Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

ENLLIB YR HEN O'R WR CWM YN…

BLAENYCWM, TBEHEEBEET.

SALEM, ABERDAR.

HELYNTION Y BEIRDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELYNTION Y BEIRDD. DIGRIF iawn ydyw darllen helyntion y beirdd; bodau rhyfedd ydynt; y mae rhywbeth neu gilydd yn tynu eu sylw yn barhaus. Y mae Prydydd a Barcud yn ddoniol, ac y maent wedi creu rhywysfa ynof finau i ysgrifenu llith. Y mae Hedydd Cynon wedi digio yn anfaddeuol wrth Prydydd am ddweyd ei fod ef yn Helfa Cwmdar, canys yr oedd ef wrth y bedd" ar y cyfryw amser, yn ceisio portread o hono er boddloni Onllwyn. Dywedir fod Dryw wedi dychrynu y beirdd, a'u bod wedi cilio a gadael ei engiyn yn satbrfa dan draed; ond y mae Prydydd y Coed wedi tosturio ac wedi ei osod wrth ei gilydd. Lied debyg fod Tiberog yn ddiwyd iawn yn parotoi Rhamant Gymreig ar ddyrchafiad a darostyngiad pob math o adar, ac i'w chyhoeddi pan y caffo amser cyfaddas. Digon tebyg fod Dar- onwy wedi rhoddi heibio ysgrifenu am ryw ychydig beth bynag, oblegyd y mae mae ganddo waith lawer mwy pwysig i'w gyflawni. Y mae William Davies yn lied aw- grymu mai Cynonfryn sydd yn holi am gyfansoddiadau eisteddfod y Gloch Las, a'i fod am eu hargraffu am ei fod ef yn rhan-berchenog o honynt, gan gredu y caiff dipyn o elw oddiwrthynt. Digon tebyg fod y rhan fwyaf o'r cyfansodd- iadau gan Dewi Iago, a pheth gan Ti- berog. Amser da yw amser y strike i gyhoeddi llyfrau. Beth pe byddent yn cael eu cyhoeddi yn y DARIAN, fyddai hyny ddim yn ffol. Digon tebyg fod Gwilym Clan Tawe wedi ymgolli yn swn yr etholiad di- weddaf, a gofynir tipyn o amser cyn y daw i'w Ie. Mae amryw o'r beirdd am wneud deis- eb o anghymeradwyaeth i bwyllgor Eis- teddfod Treherbert y Groglith ddiwedd- af am atal y wobr oddiwrth Brynfab. Digon tebyg y bydd Brynfab yn barod i gasglu yr enwau. Mae Darlwyn wedi rhoddi heidio y bwriad o fyned i Patagonia, y mae yn credu y gall wneud yn well wrth fyned yn llyfr-rwymydd yn yr hen wlad. Digon tebyg y bydd yn rhaid i Gwilym ab loan fod a'i arfau yn barod i amddi- ffyn ei hun, oblegyd y mae rhai o'r beirdd yma yn bygwth tynu yr ysgrafell dros rai o gyfansoddiadau Eisteddfod y Cross Inn, a chwi wyddoch o'r goreu, Mr. Gol., sut fechgyn yw'r beitdd yma, os ta- rawiff rhywbeth yn eu penau, 'does dim shwd beth a'i gael oddiyno wed'yn. Lied debyg y collwn Dafydd Morganwg am dipyn yn awr, oblegyd y mae yn myned am dro i dywyll leoedd y ddaear i chwilio y Pagan goreu. Gobeithio y daw yn ol yn ddianaf. Terfynaf yn awr gan ddweyd,— Hwre, boys, er gorthrymder byd,-canwn Er mewn cyni dybryd; Ar ucbel dyrau iecbyd,—'r awen gu A wnawn ddyrchafu yn ddewrwych hefyd. NED Y BARDD.

0 GILFACHAU'R GRAIG.

CYMANFA GERDDOROL DOSBARTH…

CYMANFA GERDDOROL ABERDAR.

PEIRIANWYR ABERDAR.

AT Y BEIRDD.

BETH YDWYF.

C YFLAFAEEDDIAD.

^ ENGLYN I'R FFYNON.

ENGLYN I DEWI WYN 0 ESSYLLT.

YR HAELIONUS.

CRIST YN CARIO'R GROES.

CYNGOR I'R MEDDWYN.

IS 'Y GWANWYN.

YE ENETH DDUWIOL YN MAEW.

ANUN.

TAFOD BENYW. (/