Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU ADOLYGIADOL GAN TAU.

AT TAU.

! YMWELIAD A LLUNDAIN.

,Y TwR GWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TwR GWYN. Fel Saul gynt yn Israel, dyrchafa y Twr Gwyn ei ben llwyd goruwch yr oil o'r lleill. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1079—80, dan arolygiaeth Gundulph, esgob Rochester. Mesura 116 troedfedd o hyd, 92 troedfedd o uchder, a'i furiau allanol yn bymtheg troedfedd o drwch. Yn un o ystafell- oedd hwn y bu yr ysgolhaig a'r lienor campus, Syr Walter Raleigh, yn gar- charor am ddeuddeg mlynedd, yn nheyrnasiad James i., lie yr ysgrif- enodd amryw lyfrau, ac yn eu plith ei lyfr ardderchog "Hanes y byd." Yn yr ochr Ogeddol i'r ystafell hono, yn y mur trwchus y cyfeiriwyd ato, y mae cell dy well, yn mesur deg troed- fedd o hyd ac wyth troedfedd o led. Yn hon yr arferai Raleigh gysgu bob nos, wedi ei sicrhau i mewn a drws haiarn cadarn wedi ei gloi. Nis gall- af ei chyffelybu i ddim yn amgenach na hen ogof wedi ei gwyngalchu er ys oesoedd. Gallwn feddwl fy mod yn arogli angeu wrth fyned i mewn i'r hen gell dywell, heb lewyrch o olenni yn dyfod o un man iddi, ond drwy ei genau cul, lie y mae y drws haiarn. Y noson cyn ei ddienyddiad, ys- grifenodd Raleigh lythyr at y brenin, yn erfyn am arbed ei fywyd yn y cyflwr truenus hwnw, ond gwrthod- wyd hyny iddo. Heb nodi lleoliad y gwahanol wrth- ddrychau, sylwn ar rai o'r prif bethau sydd yn y gwahanol dyrau. Y mae y plocyn a'r fwyell i'w caiifod yma yn bresenol. Mesura y plocyn oddeutu dwy droedfedd a haner yn mhob fFordd. Ar y pen uchaf id<jo, y mae ceudod yn agos yr un fiurf a haner ileuad wedi ei naddu, ac oddeutu pedair modfedd rhwTng y ddau doriad a'u gil- ydd, ac ar y rhaniad hwnw y gosodid y gwddf i orphwys, y fYllwes yn y ceu- dod ar un ochr, a'r pen yr ochr arall, o dan yr hwn y gosodid bweed pwr- pasol i'w dderbyn. Pa un ai cyfiawn ntu angbyfiawn, euog neu ddieuog, y byddai y dyoddefydd, cyn gynted ag y syrthiai ei ben, gafaelai y sirydd yn- ddo, a'i gyfodi i'r lan, gan ddweyd, "Dyma ben bradwr." Y mae yr ben fwyell wedi ei gwneud o plate o ddur, oddeutu haner mod- fedd o drwch, pymtheg neu ddeunaw modfedd o hyd, chwech modfedd o led yn y min, yn rhedeg yn gulach tua'r crau, yr hwn nid yw wedi ei wneud yr un modd a'r bwyelli yn bresenol; ond y plate wedi cael troi ei ben i un ochr nes ffurlio crau crwn, a choes yn debyg i goes brwsh iddi, tua thair troedfedd a haner o hyd. Y mae nifer o doriadau y fwyell yn y plocyn, megys plocyn cigydd, er nad mor lluosog. Pan yn sylwi ar y fwyell a'r plocyn, meddyliwn am Due Mynwy, druan, pan yn rhoddi chwech gini i'r dienyddwr am wneud ei waith yn iawn, a dywedyd, "peidiweh a'm trin fel y gwnaethoch ag Arglwydd Russell; clywais i chwi ei daraw ef dair neu bedair gwaith." Yna wrth ei was, "Os gwna ei waith yn iawn, dyro y gini hwn iddo eto." Yr wyf yn gobeithio y gwiiat," meddai y dienydd- wr. "Os tarewch fi ddwywaith, nis gallaf addaw na bydd i mi syflyd," meddai. Wedi rhoddi ei ben ar y plocyn unwaith, cyfododd, a gofynodd am y fwyell, ac wedi teimlo ei min, dywedodd, "Yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon llym." Wedi rhoddi ei ben ar y plocyn eilwaith, cyreerodd cryn- dod afael yn y dienyddwr, ac ergyd gwan a roddodd ar y cyntaf. Cododd y Due ei ben ar hyny, a cheryddodd ef am ei weithred. Rhoddodd ei ben ar y plocyn y trydydd waith, a'r dienydd- wr a'i tarawodd ef ddwy waith dra- chefn, ond i ddim dyben, a thaflodd y fwyell o'i law ond gorfyddodd y sir- ydd iddo ei chyfodi drachefn, ac ar ddau ergyd yn ychwaneg y torodd ymaith ei ben. Hynod fel yr oedd rhai o'r goddefwyr yn gallu meddianu eu hunain befyd. Pan y dygwyd Mary Queen of Scot at y plocyn, yr oedd ei gweision a'i morwynion yn wylo yn chwerw, a hitbau yn eu cysuro, ac yn dyweyd wrthynt am lawenhau, ei bod hi yn myned i well lie, ac am iddynt roddi eu galar menywaidd heibio ac meddai, Nid yw yr enaid hwnw yn deilwng o ogoniant, nad all ei gorff oddef ergyd y dienyddwr." Pan y dygwyd Raleigh at y plocyn, gofynodd am y fwyell, ac wedi teimlo ei min, dywedodd, Y mae yn feddyglin Ilym, ond physigwr yw a wella bob afiechyd." Gofynwyd iddo, Pa ffordd y ehwen- ychai roddi ei ben ?" Atebodd, nid oes wahaniaeth pa ffordd y byddo y pen, os bydd y galon yn uniawn." W, D.

DEFNYDDIOLDEB GWYBED.

4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR.