Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
GAIR YN MHELLACH AT "UN 0…
GAIR YN MHELLACH AT "UN 0 NI." Poneddigion,—T mae Un o Ni," yn eich rhifyn am y 23ain o Ebrill, yn ceisio clytio ychydig ar ei gamddywediadau blaenorol. Y mae ymosodiadau personol bob amser yn mhell o fwriad Crotyn Crito, ac ni fuasai yn ymyraeth yn y fusnes hon o gwbl oni b'ai ei fod yn teimlo dros y gwirionedd, ac yn neillduol felly dros y gymydogaeth i ba un y per- thyna, yr hon y mae wedi wasanaetbu yn y swydd o ohebydd lleol am 16 mly- nedd diweddaf, fel y mae yn gyffredinol hysbys yn y cymydogaethau hyn. Heb- law hynyma, creda hefyd nad oes hawl gan neb pa bynag i feio arno fel cymydog na chenedlgarwr, ac mai yr olaf peth fyddai ganddo bob amser ydyw camliwio neu sarhau ei gymydogion yn y cyfryw gymydogaeth. Ond fel y gellid meddwl oddiwrth" Un o Ni,' ymddengys 11 y mai i'r gwrthwyneb y saif pethau-mai y cabldraeth nwch yr enw uchod er ys ychydig amser yn ol sydd i'w gymerad- wyo fwyaf. Gadewch i ni, gan hyny, weled sut y mae pethau yn sefyll-pa un ai y gwirionedd neu y gwrthwyneb sydd i gael y flaenoriaeth y tro hwn. Nid yw Crotyn Crito yn amheu nad oes rhai yn dychwelyd yma ac acw i'r Bydd undebol. Ond, a yw ychydig mewn lleoedd neillduedig, megys Gwauncae- gurwen, &c., i fodynsafonhollddosbarth Llwchwr ?, Nid felly, fel mae gwaethaf y modd, ac fel y prawf ardaloedd ereill. Os yw yn anghredu, aed- i'r gymydog- aeth nesaf, sef Cwmaman, a gofyned sut y mae pethau yn sefyll yno. Dywedodd Crotyn Crito yn ei ysgrif mewn dadl ei fod yn barod i brofi yr uchod, neu y pa- ham o'r gwrthgiliad cyffredinol hwn. Y mae eto yn dal at ei osodiad gwreiddiol, hyny yw, gwastraff, &c. Ond, feallai, y byddai yn well am y presenol, tra y parha yr angbydwelediad rhwng meistr a gweithiwr, i ohirio yr ymdrafodaeth, rhag y bydd hyny yn faes tramgwydd i ryw frodyr gweinion i atal eu cyfraniad- au i anffodusion y strike a'r lock-out. Ond can wired a bod haul, daw yr amser, a gorphwysaf, am y rheswm a nodwyd, hyd y cyfryw amser. Ceisiodd Un o Ni gyfiawnhau ei hun yn ei waith yn ceisio sarhau Wm. Jones, &c. Tlodion iawn oeddynt ei es- gusodion. A chaniatau mai ystyr Try- phosa yw melusber, pwy a roddodd hawl i'ch gohebydd i osod enw ar blentyn arall ? Ond y mae y byd yn myned yn mlaen, meddynt, ac y mae lie i ofni ei fod yn myned yn mlaen mewn digywil- ydd-dra hefyd. Am y coffinau, &c., y mae yn 11 awn bryd gwneud rhywbeth gyda y mater hwn. Gwasanaethodd Mr. I. Thomas dref Aberdar a'r cylchoedd yn fawr yn y peth hwn; ac yn awr y mae gweithwyr Aberdar wedi dangos mewn difrif pwy ydyw eu gwir gymwynasydd, trwy ddy- chwelyd Mr. Thomas i'r Bwrdd Iechyd at the head of the poll! Tybed na cheir yr unyn y cylchoedd—Gwaencaegurwen, Cwmaman, neu Frynaman, a digon o ddynoliaeth yn ei galon i ostwng pris y coffinau? Obob gorfaeliaeth, yr orfael- iaeth yma o wasgu ar dlodion yn yr am- gylchiad pruddaidd o gladdu perthyn- asan anwyl, ydyw yr un fwyaf warthus. Dyma ffiaith nas gall Un o honyn' Nhw ei gwadu. Er's ychydig amser yn ol, claddodd cyfaill o weithiwr yn y gymyd- ogaeth hon dri phlentyn; a beth a de- bygech chwi a orfaeliwyd arno yn y ffurf o goffinau i'w anwyliaid? Wel, nid oedd y swm yn ddim llai na phum punt, er nad oedd yr henaf o'r plant yn fwy nag 11 mlwydd! Gall Un o Ni" ddweyd a fyn am ragoriaeth coffinau Gwaencaegurwen; ond gwyddis fod hyn yn hen arferiad gan lawer wrth g'sisio pwffio i fyny nwyddau uchel-bris. YJ'wyf unwaith eto yn apelio at Mr. Isaucc Thomas, a hyny dros y gymydog- aeth i ddyfod i'r maes gyda y mater hwn, a sier yw y caifE ddiolchgarwch gwresocaf yr ardal. Dywedaf hyn, os nad all eich gohebydd gadw at foneddigeiddrwydd ac at y gwirionedd o hyn allan, cynghorwn ef i ryned o gwmpas gydag arddangosiad y Punch Judy, a gellid dweyd am dano fel y dywedodd ysgrifenydd Cyfrinfa Curwen ar amgylchiad arall, fod the right man in the right place." CROTYN CRITO.
