Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

-*-Y GWALLGOF.

___Gohebiaethau.

MERTHYRIAN YN CANU El GLOCH.

BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…

AT MR. 1. JONES, TREBERBERT.

METON A'R TEMLWYR DA.

[No title]

[No title]

Y MEISTR A'R GWEITHIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MEISTR A'R GWEITHIWR. SYR,—Pan y byddom yn edrych ar sefyllfa masnach yn Morganwg a Mynwy, yr ydym yn gweled yn eglur fod meistr a gweithiwr yn ddau allu cryf yn nghanolbwynt y byd mas- nachol, a bod cysylltiad agos rhwng y naill a'r iall, fel ag y mae yn anmhosibl gwneud bebddynt; oblegyd trwy gyf- alaf a Uafur y mae y byd i fyned yn mlaen, ac felly y mae wedi bod yn mhob oes o'r byd o ddechreuad amser hyd yn bresenol. Ond nid yw y gweithiwr yn anfoddlawn i'r meistr i fod yn llai na meistr, ond iddo fod yn feistr cyf- iawn a rhesymol, ac nid anghyfiawn a gormesol, fef ag y mae arfer rhai. Y mae hon yn hen egwyddor sydd wedi ymddangos yn y byd er yn fore, ac felly yn parhau hyd yr awr hon, er fod y pulpud a'r argraffwasg wedi dyweyd, ac yn parhau i ddweyd yn barhaus yn yn ei herbyn. 0, ie, pa beth sydd i'w feddwl am y gweithiwr tlawd sydd yn gorfod teimlo mwy oddiwrth ormes ac anghyfiawnder na neb arall. Efe sydd o dan y baich bob amser, ac ar ei gefn ef y mae pawb yn byw, ac yn ymddibynu arno, a phe darfyddai pob gweithiwr weithio, safai pob peth yn llonydc1 a digyffro. Suddai masnach i ddiddymdra am byth. Ond er mor werthfawr yw y gweithiwr, fe edrychir arno gan y meistri fel pe bai efe yn berson heb enaid nac ewyllys, na rheswm, na chydwybod, nac nn hawl i ofyn am ei iawnderau, ond bod yn foddlawn ar yr hyn a fyddo ei leistr yn foddlawn roddi iddo. Y mae rheswm a chyfiawnder yn tystio mewn modd anwrthwynebol fod gan y gweithiwr hawl yn ei lafur, yr un fath a'r meistr yn ei gyfalaf. Nid yw y gweithiwr yn ddarostyngedig i'r meistr ond ar dir cyfiawnder a rh-swn-i oblegyd y mae dynoliaeth y gweithiwr a'r meistr yn gydwerth o ran sefyllfa creadigol, ac nid yw aur nac arian yn gosod un urddasrwydd creadigol ar y naill na'r llall, ond cymeriad moesol a chrefyddol sydd yn gwneud dyn yn ddyn, ac y mae hwn yn fwy o werth na mynydd- oedd o arian. BARCUD MORGANWG.

TANWYR NANTMELYN.

Y GOFYNIAD AT DANWYR NANT.-MELYN…

4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR.