Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
GOHIRIAD EISTEDDFOD IFORAIDD ABERMB. MEWN pwyllgor cyffiredinol a gynaliwyd yn Calvaria Hall, y 31ain cynfisol, pen- derfynwyd GOHIRIO dydd cynaliad yr Eisteddfod. Bydd i'r Pwyllgor benodi yr, adeg, yn nghyda thestynau ychwanegol, &c., mor fuan ag y terfynir yr anghyd- welediad presenol. Hyderir na thram- gwyddir neb o herwydd yr angenrheid- rwydd hwn. Ar ran y Pwyllgor, D. R. LEWIS, Ysg., 19] 33, Wind-street, Aberdare. OAN mai yn Aberdar y cynelir Cynadledd Flyuyddol yr Undeb Iforaidd am y fiwydd- ynnesaf, bydd i EISTEDDFOD FAWItEDD- OG gael ei chytial gan Iforiaid y "Dosparib y dydd blaenorol i'r Gynadledd, sef y LLUN cyntaf yn GORPHENAF. Prif Destynau. I'r Cor, heb tod dan 150 o rif, a gano yn oreu "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan J. Thomas, Blaenanerch. Gwobr J670, yn nghyda baton ardderchog i'r arweinydd. Am y Traethawd goreu ar" Safley Gweith- iwr yn y Cyfansoddiad Prydeinig." Gwobr JE10 10s. Am y Chwareugerdd oreu ar Amgylch- iadau ymweliad Owen Glyndwr a Syr Lawrance Berkrolles," gwcl y Qwyddoniadur Gymreig. Gwobr £10 10s. BEIRNIAID: Y Canu.—-J. PARRY, Ysw., Aber- ystwyth; J. THOMAS, Ysw., Blaen- anerch. Y Traethodau a'r Farddoniaeth, CYNDDELW. CYNELIR CYNGHERDD ARDDERGHOrJ YN YR HWYR. Am fanylion pellacb, gwel y programme, yr bwn a ellir ei gael am geiniog (trwy y post, lie.,) 2 'Y, gan yr.Ysgrifenydd. TREORCI. Tra Mor tra Brythron." Mor o Gan yw Cymru Gyd." BYDDED hysbvs i boll Gymru benbaladr y JL) cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAID yn Nheorci, ar y Dydd Llun cyntaf yn Awst, 1875, er cadw mewn cof Fuddugoliaeth y Cor Cymreig, yn Llundain, yn 1873. CEItDDORTAEEH. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu yr ail chorus o'r Creation, "Achieved is the glorious work;" i'w chanu ar y geiriau Cymraeg, Ar ben mae'r gogoneddus waith." Gwobr, £25. 2. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Llawenychwn, gorfoleddwn," o Gantota Gwilym Gwent. Gwobr, X12 12s. 3. I'r 21 mewn rhif a ganont yn oreu "Can Jaradog," gan Alaw Ddu. I'w chael gan Isaac Jones, printer, Treherbert, Gwobr, £ 5 5s. Fmddengys rbai o'r prif ddarnau mewn rhif- ynau dyfodol, yn nghyd aeenwau y beirniaid. Bydd y Programme yn fuan yn barod, yn cyuwys yr holl destynau. TESTYNAU "YCHWANEGOL. Am yr Awdl oreu ar "Wanwyn Einioes," heb fod dan 300 llinell, na thros 400. Gwobr, L-5, a chadair gwerth dE3 3s. Am y Gan oreu i'r "Crwydryn," heb fod dan 60 llinell, na thros 80. Gwobr, £ 1 10s. Am y Gân a Chydgan oreu, gwel y Programme. Gwobr, jBl Is. Beirniaid y canu, EOS MORLAIS a LLEW TAWE. Beirniad y Farddoniaeth, y Traathawd, a'r .Adroddiadau, ac arweinydd yr Eisteddfod fydd HMynyddog. Bydd y Programmes yn cynwys yr holl fanyl- ion, yn barod erbyn y cyntaf o Ebrill; i'w gael drwy y Post ar dderbyniad dau stamp geiniog. Dros y Pwyllgor, J. DEFYN JONES, Llywydd. R. MANSELL TIIOMAS, iTrysor- G-. R. JONES (Caradog) J yddion. W. WILLIAMS, Canton House, ) D. SKYM, (Bewi Arucd), ) ° HARMONIUMS! HARMONIUMS! HARMONIUMS! Dymuna Hywel Cynon hysbysu y gellir oael ganddo HARMONIUMS o'r gwneutburiad goreu am y prisoedd mwyaf rbesymol— HARMONIUMS o £5 5s. ac i fyny. RHYBUDD O'R SVMUDIAD. DYMUNA RICHARD JONES, DILLEDYDD, 36, CARDIFF STREET, ABERDARE, Hysbysu ei gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod yn awr wedi symud o'r cyfeiriad uchod i 50, CARDIFF STREET, A thra yn diolch am y gefnogeeth haelfrydig y mae wedi ei dderbyn am y blynyddoedd a aethant heibio, taer obeithio am barhad o'r unrhyw am y dyfodol. Gwerthir ganddo ddillad parod i wrywod a bechgyn mor rhated a chan unrhyw un yn Aberdar. Arcbebion am ddillad o bob math a gant y sylw buanaf. Cedwir stock dda o frethynau a defnyddiau ereill ar law bob amser. COFFINAU RHAD!! DYMUNA 3Ir. Samuel Morris. 54, Bute- street, Aberdar, hysbysu y cyboedd yn gyffredinol ei fod yn awr yn barod i ymgymeryd a gwneud unrbyw fath o goffinau, a hyny mor isel,- neu is na neb arall yn v cymydogaetbau. Y mae yn teimlo yn wir ddiolcbgar i'r cyboedd am y gefnogaeth y mae wedi ei chael yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, gan obeithio y bydd iddo gael parhad o'r cyfryw gefnogaeth am y dyfodol. Yn awr yn barod, CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD CROSS INN, TRECYNON, I'w gael gan Mr. John Richards, Cross Inn, Trecynon. Pris y llyfryn, 3c.; tnoy y Post, 3|e. HANES MORGANWG. GAN DAFYDD MORGANWG. CYNWYSA y gyfrol 532 o dudalenau, map o'r c sir, darlun o'r awdwr, dariuuiau o Aberdar, Aberfawy, Caerffili, Llanfleiddian Fawr, y Bont- faen, Pontypridd, a Llanddunwyd. Pris mewn llian addurnedig acymylon goreuredig', 10s. Pob archebion i'w banfon i'r awdwr, DAFYDD MORGANWG, Hirwain. BETHEL, TRECYNON. CYNELIR CYFARFOD CYSTAD- leuol yn y capel nchod, prydnawn dydd I au, Mehefin y 3yd d, 1875, pryd y gwobrwyir y buddugwyr mewn Rhydd- iaetli, Barddoniaetb, Caniadaeth, &c. Programmes, yn eynwys yr boll dest- ynau, &c., i'w cael amy pris arferol, gan W. Davies, 9, Glan Road; Rhys Etna Jones, a B. Phillips, Gadlys Road, Aber- dar. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio Editor of TAIWAN Y G-WEITHIWE, Aberdare." ob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
LLvVYDDIANT A CHYFLOG.