Y CYMRO GWYLLT YN Y: DDALFA.
Y CYMRO GWYLLT YN Y DDALFA. MR. GOL.Meddyliodd y dyn Gwyllt y buasai yn dychrynu Merthyr- ian a'i yru allan o dudalenau y DARIAN a'i frol wyntiog ond os ydyw ar ei yrfa ryfelgar wedi llwyddo i wneud byny a rhai, camsyniodd y tro hwn a phan welodd Merthyrian yn dal ei dir, ac yn datguddio ei driciau mor llwydd- ianus, dyrysodd yn ei amryfusedd, a daeth y gath o'r cwd," fel y gwelir yn ei lith cynddeiriogawl diweddaf yn addef ei fod yn gwybod am ddanfoniad y papyr i Ferthyr. Er fy mod wedi gorfod dyoddef toraeth o enllib y Cymro yr un fath a phob un sydd wedi bod mewn ymgom ag ef, mae yr oil wedi cyrhaedd y dyben, sef dangos i'r byd rai o'r triciau sydd yn cael eu gwneud tua Liverpool. Os bydd eisieu, yr wyf yn barod i ddatguddio ychwaneg. Yr eiddoch yn fuddugoliaethus, MERTHYRIAN. lYr englyn yn rhy lym.—Gol.]
ILLYTHYR 0 NEW ZEALAND.
LLYTHYR 0 NEW ZEALAND. ANFONWYD y dyfyniadau canlynol o lythyr o New Zealand i ni gan gyfeillion o ymyl Caerdydd, gan ddymuno ar- nom eu cyhoeddi yn y DARIAN er calon- did i'r rhai a ymfudant yn bresenol i'r parthau pellenig hyny. Derbyniwyd y llythyr oddiwrth un Frederick Jeffreys, gan ei frawd John, Gwaelodygarth. Y mae yn dda genyf eich hysbysu fod y wlad hon yn cytuno a mi a'm teulu yn well o lawer na'r hen wlad. Y mae genym yma well ymborth— digon o gig yn rhad. Cig eidion a gweddar am 3e. y pwys ymenyn, Is. 4c. y pwys; swgwr, 6|-c. y pwys; ffiwr, 112 pwys am 23s.; pytatws, 112 am 6s. Y gyflog am ddiwrnod o 8 awr, 10s. 6c. Os dygwydd i ni fod yn brin ogig unrhyw adeg, gallaf ar un- rhyw brydnawn wedi rhoddi heibio gwaith, fyned a'm dryll allan i'r coed- wigoedd, a saethu niter o foch gwyllt- ion neu yeh gwyllt, yn gymaint a bod yma ddigonedd o honynt, a llawn rhyddid i'w saethu. Gallwn brynu yma fochyn tew am 66., yr hwn a gostiai yn Nghymru o leiaf X2. Nid oes genym ond ychydig o auaf yma, ac nid yw yr haf yn rhy boeth. Yr ydwyf wedi adeiladu ty gwych i mi fy hun, ac wedi cloddio pydew yn yr ardd, ac wedi taraw ar ddigon o ddwfr da yn y dyfn- der o bedair troedfedd ar ddeg. Ni chostiodd y ty a'r ardd—erw o dir- ond £42, ac y maent yn eiddo bythol i i mi. Buasai yn dda genyf pe buaswn wedi dyfod allan yma er ys blynyddau yn ol, canys hwn ydyw y wlad oreu i'r dosbarth gweithiol. Ni raid i chwi weithio hyd farw, a chael eich newynu yn y diwedd yn y wlad hon. Cy- nghorem chwi oil i ddyfod allan yma neu i Queensland, a hyny mor gynted ag y galloch, ac na wrandewch ar yr hyn a ddywed y bobl nad ydych yn rbydd wedi dyfod, Y mae genym fwy o ryddid nag yn Mhrydain, a gallaf ym- adael i'r man y mynwyf pan y mynwyf. Eich hoftus frawd, Feed. Jekfbeys.