Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
PRYDYDD AC HELYNTION Y BEIRDD.
PRYDYDD AC HELYNTION Y BEIRDD. Y twat; y gwr nerthol, cyhyrog hwn wedi creu rhyw gynhwrf aruthrol yn ngwer- sylloedd y beirdd yn ddiweddar gyda ei ysgrif ddoniol yn y DARIAN; ac ar fy ngair, Bid wyf fi yn deall pa beth fydd ei chanlyniadau os parha ei heifeithiau i gynyddu yn y dyfodol fel y mae wedi bod yn y gorphenol; canys y mae Gwilym Glan Tywi a Ieuan Dar wedi digio yn anfaddeuol o herwydd na fuasai Prydydd yn eu rhyddhau hwy, fel ereill o'r trawd- oliaeth, o'r gwarth oesol y mae y beirdd wedi dynu arnynt eu hunain trwy fyned i gydhela a chwn ysglyfaethus Cwmdar. Ond chwareuteg hefyd i'r beirdd, ni chawsant hwy ond un redegfa ar ol y cadnaw, tra y gorfu i'r own gael tair. Hefyd, ni chafodd y own ond cadnaw byw yn y diwedd; ond am y beirdd, myn- asant hwy ei gael yn farw mewn eiliad, a chael gwledd arno yn y Cross Inn a a thebyg. yn ol a glywsom, mai gwledd flasus vdoedd, er fod un peth annymunol yn aros, sef fod Nathan Wyn yn gywir gredu mai efe daylasai gael y pen. Am Dyfedfab, mae efe mewn hwyl chwerthin byth-barhaol wrth ddychymygu gweled y beirdd yn Hawn chwys a baw yn eu ewrs ar ol eu holv- wrthddrych cadnoaidd. Y mae Glaslwyn yn parhau mewn syn- fyfyrdod am fod Gwilym ab loan wedi rhanu yr ysglyfaeth cyn ei fod ef wedi dyfod i'r wledd, ac ynteu yn rhedeg mor gyflym. Daronwy oedd yn sefyll y tro diweddaf y gwelsom ef fel hurtyn, ac yn ymddangos fel pe mewn ofn a dychryn mawr rhag ei fod wedi tynu y beirdd am ei ben. Ond tystia Hedydd Cynon a Dafydd Bowen mai ysmaldod gwr ieuane yn y sefyllfa briodasol sydd arno tra y mae Cynonfryn yn dal yn ddiysgog ei fod yn feddw ar Demlyddiaeth, ac felly yn anfoddlon ei weled ef yn mwynhau ei hun ar bob lluniaeth angenrheidiol. Nid oes gan Twreh Cynon amser i roddi ei fam, gan ei fod a'i boll enaid yn dysgu iaith y Bwrdd lechyd. Nidydyw Morfab yn gwneud un sylw o lythyr Prydydd, na'r hyn y siarada am dano, gan fel y mae yn mwynhau ei hun ar y pea soup a gafodd am gan y strike, a'r addewid am ail wraig am wneud llythyr caru mor ddoniol. Er hyn, y peth sydd yn lloni ei feddwl fwyaf ydyw y ganmoliaeth uchel a gafodd gan Gwilym ab loan am ei draethawd i'r hen wr, yn nghyd a'rwobr fawr a'r cwdyn papyr a dderbyniodd. ir Ond dywedir na chawsai Morfab yr un o'r pethaa hyn oni b'ai fod ysbryd ys- griblo Vulcan Fardd wedi ei foddi yn J swn baldorddawl yr etholiad; hefyd, ei fod yn teimlo yn siomedig, ac wedi wylo mor druenus am fod Dyfedfab wedi dangos mwy o ddagrau nag ef. Dywedir nas gwelir Tiberog mwy ar faes y DARIAN nac mewn un man o'r fath, canys gwell ganddo ef ydyw gwledd o'r fath a gafodd yn y Cross Inn, ac hefyd ei fod wedi cael ei droedio yn ddiweddar am ddweyd y gwir. Dywedir fod Dewi Dyfan o ran ei ysbryd wedi bod yn ngwledd y Cross Inn, ond na ranwyd iddo ddim o'r dan- teithion, er yr wyf fi. yn credu mai sibrwd disail ydyw y peth yna, gan fod Dewi yn cael gwleddoedd da yr ochr draw i'r mynydd yna; a dywedir mai dyna yr achos i Cynfelyn a Glaslwyn ddyfod yma, a'u bod yn artaeth gynhyrfiol eu meddwl o'r bwriad ysglyfio y cyfan o'u blaenau. 0 chwaethus feirdd, da chwithau,-nag clwch Eich gilydd bob euwau; A chonwch, cleddwch feiau-yn gynar 0 fewn daear maddeuol fwynderau. Bakcud.
MUDIAD CO-OPERATIVE ABERDAR.…
MUDIAD CO-OPERATIVE ABERDAR. FONEDDlGION ,-Dyma amryw wythnos- au wedi eu treulio cyn gosod sicrwydd i'r cyhoedd pa un ai mudiad Aberdar ynte mudiad Cwm Rhondda sydd i fod yn model movement er dwyn hwylusdod i fasnach yn ein cymydogaethau, aphrynu a gweithio pyllau glo, neu unrhyw waith arall a ystyrir yn fanteisiol, a chael gweithwyr i gymeryd rhan yn eu gweithio. Yn y Dakian, yr wythnos ddiweddaf, cawn adroddiad pwyllgor Aberdar ar yr ymdrech a wnawd er cysylltu y ddau fndiad hwn yn un. Y mae bellach genym wybodaeth gyflawn o brif reolau y ddau Ie; ac yn ol fy marn, yr oedd asioy naill yn y Hall yn anmhosibl. Y mae y gwa- haniaeth yn anrhaethol bwysig — ein cyfeillion o Gwm Rhondda (yn ol yr ad- roddiad) yn dal mai co-operation ydyw cysylltu masnachwyr a gweithwyr yn gwmni er eu gwneud yn berchenogion gweithfeydd, a rhanu yr elw fel interest ary shares, pan y mae Aberdar yn dadleu nad oes dim gwahaniaeth rhwng yr egwyddor yna rhagor y cwmniau sydd z;1 yn llflOHOg yn ein cymydogaethau yn barod. Addefwyf y bydd yn rhoddi mantais i weithwyr fod yn feistri; ond rhai by chain iawn fyddant, gan na chy- nyrcha eu shares mewn blwyddyn yn ol 10 y cant ond rhyw 10s. Ni fydd hyny yn werth iddynt dreulio eu hamser i edrych dros y balance sheets bob chwarter. Ystyrir fod pwyllgor Aberdar yn ym- estyn at ystyr a theithi rheolau co-opera- timi. Os ydyw y rheol bresenol o feistri a gweithwyr wedi troi yn aflwydd ac yn fethiant, pa reswm ydyw ymuno er gwneud list newydd o feistri. a ddichon I fod lawer yn fwy eu gormes na'r rhai presenol ? Nid y Hog a gynyrcha 95 mewn blwyddyn ydyw hanfodion yr eg- wyddor gydweithredol, ond dosbarthiad cyfartal o bob cynyrchion rhwng cyfalaf a llafur. Capital y gweithiwr ydyw ei lafur; felly oddiar ei lafur y mae yn rhesymol iddo geisio bonus. Hawdd fyddai i weithiwr pan wrth ei alwedig- aeth yn y gwaith arbed mwy mewn diwrnod na ddichon iddo dderbyn o in- terest ar ei sha/re mewn blwyddyn. Pa anogaeth rodda mudiad Cwm Rhondda i ddyn fod yn weithgar a gofalus wrth ei waith ? Pe buasai yr hollshareholclers yn gweithio yn y co-operative wo'rlcs, byddai pob elw yn myned iddynt, bid siwr ond pan na ellir rhoddi gwaith i un o bob' pump ar y dechreu, dylid rhoddi bonus i'r sawl fyddo yn ymroddi yn egniol er cael y gwaith i dalu, a phan dderbynia y gweithiwr 21 y cant fel bonus, bydd y capitalist yn derbyn 10 y cant o interest ar ei shares. Dymunol iawn fyddai i'r cap- italist weled y gweithwyr mewn hawl i'r lomts. Byddai yn anogaeth i ni osod ychwaneg o shares yn y cwmni er prynu gwaith arall, &c., fel y delid yn alluog i roddi gwaith i bob shareholder yn ein gw lad. Gydweithwyr, na thwyller chwi yn hyn. Y mae ein cyfeillion yn Aberdar yn anog pawb i'w cyfarfodydd bob nos Lun yn y Bute Arms Assembly Room, fel y gallont ddeall a ffurfio barn drostynt eu hunain. Llesiant cyffiredinol, ac nid ymestyn at lesiant personol uniongyrchol fel capital- ists y mae y pwyllgor. Eu harwyddair ydyw, Parchu y diwyd, a'i dalu am ei ddiwydrwydd." Anogaf chwi i gofrestru eich hunain am ychydig shares heb oedi, trwy dalu 6c. y share ar gyfer argraffu rheolau, circulars, athreuliau cynal cyfarfodydd, gan fod yn rhaid cael ychydig arian i wneud hyny. Y mae y cheque books yn barod, a chaiff pawb receipt am yr hyn a dal. Gellir cofrestru gan swyddogion y mudiad, ac amryw bersonau ereill yn Aberdar. Bydd personau yn cael eu penodi yn mhob cymydogaeth mor fuan ag a ellir, ac os teimla cyfeillion roddi cynorthwy, bydd y pwyllgor yn ddiolch- gar. Gellir cael pob hysbysrwydd trwy anfon at yr ysgrifenydd, Phillip Evans, Oxford-street, Aberdar. Bwriadwn, trwy ganiatad perchenogion y Daman, osod o fiaen v cyhoedd bob hysbysrwydd er hyrwyddiant y mudiad bob wythnos. COBDEN.
MARWOLAETH MR. W. EDMTOTOS,…
MARWOLAETH MR. W. EDMTOTOS, PRINCE ALBERT, ABERDAR. DAN oer dywarchen priddi^ryd eto un o ddewrion llafur, a chelfyddydwr gor- wych. Gwywodd, Mawrth laf, y glas- welltyn i'r ddaear, fel na ddychwel mwy. Collwyd Abner y cyfrinfaoedd ag oedd ef yn ysgrifenydd iddyut: rhyfeddol oedd ei gywirdeb yn ei gyfrinion; cy- mhwys a chadarn ei gynghorion. Cryn- hodd lawer o gyfoeth, a gadawodd hwynt, gobeithiwyf, am balmant aur y Wynfa. Aeth ef o dwrf y garw fyd At uwch a phurach lys; Gadawodd degan dyn ar ol, Er cryfed oedd ei flys; Egniodd-hawliodd fythol glod A chyfoeth-delw dyn; Ond 0! fath siomiant, ciliodd rhai'n, A William wrtho'i hun. Dyn celfydd i eithafion oedd, Un goleu, gonest, doeth; Moesolwr, a gwleidyddwr pur, 0 dueddiadau coeth; 0! na fa'i deuparth ysbryd hwn Yn disgyn ar y wlad, Gosodem dlodi byth dan len, A gormes dan ein traed. Trecynon. Guiyn HYDREF.
AMRYWIAETH 0 LANSAMLET.!
AMRYWIAETH 0 LANSAMLET.! AGWEDD dra annymunol sydd i'w ganfod trwy y plwyf hwn yn bresenol. Y mae yn gwaethygu trwy fyned yn dywyll- ach yn hytrach na goleuo. Er gofid, rhaid nodi fod y Round Pit wedi sefyll i er dydd Llun, Ebrill 19, trwy fod y dwfr wedi ei luddias i weithio ychwaneg yno, nes y deuir i gyd-ddealltwriaeth yn ei gylch i'w godi. Yr oedd yno luaws yn enill bywioliaeth gysurus, ac yr oeddynt yn cyfranu yn haelionus tuag at eu brod- yr sydd allan. Ond yn awr, y maent hwythau hefyd yn segur. Y mae yn resyn o'r mwyaf fod cwmni y gwaith uchod yn cael eu rhwystro i wneud daioni i drigolion y plwyf, o herwydd ystyfnigrwydd ereill i gydgodi y dwfr. Cynygiodd y boneddigion teilwng hyn i gydgario y draul ar y dechreu, ond peid- iodd ereill; o ganlyniad, y mae y gweith- feydd yn un llyn. Y mae cwmni glofeydd Foxhole yn ddiwyd godi y pibellau dwfr o'u pyllau —ni wyddus beth yw eu hamcanion er y taenir llawer chwedl. Credwyf nad oes un dewin yn gwybod yn iawn y dirgel- wch. Maent yn anhawdd eu deall, ac y mae yn amheus a ydynt yn gwybod eu hunain ai peidio. Y mae yn strike yma er's pedwar mis, a dichon y par gymaint a hyny eto cyn ymostynga y gweithwyr i gymeryd pymtheg y cant o ostyngiad. Y maent oil yn fwy llidiog wedi clywed penderfyn- iad olaf y meistri.—GonEBYDD.
