Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
ENLLIB YR HEN O'R WR CWM YN…
ENLLIB YR HEN O'R WR CWM YN 'LLAIS Y WLAD,' Y mae'n arferiad atgas iawn gan y go- hebydd uchod pan yn ysgrifenu i Llais y Tllad, o drin cymeriadau gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, ac un henaf- gwr sydd a'i wallt yn gwynu, ac wedi bod yn y weinidogaeth Annibynol am yr ysbaid o bum deg a thair o fiynyddoedd. Oofied' yr Hen Vr o'r Cwm (os ben wr o gwbl) mai "Gorddwys yw'r hen pan gerddo,—a'i weinion Ewynau'n diffygio; Gormod y benod tra bo, Lle rhedodd, allu rhodio. Er mwynhau rhadau rheidiol,-a meddu Pob moddion tymhorol, Ni werthir yn ei wrthol Ddoe i neb-ni ddaw yn ol." Y mae'n gywilydd i oracl o eglwyswr fel hwn i fyned i enllibio a diraddio trigolion yr Alltwen, Pontardawe, a Llangiwc, a'u harferiadau mewn cysyllt- iad a chladcVr meirw. Yr wyf yn sicr nad oes yr un gymydogaeth yn Nghymru a'i thrigolion yn dangos mwy o foesgar- wch a gweddeidd-dra mewn angladdau nag sydd yn y cymydogaethau ucbod. Paham y mae y dyeithrddyn hwn yn myned i ganfod brychau sydd ar ereill, heb ganfod y trawst sydd yn ei lygad ei- bun ? Dyfynaf ychydig o ragoroldeb ei ysgrif, fel engraifft i'r darllenydd gael mantsis i farn™ drosto ei bun. "Decbreuais gondemnio yr arferiad atgas a ffol sydd yn y dyffryn hwn o bregethu mewn bythynod a thai ar ddyddiau angladdau yn fy llith ddiwedd- af, ac yr wyf yn meddwl gorplieii fy sylwadan y tro hwn. Er mwyn dangos afresymoldeb yr arferiad, rhoddaf ddar- lun mor gywir a gwirioneddol ag a allaf o un or cyfarfodydd pregetbu hyn, yr hyn a gymerodd Ie yn agos i'r fan lie y preswylia eich gohebydd oedranus. Yr oedd yno hen wraig wedi teithio y llwybr anychweledig, a chan ei bod yn perthyn i'r Ymneiflduwyr, yr oedd yn rhaid cael y gweinidog yno i ddywedyd wrth ei pherthynasau a'i chymydogion pa fodd yr aeth yr hen wreigan yn ddy- ogel i dir y bywyd; oherwydd maent hwy, chwareu teg iddynt, yn wastad yn rhoddi nefoedd i'w pobl. Maent yn gristionogol iawn yn yr ystyr hwn. A chan fy mod i yn hofÍ iawn o hen bobl a defaid gwynion yr achos, aethum gyda y dyrfa i dalu y deyrnged olaf o barch i'r hen chwaer dduwiol hon. Wedi cyr- haedd y bwthyn bach, cul, isel, tywyll, cyfyng, He y bu-yn ymdrechu ag angeu, cefais allan ei fod yn llawn o bobl, a lluaws yn sefyll y tuallan. Dywedodd rhywun yn dosturiol ac ystyriol iawn wrth y lluaws am roddi lie i mi wanu fy mhig i fewn yn rhywle yno. Ymwth- iais i fewn, ac yr oeddwn mor dyn yn y dorf, fel nas gallaswn symud bys na chymal. Yr oedd fy nhraed