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG. ER fod cymylau gofid a galar yn crogi uwchben llawer ardal yn Nghymru yu bresenol—y gweithfeydd yn segur, y peirianau yn rhydu, y pyllau glo yn boddi, masnach yn diflanu, y gweith- wyr yn gwasgaru, a niferoedd lawer yn dyoddef dygn galedi a gwasgfa anaele, eto y mae y byd yn ddiamheuol yn myned rhag ei flaen, ac nid oes dim braidd yn aros yn ei unfan. Y mae dydd i ddydd megys yn gwthio miloedd o ddynion yn ddyfnach-dxfnach i ffos- ydd a chorsbyllau caethiwed; ac wrth ymwingo i ddyfod yn rhydd, yn fwy rhwym y maent yn myned. Y mae rhyw ysbryd ystyfnig, mal- eisus, a chenfigenllyd wedi meddianu llawer o'r bobl y dyddiau hyn ac fel y mae mwyaf y trueni, canfyddir yn eglur eu bod o dan, ddylanwad egwyddorion dialeddgar, yn carlamu gyda chyflym- dra anhygoel i ddyryswch gwarad- wyddus. Gellid meddwl oddiwrth lef- erydd ac ymddygiadau llaweroedd nad ydyw o wahaniaeth yn y byd ganddynt i ba It- yr dnt yn y diwedd, ddim ond iddynt hwy gael myned yn y dull a'r modd y gwelont hwy fod yn dda. Dywed eu hymarweddiad ei bod Yn well ganddynt fyned i uffern yn feistri na myned i'r nefoedd yn weision. 0 I chwi ynfydion anghymodlawn byth, ystyriwch fod colli'r maes drwy ym- grymu i godi'r byd yn fyw yn enill mawr. Buddugoliaeth wael yw enill dim drwy golli'r cyfan. Y mae lie i ofni fod minteioedd anystywallt o frad- ychwyr gwrthnysig wedi cydfwriadu i ddinystrio llwyddiant masnschol y peth- au angenrheidiol a gwertbfawr a ber- thynant yn neillduol i Wyllt Walia, a thuag at gario allan eu bwriadau an- nynol, y maent wedi mabwysiadu y cynllun dichellgar o gynhyrfu y bobl, a'u gyru yn ngwres eu nwydau anifeil- aidd dros glogwyn anystyriaeth yn bendramwnwgi i lynclyn ac anoddyn colledigaeth erchyll ac arswydol. Byw- ioliaeth gysurus ac anrhydeddus ddylai fod pwnc penaf a chyntaf pob dyn gyda golwg ai y fodolaeth bresenol, a thuag at gyrhaedd hyn y mae yn an- hebgorol angenrheidiol fod yn ddiwyd, yn sobr, yn bwyllog, yn ddoeth, ac yn amyneddgar, modd y dewisir yr hyn fyddo oreu dan yr amgylchiadau; oblegyd o ddau ddrwg, gwell bob amser dewis y llelaf. Diddadl yw fod llaweroedd cyn yma, hyd yn nod o'r cyrff prydferthaf, a'r eneidiau godidocaf, wedi syrthio i by- dewau trallod, yn watwargerdd i'r ynfydion, ac yn resyndod i ddynoliaeth o achos byrbwylldra ac ystyfnigrwydd. Ac er cywilydd i fodolion dibroffes, ac er gwaradwydd i broffeswyr diegwyddor cyhoeddir yn eofn o Dan i Beerseba mai y drygau sobrddychryn yma ydynt y gwreiddiau oddiar ba rai y tyf yr holl drybini sydd wedi goddiweddu ein gwlad yn bresenol. Gall dynion fod can ffalsted a'r cadno- aid am ysglyfaeth, ac mor ryfelgar a'r