I "VOTE I DAVIES Y CLWYDI."
"VOTE I DAVIES Y CLWYDI." Y MAE rhywbeth sydd yn ddigrif iawn mewn rhai personau mewn cysylltiad a'n hetholiadau, fel y desgrifiwyd rhywun yn y DARIAN ddiweddaf, yn rhoddi ei bleidlais i Davies y Clwydi." Yr oedd y dyn yn llygad ei le pan yn ateb felly. Gweithredu yn ol ewyllys un arall yr oedd, ac nid yn ol ei ewyllys ei hun. Wrth syrthio i'r amryfusedd drwy anghofio charge Mr. Davies, dywedodd y gwir o dan ei drwyn. Dywedir fod y byd yn goleuo. Dichon ei fod ond y mae lluaws o'i breswylwyr mor ddall ag Esau gynt, pryd y gwerthodd ei enedig- aeth fraint i Jacob am phiolaid o gawl ffacbys. Oes, y mae llawer yn yr oes hon a werthant eu hetholfraint am addewid o rywbeth llai ei werth na'r phiolaid o gawl coch a gafodd Esau, ac wedi cael eu siomi, cwynant yn ddidaw eu bod hwy yn cael eu scriwio yn ddidru- garedd, fel y^arlunir hwynt gan rywun yn y llinellau canlynol:— Mae rbai personau ynein gwlad Yn feddal anghyffredin, « Myn rbai eu galw'n ddynion gwellt," Neu ddynion llaeth ymenyn Yn mhob etholiad cwyno wnant Eu bod hwy'n cael eu scriwo, Ac mor lluosog yw y scriws, Fel mae'n gryn gamp eu rhifo. Fe gwyna un am scriw y saer, Y llall am scriw y teilwr, Am scriw y ty a phercben tai, Am scriw y gof a'r bwtchwr A thystia rhai fod dernyn mawr O'r Common"-dernyn ffamws, Yn newydd cael ei droi'n siop waith I wneuthur scriws o datws. Ac fod y siopwyr yn gwneud seriw 0 swgr brown a sebon, A gwr y Cwm" fygythia wneud Scriw fawr o fwyar duon Ond O mae'r benaf eto'n ol, Rhyw fenyw fawr, drom, ledan, I lewyg aeth, pan meddwl wnaeth Ei bod hi'n gwel'd Scriw berman." Am feddyg gyrwyd yn y man, Yr oedd yn fater bywyd A'r gwyr llaeth 'menyn" oil yn syn, Uwcbben ei chyflwr enbyd! Yn chwilio buont bedair awr Ar hyd ei chorff mawr, llydan, Er mwyn cael gwel'd y tyllau wnaed Drwy'i chnawd gan scriw y berman." Ond wedi'r meddyg deimlo'i phuls, Aeth braidd yn ddrwg ei dymher, Gan ddweyd, "Give her a glass of grog, And she will soon get over," Ac felly bu, ac felly daeth I'w lie fel cynt yn ddiwall, Ond mynych sonia am y scriw," Er mwyn cael glasied arall. Chwi synech glywed hon yn dweyd Sut cafodd hi ei scriwo, Nea ydoedd hi mor fain a'm bys A'i besgyrn ull yn cracio Ond dywed pawb a'i gwelsant hi, Fod scriw y barm yn glyfer, Wrth wel'd yn awr fod Barklen fawr Yn quite mor stout ag arfer. Ond rhag tynu Morganwg ar fy ngwarthaf, gwell cadw o fewn limits, gan obeithio y cawn welliant yn y dyfodol, ac y bydd i bawb werthfawrogi yr ethol- fraint a ymddiriedwyd iddynt, ac nid cymeryd eu harwain gan ereill, fel ani- feiliaid heb feddu rheswm nac ewyllys. LLANC O'R LLWYN.
