Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Y STRIKE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y STRIKE. YE oeddem yn tybio yr wythnos ddi- weddaf y buasai genym yr wythnos hon i gofnodi rhywbeth newydcl a mwy boddhaol o barthed yr annealldwriaeth sydd rhwng ein meistri glo a'u gweith- 11 zn wyr, ond bron yn yr un man y mae pethau hyd yn hyn. Nid oes amheu- aeth nad yw y ddwy blaid wedi blino ar sefyllfa bresenol pethau, ac yn barod i roddi i mewn i ryw raddau er mwyn ei derfynn, ond nid oes neb am ddangos y faner wen, am y byddai hyny i ryw raddau yn arddangosiad eu bod wedi cael eu gorchfygu. Y mae yn wir fod y meistri wedi gostwng X5 y cant yn ychwaneg yn y cyflogau; oud credir pe byddai i'r gweithwyr fyned i mewn ar y 10 y cant gostyngiad, a gofyn am gael cyflafareddiad wedi ei sefydlu er trefnu pethau rhagllaw, y celid y pethau hyn, ac na chlywid am strike mwyach am yr ugain mlynedd nesaf o leiaf. Y mae y gweithwyr o'r ochr arall yn awr yn dechreu ymgynefino a'r strike, ac yn gofyn yr un peth yn awr ag a ofynid ganddynt bedwar mis yn ol— dim mwy na llai. Dadleua rhai fod marchnad y glo lawer is yn awr nag yr oedd y pryd hwnw, a chymeryd y farch- nad yn gyffredinol, tra y dywed y lleill fod y glo yn Nghaerdydd, yn yr hwn le y gwerthir ein glo ni, rai sylltau yn ddrutach nag yr oedd pan y rhoddwyd heibio gweithio. Y mae dosbarth hefyd yn dechreu ofni, wrth weled yr ystyfnigrwydd hwn yn y pleidiau, ac yn gweled fod ychydig yna ac ychydig acw yn myned i weithio, mai y diwedd fydd myned i mewn heb gael y fantais a ellid ei chael yn awr mewn cysylltiad a sefydlu cyflafareddiad am y dyfodol. Y mae yn sicr bellach fod ychydig o weithwyr tanddaearol Cyfarthfa wedi dechreu gweithio. Aeth rhai i lawr ddydd Llun, nifer lluosocach ddydd Mawrth, ac os ydym wedi clywed yn iawn, yr oedd y nifer wedi lluosogi yn fawr erbyn dydd Mercher. Mewn canlyniad i gyfarfod a gynal- iwyd ddydd Sadwrn diweddaf rhwng gweithwyr y Pentre, Cwm Rhondda, a Mr. Rosser, y goruchwyliwr, y mae y gweithwyr yn bwriadu siarad wyneb yn wyneb a Mr. John Cory yr wythnos nesaf. Y mae y rhybudd sydd wedi cael ei roddi gan Mri. Nixon a Chyf. i'w tenantiaid wedi achosi cryn gynhwrf, a dywedir fod y meistri yn benderfynol o gario eu penderfyniad i weithrediad. Y mae Mr. Thomas Brassey, A.S., wedi ysgrifenu llythyr ar bwnc yr an- nealldwriaeth, yn yr hwn y dywed ei fod wedi bod yn siarad ag un neu ddau o foneddigion ag ydynt yn teimlo dy- ddordeb yn sefyllfa pethau yn Neheu- dir Cymru, ac nad yw yn cael oddiwrth ddim a fedr efe gasglu, y bydd i'r meistri wyro dim oddiwrth y gostyng- iad o 15 y cant; ond mor gynted ag yr a y gweithwyr i mewn, ei fod ef yn credu fod y meistri, er yn hollol wrth- wynebol i Fwrdd Cyflafareddol, yn barod i fabwysiadu cynllun o ostwng a chodi cyflogau gyda'r farchnad. Y mae hefyd yn cyngori y gweithwyr i fyned i mewn.

[No title]

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

CAU Y TAFARNAU AR Y SABBOTH…

TANCIIWA DDYCHRYNLLYD MEWN…

BWRDD GWARCIIEIDWAID MERTHYR.

Y CYNAUAF A'R FARCHNAD.

COLERA YN INDIA.

L'ERPWL.

COFADAIL I'R DIWEDDAR R. EVANS…

PETHAU DYMUNOL YN NGLYN AG…

4 CROTYN CRITO A'R ,COFFINAU.