ar y llawr, a- fy mhen wrth nen y bwthyn, y bobl o amgylch, a'r pregethwr patriarchaidd ger y pared yn dal ei ganwyll frwynen yn un llaw, a'r Testament Newydd yn y llaw arall. Wedi ceisio canu hymn, a chadw y SWll rhag suddo yn y to gwellt nwchben, gweddiwyd yn hir ac yn faith iawn gan y llefarwr, a rhoddodd hanes bywyd yr hen chwaer, druan, bron i gyd i'w Dad nefol, a dywedodd wrtho ei fod ef yn barnu yn gydwybodol ei bod yn addfed i'r nefoedd. Mewn gwirionedd, bu y gwr o lefarwr yn rhoddi testimonial ffamws i'r ymadawedig o'r dechreu i'r diwedd. A thra yr oedd efe yn siarad a Tbad y tragareddau." am fywyd di- halog yr hen wraig, yr oedd swn y gwynt a'r gwlaw yn chwibanu yn y simne ddellt, a danedd oerion y cyfeillion o'r tu allan yn curo yn erbyn en gilydd, a'u traed yn curo y ddaear, fel rhai yn ceisio lladd anghysur drwy ddamsang ar ei ben. Ar ol hir weddio yn ei sefyll" ger y pared, cafwyd hymn drachefn gan yr hen batriarch a'r dorch wen, a rheffyn ffitmwB o bregeth o ran ei hyd-y testyn oedd y darn goreu o honi o ddigon. Nid wyf yn gwybod pa fodd y teimlai y brodyry tu allan-oherwydd allan yr oedd y lluaows-ond yr oeddwn i bron cael digon aj* fy einioes y tu fewn, gan mor dyn yr oedd hi, a gwn yn dda na bu neb yn llawer llawnach ei enaid ar ol aros yn y fan hono i lethu eu gilydd am oddeutu awr a haner. Am y rhai y tu allan, yr wyf yn gwbl argyhoeddedig mai rhegn y llefarwr yn y cnawd yr oeddynt hwy. Yn enw pob rheswm, ynte, beth ydyw dyben rhyw ffug-ddaioni o'r fath ? A all rhywun roddi rhyw fath o reswm dros y fath ffwlbri? Nid oes eisieu pregethu mewn cynhebrwng; y mae y marw yn ddigon o bregeth i un dyn ystyriol; a dylai y bobl gael llonydd i fyfyrio mewn dystawrwydd ar yr am- gylchiad. Os pregethu o gwbl, gofaler fod y ty yn ddigon o faintioli i gynwys y bobl i gyd, neu dyweder yn mlaen llaw pwy sydd i fod allan, fel y gallo y rhai hyny aros gartref hyd nes y byddo yr angladd yn cychwyn i ffwrdd." Wel, ddarllenydd, yr wyf yn sicr dy fod yn hollol o'r un farn a minau, o barthed yr ysgrif hon. Yn enw pob rheswm, pa beth a gynhyrfodd y dyn ag sydd yn proffesu ei hun yn arweinydd y bobl, heb fod dair milldir o Bontardawe, i wneuthur y fath beth a hyn P Byddai yn fwy caruaidd i'r Hen Wr o'r Cwm i gynorthwyo ei gyfaill ar ol dyfod o Abertawe gyda'r tren na gwneuthur nodiadau o'r fath yn Llais y Wlacl, a gadael i heddgeidwad hebrwng pobl dda tuag adref. Yr wyf yn gwneud y nodiadau hyn er amddiffyn trigolion y lleoedd crybwyll. edig.—Yr eiddoch yn barchus, TAWENFRYN.
BLAENYCWM, TBEHEEBEET.