GAIR AM YR AMSER PRESENOL
GAIR AM YR AMSER PRESENOL Y MAE yn anhawdd iawn gwybod beth i'w ddweyd ar amser fel hwn, oblegyd y mae trysorfa fawr y meddyliau a'r cyn- lluniau braidd wedi eu dihysbyddu ond hyn a wyddom, fod gwir angen am ddyrchafiad y faner wen eto rhwng y byddinoedd. Y mae cylla gweigion y miloedd plant bychain yn dweyd amen gyda hyn, yn nghyda gwynebau llwyd- ion a gwelwon y canoedd gwragedd a gerddant o ddrws i ddrws yn llefain yn uchel am adferiad heddwch. Ond er yr holl druenusrwydd i gyd, parhau i frwydro mae y pleidiau. Priodol iawn y dywedwyd yn ddiw- eddar yn y Western Mail, y bydd cyfrif- oldeb annhraethol yn gorphwys wrth ddrws un o'r ddwy ochr; ac nid oes amheuaeth genym nad wrth ddrws y meistr y bydd, oblegyd debygem nad oedd dim yn afresymol yn yr hyn a ofynai y gweithiwr ar ddechreu y rhyfel, sef rheswm dros eu hymddyg- iadau. Onid deiliaid rhesymol ydym ? Ac oni ddylai fod genym reswm dros ein gwahanol ymddygiadau fel bodau rhesymol? Neu ynte a ydyw y meistr yn cyfrif y gweithiwr yn is-raddol yn ei olwg i roddi rheswm iddo ? Beth bynag, os mai felly y mae, nis gallaf gydolygu a hwy, oblegyd credwyf y gall y gweith- wyr fel corff ymgystadlu a'r meistri yn mhob rhyw ystyr. Os gosodwn gyfoeth a llafur i ymgystadlu ochr yn ochr, credwyf fod yr olaf yn llawn mor bwys- ig i'r byd a'r blaenaf. Felly, gan fod llafur mor angenrheidiol a chyfalaf, pa- ham na thalir gwarogaeth ddyladwy a'i werthfawrogi gan bob dosbarth o'r byd? Onid oes cystal hawl gan y gweithiwr i osod pris ar ei lafur ag sydd gan gyf- oethog osod pris ar ei werth ? Gwir yw nas gall y byd fyw heb gyfoeth; ac mor wir a hyny, nis gall fyw heb lafur; o ganlyniad, paham mae y byd yn ymarfer ei holl ddylanwad i geisip gwneuthur boneddwr o un a chardotyn o'r llall, fel yr ydym yn arfer dweyd. Y mae yn rhaid i'r gweithiwr gael ei safle briodol mewn cymdeithas ddynol cyn yr adferir heddwch boddhaol. 0! na allwn ganfod rhyw gynllun a fyddai yn foddion i was- gar y cymylau duon sydd yn hongian uwch ein penau y dyddiau hyn, ie, rhyw foddion digon effeithiol i osod taw bythol ar swn tincian cleddyfau cyfalaf a llafur y naill flwyddyn ar ol y llall. Credwyf yn hollol fod y ddwy blaid wedi cael digon ar ymladd, ond eu bod yn methu penderfynu pa un o honynt sydd i roddi i fyny gyntaf. Gwawrio wnelo'r boreu pan fyddo heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau'r mor. CYDWYBODOL.
NEWYDD DA O'R GADLYS.
NEWYDD DA O'R GADLYS. ANAML y gellir cofnodi newyddiou da ar adegau fel y presenol. Yr ydym bron a chredu yr hen ddywediad ys- grytliyrol hwnw, "A ddichon ddim da ddyfod o Nazareth?" Y mae yr ysbryd hwn wedi ein hamgylchynu er yn agosi flwyddyn bellach. Diambeu y bydd yn dda gan lawer o ddarllenwyr y DARIAN glywed am ail gycbwyniad ffwrnes flast y Gadlys, yr hon sydd wedi bod allan er ys blwyddyn. Y mae o dan adgyw- eiriad yn bresenol, ac yn barod at waith mewn oddeutu mis neu chwech wyth- nos. Y mne yma dair ereill yn segur, ond gobeitbio y bydd galwad am eu gwasanaeth hwy than ynfnan. Y Gadlys ydyw ffynonell cysuron canoedd, os nad miloedd, y dyddiau hyn yn Aberdar, ac y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. W. Thomas a'r is-oruchwylwyr am eu hymdrechion diflino i gadw olwynion masnach i droi.
MAE NHW YN DWEYD.
