Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU ADOLYGIADOL GAN TAU.

AT TAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT TAU. "Yr anifail a gornia a gornir." CREFAF ar eich hynawsedd am ychydig ofod yn eich TARIAN amddifiynol, er amddiffyn aelodau Pwyllgor Cyfarfod Llenyddol Penygraig, at y rhai y mae nodiadau adolygiadol" Tau wedi eu cyfeirio. Amlwg ydyw fod ei nodiadau wedi eu gwlychu fel saethau mewn gwenwyn cenfigen ac eiddigedd, a hyny am na fuasai y V fawr wedi cael yr amhydeddo fod yn feirniad, yn lie y sawl a gafodd am hyny, y mae yn arllwys ei lysnafedd.ar y pwyllgor, yn nghyda'r parchus feirniad. Nid efe y mae yn wir a gafodd y cyfansoddiadau o law yr Ysgrifenydd, ond blaidd arall mewn croen dafad a ddaeth a'i wenau aspiaidd o dan rith o ddiniweidrwydd i geisift eu gweled ond amlwg ydyw erbyn hyn mai pawen cath oedd yr aidecamp, yn cyflawni cynlluniau'r diafol. Y mae yn wir ddrwg gan yr Ysgrif- enydd iddo ganiatau y fath beth, ac y mae am i'r pwyllgor yn nghyda'r parchus feirniad i gredn hyny, ac nad oedd yn gweled y canlyniadau. Nid wyf mewn un modd am i neb gredu fy mod yn tybied fy hun yn alluog i lorio Tau mewn ystyr lenyddol ond yn unig mewn egwyddor a gwirionedd, a hyny yn nglyn a'r drafodaeth dan sylw. Nid dyma'r tro cyntaf i Tau i gyflawni triciau'r fall o'r fath yma, 0 na, yr ydym yn cofio am Wil o'r Felin a'i nodiadau beirniadol crintachlyd ar feirniadaeth Dewi Wyn o Essyllt, a'r canlyniadau diddim o un rhinwedd, ond yn hytrach fel arall o hyny. Hoff waith Tau ydyw ol-feirniadu. Beia Tau y pwyllgor am iddynt ddewis testyn mor bwysig ac eang a Saul brenin Israel i gystadlu arno am ryw bum swllt o wobr, ac fod hyny yn sarhad ar ysgrifenwyr yr ardal, (Ab Tau yn y bwndel wrth gWT-s,) ac yn arwydd o ddiffyg chwaeth yn aelodau y pwyllgor. Gesyd Tau y gosodiad yna i lawr fel yn hollol sicr o fai eto, ymresyma yn y frawddeg nesaf, yn amheuol, fel y can- lyn Os ydyw y sylw yma yn gy- wir, hyderaf y bydd i ddynion gweith- gar Penygraig, y tro nesaf y byddant yn cynllunio cyfarfod, ddewis testynau bach yn nghylchoedd cymdeithas, me- gys glanweithdra, diwydrwydd, geir- wiredd, prydlondeb, &c.; yr afallen, y dderwen, y winwydden, &c.; y fuweh, y ci, y ddafad, &c. fflam, gwlaw. gwynt, &c., neu ynte os dewisant ben- odi testyn mewn hanesyddiaeth Feibl- aidd, bydded iddo fod yn rhywbeth tebyg i Ruth, Naomi, Samson, Mor- decai, Dorcas, neu Stephan, hyny yw, bydded y testyn yn gyfryw ag y gellir dysgwyl cael ysgrif deilwng arno, a bydded y wobr yn gyfatebol i hyny." Anwyl ddarllenydd,- yr ydwyt yn gweled i mi ddyfynu yn lied helaeth o Tau, er mwyn i ti weled cysondeb ei ymresymiad. Gesyd fflam, gwynt, a gwlaw, yn destynau bawdd i ysgrifenu arnynt. Carwn yn fawr i Tau i athronyddu ar y ffiam-yr achos o honi, yn ei hanfod, ei hymddadblygiad, a'r achos o'i gwahanol liwiau, &c., neu ynte darlunio royal road y gwynt, ac o ba le y mae yn dyfod, ac i ba le y mae yn myned, a'i ddefnydd hanfodol, yn nghyda'i flurf, &c., neu ynte dar- lunio ffordd y gwlaw, treiddio i mewn i ddeddfau disgyrchiant, a darlunio y toater works mawr sydd uwch ein penau. Byddai hyny yn fil mwy ben- dithiol i ni fel ieuenctyd, ac fel dar- llenwyr, na rhyw ail gnoi pethau sydd wedi eu cnoi yn flaenorpl. Nid wyf yn dewis helaethu y tro hwn, am y gwn y caf fantais i hyny ar ei lithiau yn y dyfodol. Ydwyf,—UN O'R PWYLLGOR.

! YMWELIAD A LLUNDAIN.

,Y TwR GWYN.

DEFNYDDIOLDEB GWYBED.

4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR.