Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA GERDDOROL GYNULLEIDFAOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GERDDOROL GYNULLEIDFAOL. TN ystod y misoedd diweddaraf hyn, y mae eglwysi a chynulleidfaoedd sir For- ganwg wedi bod a'u holl egni yn ymbaro- toi ar gyfer ymweliad y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt,) ar gais y cyfar- fod misol, i'r dyben o wneud ymchwil- iad yn y sir, sefyllfa caniadaeth y cysegr, ac i anog yr eglwysi i weithgarwch ac egniad gyda'r rhan hon o'r addoliad cre- fyddol, Y llwybr a gymerwyd at hyny oedd i bob dosbarth o'r cyfarfodydd dau fisol i gymeryd y pwnc at ei ystyriaeth. Penderfynwyd cynal Oymanfa Dosbarth Hirwaun yn nghapel y Methodistiaid ar Hirwaun. dydd Mercher, yr 21ain o Ebrill, 1875, a mawr oedd y dysgwyliad am dano. Dechreuwyd y cyfarfod cyn- taf am ddau o'r gloch, gan y Parch. D. Davies, Risca. Yna etholwyd Mr. W. Morgan, (Bardd,) Bethania, Aberdar, i'r gadair, ac wedi anerchiad byr ac i bwr- pas ar natur y cyfarfod, galwodd ar Mr. Roberts at ei waith. Cyn dechreu canu, rhoddodd ychydig gyfarwyddiadau i'r cantorion er hwylysu gwaith y dydd, ac iddynt hwy ei ddeall symudiadau yntau. Canwyd Llangoedmor i ddechreu, ac wedi canu, rhoddodd anogaeth i'r cantor- ion i fwy o ymroddiad ac egni gyda'r rhan bwysig hon o'r addoliad. Canu Erfyniad a Psalm 23. Yna dywed- odd" da iawn wedi canu hon, a sylw- odd y dylid dwyn y Salmau i fwy o ym- arferiad yn ein cynulleidfaoedd, am ei bod yn hen arferiad, ac y mae genym hanes ysgrythyrol ar hyny. Canu"Beu- lah." Yna anerchwyd y dorf gan y Parch. Thomas Rowlands, Carmel. Canu Leipsic a'r Ddafad Golledig." Yr oedd rhyw annealldwriaeth yn bodoli rhwng y cantorion a'r arweinydd yn nghylch curiad amser y don olaf. Canu Lledrod." Dywedai yr arweinydd ei fod yn ddiolchgar iawn am y caniad hwn-yr oedd yno nerth i'w deimlo., Hefyd, sylwodd mai nid fel rhyw gy- ngherdd yw y cyfarfodydd hyn, ond cy- farfodydd crefyddol, man ag y dylem gael addoli ynddynt. Nid oes modd canu heb gael ysbryd Duw at y gwaith. Hefyd, sylwaf fod caniadaeth yn sefyll yn uwch yn y sir hon na'r un lanerch yn Nghymru, ie, a Phrydain hefyd, a bod Duw yn dysgwyl llawer oddiwrthym. Canu Dinbych." Canwyd y rhai hyn yn dda iawn. Dybenwyd y cyfarfod trwy weddi. Yr oedd y cyfeillion a'r Tbrodyr yn y lie wedi parotoi te yn yr Ysgoldy Brytanaidd ar gyfer yr ysgolion, a da genyf, yn nglyn ac amryw ereill, ddwyn tystiolaeth uchel iddo.

Y Cyfarfod' Hwyrol.

BRITON FERRY.

YR EISTEDDFODAU.

TRYWANU YN STOCKTON.

BLAENLLEOHAU.-DAMW AIN ANGEUOL.

------_.-,.---.------------------COFFINAU…

Advertising