MAE NHW YN DWEYD. Y MAE nhw yn dweyd fod yr hysbys- iadau i'r gweithwyr yn rbydd yn y Daman. Mae nhw yn dweyd wrth Meton fod mwy o dda wedi ei wneud trwy Deml- wyr Da, nag a wna Meton ag ereill trwy ei gwrthwynebu. Mae nhw yn dweyd iddynt weled hanes un Cymro wedi dyrchafu ei hun fel canwr, a myned o dan addysg Pen- cerdd America. Mae nhw yn dweyd, a'r nhw hyny yn deall, fod y cyfaill Hopkin, Moun- tain Ash, yn sefyll yn uchel fel baritone. Mae nhw yn dweyd yn bendant y dylai y Cymry roddi mwy o gefnog- aeth i'r genedl nag y maent yn ei wneud yn bresenol. Mae nhw yn dweyd fod bobl Moun- tain Ash yn meddwl rhoddi cyngherdd first class i'r brawd Hopkin, er ei gy- northwyo i gael addysg. Ond O! bendith, pa bryd y mae y strihe hon i derfynu. Pantytredych. NHW.
PORTH.—TYSTEB MR. JABEZ THOMAS,…
PORTH.—TYSTEB MR. JABEZ THOMAS, CYMER. CYMERODD cyfarfod hynod ddifyrus ac adeiladol le yn nghapel y Methodist- iaid Calfinaidd yn y lie hwn prydnawn ddydd Iau diweddaf, pryd yr anrheg- Mr. Jabez Thomas a darlun o bono ei hun, gwerth £ 42 Derbyniodd An- erchiad befyd gwerth £8 10s., yn nghydag alwar yn cynwys X12 10s. Yn mhlith ereill oedd yn bresenol, gwelsom y Parchn. W. Evans, Tonyr- efail; T. Rees, Penygraig W. Jones, Ystrad; J. H. Griffiths, Treorki; a W. S. Davies, Blaenllechau; Dr. H. N. Davies, Cymer; a Mri. R. Evans a T. Roberts. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. D. Evans, Caerdydd. Rhodd- odd y darlun, yr hwn a wnaed gan Mr. Jones, Merthyr, foddhad cyffred- inol. Cafwyd anerchiadau gan y bon- eddigion uchod ac ereill, a dychwelwyd diolchgarwch yn wresog a theimladwy gan Mr. Thomas.CYMYDOG.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. D. W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun,
[No title]
Englynion i D. S. Davies.-Rhy ysgafn. Efrydwch y cynghaneddion yn fanyl- ach. Ymddengys y Gwanwyn. Y Rhosyn Melyn a'r Briattu.—Gwallus y p ddau. Gofynwch i'ch brawd am ddysgn y cynghaneddion i chwi. Y tlroes a'r Cybydd.-Hymn yw y blaenaf, a barnom mai nid gweddus cyhoeddi hymnau ar y DARIAN. Lied ysgafn yw'r Cybydd. Gan mai 14 oed yw'r awdwr, boed iddo ymgalonogi ac ym- egnio: mae ynddo ddefnyddiau da. Y Llongddrylliad.—Trueni fod y geiriau llong a bron wedi eu gosod i gydodli yn y darn hwn. Gwell newid un o'r odlau, feI na boachos beio y gelfyddyd. Mae'r canlynol yn gymeradwy :-Ysgol y Graig, Tafod Benyw, Y Gwanwyn, Golygfeydd Ystradf elite, Katie, Y My- nydd ar Lan y Mor, Y Wraig Anynad, Deg ar ugain oed, Deuddeg Mlynedd yn ol, Ysgoldy Penygraig,
^ Y GWANWYN.
Y GWANWYN. Y Gwanwyn sydd yn gwenu,—a Natur Fwyn eto'n dadebru; Yr adar m&n sy'n canu 0 fysg coed in' fiwsig cu. Aaronfryn.
PRIODAS FY NAI.
PRIODAS FY NAI. Paradwysaidd yw priodasol-fyd, Beth sy'n fwy dymunol Na. gwyryf serchgarol ?—ami dotir Nes ymadewir o'r maes meudwyol. Ac wele, aeth cun calon-a fy Nai I fyw'n ol arferion Rhai eraill-aeth rhy weinion-i ddiane Hwnt o grafanc ein teg wyryfon. Y llanc ir sy'n ilawn cariad-at eneth- Tyner yw y teimlad Ac mae swyn llawforwyn fâd-yn temtio Hwn i frysio i foreu asiad. Er hyny, dyma wirionedd-o bwys, Fod byw heb ymgeledd [tlysiou Gymhwys, yn fawr gamwedd — lie mae Nef forwynion yn fyw o rinwedd. Anhawdd mae'n wir oedd i'm Nai-i wrthod Gan mor nerthol teimlai; Ofer beth fwrw bai-ond serch cynhes Ysai'n ei fonwes a'i asen fynai. Hardd haddef, a hir hir ddyddiau-iddynt, A bydded eu JIwybrau Fel Eden yn flodau—a'u rhawd yn rhydd Hwnt i lawenydd bro y telynau. N.C.