BLAENYCWM, TBEHEEBEET. DYDD Llun, Ebrill 19eg, rhybuddiwyd ni fod cyfarfod pwysig i'w gynal ar lan afon Rhondda, gyda'r bwriad o ymdrin a materion neillduol. Ond yr amser a ddaeth, a'r siaradwyr aymddangosasant. Y pwnc oedd y levies er cynorthwyo y dyoddefwyr ar yr adeg gyfyng bresenol. Dywedodd y dyeithriaid ar g'oedd pawb nad oedd hen weithwyr Blaenycwm yn deilwng o'r enw dynion o gwbl, am nad oeddynt yn gwneud eu rhan yn yr adeg bresenol. Dywedaf finau mai ychydig o'r hen weithwyr sydd ar ol yn hyn o beth a phan y terfyna yr anghydfod hwn, cawn hamdden i ddangos byny, pan y bydd cyfran pob un ar gyfer ei enw ar dudalenau y DARIAN yna ceir gweled grym yr ymresymiad dan sylw, heb son am y draiferth ydym yn gael gyda'r dy- eithriaid crwydrol sydd yn astudio pob cyfrwysdra er gwrthod talu eu cyfran- iadau er cynorthwyo eu brodyr dewr ar L faes y frwydr, a thrwy hyny yn tynu anfri arnom ni. Ond gofaled y sawl sydcl. yn siarad heddyw rhag syrthio yn enog o fagu'r giwaid hyny sydd yn boen i lawer y dyddiau hyn, canys hawdd yw rhoddi i bob un ei gymeriad cyfiawn ei hun, yr hyn a wnawn yn Blaenycwm, yn hen ac ieuanc, fel y caffo'r ychydig hen weithwyr hyny ddwyn en gwarth en hunain. Llonydded pawb nes cael ty- wydd teg ar ol y storm bresenol, gan ddysgwyl am yr adroddiad mawr di- weddaf, yn ol bwriad y pwyllgor. GWILYM O'R MYNYDD.
SALEM, ABERDAR.
SALEM, ABERDAR. CYFARFOD YMADAWOL.—Nos Fawrth, cynaliwyd cyfarfod yn y lie uchod, mewn cysylltiad ag ymadawiad y cyfaill ieu- anc, Daniel Evans, a gwlad ei enedig- aetli, er myned tua Queensland. Llyw- yddwyd y cyfarfod yn ddeheuig gan Mr. William Jones, diacon o'r eglwys. Adroddwyd yn hynod bwrpasol gan D. Davies, E. Jones, J. Arthur, W. Samuel a W. Evans. Canwyd yn swynol gan J. Thomas, J. Jones, Tom Jones (bach- gen 4 blwydd oed), a'r cor dan arweiniad R. Hopkins. Chwareuwyd ar yr harmon- inm gan John Jones ac E. Jones. Caf- wyd areithiau gan George Harrison, R. Hopkins, a J. Jones. Yn ystod y cyfar- fod gwobrwywyd y cyfaill a Beibl hardd, rhodd yr Ysgol Sabothol. Wedi talu diolchgarwch i'r llywydd, ac i'r rhai fu yn gwasanaethu, terfynwyd y cyfarfod, gan ddymuno llwyddiant i'r cyfaill yn mhob ystyr.-UN OEDD YNO.
HELYNTION Y BEIRDD.
HELYNTION Y BEIRDD. DIGRIF iawn ydyw darllen helyntion y beirdd; bodau rhyfedd ydynt; y mae rhywbeth neu gilydd yn tynu eu sylw yn barhaus. Y mae Prydydd a Barcud yn ddoniol, ac y maent wedi creu rhywysfa ynof finau i ysgrifenu llith. Y mae Hedydd Cynon wedi digio yn anfaddeuol wrth Prydydd am ddweyd ei fod ef yn Helfa Cwmdar, canys yr oedd ef wrth y bedd" ar y cyfryw amser, yn ceisio portread o hono er boddloni Onllwyn. Dywedir fod Dryw wedi dychrynu y beirdd, a'u bod wedi cilio a gadael ei engiyn yn satbrfa dan draed; ond y mae Prydydd y Coed wedi tosturio ac wedi ei osod wrth ei gilydd. Lied debyg fod Tiberog yn ddiwyd iawn yn parotoi Rhamant Gymreig ar ddyrchafiad a darostyngiad pob math o adar, ac i'w chyhoeddi pan y caffo amser cyfaddas. Digon tebyg fod Dar- onwy wedi rhoddi heibio ysgrifenu am ryw ychydig beth bynag, oblegyd y mae mae ganddo waith lawer mwy pwysig i'w