LLvVYDDIANT A CHYFLOG. CYWIR neu anghywir, tybia y gweith- iwr na ddylai llwyddiant yn masnach glo a liaiarn fyned heibio heb iddo ef gyfranogi o hono, yn gyfartal a'r meisfcr, yn ol graddau ei enillion. Pa hawl sydd gan feistr ar lwyddiant, pan y delo, mwy nag sydd gan y gweithiwr ? Pa ham y dylid ystyried fod bawl gan y meistr i droi ffrwd llwydiant at ei felin ef mwy nag sydd gan y gweithiwr i'w tliroi at ei felin yntau, yn ol maint y sianel a arweinia y dyfroedd ato ef ? Pa chwareu teg sydd mewn ymresymu, taeru, bygwth, a chynlhmio, o blaid arwain pob cwmwl llwyddiant i ymar- llwys yn gawodydd breision, ffrwytli- lonol, ar feisydd meistri, a threfnu i bob cwmwl ebedeg dros ben meisydd o'weithwyr, a'u gadael i fod yn anial- wch sych a diffrwyth ? A oes rhyw un i'w gael mor rhyfygus a haeru fod Creawdwr y tlawd yn gystal a'r cyfoeth- og, wedi trefnu i gymylau llwyddiant i arllwys eu cynwysiad ar feistri cyfoethog yn unig? Y mae llwyddiant masnach yn etifeddiaeth mor gyffredinol i ddyn- olryw ag yw yr haul a'r mor, a'r dwfr a'r awyr. Hawl y gweithiwr iddo yn yr ystyr hwn yw hanfod nerth ei ochr ef yn y ddadl. Dyma asgwrn cefn ei ddadl. Dyma y gwefr sydd yn rhedeg trwy galon y wlad, ac yn cynhyrfu cyd- ymdeimlad ag ef. Os yw ei Greawdwr yn dwyn mwy o drugareddau nag arferol yn ei law i'r wlad, edrycha y gweithiwr arno yn beth caled fod ei feistr yn sefyll rhyngddo a llaw ei dad nefol, i'w rwystro i gael y gyfran o drugaredd a ddwg cyfiawnder iddo. Dywed Mr. Wade yn ei 'History and Political Philosophy of the Middle and Working Classes,'—" Any compulsory attempt to fix the market price of labour, would be as indefensible as an attempt to fix the market price of bread or butchers meat. Labour is the property of the working man, and merits the same protection as other property." I Os yw hyn yn ffaith, yna y mae gan weithwyr gymaint o bawl i gadw eu heiddo eu hunain, hyd yr amser y gwelont yn dda ei ddwyn i'r farchnad, ag sydd gan feistri yn nghynyrch eu pyllau glo a'u ffwrnesi. I Y mae gan- ddynt gystal hawl a'r meistri i ymuno a'u gilydd, i gadw gwerth eu property, sef gwaith, i fyny. Y mae dynion yn y wlad hon yn cael gwneud fel y myn- ont a'u heiddo eu hnnain. Gall y cybydd ei gadw yn ei goffrau, neu ddyn afrad- Ion ei wario, neu ddyn doeth ei ddefn- yddio yn y ffordd oreu, neu ddyn da e roddi yn ei ewyllys at achosion da. A chan mai property—ei eiddo ei hnn- yw gwaith y gweithiwr, gall ofyn y pris a fyno am dano, fel y gofyna siopwr am ei nwyddau ef. Os gofyna gymaint am dano fel na all y prynwr fforddio ei gael, busnes y gweithiwr yw ystyried y canlyniad o hyny. Ond ni ddylai prynwyr ei waith uno a'u gilydd i beidio cymeryd ei nwydd ef ar ei bris ef, os bydd ei bris ef yn deg a chyfiawn yn ol marchnad y byd. Os yw yn iawn iddynt hwy ymuno a'u gilydd i beidio prynu ei nwydd ef ar ei bris ef, a'i or- fodi i ddyfod lawr at eu pris hwy, neu ei orfodi i'w gadw yn ddigynyrch yn ei feddiant ei hun, y mae yn hollol iawn iddo yntau geisio gweithwyr ereill i ymuno ag ef i'w rhwystro hwy i gad y nwydd yn rhatacli nag y meddylia efe y gall fforddio ei werthu. Os pro- perty y gweithiwr yw