Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Ynawr yn barod, CYFANSODDIADAUEISTEDDFOD CROSS INN, TRECYNON, I'w gael gan Mr. John Richards, Cross Inn, Trecynon. his y llyfryn, Sc.; trwy y Post, 3!c. HANES MORGANWG. GAN DAFYDD MORGANWG. CYNWYSA y gyfrol 532 o dudalenau, map o'r C sir, darlun o'r awdwr, darluniau o Abordar, Abertawy, Caerffili, Llanfieiddian Fawr, y Bont- faen, Pontypridd, a Llanddunwyd. Pris mewn Ilian addurnedig acymylon goreuredig, J Os. Pob archebion i'w hanfon i'r awdwr, DAFYDD MORGAN WG, Hirwain. BETHEL, TRECYNON. CYNELIR CYFARFOD CYSTAD- leuol yn y capel uchod, prydnawn dydd Llun, Mehefin y 3ydd, 1875, pryd y gwobrwyir y buddugwyr mewn Rhydd- iaeth, Barddoniaeth, Caniadaeth, &c. Programmes, yn cynwys yr holl dest- ynau, &c.,i'wcael amy pris arferol, gan W. Davies, 9, Glan Road; Rhys Etna Jones, a B. Phillips, Gadlys Road, Aber- dar. TALIADAU. W. W., Landore. T. T., Mountain Ash. J. T., Tredegar. E. E., Rymney. T. W., Alltwen. W. G., Clydach. R. W., Treorki. BWRDD Y GOLYGYDD. UN o HOXOGH.—Y mae yn eich ysgrif gyfeiriadau rhy bersonol i'w cy- hoeddi heb eich enw priodol. Nid ydym yn ameu nad oes Iluaws o bethau wedi cael eu gwneud yn Ward No. 2 nad oedd yn anrhydeddus, ond yn sicr nid, yw yr oil yn eich ysgrif chwithan felly. Beth sydd a fynoy gwragedd a helynt yr ethol- iad. GWILYM O'R MYNYDD.—Buasai yn dda genym gyhoeddi eich llythyr, ond yr ydym wedi methu yn lan a'i ddeall oil! Carem i chwi roddi un cynyg eto. SHON O'R BERTH.—OS caniatewch i'ch enw priodol gael ymddangos gyda'r ysgrif, caiff ymddangos. YSGPJFEN YDD CYFARFOD CYSTADLETTOL PENYGRAIG.—Yr ydym wedi methu yn lan a tbaraw wrth eich ysgrif yr wythnos hon. Yr ydym yn ofni fod d-l y wasg wedi ei chymeryd. Taer erfynir ar i chwi ei gyru i ni eto. Nis gallwn gyfrif am yr anffawd. COFIAKT Mrs. Lewis, Llwydcoed, yn ein nesaf. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIJSST i'w cyfeirio :—" Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare." ilob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
"CYFLOG GWEITHIWR.