gyflawni. Y mae William Davies yn lied aw- grymu mai Cynonfryn sydd yn holi am gyfansoddiadau eisteddfod y Gloch Las, a'i fod am eu hargraffu am ei fod ef yn rhan-berchenog o honynt, gan gredu y caiff dipyn o elw oddiwrthynt. Digon tebyg fod y rhan fwyaf o'r cyfansodd- iadau gan Dewi Iago, a pheth gan Ti- berog. Amser da yw amser y strike i gyhoeddi llyfrau. Beth pe byddent yn cael eu cyhoeddi yn y DARIAN, fyddai hyny ddim yn ffol. Digon tebyg fod Gwilym Clan Tawe wedi ymgolli yn swn yr etholiad di- weddaf, a gofynir tipyn o amser cyn y daw i'w Ie. Mae amryw o'r beirdd am wneud deis- eb o anghymeradwyaeth i bwyllgor Eis- teddfod Treherbert y Groglith ddiwedd- af am atal y wobr oddiwrth Brynfab. Digon tebyg y bydd Brynfab yn barod i gasglu yr enwau. Mae Darlwyn wedi rhoddi heidio y bwriad o fyned i Patagonia, y mae yn credu y gall wneud yn well wrth fyned yn llyfr-rwymydd yn yr hen wlad. Digon tebyg y bydd yn rhaid i Gwilym ab loan fod a'i arfau yn barod i amddi- ffyn ei hun, oblegyd y mae rhai o'r beirdd yma yn bygwth tynu yr ysgrafell dros rai o gyfansoddiadau Eisteddfod y Cross Inn, a chwi wyddoch o'r goreu, Mr. Gol., sut fechgyn yw'r beitdd yma, os ta- rawiff rhywbeth yn eu penau, 'does dim shwd beth a'i gael oddiyno wed'yn. Lied debyg y collwn Dafydd Morganwg am dipyn yn awr, oblegyd y mae yn myned am dro i dywyll leoedd y ddaear i chwilio y Pagan goreu. Gobeithio y daw yn ol yn ddianaf. Terfynaf yn awr gan ddweyd,— Hwre, boys, er gorthrymder byd,-canwn Er mewn cyni dybryd; Ar ucbel dyrau iecbyd,—'r awen gu A wnawn ddyrchafu yn ddewrwych hefyd. NED Y BARDD.
0 GILFACHAU'R GRAIG.
0 GILFACHAU'R GRAIG. AM y mis diweddaf, gwelsom ddarlun a chofnodiant byr o Mr. Williams, Goitre, yn y Dhoygi/i vr a Thywysydd y Plant. Cyf- aill mynwesol ydyw Mr. Williams. Er fod cryn wahaniaeth yn nghwrs oedran Mr. Williams a minau, eto cawsom fantais dda i'w adnabod fel Cristion a chymydog yn y blynyddoedd y bu yn aros ar Hir- waun, lie y dechreuodd ei yrfa fydol, y casglodd lawer o'i gyfoeth ac y ifurfiodd iddo ei hun gymeriad diamheuol fel Cristion a dyn duwiol. Llafuriodd Mr. Williams yn galed gyda'r eglwys yn Nebo pan oedd yr hen gapel yn ei ffnrf gyntaf, a gall ef roddi hanes crefydd yn ei gwahanol agweddau yn eglwys Nebo, Hirwaun, yn ogystal a neb. Gallai Mr. Williams a ninau eisiedd yn nghynull- eidfa Nebo yn awr, a gofyn am y tadau a laiuriasant, pa le y maent, a llu o wyneb- au cyfeillion boreuol ein hoes, Ie, a'n rhieni duwiol a'n magodd. Gall Mr. Williams, oddiar yr un rheswm a ninau, fod a chanolbwynt ei serchiadau o fewn i fynwent gysegredig Nebo, Hirwaun, am mai o fewn i'r fynwent hono y gor- wedd ein rhieni, a rhai o'n hen athrawon yn yr Ysgol Sul, hen arweinyddion per- erinion Seion. Coffa da am enw mam Mr. Williams, Susannah, hen foneddiges anrhydeddus a bendigedig yn mhlith hen chwiorydd anwyl Nebo, wedi ei thrwytho yn nghelwrn gras, acwedi'byw ar hydei hoes yn nghanol llwybrau rhinwedd a daioni; ond y mae hi, fel ein hanwyl fam ein hunain, wedi myned adref i ogouiant oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Wrth godi coffa fel yma am danynt, cwyd awydd ynom i ail feddianu eu hoff gymdeithas yn ngwlad lonydd yr aur delynau, a byddai yn werth nofio trwy for o ddagrau bywyd er cael eu cwmni ar orielau y ddinas hedd yn nghymdeithas y pen aur coronog. Coffa da am enwau ei frodyr parchus, sef Mri. William a John Williams, y naill yn arosol yn yr hen gartref, Hirwaun, a'r llall arHeoly- felin, Aberdar. Ymdrechodd Mr. John Williams lawer gyda'r canu yn Nebo, a daeth braidd yn ddiguro fel arweinydd y gan, ac nid llawer o gorau y byd cerdd- orol allasai guro cor Nebo y pryd hwnw pan oedd y tri brawd gyda'r gatrawd gerddorol. Yn wir, mae yn dda gan ein calon weled Nebo yn eadw ei chymeriad cerddorol mor dda a diguro yn y bly- nyddoedd hyn. Gallwn ddweyd yn awr fod Mr. Thos. Williams genym yn ein llyfrgell, a bydd yn gymhorth i ni ddwyn ar gof yr hyn oedd Mr. Williams a'r hyn ydyw yn awr. Da genym weled Mr. Williams yn dringo mor uchel yn serch y wlad, ac yn enill iddo ei hun safle mor anrhydeddus yn mhlith mawrion mewn awdurdod. Yn uwch, uwch yr el, Dringed i gadair angel." Llwydd yn rhwydd, a'r byd heb groes hyd ddiwedd ei oes i Mr. a Mrs. Williams, a. chofion gant fel cantoedd o fryniau atynt yw gwir ddymuniad calon hen gy- mydog. Pontypridd. ERYR MORGANWG.
CYMANFA GERDDOROL DOSBARTH…
CYMANFA GERDDOROL DOS- BARTH ABERAFON. DYDD Mercher diweddaf, cynaliwyd y gymanfa uchod yn Carmel, Aberafon, dan arweiniad Ieuan Gwyllt. Dechreu- wyd y cyfarfod 10 o'r gloch gan yr enwog fardd-bregethwr, Rhydderch ab Morgan. Llywyddwyd gan y Parch. W. Jones, Cwmafon. Gan i Ieuan Gwyllt fethu dyfod nes i'r cyfarfod agos fyned drosodd, dewiswyd Mr. D. Ware yn arweinydd hyd nes y delai. CanwydLlangoedmor, Erfyniad, Beulah, Psalmdon li., Iesu o Nazareth, Leipsic, Lledrod, a Dim ond y Dail. Yna daeth Ieuan Gwyllt i fewn, a chymerodd yr arweiniad ar St. John, wedi rhoddi ychydig eglurhad pa fodd na buasai efe yno yn gynt. Yr oedd y teimlad yn drydanol ar y don hon, a gorfu i mi ac ereill gan deimlad adael y canu. Canwyd Par i mi wybod dy ffyrdd, a diweddwyd gan Mr. E. Thomas, Llansawel. Dechreuwyd cyfarfod 2 o'r gloch gan y Parch. Mr. Stephens, Melincrythan. Canwyd Llangan, Psalmdon xxiii., Yn y man, Grafenberg, Psalm i., Capel Cynon, Caio, Y Ddafad Golledig, ac Arglwydd Chwiliaist (anthem), atherfynwydy cyf- arfod gan y Parch. Mr. Stephen, Wern, Aberafon. Nid oedd y cyfarfod hwn mor hwylus a'r un y boreu. Dechreuwyd cyfarfod chwech o'r gloch gan y Parch. Mr. Jenkins, Aberafon, a chanwyd yr hen don fawreddog Moriah gyda nerth a dylanwad mawr, Bohemia yn ddylanwadol iawn, Psalm xlvi. yn lied gyson, Yn Mreichiau fy Ngwaredwr a St. Michael yn dda iawn; ond ar Llanilar, penill olaf Ei ruddfanau ar y Groesbren," &c., a'r rhan olaf o'r penill 'Nawr mae cariad yn concwerio'r dwy- fol lid." Cawsom ganu ac ail ganu, a chanu am tua deuddeg o weithiau, hyd nesy credasom na ddarfyddai. Yr oedd y dylanwad yn anorchfygol. Yna can- wyd Llangristiolus, Arglwydd chwiliaist, Iesuo Nazareth, Yr Hen Hanes, a ther- fynwyd trwy weddi gau Ieuan Gwyllt. R wn ydoedd y test mwyaf a gefais erioed o ganu dylanwadol. Briton Ferry. CYNALAW.
CYMANFA GERDDOROL ABERDAR.
CYMANFA GERDDOROL ABERDAR. Nos Iau, Ebrill 22, cynaliwyd y pedwer- ydd rehearsal dosbarth isaf Aberdar, er ymbarotoi ar gyfer y gymanfa uchod yn y Cwmbach. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. William Morgan, Bethania. Dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. Thomas Phillips, Cwmbach. Canwyd yn ystod y cyfarfod y tonau a'r anthemau a enwyd mewn rhifynau blaenorol, o dan arweiniad Mr. Daniel Griffiths, Bethania. Canwyd yn rhagor- ol. Yroedd yr arweinydd galluog, a'r cor yn gyffredinol yn ei hwyliau goreu. Yr oedd yr holl gantorion wedi dyfod i'r grediniaeth fod pob ysgogiad o eiddo yr arweinydd yn esbonio'r bardd a'r cerddor. Cafwyd gair o blaid y symud- iad cerddorol gan y Parch. David Davies, Cwmnedd. Darllenwyd y penillion gan Mr. W. Morgan, Bethania, yn dda fel arferol. Nos Lun, y 26ain, cynaliwyd y pumed rehearsal yn Nazareth, pryd yllwyddwyd gan yr un, acy dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. Lewis Jones, Llwyni. Yr oedd yr arweinydd a'r cantorion wedi anghofio y byd a'i beth- au, ac wedi cael gafael yn ysbryd y peth byw, yr hwn, meddai Ieuan Gwyllt yn Mhontmorlais, oedd o'r nefoedd. Brys- ied yr amser pan y bydd y wlad yn gy- ffredinol wedi ei deimlo. UN OEDD YNO.
PEIRIANWYR ABERDAR.
PEIRIANWYR ABERDAR. YR wyf yn arfer darllen eich papyr clod- wiw bob wythnos, ac yn cael mwynhad wrth weled fod y gweithwyr wedi cael papyr at ein gwasanaeth, yn yr hwn y gallwn godi ein Ilef yn erbyn gormes a phob anghyfiawnder. Y mae y gweith- wyr wedi gorfod dyoddef cam dybryd hyd yn ddiweddar, am nad oedd genym un cyfrwng trwy yrhwnygallem ddadl- eu ein hawliau, a dynoethi y camwri a arferid tuag atom ond nid felly y mae yn awr, fel y mae goreu y modd wedi i DARIAN Y GWEITHIWR ymddangos. Dy- lem fel gweithwyr fod yn ofalus rhag ei chamddefnyddio. Yn y TARIAN am yr wythnos o'r blaen, gwelais fod Peirian- wyr Aberdar i weithio haner eu hamser tra y parhao y strike, ac i fyw ar haner eu tal arferol. Dyna honour y meistri i'w ganfod eto; ond cofied darllenwyr y DARIAN mai dau bwll sydd yn myned dan yr enw Aberdar, sef pyllau Mr. Lewis, Cwmbach, Aberdar, ac nid yr holl gwm fel y tybia canoedd. CARWR CYFIAWNDER.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yny modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— ] MR. D. W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun,
BETH YDWYF.