bleiddiaid am fwyd, eto, os mai holl orchwyl eu gwroldeb yw mynu gweith- redu oddiar fympwyon llygredig, y maent yn sicr yn fodau i'w gochelyd, ac yn greaduriaid i edrych arnynt gyda gofid a dychryn. Gwyr llaweroedd yn dda ddigon wahaniaeth rhwng y da a'r drwg, eto Cas ganddynt eu rheoli gan y gwir. Gresyn meddwl fod yn ein mysg ganoedd o ddynion na wyddant beth yw rhoddi barn bwyllog ac ystyriol ar unrhyw bwnc pa bynag, yn fwy nag y gwyddant beth yw ehedeg. Rheolir barn y naill gan deimlad, y Hall gan nwyd, a'r trydydd gan fympwy; ac os cywir ac uniawn a fyddant, o ddamwain a dygwydd y bydd y ffawd. Proffesant eu hnnain yn amddiffynwyr cyfiawnder, ond y mae eu hymddygiadau yn llefam yn wahanol. Ac yn gymaint a bod gweithredoedd dyn yn llefaru yn uwcb na thafodau angylion, a bod barn y cyhoedd vn gryf, a dylanwad cym- deithas yn rymus, gosodir math o angenrhaid arnynt i chwilio am esgus- odion er cyfiawnhau eu hanfad ynfyd- rwydd ac os na fedrant eu cael allan, ffurfiant hwynt yn ddigydwybod, ond nid cyn cael eu drwgdybio o fod yn elynion i bob rhinwedd a daioni, ac yn gyfryw a fytheiriant sarhad ar dded- wyddwch dyn a gogoniant Duw. Gwybydder mai ychydig achos sydd gan ddyn ymffrostio ei fod yn dal yr hyn sydd gyfiawn os bydd ei weithred- oedd yn ddrwg, oblegyd y mae proffesu fel hyn a gweithredu fel arall yn llawn mor anmhrydferth a phen dyn ar ys- gwyddau anifail. Y mae ymhoni cywir- deb yn hollol ofer, tra pery y fuchedd yn anghymeradwy; o ganlyniad, rhaid i'r hwn a feddylio fod yn anrhydeddus a chyfiawn wneud yrndrech deg i gynal grym anrhydedd a chyfxawnder yn ei ymarweddiad. Ymae yn anmhosibl, ac yn annynol, pe byddai yn bosibl, enill cymeradwyaeth ac ymddiried tra erys yr egwyddor yn amheus. Y mae addunedau llaweroedd o swyddogion ein gwlad fel pastau afalau, wedi eu gwneud i'w tori, a mynych eu clvwir yn ym- ffrostio y gwnaent ryfeddodau pe cawsent y peth hwn neu'r peth arall; ond yn anffodus, dibyna nerthoedd eu hathrylith ar oni b'ai, ac y mae yr oni b'ai yna yn fath o wrthglawdd nad ydynt erioed Wedi medruneidio drosto, ac yn nghanol rhyw ofid fel yna y mae y gwall yn sefyll. Gan hyny, boed i wirionedd a chyf- iawnder danio, meddyliau a thrydanu cyneddfau rhagorolion y ddaear i fy- fyrio a barnu drostynt eu hunain— Profa bob peth a dal yr hyn sydd dda," yn nghyda gofalu peidio rhoddi der- byniad i wir a chelwydd, twyll ac union- deb blith-draphlith, er boddloni mym- pwy y cyfryw fodau anystyriol a eis- teddant yn esmwyth i edrych ar eu cyd-ddynion yn cael eu traftyncu i drallod, gorthrymder, newyn, a gwasgfa, heb wneud yr ymgais lleiaf tuag at eu gwaredu o'u sefyllfa alaethus a chalon- rwygol. Eos WYN.