CYFLOG GWEITHIWR. DYLID edrych ar gyflog gweitbiwr, fel ar bob peth arall, wrth ryw safon neu ddeddf. Fel hyn yn unig y gellir pen- derfynu swm cyflog yn ol cyfiawnder. Nid oes gan y meistr na'r gweithiwr hawl i wneud gallu yn safon. Safon gormes yw gallu. Deddf tyrant yw raynu cymaint o elw ag sydd o fewn cylch ei allu i'w gyrhaedd, heb gymeryd hawliau dynoliaeth mewn gwendid ac anfanteision, i ystyriaeth. Y mae gweikiaid yn gystal ,a chryfion yn ael- odau cymdeithas—yn gymydogion. "Car dy gymydog fel ti dy hun," yw y ddeddf. Nid ymostwng i'r cryfj ac ysbeilio y gwan byd y gelli." Lleidr pen fiordd mewn unigrwydd, yn cy- meryd mantais ar wendid — mewn egwyddor-yw unrhyw ddyn a wna allu yn unig yn rheol ei honiadau i leihau cyflog neu i'w chyfodi. Nid gallu arian, na gallu undeb meistri, ddylai reoli swm y gyflog a roddant i weithiwr; ac nid gallu cronfeydd arian yn mhlith gweithwyr, na'r cyf- leusdra sydd ganddynt i drethu cym- deithas trwy: fyned i ddyled i rai tu allan i'w cylch, neu i feddianu elusenau wrth frwydro a meistri, ddylai fod eu rheol hwy i ofyn am ryw swm neillduol o gyflog. Barbariaeth paganaidd yw hanfon brwydrau gallu direswm, di- ddeddf. "Y trecha treisied," yw unig ddeddf y fath farbariaeth. Nid yw llawenydd buddugoliaeth y fath farbar- iaeth ddim gwell mewn egwyddor na gorfoleddiad ellyllon. Ei ffrwyth yw creu sycbed yn y gwan am ddial y cyflecyntaf a gaffo. Gwywa bob gobaith am sefydlu cariad ar ei orsedd rhwng dyn a dyn, rhwng meistr a gweithiwr. Ac nid oes unrhyw gon- cwest pa mor llwyr bynag y bo, yr hon a gynyrcha doraeth o lid a phenderfyn- iad i ddial, a all fod yn ffrwythlon mewn dedwyddwch. Planhigyn y fall yw yr hen I lex talionis' trwy y byd. Nid yw cyfiawnder i'w fesur wrth allu. Y mae dyngarwch yn hanfodol i gyfiawnder. Nid yw gallu dynion sydd yn meddu arian i wneud caethweision o Negro aid gweinion, diamqdiflyn, yn safon cyfiawnder. Y mae y ddeddf foesol yn rhwymo dynion, y rhai a feddant y gallu mwyaf, i ymddwyn tuag at bawb fel eu cyd-ddynion, gan ba rai y mae yr un hawliau a hwythau i fedd- ianu rhyddid i'w rheswm a'u cydwybod ac i ifrwytliaii eu rheswm a'u Ilafur. RHESWM, wedi ei seilio ar ffeithiau yn nghylch yr hyn a all y meistr roddi, a'r hyn a ddylai y gweithiwr dderbyn, yn ol ei hawliau fel dyn, a ddylai ben- derfynu cyfartaledd swm ei gyflog. Ond yn lie bod rheswm yn cael teyrnasu, y mae gallu diddeddf yn cyfodi opiniwn i'r orsedd. Y mae opiniwn lordyn, neu dorf, yn ddigon i setlo cred a gweithred y dyn- ion, y rhai nad ydynt erioed wedi dewis rheswm yn frenin. Y maent yn slafiaid i agents a gaffers y gwaith mewn cyd- wybod, crefydd, ac ymdrech, os bydd eu helw yn gorwedd o fewn gallu y cyfryw. Ond os byddant yn elwa, fel swyddogion torf o weithwyr, digon iddynt hwy yw opiniwn y lluaws, bydded resymol neu afresymol. Ond nis gall yr opiniwn gryfaf wneud ang- hyfiawnder yn gyfiawnder, na ffug yn sylwedd, na dameg yn flaith. Nid yw teilyngdod opiniwn yn ym. ddibynu ar allu i'w chario allan i weith- rediad. Nid oedd gallu mawr Pharaoh i orthrymu y gweithwyr Hebreaidd yn gwneud ei opiniwn ef, y dylasent