BETH YDWYF. t- Ai crwydryn wyf sy'n chwilio am Ddedwyddwch byd o glim i gam P Hir chwilio'r wyf, ac eto heb Ei gael i gyd yn meddiant neb. Blodeuyn bach wyf yn y byd, A'm gwyrddion ddail bron gwywo i gyd, Tra angeu sydd am gwywo gwedd Holl ddail fy mywyd i i'r bedd. Na, morwr wyf sy'n hwylio ar Ystormus for a'i frochns far, Yn ceisio hwylio'm llong mewn hwyl I borthladd Duw i gadw gwyl. Telynor wyf, a'm gobaith yw Cael telyn aur o ddwylaw Duw, Er uno gyda'r nefol g&r Sydd yn addurno gorsedd lor. Pechadur wyf sy'n codi'm lief Hyd auraidd ddorau heirdd y nef, Am gael y fraint-braint dwyfol, gvsn, Wrth draed yr lawn i daflu'm pwn. Pererin wyf py dan y don, Braidd dros fy mhen y fynyd hon, A'r olaf bron a'm gyru sy' I donau'r hen Iorddonen ddu. GWILYM NEDD.
C YFLAFAEEDDIAD.
C YFLAFAEEDDIAD. Da lywydd, dileu dadleuon—dwy blaid, Abl yw arbitration; Etyb fraw, tawela fron Ar aelwyd hen gwerylon. GAERWERN,
^ ENGLYN I'R FFYNON.
ENGLYN I'R FFYNON. Daionus ddiod anian—yw'r Ffynon, Gorphenol ddw'r purlan; Ei ffrwd ferw, loew, lan, Yn groew dardd trwy'r graian. DEWI CHVYEFROR.
ENGLYN I DEWI WYN 0 ESSYLLT.
ENGLYN I DEWI WYN 0 ESSYLLT. Dewi Wyn o Essyllt wna oesi—'n hir Fel gwyn haul i'n noddi Hen delyn aur ein cenedl ni Yw hynod awen ein Dewi. PERLLANOG.
YR HAELIONUS.
YR HAELIONUS. Estyn o'i law wna yn wastad-roddion Arwydda ei deimlad; Gwron glyw oer gri ein gwlad,-at traidd, A gem euraidd yw ei gymeriad. GLANDULAIS.
CRIST YN CARIO'R GROES.
CRIST YN CARIO'R GROES. Y Duw, yrlawn, awdwr anian,-i'r grog Gario 'i groes ei bunan Isel daeth yr Ysol Dan, A'i hanfod yn ei gwynfan. GLANDULAIS.
CYNGOR I'R MEDDWYN.
CYNGOR I'R MEDDWYN. Y waedd, 0! feddwyn, gwna heddyw—wrando Oddiar randir dystryw; Gad o'r bron dy geinion gwyw,—gad y Ystyr adyn-dinystr ydyw. ) gwydryn, GLANDULAIS.
IS 'Y GWANWYN.
IS Y GWANWYN. Yn ddaionus rhydd anian-y Gwanwyn, A gwenau aur weithian, Yn ei ddull y tarddodd allan, A ugain myrdd o egin man. IOAN TREFOR.
YE ENETH DDUWIOL YN MAEW.