GOLYGYDD Y GWLADGARWR A CHYFARFOD…
GOLYGYDD Y GWLADGARWR A CHYFARFOD LLANWYNO. (At Olygydd y DARIAN.) Syb,—Galwyd fy sylw dydd Gwener diweddaf at' Yr Arsyllfa,' yn y Gwlad- garwr (ysgrif, fel y deallwn, sydd yn cael ei ysgrifenu gan y Gol.), ac yn neillduol ei nodiad o berthynas i gyfarfod Llan- wyno, a'n cymeriad ninau yn y cyfarfod hwnw. Ond wrth edrych ami, sef y rhan a berthyn i sefyllfa bresenol rhwng meistri a gweithwyr Deheudir Cymru, gwelir fod Mr. Gol. yn hon eto, yn ol ei arfer, a'i ddyrnod ar ben y gweithwyr. Gweler ei 'ArsyllfaWladgarcl' o Chwef- ror hyd yn awr, a chanfyddir ei fod wedi cymeryd mynych fantais i roddi ei for- thwyl bach ar benau y meistri, er dod a'r sledge fawr ar benau y gweithwyr. Y mae'r athraw dysgedig hwn wedi dod yn ddigon goleuedig i ganfod yn ddigor eglur fod pob ymryson neu wahaniaeth fel hwn sydd yn awr yn anrheithio De- heudir Cymru, yn tarddu oddiar blen- tyneiddiwch cwerylgar — yn cael ei chwythu yn fflam gan is-ringylliaid y lJanclerrwnium." Heb son am y plentyn- eidd-dra, a chwythu plentyn yn fflam, yr ydym i gredu bellach fod y ffaith fod gweithwyr Deheudir Cymru eisoes wedi derbyn 4s. yfl o ostyngiad, a'u bod yn awr yn gwrthod gadael i'w d61 fyned yn 14s. heb gael rheswm paham, neu brawf fod sefyllfa masnacb yn galw am hyny, i gyd yn blentyneiddiwch. Beth pe bae darllenwyr y Qwladga/rwr yn gomedd talu ond 14s. am bob gwerth punt o'r papyr, a Mr. Gol. yn gwrthod eu supplyo ag ef oblegyd hyny ni fyddai hyny ond plentyneiddiwch cwerylgar, debygid. Neu, beth pe bae y perchenog yn gos- twng cyflog y Gol. o 2s. y bunt, ac yntau yn gwrthod ei wasanaethu heb gael rhe- swm dros hyny, neu brawf o'r angen- rheidrwydd o hyny; ni fyddai hyny ond plentyneiddiwch cwerylgar! Well done, Mr. Gol., am y darganfyddiad. Is-ringylliaid y pandemoniund Mae yn anhawdd, ar y cyfan, a phenderfynu beth a olygir yw y pandemonium; pa un ai Deheudir Cymru, neu ynte Undeb y gweithwyr. Os ydym i feddwl ei fod yn condemnio y ddau ddosparth, yr ydym yn rhwym o gredu mai Deheudir Cymru a olyga wrth y lie annedwydd, a bod rhyw rai o bob ochr yn ringylliaid Prif neuadd y diafliaid." Ond os ydym i gymeryd y rhan olaf o'i lythyr yn esbon- iad ar ei feddwl, a'r hyn sydd fwyaf cydweddol a'i hanes ef, yr ydym i gredu mai yr Undeb ydyw prif neuadd y diafl- iaid," ac mai W. Abraham a'i Gyf. yw is-ringylliaid y lie. Os felly, onid ychydig wythnosau yn ol yr oedd y gwr mawr hwn yn ceisio cynghori y gweith- wyr i dderbyn y gostyngiad, yn hytrach nag ymladd yn y gauaf, a chadarnhau eu Hundeb yn gryfach nag y bu erioed, fel ac i'w hymladd allan mewn adeg mwy ffafriol ? Oblegyd na dderbyniodd neb ei gynghor, y mae wedi ffeindio allan fod y naill neu'r llall yn brif neuadd y diafliaid." Well done, Mr. Cyson. Son am Goronwy y Mail a'i Judasiaeth fradwrus: dyma i chwi fon- eddwr ag sydd yn proffesu ei fod yn "Athraw y bobloedd," yn "gyfaill y gweithiwr," yn cydymdeimlo a'r tlawd, ac aino gywilydd dweyd mewn iaith blaen beth a feddylia am danynt. Com- pliment da iawn i feibion ei wlad, onidef Onid yr wythnos ddiweddaf yr