fod yn ufydd iddo fel slafiaid, yn opiniwn gyson a chyfiawnder. Profwyd trwy wyrthiau ofnadwy mai ofer oedd ei opiniwn a'i allu ef pan y daeth cyf- iawnder y nefbedd i farnu rhyngddo ef a'r gweithwyr. Nid opiniwn na gallu y rhai a groeshoeliasant Grist oedd yn penderfynu haeddiant moesol y ddadl rhyngddo ef a hwynt. Nid gallu nac opiniwn erlidwyr Paul yr apostol, a chanoedd o filoedd o ferthyron heblaw efe, y rhai a ferthyrwyd trwy undeb annuwiol meistri a gweithwyr gwahanol wledydd, oedd yn setlo moesoldeb eu hymddygiadau creulawn. Y mae holl gydwybod a chyfiawnder y bydysawd yn condemnio' yr erlidwyr gwaedlyd ellyllaidd. Pe bae cryfdwr opiniwn yn cynwys holl dan y greadigaeth, holl nerth corwyntoedd y byd, a holl ben- derfynolrwydd tonau cynddeiriog y mor i ymladd a'r creigiau oesol, ni wnaent drwcb blewyn o wahaniaeth yn nbegwch neu gyfiawnder unrhyw opiniwn neu weithred. Os felly, onid ofer yw heriadau ffrostgar, beiddgar, direswm, y meistriaid, neu y gweith- wyr, a atebant bawb mewn ymadrodd- ion baeriadol fel y canlyn ? "Nis gall- w'ch byth ein hargyhoeddi ni." Dyna ein barn ni a miloedd gyda ni." Ni chredwn byth nad ein hochr ni sydd yn iawn." Beth os na argyhoeddir y rhai a siaradant fel hyn? Ni byddai y byd ar ben oblegid hyny. Ac ni byddai hawl rheswm a chyfiawnder yn cyfnewid dim pe bae pawb yn yr holl fyd yr un Jam a hwynt, neu fod pawb o honynt wedi eu claddu. Yn awr, edrychwn ar ddeddfau han- fodol cyflog, yn annibynol ar opiniwn neu allu y naill ddyn yn ei bertbynas a'r llall. Dywed y Beibl teilwng i'r gweithiwr ei fwyd." Yr hwn na fyno weithio na fwytaed chwaith." Os bydd genym ymborth a dillad ymfoddlon wn ar hyny." Dywed y Political Econo- mist mawr Dr. Adam Smith, "A man must always live by his work, and his wages must at least be sufficient to maintain him." Dywed M'Cullock Political Economy, 2nd edit. p. 388, When provisions rise, wages ought to rise too, to prevent the condition of the labourer being depreciated. Such, however, is not uniformly the case instead of the prices of labour and provisions varying in the same way, it is often found that wages are lowest when the price of corn is highest." Y mae. yn eithaf eglur, gan hyny, fod deddf y nefoedd-tod cyfiawnder —yn gofyn fod pob dynyn cael digon o fwyd a dillad iddo ef a'i deulu, fel ffrwyth ei lafarwaith. Yn ol y ffrwyth hwn y dylai ei gyflog fod, o leiaf. Ac yn ngwyneb ansicrwydd amgylchiadau, tymhorau a marchnadoedd, nid yw ond cyfiawnder, yn ol addysg y Beibl, oddi wrth esiamplau y morgrugyn, iddo ef gael cyfle i gasglu lluniaeth mewn am- ser o gyflawnder gogyfer ag amser o brinder, neu amser o afiechyd neu hen- aint. Byddai i'r meistri anghofio hawl dyn, fel dyn, yn yr ystyriaethau hyn, yn anghof o'u dyledswydd yn ngwyneb y Beibl. Nis gallant suddo yr hawl hon mewn ymdclygiad tuag at ddynion, yn ol deddf cystadleuaeth, trwy fod nifer y dynion yn fwy nag y gallant roddi gwaith a chyflog iddynt i gyd. Nid vw yr ymresymiad hwn yn gymhwysiadol at eithriadau amseroedd o gyfyngder ar bawb yn jr holl wlad, pryd y byddai yn drugaftdl rhoddi ychydig i lawer o weithwyr, yn