COR Y WIG.
COR Y WIG. Cor y wig, miwsig y meusydd,-hidlant Ber odlau aneilydd; Eu nefol sain yn fawl sydd I'w gwiw radawl Greawdydd. V PERLLANOG.
t(' YR WYBREN.
t(' YR WYBREN. Yr wybren dlos, ucheldo'n byd, Goruwch y gwagle dwfn, maith, A mwy yw dy brydferthwch drud, Nas gall un dyn ddefnyddio iaith I roddi gwir ddesgrifiad iawn O'th ryfeddodau o bob rhyw, Yr oil sydd yn mynegu'n llawn Gwir fawredd a doethineb Duw. Pan fyddo'r gwagle mawr yn glir, fleb gymyl rhyngom ni a'r nen, Mae fel tae gwedd y nefol dir Ar fron yr wybren yn ddilen Gorswynawl drem, 0 wybren der, Yw gwel'd dy heirdd lusernau fyrdd, Yr haul, y lloer, a'r dirif ser, Sy'n britho yr eangder gwyrdd. Yn nyfnder nos y morwr sy', Pan ar gynddeiriog donau'r inor, Yn tremio'n hyf i'r wybren fry, I'w dywys gan wawl ser ein lor. Pa fodd y gall atheistwyr byd I feiddio gwadu nad oes Duw, A'r wybren a'r planedau i gyd Yn tystio mai eu Crewr yw. Y nos yw'r hyfryd adeg fawr 1 Sy'n dangos dy ogoniant ter, Dy orysblander pur ei wawr Sy'n disgyn lawr o orsedd Ner; 0! mae rhyw ardderchawgrwydd pur Yn argraffedig arnat oil, Dy swynawl wedd wnaiff ymlid cur A helbul byd i fyn'd ar goll. 0! na chawn fraint i syllu trwy Dy aur ffenestri, wybren fad, A'r saint ac engyl pur ddiglwy' Fry ar ororau'r nefol wlad; Pan syrth holl ser yr wybren glir I'r ddaear lawr yn fawr a mân, Gwna fi, O Ddnw, yn seren bur Ar wybren fawr y Wynfa lan. Dewi CHWEFROR.,
AI SIARAD WYT AG ENGYL GLANP
AI SIARAD WYT AG ENGYL GLANP Llinellau a gyfansoddwyd pan yn edrych ar ein bdban yn cysgu ac yn gwonu. Fy maban tlws ar wely plu Y'mreichiau cwsg a wena'n lion, Ceridwen fach, a ydwyt ti Mewn ymgom pur y fynyd hon Ag un o'r bodau uwch y ser, Gydganant mewn soniarus gan 0 amgylch gorsedd wen ei Ner ? Ai siarad wyt ag engyl glan ? Dy gorff bach, lIuniaidd, O! mor llad, Ni chei, os gallwn, byth un cam, Wyt werth pawb ereill i dy dad, A gwerth y byd i'th anwyl fam; Ni'th gadwn, C'ridwen, ddydd a nos 0 gyrhaedd rhwyg y dur a'r tan; Ah! dacw eto'th wen fach, dlos, Ai siarad wyt ag engyl glan ? Mae diniweidrwydd yn dy wedd, Dedwyddwch ddawnsia ar dy ael, Mae genyt ti rhyw ddirgel hedi Nas gall dy fam a minau gael; Ceridwen hoff, dihuna'n wir, A gwrando'th dad yn eilio can, Rhag denu'r nef a'th wenau pur, I'th gludo at yr engyl glan. UTHR WYON.,
!DYFODIAD YR HAF.
DYFODIAD YR HAF. Hudolus haf pan deIo,-nef addurn A ganfyddir ynddo; Ei wyneb hardd a'i wenau pur Wna holl natur yn Hon eto. Perllanog.
Y GENINEN.
Y GENINEN. Hardd olwg, ei gwerdd ddei,len,-yw urddas. Gerddi y ddaearen; Y gun, hynod geniuen, Gem aur yw i Gymru hen. Perllanog.