Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

ENLLIB YR HEN O'R WR CWM YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ENLLIB YR HEN O'R WR CWM YN 'LLAIS Y WLAD,' Y mae'n arferiad atgas iawn gan y go- hebydd uchod pan yn ysgrifenu i Llais y Tllad, o drin cymeriadau gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, ac un henaf- gwr sydd a'i wallt yn gwynu, ac wedi bod yn y weinidogaeth Annibynol am yr ysbaid o bum deg a thair o fiynyddoedd. Oofied' yr Hen Vr o'r Cwm (os ben wr o gwbl) mai "Gorddwys yw'r hen pan gerddo,—a'i weinion Ewynau'n diffygio; Gormod y benod tra bo, Lle rhedodd, allu rhodio. Er mwynhau rhadau rheidiol,-a meddu Pob moddion tymhorol, Ni werthir yn ei wrthol Ddoe i neb-ni ddaw yn ol." Y mae'n gywilydd i oracl o eglwyswr fel hwn i fyned i enllibio a diraddio trigolion yr Alltwen, Pontardawe, a Llangiwc, a'u harferiadau mewn cysyllt- iad a chladcVr meirw. Yr wyf yn sicr nad oes yr un gymydogaeth yn Nghymru a'i thrigolion yn dangos mwy o foesgar- wch a gweddeidd-dra mewn angladdau nag sydd yn y cymydogaethau ucbod. Paham y mae y dyeithrddyn hwn yn myned i ganfod brychau sydd ar ereill, heb ganfod y trawst sydd yn ei lygad ei- bun ? Dyfynaf ychydig o ragoroldeb ei ysgrif, fel engraifft i'r darllenydd gael mantsis i farn™ drosto ei bun. "Decbreuais gondemnio yr arferiad atgas a ffol sydd yn y dyffryn hwn o bregethu mewn bythynod a thai ar ddyddiau angladdau yn fy llith ddiwedd- af, ac yr wyf yn meddwl gorplieii fy sylwadan y tro hwn. Er mwyn dangos afresymoldeb yr arferiad, rhoddaf ddar- lun mor gywir a gwirioneddol ag a allaf o un or cyfarfodydd pregetbu hyn, yr hyn a gymerodd Ie yn agos i'r fan lie y preswylia eich gohebydd oedranus. Yr oedd yno hen wraig wedi teithio y llwybr anychweledig, a chan ei bod yn perthyn i'r Ymneiflduwyr, yr oedd yn rhaid cael y gweinidog yno i ddywedyd wrth ei pherthynasau a'i chymydogion pa fodd yr aeth yr hen wreigan yn ddy- ogel i dir y bywyd; oherwydd maent hwy, chwareu teg iddynt, yn wastad yn rhoddi nefoedd i'w pobl. Maent yn gristionogol iawn yn yr ystyr hwn. A chan fy mod i yn hofÍ iawn o hen bobl a defaid gwynion yr achos, aethum gyda y dyrfa i dalu y deyrnged olaf o barch i'r hen chwaer dduwiol hon. Wedi cyr- haedd y bwthyn bach, cul, isel, tywyll, cyfyng, He y bu-yn ymdrechu ag angeu, cefais allan ei fod yn llawn o bobl, a lluaws yn sefyll y tuallan. Dywedodd rhywun yn dosturiol ac ystyriol iawn wrth y lluaws am roddi lie i mi wanu fy mhig i fewn yn rhywle yno. Ymwth- iais i fewn, ac yr oeddwn mor dyn yn y dorf, fel nas gallaswn symud bys na chymal. Yr oedd fy nhraed ar y llawr, a- fy mhen wrth nen y bwthyn, y bobl o amgylch, a'r pregethwr patriarchaidd ger y pared yn dal ei ganwyll frwynen yn un llaw, a'r Testament Newydd yn y llaw arall. Wedi ceisio canu hymn, a chadw y SWll rhag suddo yn y to gwellt nwchben, gweddiwyd yn hir ac yn faith iawn gan y llefarwr, a rhoddodd hanes bywyd yr hen chwaer, druan, bron i gyd i'w Dad nefol, a dywedodd wrtho ei fod ef yn barnu yn gydwybodol ei bod yn addfed i'r nefoedd. Mewn gwirionedd, bu y gwr o lefarwr yn rhoddi testimonial ffamws i'r ymadawedig o'r dechreu i'r diwedd. A thra yr oedd efe yn siarad a Tbad y tragareddau." am fywyd di- halog yr hen wraig, yr oedd swn y gwynt a'r gwlaw yn chwibanu yn y simne ddellt, a danedd oerion y cyfeillion o'r tu allan yn curo yn erbyn en gilydd, a'u traed yn curo y ddaear, fel rhai yn ceisio lladd anghysur drwy ddamsang ar ei ben. Ar ol hir weddio yn ei sefyll" ger y pared, cafwyd hymn drachefn gan yr hen batriarch a'r dorch wen, a rheffyn ffitmwB o bregeth o ran ei hyd-y testyn oedd y darn goreu o honi o ddigon. Nid wyf yn gwybod pa fodd y teimlai y brodyry tu allan-oherwydd allan yr oedd y lluaows-ond yr oeddwn i bron cael digon aj* fy einioes y tu fewn, gan mor dyn yr oedd hi, a gwn yn dda na bu neb yn llawer llawnach ei enaid ar ol aros yn y fan hono i lethu eu gilydd am oddeutu awr a haner. Am y rhai y tu allan, yr wyf yn gwbl argyhoeddedig mai rhegn y llefarwr yn y cnawd yr oeddynt hwy. Yn enw pob rheswm, ynte, beth ydyw dyben rhyw ffug-ddaioni o'r fath ? A all rhywun roddi rhyw fath o reswm dros y fath ffwlbri? Nid oes eisieu pregethu mewn cynhebrwng; y mae y marw yn ddigon o bregeth i un dyn ystyriol; a dylai y bobl gael llonydd i fyfyrio mewn dystawrwydd ar yr am- gylchiad. Os pregethu o gwbl, gofaler fod y ty yn ddigon o faintioli i gynwys y bobl i gyd, neu dyweder yn mlaen llaw pwy sydd i fod allan, fel y gallo y rhai hyny aros gartref hyd nes y byddo yr angladd yn cychwyn i ffwrdd." Wel, ddarllenydd, yr wyf yn sicr dy fod yn hollol o'r un farn a minau, o barthed yr ysgrif hon. Yn enw pob rheswm, pa beth a gynhyrfodd y dyn ag sydd yn proffesu ei hun yn arweinydd y bobl, heb fod dair milldir o Bontardawe, i wneuthur y fath beth a hyn P Byddai yn fwy caruaidd i'r Hen Wr o'r Cwm i gynorthwyo ei gyfaill ar ol dyfod o Abertawe gyda'r tren na gwneuthur nodiadau o'r fath yn Llais y Wlacl, a gadael i heddgeidwad hebrwng pobl dda tuag adref. Yr wyf yn gwneud y nodiadau hyn er amddiffyn trigolion y lleoedd crybwyll. edig.—Yr eiddoch yn barchus, TAWENFRYN.

BLAENYCWM, TBEHEEBEET.

SALEM, ABERDAR.

HELYNTION Y BEIRDD.

0 GILFACHAU'R GRAIG.

CYMANFA GERDDOROL DOSBARTH…

CYMANFA GERDDOROL ABERDAR.

PEIRIANWYR ABERDAR.

AT Y BEIRDD.

BETH YDWYF.

C YFLAFAEEDDIAD.

^ ENGLYN I'R FFYNON.

ENGLYN I DEWI WYN 0 ESSYLLT.

YR HAELIONUS.

CRIST YN CARIO'R GROES.

CYNGOR I'R MEDDWYN.

IS 'Y GWANWYN.

YE ENETH DDUWIOL YN MAEW.

ANUN.

TAFOD BENYW. (/