mr. H. Richard, Mr. Scourfield, Mr. Dayies, Llandinam, Mr. Newdegate, Mr. Forster, Mr. Cross, a Mr. Bright. Wedi i'r boneddwr diweddaf orphen ei anerchiad, cymerodd rhaniad y Ty le, pryd y cafwyd nad oedd y mwyafrif yn erbyn yr Ysgrif ond 14 mewn Ty o 482. l Dydd Gwener, darfu i Dr. Kenealy, mewn Ty llawn, gynyg am ddeiseb at ei Mawrhydi, yn gofyn am Ddirprwy- aeth Frenhinol er ymholi i achos Tich- borne. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Whalley. Cymerodd dadleu brwd le, pryd y gwrthwynebwyd y cynygiad, ar ran y llywodraeth, gan y Cyfreithiwr Cyffredinol. Er i awgrymiad neu ddau gael ei wneud mai ofer oedd rhanu y Ty ar yr achlysur, eto gwthiodd y Dr. am y rhaniad, pryd y cafwyd nad oedd ond UN yn unig, heblaw y cynygydd a'r eilydd, wedi pleidleisio dros gynyg- iad y Dr. Yr ydym yn ofni fod y Dr. yn lladd ei ddylanwad at ddefnyddiol- deb gyda phynciau ereill wrth gadw achos yr hawlydd yn rhy hir o flaen y Ty a'r cyhoedd. Gobeithio y cawn lonydd bellach, ac yr a yntau yn mlaen a rhyw fndiad cenedlaethol, rhag- drefn o'r rhai y mae wedi ei thynu er's tro.
CYNADLEDD LEEDS.
CYNADLEDD LEEDS. DERBYNIASOM hanes Cynadledd Leeds oddiwrth ohebydd Cymreig, ond gan ein bod yn myned i'r wasg ar yr adeg y daeth i law, nid oes genym ond gadael yr oil hyd yr wythnos nesaf.
PEIRIANWYR ABERDAR,
PEIRIANWYR ABERDAR, Y MAE y newydd wedi ein cyrhaedd nad yw peirianwyr pyllau glo Aberdar i weithio ond haner eu hamser tra y parhao y strikey ac i fyw ar haner eu tal arferol.
GORLIFIAD GLOFA.
GORLIFIAD GLOFA. PRYDNA-wy dydd Llun diweddaf, gorlif- wyd glofa, Barrowshaw, yn Oldham, ao ofnir fod rhai bywydau wedi eu colli.
LLANILLTYD FAERDREF.
LLANILLTYD FAERDREF. GwN na phoenaf chwi eto wrth anfon gweithrediadau ein hardal i'ch TAR IAN ddewr, trwy hyn y caiff y rhai hyny sydd yn bresenol o dan ddwylaw gormes a thlodi gynorthwy ychwanegol i wrth- sefyll y gelyn newyn. Y mae gweithfeydd y Tynant, y Rica, a'r Ida yn dyfod allan mewn nerfch a. ffyddlondeb dros eu cyd-ddynion. Ond gofynaf, pa le y mae Glofeydd y Wall's End, a'r G-elyn og ? Clywsom i'r Gelynog gasglu yn gryf am unwaith, ond paham na chawn wybod, trwy gyfrwng y wasg, eu gweithrediadau ? A ydyw gwyr Llan- trisant i gadw eu cymeriad arferol o hyd ? Fechgyn, deuwch allan, casglwch bob pythefnos, a gadewch i'r byd weled eich gweithredoedd. Y Wall's End a'r Llantwit Maine hefyd, paham na chawn olwg ar eich symuniad- au ? Bydded i ardal Llanilltyd, a phob llan arall am hyny, fod mewn Undeb i wrthsefyll y gelynion atgasawl, yna bydd ein meistri calon galed yn debyg o sefyll i edrych ar ein nerth. A ganlyn yw y casgliadau presenol:— RICA COLLIERY. Mawrth 25, casglwyd ac anfonwyd y swm o jEll Is. 6c. i W. Davies, Rhondda. Dylasai yr uchod fod wedi ei gydnabod yn gynt.
TYNANT A'R IDA COLLIERIES.
TYNANT A'R IDA COLLIERIES. Ebrill 25, casglwyd yn y Tynant a'r Ida y swm o dE34 lis. 10c.; R. Jenkins, W'icr Ysw., Ystradbarwig, 10s.; Wm. Lewis, Ysw., Dyffryn Bach, 5s.; Charles James, Ysw., Llwynyfwyalch, 2s. 6c.; Mr. T. Williams, House Coal Colliery, 5s.; Llyfnwy, Railway Inn, 2s. 6c.; Mr. Evan Morgan, grocer, 2s.; Mr. Titus Lewis, New Inn, 2s. 6c; Mr. James Thorn, 4s. 6c.; Mr. Thomae John, Crosscade, 2s.; Mr. William Thomas, Is. 6c.; Mr. Joseph Lewis, coal merchant, Caer'"1,^1 2s. 6c.; Cyfanswm, £ 36 lis. 10c. aedcoileuic TALWYD ATJO o anifeiliaid Treuliau William EdT Uywodraethwr Evan Lewis, 3s. 8c.; t. wrth y swyddfa (3s. yiiwng y nyddwyr,