hy- trach na rhoddi llawer i rai, a gadael i ereill farw o newyn. Rheol gallu gor- mesol afresymol fyddai y rheol o dalu cyflog fechan i weithwyr am fod cyf- iawnder o weithwyr yn y wlad, pan y mae yn eithaf eglur, nad yw y gyflog hono yn ddigon tuag at i'r gweithiwr a'i deulu gael digon o fwyd a dillad, fel ffrwyth ei lafur yn ol deddf y nefoedd. Nid yw dyledswydd y meistri yn y mater hwn yn dybenu yn neddf supply and demand, fel pe baent yn pigo ceryg o dwr o geryg, neu fel pe na byddai y canlyniadau yn perthyn i'w cyfrifoldeb hwy mwy nag y byddai eu gwaith yn gadael ceryg ar ol neu yn eu darnio at eu pwrpas. Yn mhob peth a wnelont rhaid iddynt gofio mai dyn yw y gweithiwr, a bod y Creawdwr yn dysgwyl iddynt roddi cyfle i'r dyn, fel dyn, gael cyfle i fyw ar gyflog am ei waith. Y mae y rheol hon yn ateb i am- gylchiadau cyfnewidiol masnach ac y mae cyfnewidioldeb masnach y fath fel y mae shiboleth Arglwydd ABEBDAR ac ereill yn nghylch deddf supply and demand, o ran nifer gweithwyr yn cystadlu am waith, yn ynfydrwycld per- ffaith. Dichon masnachwyr osod eu penau yn nghyd mewn speculation addawol iawn. Byddai eu cynllun efallai mor swynol nes cynhyrfu tori o anturiaethwyr i'w hefelychn. Ffrwyth uniongyrchiol rhoddiad y cynllun. mas- nach ol addawol mewn gwelthrediad fyddai cyfiawnder o waith i weithwyr. Yn ngwyneb y fath gyfiawnder, byddai prinder cydmarol o weithwyr, yr hyn a achosai gyfodiad yn swm eu cyflogau. Parai hyn gynydd yn y boblogaeth ac anturiaethau. costus mewn adeiladu tai gogyfer a'r boblogaeth gynyddol. Ond golyger fod y speculation, yn mhen rhyw amser, yn troi yn siomedig, a bod nifer gweithwyr yn fwy na'r angen am danynt, ond bod eu heisieu mewn bwyd, dillad, a thai, yn parhau yr un, a'u bod wedi dechreu sefydlu eu hunain mewn cymydogaeth, a gwreidd- io yn ddwfn yn ei chymdeithas, byddai troi yn fyrbwyll ar ddynion yn y sef- yllfa yma, a'u gorfodi i dderbyn llai o gyflog na'r hyn sydd yn ddigonol at eu cynhaliaeth, yn drallod biin, llawn o hadau canlyniadau niweidiol. Byddai y fath gythewidiad yn y supply and dernancl-deddf Arglwydd ABERDAR, shiboleth agosaf at law dynion nad ydynt yn myned i ddyfnder y ddadl— yn sicr o chwerwi ysbryd gweithwyr, a n pheri i'r rhai goreu o honynt i dynu eu hunain^ allan o gylch mor ansicr am fywioliaeth; a'r canlyniad o hyny fydd- ai i feistri gweithfaoedd orfod ymddi- bynu ar wasanaeth dynion is-raddol iawn fel gweithwyr—is-raddol. mewn medr a moesau. Oblegyd hyn, mewn amser, pryd y mae o'r pwys mwyaf i'r meistri, fod yr orders a dder- byniant yn cael en cario allan i weith. rediad yn y modd mwyaf effeith- iol, y maent yn cael siomedigaethau alaethus. Yn lie dynion gweithgar a moesgar, dynion a droant arnynt yii anmharchus yw y rhai sydd yn eu gwasanaetliu yn anmherftaith. Y dyn a ofala oreu am ei geffylau, ei ddefaid, a'i wartheg yw y dyn a gaiff fwyaf o wasanaeth oddiivrtliynt. Y meistr a ymddirieda i fwyafrif supply o ddynion, yn mhlith pa rai y cystadl- eua y riff-raff— heb chwilio am rin weddau na medrusrwydd—a ddyoddefa ganlyniadau yn ol ei esgeuiusdra ac y mae llawer meistr gwaith yn cyhuddo yr holl ddosbarth gweithiol, o feiau y gwehilion drwg, am ddewisiad pa rai, I a'r canlyniadau o hyny, y mae efe ei hun yn gyfrifol. Ni bydd ddedwydd- wch byth yn ffynu rhwng meistri a gweithwyr, hyd nes y byddont wedi dysgu ymddwyn tuag at eu gilydd fel cyd-ddynion mewn gwaith a chyflog. Nid yw yr ymresymiad bwn ddim yn gadael allan yr ystyriaeth y dichon fod amgylchiadau rhagluniaethol a rwystr- ant feistri i ymddwyn tuag at y gweithiwr, yn y modd mwyaf dym- unol o ran swm ei gyflog. Ond hyd y nod y pryd hwnw gallent gael rhyw lwybr i ddeall eu gilydd ped ymddyg- ent tuag at eu gilydd fel dynion, fel rheol, a gallent gyd-ddyoddef o dan farweidd-dra masnach heb gweryla na niweidio eu gilydd. Dyledswydd meistri a masnachwyr tuag at weithwyr, fel dynion, yw gweithredu tuag atynt mewn ffordd a sicrha ymddiried y gweithwyr yn eu medr i ochelyd cread cwympiadau an- nysgwyliadwy mewn cyflogau, nac Ull- rhyw gyfnewidiad pwysig, a iyddo yn effeithio ar eu gallu i gael angeiirheid- iau bywyd feI ffrwyth eu llafur. Ym- ddiriedaeth yw cwlwm cymdeithas. Efe yw y perl gwertb&wrocaf yn y berthynas rhwng meistri a gweithwyr a'r ffordd i sicrhau ei feddiant yw, fod y meistri a gweithwyr, yn ymddwyn fel dynion, yn ol y ddeddf foesolj tuag at eu gilydd.
EISTEDDFOD CROSS INN.
EISTEDDFOD CROSS INN. DYDD Llun diweddaf cynaliwyd yr eisteddfod fawr hon, mewn pabell eang, pryd yr oedd yn bresenol rbyw bedair mil o bersonau. Cymerwyd y gadair gan Mr. Davies, Compton House, Cross Inn. Beirniaid y gerddoriaeth, Mr. D. Einlyn Evans ac Eos Dar y rhydd- iaeth, Teilo; adroddiadau, Mr. G. Jones, Llandeilo yr arweinydd oedd Mynyddog. d,- Agorwyd y gweithrediadau trwy i'r seindorf chwareu darn yn ardderchog. Enillwyd ar y solo bass gan aweinydd fife band Ystalyfera, ond ni chawsom ei enw enillodd ei frawd hefyd y wobr o 2p. am chwareu Ymdaith Gwyr Harlech. Enillwyd y deuawd, Brawd a Chwaer, gan Mr. Jones a Miss Mor- gans, Llandeilo. Cystadleuwyd ar y ganig, Cydgan y Morwr," gan chweeh o gwmniaa, ond enillwyd y wobr (3p.) gan Barti Penclawdd, dan arweiniad Mr. Massey. Enillwyd ar yr unawd i ferched gan un Miss Hughes. Cys- tadleuaeth gorawl, canu Mendelssohn, a ranwyd rhwng cor y Bryn a chor Brynaman. Canwyd y tenor solo, Yr Eneth Ddall, gan bed war ar ddeg, ond J nid oedd yr un yn deilwng o'r wobr. Yna cafwyd beirniadaeth y traethawd,. ar y "Moddion goreu i rwyscfro strikes &c., gwobr 2p., yr hon a ranwyd rhwng Gwilym Curwen, Cwmaman, ac un o dan y ffugenw "Hyderus," ond ni atebodd i'w enw. Enillwyd v wobr o ¡ Bp. i'r seindorf a cliwarenai yn oreu, lu Vital Spark," gan seindorf Llanelli. ¡ Y wobr o 2Op. a harmonium i'r ar- weinydd, am ddadganu y Danchwa," gan gorau heb fod dan gant o nifer, a enillwyd gan gor undebol Brynaman. Y wobr am y ganig, "Comrades in Arms," a .enillwyd gan y British Sol- diers. Cystadleuaeth gorawl, "Datod mae rhwymau caethiwed," gan gor heb fod dan 60, a ranwyd rhwng corau un- debol Cwmaman a Llanelli: y wobr oedd 12p. Yr oedd yr Eisteddfod yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. Oynaliwyd cyngherdd ardderchog yn yr hwyr.