ei waith, ac os prynwr y property hwn yw y meistr, golyger fod prynwyr nwyddau mewn siop yn delio a siopwr feI y gwna meistri a gweithwyr; yn rhoddi notice iddo pan y gwelont yn dda, nas gallant hwy fforddio rhoddi. iddo ond hyn a hyn am frethyn neu galico, neu gaws neu gig a bod yn rhaid iddo ef wneud ei feddwl i fyny erbyn eu cyfarfod hwy, y pryn- wyr, pa un a gydsynia efe a'i peidio a'r hyn a benderfynant hwy dalu iddo am ei nwyddau; golyger fod y siopwr yn dweyd nas gall efe fforddio gwerthu y nwyddau am y pris a gynygia y pryn- wyr, ac na byddai y pris hwnw yn ddigon at gael digon o fwyd a dillad iddo ef a'i deulu, a thalu rhent a threthi; golyger hefyd fod y prynwyr yn gwybod y byddai yn ddrwg ar y siopwr iddynt hwy beidio bod yn gwsmeriaid iddo am dri mis ac y byddai, trwy orfod, yn mhen y tri mis, yn gwerthu ei nwyddau iddynt hwy am lai na'u gwerth, o herwydd ei eisiau, fel dyn mewn angen yn gorfod gadael i'r auct- ioneer werthu y cwbl sydd ganddo am lai na'r haner a dalant. Beth a feddylid am gymdeithas o brynwyr gormesol, y rhai a gymerant fanta.is _0'1' fath ar siopwr mewn aingylchiadau cyfyng— cymdeithas a wnaent hyn er mwyn gwneud eu hunain yn foneddigion werth canoedd o filoedd o bunau, ar gefn y bwyd a'r dillad a gaent am bris rhy isel i'r siopwr fyw ? Pa ryfedd, yn ngwyneb y fath ymddygiad, fod y wlad yn cydymdeimlo a'r fath siopwr tlawd ? Os yw athrawiaeth Mr. Wade yn iawn, mai property y gweithiwr yw ei waith, yn gymaint ag y mae nwyddau y siop yn eiddo i'r siopwr, yna y mae y des- grifa 1 uc'iod o ymddygiad prynwyr tuag at siopwr tlawd, ymddibynol, yn bictiwr teg o ymddygiad meistri tuag at y gweithwyr, wrth eu gorfod i dder- byn eyflog rhy isel. O'r ochr arall, os cwsmeriaid y meistri yw y gweithwyr, a bod y meistri yn analluog i roddi i'r gweith- wyr, fel eyflog, ragor na'r hyn sydd yn anigonol at eu cynaliaeth—gan y meistri y mae yr hawl ar eu property eu hunain. Ac nid ydynt dan rwym- au i roddi eu heiddo eu hunain i neb ond ar eu telerau eu hunain. Os cy- byddant hwy eu heiddo, fel na byddo neb yn well o hono os ceisiant fyw heb feddu yr hyn sydd gan y gweith- iwr i'w werthu, nis gall neb amheu eu hawl wlaclol i wneud hyn. Ond yn ngwyneb en bod hwy yn parhau yn foneddigion, a'r gweithiwr yn gorfod ymddibynu ar elusenau, amlwg yw nad yw cyfi awnder yn pleidio y meistri. Nid ydym wrth hyn yn aughofio y buasai sefyllfa y gweithwyr yn wahanol iawn heddyw pe buasai pawb o honynt wedi byw yn gynil, a rhoddi heibio ychydig erbyn dydd caledi yn -amser llwydd- iant. Yn ychwanegol at hyn, dylid ystyr- ied, er fod hawl meddiant yr hyn sydd eiddo iddynt gan y gweithwyr a'r meistri—y gweithwyr yn eu gwaith, a'r meistri yn eu harian i dalu am dano—eto y mae rhwymedigaetbau moesol a chymdeithasol yn nglyn a phob meddiant. Property dyn ei hun yw ei gorif, ond y mae dan rwymau i Dduw a dyn i ddefnyddio y meddiant hwn yn ol y ddeddf foesol, ac i ddy- benion da. Felly y mae rhwymedig- aethau i gymdeiihas, yr hon sydd oddeutu y gweithiwr, yn gorwedd ar ei waith a rhwymedigaethau i gym- deithas yn gyffredinol yn gorwedd ar byllau glo a ffwrnesi y meistri. Nis I gallant ddweyd heb bechu, "cin gwe- fnsau (neu unrhyw beth arall) sydd eiddomni; pwy sydd Arglwydd arnom ni ? Salm. xii. 4. Neu fel Pharaoh, yr hwn a ddywedodd, "Pwy yw yr Arglwydd fcl y gwrandawn i ar ei lais i ollwng Israel ymaith ? Gan hyny, byddai honiad y gweith- wyr neu y meistri, fod eu meddianau hwy—gwaith y gweithiwr ac arian y meistri—yn rhydd o bob cyfrifbldeb, pa fodd y defnydddiant y properties hyn tuag at Dduw a dynion, yn far- baraidd a chwbl groes i reswm, moes- oldeb, a chyfiawilder. Y mae cyfrifoldeb y naill ddyn tuag at y Hall yn cael ei reoleiddio yn ol ei allu, a'r moddion sydd yn ei law. Nid swm yr arian a delir fel eyflog yw unig ffurf cyfiawnder tuag at y xv I gweithiwr. Dylai y meistr ystyried & faint o angenrheidiau bywyd a all y gweithiwr gael am yr arian a roddir iddo. Os bydd yr angenrheidiau hyn yn ddrud, anghyfiawn yw cadw stwr 112awr yn nghylch. fod cyfioggweithwyr wedi myned i fyny dair cymaint ag y bu, fel ffurf o osod allan ei enillion, os bydd ei dreuhau yn bedair cymaint ag oeddynt, pan yr oedd ei gyfiog yn dair cymaint yn llai nag yw. Os gall y meistr bieclio iselder prisoedd haiarn Yll y farchnad, a drudedd glo i wneud haiarn yn rhadlon, fel rheswmi ostwng eyflog y gweithiwr, felly gall y gwoith- iwr bledio fod prisoedd bwyd a dillad y fath iddo fel na all fforddio derbyn y gostyngiad yn ei gyfiog. Ond os hawlia y meistr mai efe sydd yn sefyll yn esgidiau y top-sawyer, ac oblegyd hyny y dylai y gweithiwr roddi ffordd iddo ef, nerth yn unig, nid cyfiawnder, fyddai yr arbitrator, yn ol Y fatb hon- iad. Ni fyddai gobaith y gweithiwr yn hawliau cyfiawnder. Ond. yn ngwyneb gweled gorseddiad nerth gan y meistr uwchlaw cyfiawnder, troai y gweithiwr yn naturiol i gasglu nerth ei hun. Canolbwyntiai ei obaith mewn cafraeliad nerth i gwrdd a nerth y meistr; chwiliai yn nyfnder mor am- gylchiadau, yn nghanol y storom, am ddaear gref nerth arian neu undeb, i dafiu angor ei obaith iddi. Gan fod Hong y meistr yn marchogaeth y sto- rom yn llwyddianus, am fod ei hangor yn dal gafael ddi-ildio mewn nerth, swynir y gweithiwr i'w efelyehu. Y mae wedi gweled nad yw ei waseidd- dra yn ethoiiaclau byrddau ysgol, byrddau iechyd, a byrddau gwarcheid- wyr y tlodion, i roddi pleidlais i'w le) feistr ar gais agents y gwaith, ddim wedi toddi calon y meistr i wneud cyfiawnder ag ef yn ei gyfiog; ac nad yw y meistr yn gwrando mwy ar ei reswm efyn erbyn gostyngiad ei gyflog na phe bae ei reswm yn wbaniad ani- fail. Gan hyny casglu nerth—duw y meistr—yw amcan y gweithiwr. Y mae wedi llwyddo i raddau xnawr. Y mae y gweithiwr wedi llwyddo i gasglu nerth nes y mae meistri wedi pender- fynu chwanegu at eu nerth hwy eu hunain yn hytrach na chynllunio am- modau heddweh, ond yr amod fod y gwanaf i ildio i'r cryfaf. Y mae y gweithiwr yn dangos penderfyniad i fod yr un cryfaf hwnw. Y m&e un meistr wedi dweyd y gwaria efe gan mil o bunau cyn ildio i'r gweithiwr. Gweithiwr oedd y meistr hwn ei liun ychydig flynyddau yn ol. Yn mha le y eafodd efe gan mil o bunau i'w colli, os nad ar gefn gwaith caled y gweith- iwr, yr hwn sydd wedi bod yn ei was- anaethu ? Nid gwiw iddo ddweyd ei fod ef wedi gofalu am