YE ENETH DDUWIOL YN MAEW. O! tyred fy awen, anadla yn bruddaidd Uwchben yr olygfa yn syn 'rwy'n neshau, Pa beth sydd yn bod ? Ah! merch dduwiol sy'n marw, A phob peth y ddaear o'i gwydd sy'n pellhau: Ei mam dyner galon sy'n gorfod myn'd ymaitb, A'i tbad sy'n ei gadael yn ymchwydd y lli', Ond nid ydyw'n unig, gwna angel ei gwylio, A'i dwyn hi i fynwes ei Cheidwad a'i Rhi. Dilynir bi'n ddystaw gan rai o'i chyfeillion Drwy hen rosydd Moab nes iddi wanhau, A trwy'r hen Iorddonen heb doirnlo un archoll, Yn nghwmni ei Phrynwr y mae'n llawenhau; Caiffvno hardd goron a gwisg gan ei Cheidwad, Y rhai ni heneiddiant am oesau diri', Caiff yno wych destyn i ganu'n drag'wyddol Am farw yr lesu ar ben Calfari. Dros dymor caiff orphwys yn dawel mewc. beddrod, Heb ddim yn neillduol i nodi y fan, Ond angel gogoniant fydd yno'n ei gwylio Hyd foreu'r adgyfyd o'i beddrod i'r lan Ei chorff fydd yn deoyg i gorff pur yr lesu,. Heb arno frycheuyn i'w weled byth mwy. Heb ddim o'r gofidiau a'r poen a oddefodd, Ond canu'n drag'wyddol am ras marwol glwy'. 0 ie'nctyd, ystyri wch werth cyfaill yn angeu A'n harwain yn ddyogel drwy'r glyn tywyll, du, Boed i ni ymestyn am fywyd rhinweddol, Fel byddo ein marw'n troi'n elw i ni; Bu'r lesu yn dyoddef ar fynydd Calfaria, Er mwyn i bechadur gael cuddio ei ben, Ynnghlwyfau'r Bwaredwrmae lle am:ddiangfa, A gwledda'n drag'wyddol tu arall i'r lien. ALBANOG.
ANUN.
ANUN. V Hanes Anian a'i gwenau-a nodir, A newidiad foddau Rhoddir bedd i' w harweddau Gan auaf-y gauaf gau. Daw gwanwyn a diwyg hinwedd—wed'yn I'w dilladu'n rhyfedd; 0 barch ei chodi o'r bedd, I ranu i'r byd rhinwcdd. Rhoddodd er amser Adda—o'i chynyrch Heb achwyniad lleia'; Digoni byd gwyneb ha' Diau ddeil i'r dydd ola'. Ni fetha, mae'n rhy gyfoethog,—a'i deil Yw Duw Rollalluog; Dyma'i llais wrth roi, Dim llog," Un yw rhana'n orenwog. GAERWEK..
TAFOD BENYW. (/
TAFOD BENYW. (/ Rhyw aelod bychan iawn, Ond rhyfedd, ydyw'r tafod Er bod yn fychan, cawn Ef eto'n destyn syndod; Ceir pethau syna fyd Trwy dafod llesg un gwryws Ond beth yw'r oil y'nghyd At allu tafod benyw. Hanesion gwlad a thre' Wna drafod a'i hathrylith, Ni edy lan na lie Heb sen neu rhad a bendith Ei meddwl treiddgar fyn Wibdeitbio'r holl fyd cyfan, A'i thafod megys pin Yr ysgrifenydd buan. Ei holl rhinwedd sydd Trwy hwn yn cael amlygrwyddj A'i phrif ddyfeisiau cudd Yn dyfod i hysbysrwydd; Pan fydd mewn tymer ddrwg, Trwy hwn try allan athrod, Mae melldith yn ei gwg, Ac angeu yn ei thafod. Hwn sydd fel cleddyf Uym Gan fenyw i'w hamddiffyn,. A gollwng wna i'r dim Yn gywir at ei gelyn; Er beunydd fod mewn gwaith, Nid ydyw yn ddiffygiol, Ac nid oes arno graith, Er ymladd brwydrau nertbol. ( Pan wrth ei bodd iaith fwyn A dafla dros ei gwefus, Ac odlau llawn o swyn A wna barablu'n fedrus, Nes fryru'r pruddghvyf ffwrdd A thrallod i'r cysgodion, Ni ddont hwy byth i'n cwrdd Tra'n gwrando ei ffraethebion. Mae'i phen fel cloch y llan, A'i tbafod ynddo'n seinio, Ac wedi 'i rhoi mewn man Fel nas gall lai na siglo Pe methai am ryw hyd, Ai fel y gloch ddidafod, Mor ddyeitbr yn y byd, Na wnai neb ei hadnabod. R.J.