TYSTEB Y PARCH. JOSHUA THOMAS,…
TYSTEB Y PARCH. JOSHUA THOMAS, ABERDAR. Y MAE y dysteb hon bellach wedi dyfod i derfyniad, a'r swm hardd o gant a deugain o bunoedd wedi cael eu cyf- iwyno i'r hen bererin ffyddlon. Y mae Mr. Thomas wedi bod yn y weini- dogaeth am 42 o flvnyddoedd, a thros ugain o honynt mewn cysylitiad a chapel Salem, Aberdar. Cyflwynwyd yr anrheg gan Mr. John Harrison, aelod henaf yr eglwys, ac anercbwyd y cynulliad ar yr achlysar gan y Parchn. Dr. Rees, Abertawe; J. Farr, Aberdar; E. Hughes, Penmain; Profr. M. D. Jones, Bala; D. Jones, B.A., Merthyr;' a'r llywydd, Mr. Thomas Avilliams, U.H., Goitre.
, DAMWAIN ANGEUOL YN ABERAMAN,…
DAMWAIN ANGEUOL YN ABER- AMAN, ABESDAE. ODDETJTTJ chwarter i unarddeg nos Sadwrn Bbrill" 17eg, darfu i ddyn o'r enw Wat- kin Morgan, rywfoddneu gilydd, droi ar ei droed pan yn gadael. ystiafell cyf- rinfa sydd newydd ddech.reii.ei gyrfa yn y Musical Hall, Aberaman, fel y syrth- iodd i lawr dros ddeg o riaiau ar ei gefn i'r gwaelod, nes yr oedd yn hollol ddi- deimlad. Ffrydiai y gwaed allan o'i glusuau. Cafwyd digon o gymhorth yn uniongyrchol er ei symud i le gwell, ae anfonwyd am feddyg i'r lie agosaf, felly daeth Dr. James ;-yno yn faan. Wedi iddo edrych drosto yn fanwl gorchymyn. odd ei gludo adref mor fllan ag oedd yn bosibl, ac felly y gwnaed. Bu fyw hyd boreu dydd Mercher, pan y rhoddodd angau derfyn ar ei yrfa ddaearol, heb glywed un gair o'i enau er pan gwymp- odd. Hunodd yn yr angau yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn dad tyner a gofalus o'i deulu yn mhob ystyr. Beth bynag a fu- asai allan o le yn y ty, yn y gwaith, neu yn y gyinydogaeth, yr oedd ef bob amser a'i ysgwydd dan y pen trymaf o'r baich; yn ddyn fcawel, diwyd, gweithgar, a dieh- lynaidd, ac yn ddyn a berchid yn fawr gan bawb o'i gydnabod. Gadawodd weddw a saith o blant i deimlo y golled ddirfawr ar ei 61. Cladddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn cemetery Aberdar.
ODYDDIAETH.
ODYDDIAETH. Ifos Ian diweddafs yn y White Lion Inn, Aberdar, cynaliwyd cyfarfod neillduol i'r dyben o aelodi F. B. Wilmer, Ysw., Bwilfa. Llywyddwyd gan Mr. John Evans, a llamvyd yr is-gadair gan Mr. Watkin Price. Cafwyd anerchiadau pwr- pasol iawn i'r achlysur gan Mri. D. Lewis, D. Mills, J. Griffiths, J. Richards, L. Evans, J. T. Phillips, Theo. Thomas, J. Price, ac ereill. GwnaechMr.- Wilmer ddiolch yn wresog am y derbyniad croes- awns a gafodd, adywedai y byddai yn bleidiol i'r achos Odyddol, nid yn unig i gyfrinfa Mary Wayne, ond i'r Urdd yn gyifredinol. Y mae clod mawr yn ddy- ledus i'r gwestywr, Mr. Price, am ei ym- drech gyda'r cymdeithasau dyngarol, ac yn neillduol ei fedrusrwydd i anog aelod- au anrhydeddus i ymuno a chymdeithas- au eyfeill-ar.