oedd yn cyhoeddi mai y Western Mail o bawb oedd yn chwythu fflam y strike yn fwyaf egniol. Nid ydym yn malio fawr oblegyd ei farn ef o barth i'r hyn a wnawd yn nghyfarfod Llanwyno; ond dylasai y gwr fod yn bwyllog cyn cyhoeddi fod y cyf- arfod wedi ei dori i fyny heb wneud dim, ac yntau, yn yr un papyr, yr wythnos flaenorol, wedi cyhoeddi yr hyn a wnaed. Ond dyna, digon tebyg mai gwneud dim fyddai pob gwneud, ond rhoi i mewn i delerau y meistri, yn ol ei farn ef. Pa fodd y mae yn cysoni hanes Cyfarfod Mawr Llanwyno (tudalen 5ed o'r Gwlad- garwr o'r blaen), a'r hyn a ddywed yn ei 'Arsyllfa' gyfeiliornus yn y rhifyn hwn. A ydyw y gwr yn meddwl nad oes neb yn gallu gweled anghysondeb ond efe ? 0 barth i'r hyn a ddywed, fod Mr. Abra- ham yn nodi y cyfarfod i fod yn Moun- tain Ash dydd Mawrth, &c., yr ydym yn ei dafluyn ol gyda dirmyg teilwng o'r gwr anghyson a'i siaradodd. Dichon y gall ein mynych ddefnyddiad o'r ansoddair hwn (chwedl yntau) beri i ryw rai dybied ein bod yn dod yn rhy drwm ar ben y gwr; ond a'r cyfryw yr ydym yn hollol anghydolygu, gan ein bod yn gwybod digon am dano mewn ymdrafodaeth arall i'n cyfiawnhau i ddweyd geiriau trymach wrtho, ac sydd hefyd, yn ein barn ni, yn ei anghymhwyso i ddweyd wrth neb beth sydd ddoeth iddo wneud. Cymaint a hyn yna yn bresenol, os na fydd y gwr yndewis clywed oddiwrthym eto. W. Abiiaham, Gower Road.
Advertising
GOHIRIAD EISTED DFOn IFORAIDD ABERDAR. MEWN pwyllgor cyffredinol a gynaliwyd yn Calvaria Hall, y 31ain cynfisol, pen- derfynwyd GOHIRIO dydd cynaliad yr Eisteddfod. Bydd i'r Pwyllgor benodiyr adeg, yn nghyda thestynau ychwanegol, &c., mor fuan ag y terfynir yr anghyd- welediad presenol. Hyderir na thram- gwyddir neb o herwydd yr angenrheid- rwydd hwn. Ar ran y Pwyllgor, D. R. LEWIS, Ysg., 19] 33, Wind-street, Aberdare. UAN rnai yn Aberdar y cynelir Cynadledd Flynyddol yr Uadeb Iforaidd am y flwydd- yn nesaf, bydd i EISTEDDFOD FA WREDD- OG gael ei chynal gan Iforiaid y Dosparlh y dydd blaenorol i'r Gynadledd, sef y LLUN cyntaf yn GORPHENAF. Prif Destynau. 1'r Cor, heb fod dan 150 o rif, a gano yn oreu "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan J. Thomas, Blaenanereh. Gwobr £70, yn nghyda baton ardderchog i'r arweinydd. Am y Traethawd goreu ar Safley Gweith- i wr yn y Cyfansoddiad Prydeinig." Gwobr £1010s. Am y Chwareugerdd oreu ar Amgylch- iadau ymweliad Owen Glyndwra Syr Lawrance Berkrolles," gwel y Gwyddoniadur Cymreig. Gwobr jElO 10s. BEIRNIAID: Y Canu.—J. PARRY, Ysw., Aber- ystwyth J. THOMAS, Ysw., Blaen- anerch. Y Traethodau a'r Farddoniaeth, CYNDDELW. CYNELIR GYNGHEBBD ARDDERCHOG YN YR HWYR. Am fanylion pellach, gwel y programme, yr hwn a ellir ei gael am geiniog (trwy y post, lie.,) gan yr Ysgrifenydd. TREORCI. 41 Tra Mor tra Brythron." "Mor o Gan yw Cymru Gyd." BYDDED hysbys i holl Gymru benbaladr y 1:)P cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAID yn Nheorci, ar y Dydd Llun cyntaf yn Awst, 1875, er cadw mewn cof Fuddugoliaeth y Cor Cymreig, yn Llundain, yn 1873. CERDDORIAEEH. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu yr ail chorus o'r Creation, "Achieved is the glorious work;" i'w chanu ar y geiriau Cymraeg, Ar ben mae'r gogoneddus waith." Gwobr, £25. 2. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Llawenychwn, gorfoleddwn," o Gantata Gwilym Gwent. Gwobr, £1212s. 3. 1'r 21 mewn rhif a ganont yn oreu Can Jaradog," gan Alaw Ddu. I'w chael gan Isaac Jones, printer, Treherbert. Gwobr, jE5 5s. Ymddengvs rhai o'r prif ddarnau mewn rhif- ynau dyfodol, yn nghyd ac enwau y beirniaid. Bydd y Programme yn fuan yn barod, yn cynwys yr holl destynau. TESTYNAU YCHWANEGOL.' Am yr Awdl oreu ar "Wanwyn Einioes," heb fod dan 300 llinell, na thros 400. Gwobr, £5, a chadair gwerth £ 3 3s. Am y Gan oreu i'r "Crwydryn," heb fod dan 60 llineli, na thros 80. Gwobr, £ 1 10s. Am y Gan a Chydgan oreu, gwel y Programme. Gwobr, jEl Is. Beirniaid y canu, EOS MORLAIS a LLEW TAWE. Beirniad y Farddoniaeth, y Traathawd, a'r Adroddiadau, ac arweinydd yr Eisteddfod fydd Mynyddog. Bydd y Programmes yn cynwys yr holl fanyl- ion, yn barod erbyn y cyntaf o Ebrill; i'w gael drwy y Post ar dderbyniad dau stamp geiniog. Dros y Pwyllgor, J. DEFYN Jones, Llywydd. R. Mansell Thomas, iTrysor- G. E., Jones (Garadog) J yddion. W. Williams, Canton House,) y D. Skym, (Dewi Arual), O HARMONIUMS! HARMON IUMS! HARMONIUMS! Dymuna Hywel Cyuon hysbysn y gellir. cael ganddo HARMONIUMS o'r gwneutburiad goreu am y prisoedd mwyaf rbesymol- HARMONIUMS o JE5 5s. ac i fyny. RHYBUDD O'R SYMUDIAD.1 I DYMUNA RICHARD JONES, DILLEDYDD, 36, CARDIFF STREET, ABERDARE, Hysbysu ei gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod yn awr wedi symud o'r cyfeiriad uchod i 50, CARDIFF STREET, A thra yn diotch am y gefnogeeth haelfrydig y mae wedi ei dderbyn am y blynyddoedd a aethant heibio, taer obeithio am barhado'r unrhyw am y dyfodol. G-wertbir ganddo ddillad parod i wry wo d a bechgyn mor rbated a chan tmrlry w un yn Aberdar. Arcbebion am ddillad o bob math a gant y sylw buanaf, Cedwir stock dda o frethynau a defnyddiau ereill ar law bob amser. ■
AMRYWION O'R AMERICA.
Massachusetts, yn parhau, ac yn ol yr arwyddion prsenol nid oes gobaith am gymodiad buan. Hysbysodd y nyddwyr yn ddiweddar eu bod yn bwriadu anfon nifer mawr o'u cydweithwyr drosedd i Loegr yn hytrach na chydsynio a chynygiad y meistri, tra y mae y perchenogion yn bygwth defnyddio peirianau newyddion a myned yn mlaen heb y rhai ydynt yu sefyll allan. Dy- wedir fod miloedd yn dyoddef ealedi i mawr o herwydd cyndynrwydd ac an- noethineb ychydig o flaenoriaid y rhai a benderfynasant sefyll allan. Bu farw y eanwr ienaue tra adnabyddus R. C. Williams, mab y Parch. Robert Williams, pregethwr gyda'r Trefnydd- ion Calfinaidd, diweddar o Gaernarfon, ond yn awr o Bangor. Cymerodd yr amgylchiad hwn le yn ddiweddar yn ISTghlafdy Blackwell's Island, ger New York, lie yr oedd wedi bod yn gorwedd er y 18fe(1 o Fawxth. Yr achlysur a ddygodd Williams i gyhoeddusrwydd yn Xghymru ydoedd ei waith yn enill ysgoloriaeth gwerth haner can' punt mewn Eisteddfod Genedlaethol, yr hyn a'i galluogodd i fyned i'r Royal Aca- demy of Music, Llundain.