ei arian, mwy 'I na miloedd o weithwyr Uawn mor gynil ag yntau, y rhai nad oes gan- ddynt gan swllt i'w colli y mynydhwn. Ni chafodd yntau gan mil 0 bunau erioed wrth weithio, ond wrth gynllun- io a bargeinio, gan ddefnyddio gweith- wyr fel offerynau. Pob parch iddo am ei synwyr, nid am ei law-waith, Ond dylai gofio y graig y naddwyd ef, a cheudod y ffos (weithiol) y cloddiwyd ef o honynt." Nid oes gan feistr, fel dyn, ddim -idc -t' I- mwy 0 hawl i benderfynu swm eyflog y gweithiwr nag. sydd gan y gweithiwr 1 benderfynu beth ddylai enillion y meistr fod. Rhwng y ddau, er mwyn heddweh a llwyddiant, cyflafareddiad a ddylai fod. Y mae cyflafareddiad Mr. W. E. Forster, A.S., yn Durham, trwy ostwng cyfiog y gweithwyr tan- ddaearol bump yn y cant, yn He ugain yn y cant, fel y ceisiai y meistri, yn dangos nad yw y meistri yn rhai y •gellir ymddiried i'w cyflafareddiad mewn dadl. Hysbysir ni fod un o'r meistri yn foddlon i benderfyniad Mr. Forster. Cyfiawnder yw ein pie 11i, nid trwch blewyn 0 anhegweh tuag at y meistri na'r gweithwyr.
~~~CWM RHONDDA.'
CWM RHONDDA. DYMUNA Pwyllgor Gweithredol Llwyny- pia gyduabod derbynir-d y symiau can- lynol am yr wythnos yn diweddu Ebrill 24ain:—D. Jones, 10s.; R. L. Smith (Homo Ddu), 5s,; W. Cadwaladr, 4s.; James Morgans, 6s.; W. Jones, 2s.; Cwm Clydach, 17s.; cyfaill o Benygraig, 5s.; masnachwyr Tonypandy, Coedymeibionc Llwynypia, a Threalaw, £ 3 6s.; gwaith Llwynypia, 4s.; Mr. Howells, White Rock, Is.; Mr. Rees, Butcher's Arms, 2s. 6c.; Mr. Price, Is.; Mr. Rowlands, Is.; Mrs. Roberts, Turberville Hotel, Is.; Siop y Gareg, Is.; Mr. Thomas, Swan, 2s. 6c. Yr wythnos yn diweddu lYIai laf: —Siop y Gareg, Is.; Penygraig, E2 18s.; ma&nachwyr Tonypandy, Coedynieibion, LiWynypia, a Threalaw, £1 19s. YSG. O.Y.-Os oes amheuaeth yn meddwl Mr. Thomas, Swan Inn. am gywirdeb fy atcbiod yn y Western Had, gall gael y Uyfrau i'w harchwilio yr adeg y myno. —Y.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. Cynaliwyd cymanfa ysgolion cylch Cas- t'ellnedd, fel arfer, y Sul cyntaf o Pai, yn Bethlehem. Daetb ysgolion Melin- crythan, Henfaes, Aberdulais, Resolven, Sciwen,a Bethlehem yn nghyd yn bryd- lon erbyn 10 o'r gloch. Holwyd tair y boreu a thair y prydnawn ar benodau o Uyfforcklwr Charles gan y Parchn. P. J. Waiters, T. Levi, J. Evans, Llanelli, a S. Davies, Sciwen. Hon yw y gymanfa henaf yn Nghymru, wedi ei chadw yn mlaen yn ddidor er dyddiau ei sylfaenydd, y diweddar Ebenezer Richards. Mae yn parhau i gynyddu mewn rhif a dylan- wad, ac er yn hen, yn gwisgo agwedd ieuanca blodeuog iawn. Methai ugein- iau a chael my,nediacl i mewn eleni o ddiffyg lie. Yr oedd y canu hefyd yn effeithiol iawn, dan arweiniad Mr. W. Herbert, Resolven. Cynaliwyd rehearsal nos Lun, er myned dros y ton an a'r ddwy anthem, ".Par i mi wybod dy ffyrdd" ac "Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost n," a syiwodd y Parchn. P. J. Walters a T. Levi wrth gairmol v canu gwresog a difrifol y byddent yn dysgwyl gweled y canu Cy- mreig yn cael ei ddilyn a'r un bendith- ion a chanu Mr. Sankev. Traddododd y Parch. T. Levi anerchiad da hefyd ar lafur y Mri. Moody a Sankey. NEDDFAB.