YMADAWIAD Y PARCH. D. DAVIES…
YMADAWIAD Y PARCH. D. DAVIES (DEWI DYFAN), ABERDAR. TEBYG ein bod i golli y brawd da nchod o'n plith, ac fel y mae yn wybyddus i bawb, colled fawr fydd colli pregethwr mor felus a phoblog, mor syml a natur- iol, Cristion mor wirioneddol fawr, a chyfaill mor ddiwyd a pharod; eto i gyd, gwir yw fod Dewi Dyfan yn myned i gymeryd gofal egIwys fawreddog a pharchus yn Aberbeifi, ac felydysgwylid, y mae cyifro nid bychan yn mhlith y frawdoliaeth i roddi tysteb iddo. Ai tysteb lleol yw hon i fod. ? Nage, medd pob pregethwr, lienor, bardd twymgalon, a Ohristion. LtaxoR o'R LLE.
MUDIAD CYDWEITHIOL ABERDAR.
MUDIAD CYDWEITHIOL ABERDAR. Y MAE adroddiad chwarterol y mudiad hwn wedi ei gyhoeddi, oddiwrth yr hwn y gwelir fod yr anneaikbwriaethpresenol rhwng meistri a gweithwyr wedi effeithio yn ffawr ar dderbyniadau y gymdeithas. Yr oedd derbyniadau y chwarter yn ze2,471, oddiwrth y rhai y cafwyd yr elw o £128. YN Nhý yr Arglwyddi, dydd Llun di- weddaf, darllenwyd Ysgrif Pont Cwm- parc y drydedd waith, ac a basiwyd. _'fIIo!O!I-1it
Family Notices
GENEOIGAETHU. DYDD Mercher, Ebrill 14eg, priod Mr W. Tawenfryn Williams, Pontardawe, ar ferch. Gelwir hi Hannah. EEEILL 22ain, priod Mr. Thomas Isaac (Daronwy), ar ei chyntafanedig. Gel- wir ei enw ef Matthew. Frawd a chwaer. mor hyfryd a cbu, Yw gwyneb baban yn gwenu; Ttws yw gwedd eich Matthew heddyw, Delw seroh a hudolus yw. Tyfu wnelo'ch etile(id-i fyny, Dan fiuier gwir fawredd Ar ei hynt dros lwybraa hedd, 0 DOlled i dangaefedd. Trecynon. J. T. MARWOLAETHAU. EBIIILII loeg, yn 51 mlwydd oed, John Lewis, Briton Ferry. Dyoddefodd gys- tndd blin am tua phedair blynedd. Yr oedd yn ddyn diwyd a gonest, ac o gyrhaeddiadau eang. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn mynwent y plwyr. EBRILL 18fed, wedi hir gystudd, o'r dar- fodedigaeth, David Evans, Glynnedd. Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru ar ei ol. Y dydd Mercher can- lynol claddwyd ef yn nghladdfa addoh- dy Glynnedd, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Davies, gweinidog y lie. EmuLL 21ain, yn 68 mlwydd oed, Mr. Thomas Benjamin, haulier, Bell-street, Trecynon. Ni chafodd ond cystudd byr. Yr oedd yn un a gerid yn fawr gan bawb. Gadawodd weddw ac am- ryw blant i alaru eu colled ar ei ol. EBRILL 22ain, yn 76 mlwydd oed, yn 32, Margaret-street, Trecynon, yn nhy ei merch, Mrs. Phoebe Davies. Cafodd gvstiidd blin, ond dyoddefodd ef yn dawel. Yr oedd yn un o hen aelodan Carmel.—Cludydd.. EBRILL 23ain, ynnhy eibrawd-yn-nghyf- raith, 8, Harriet-street, Trecynon, yn 46 mlwydd oed, Miss Martha. Davies, gynt Bate-street, Aberdar. Cafodd "•ystudd caled iawn amflynyddau, ond dyoddefodd vn amyneddgar i'r diwedd. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn mynwent yr Hen Eglwys.