ABERDAR.
ABERDAR. QYNALnVYD cyfarfod chwarterol Urdd yr Hen Frytaniaid, adran Aberdar, yn ys- tafell Cyfrinfa Rhys ab Tewdwr, New Inn, Trecynon, dydd Llun diweddaf. Daeth yr holl gynrychiolwyr yno yn brydlon erbyn yr amser apwyntiedig. Mae yn dda genym hysbysu fod golwg iachus ar Urdd yr Hen Frytaniaid yn Aberdar, er fod cymylau duon yn aros uwch ein penau er ys deunaw wythnos, Derbyniadau y chwarter ydynt £6,1< 3s. Talwyd allan ar farwolaethau, &c., yn ystod y chwarter £ 46 7s. 3c.; felly ckwi welwch fod enill yr adran yn £2215s. 6c. Daeth cais am agor cyfrinfa newydd o Giigeran, sir Benfro, a phenderfynoddy cyfarfod fod swyddogion yr adran ac ereill i fynecl yno i'w hagor mor fuan ag y gellir. Siaradwyd yn y cyfarfod chwarterol diweddaf ar ledaeniad yr Urdd, a cbafwyd anogaeth i hyny, Tua. chwech wythnos yn ol, aeth Mr. David Griffiths, ysgrifenydd yr adran, i lawr i sir Benfro, a llwyddodd i gael cyfrinfa yn Giigeran, a chyn ei hagoriad yr aelod- au yn rhifo 38. Gobeithio y bydd i'r egwyddorion hyn ledaenu o Gilgeran dros sir Benfro, ac oddiyno i Aberteifi, ac i'r Ian gyda glan y mor trwy Ogledd Cymru, nes llanw y wlad yn gyfangwbl, o Gaergybi i Gaerdydd, ac o G aerdydd i Tyddewi. Eiiyr GLAN CrNoN. Cymanpa Gerddorol.—Dydd Llun di. weddaf cynalioddMethodistiaid dosbarth isaf Aberdar, eu Cymanfa Gerddorol, dan arweiniad yr enwog Ieuan Gwyllt. 1:1 y Cynaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Mount- ain Ash; yr ail yn Nazareth, Aberdar; a'r trydydd yn nghapel eang a hardd y Bedyddwyr Cymreig, Aberdar, yr hwn y rhoddwyd ei fenthyg i eglwys Bethania, er cynal cyfarfod olaf y Gymanfa. Y mae cymaint wedi ei ysgrifenu am y canu, fel mai ofer dweyd dim am ei ragoriaeth. Gallwn ddwevd na chlyw- som ac na theimlasom y fath beth mewn cysylltiad a chanu. MARWOLAETH SIDYN.-Boren dydd Snl diweddaf, wedi i Mrs. Antony, priod Mr John Antony, masnachydd, cldjrchwelyd o'r capel, ac eistedd wrth giniaw, ymaf- Iwyd ynddi gan apo-planj, a bu farw mewn ychydig oriau. Uchel Gwnstable.—Y mae yn dda. genym ddeall mai Mr. D. Davies, Canton House, sydd wedi cael ei apwyntio yn Uchel Gwnstabl am y tiwyddyn nesaf. Aiichwiliad CyraEiTHiOL.—Yn mhlith. y rhestr boneddigion a, fuout yn llwydd- ianus i basio yr Arci.wiliad Cyfreithiol terfynol, yn Llundain, ar yr 21ain, a'r 22ain o'r mis diweddaf, yr oedd yn dda genym ganfod enw Mr. David Richards, Aberdar, yr hwn syddynnai i G. Davies, Ysw., Ynyslwyd. G-wasauaethedd Mr. Richards ei dymor gyda 1. D. Rees, Ysw,