Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. LLONGDDRYLLIAD DYCHRYN- LLYD. COLLIAD 112 0 FYWYDAU! Y MAE wedi dyfod i'n rhan yr wythnos bon i gofnodi llongddrylliad dychryn- Ilyd. Y llong oedd y "Schiller"- agerlong-llythyrgodol ar ei thaith o'r America. Cymerodd y difrod dy chrynllyd le ar y Scilly Islands. Yn hwyr nos Wener, tarawodd y long gadarn, yr hon a berthynai i gwmni agerlongawl Hamburg, aryr hyn a el- wir y "Ratarrier Ledges," rhyw dryd- edd rano filldir o Bishop's Lighthouse, ac a aeth i lawr mewn pedwar gwrhyd o ddwfr. Gorwedda y Scillies rhyw ddeg milldir ar hugain yn dde-orllew- inol o Land's End, ac yn gymhwys ar lwybr y llongau sydd yn gwneud eu ffordd i fyny y Channel. Nid ydynt yn amgen nifer o greigiau anwastad a pheryglns, y rhai y mae eu perygl yn cael eu chwanegu trwy fod niwl tew o'n cwmpas am y rhan fwyaf o'r gauaf, yn gystal ag ar adegau twym-wlybaidd fel y presenol. Yn 1680, adeiladwyd goleudy cad- arn yno, llusern yr hwn sydd 38 o droedfeddi uwchlaw y dwfr. Mewn blynyddoedd wedi hyny, ychwanegwyd cloch nerthol, er rhybuddio morwyr o'r perygl, sain yr hon sydd i'w glywed am bellder mawr. Ond y mae y ddam- wain ddychrynllyd a gymerodd le yno nos Wener diweddaf, yn arddangos nad ydyw y cwbl wedi gwneud y lie yn llai peryglus. Gadawodd y llong anfFodus Schil- ler" New York am Hamburg ar y 27ain o'r mis diweddaf, ac ar ei bwrdd rhyw 266 o deithwyr, a 84 o ddwylaw. Cariai hefnl rhyw £60,000 mewn doleri i'r Cyfandir. Oddeutu 250 o lythyrgodau o New Zealand ac Aws- tralia, yn nghyda lluaws o nwyddau ereill. Yr oedd 26o'i theithwyridirio yn PI) ..lonih, tra yr oedd y rhan fwyaf o'r gweddill yn Germaniaid, ac i dirio yn Hamburg. Prydnawn dydd Gwener yr oedd niwl tew yn y Channel, ac yn hir cyn machlud haul yr oedd mor dywyll fel nad ellid, fel y dywed y morwyr, weled llaw o flaen y wyneb. Tra yr oedd y llong fel hyn yn ymbalfalu yn y ty- wyllwch, yn fuan wedi deg o'r gloch y nos, yn yr adeg tewaf o'r nos, tarawodd yn erbyn y Ratarriers. Yr oedd yr ergyd yn un trwm, canys dechreuodd lanw a suddo ar unwaith. Yr oedd y rhan fwyaf yn eu gwelyau, ond a ddeffrowyd gan yr ergyd. Yr oedd yr olygfa yn ddychrynllyd, yn enwedig wedi deall fod pob gobaith wedi ei golli. Nis gallwyd cael ond dau o'r badau i'r mor, yn y rhai yr achubwyd pump ar hugain o'r dwylaw a'r teith- wyr, yn cynwys un foneddiges. Pig- wyd i fyny ychydig ereill gan fadau pysgota. Ofnir mai yr oil a achub- wyd oedd 43, ac o'r 312 a adawyd ar fwrdd y llestr anfFodus nad oes un wedi dianc i adrodd hanes y dyoddef- iadaua'r gwasgfeuon angeuol a gymer- asant Ie. Cynaliwyd treugholiad ar rai o'r cyrff, pryd y dygwyd y rheithfarn o foddiad damweiniol. Modd bynag, anogai y rheithwyr ar fod i gysyllciad pellebrol gael ei wneud rhwng Bishop's Light a'r lan, yr hwn a allasai fod yn offerynol i achub yr holl fyw- ydau a gollwyd.
—.— LLONGDDRYLLIAD ARALL----COLLIAD…
— — LLONGDDRYLLIAD ARALL- COLLIAD 62 0 FYWYDAU! Y MAE hysbysiad pellebrol wedi cyr- haedd y wlad hon o Brest, yn ein hys- bysu fod yr agerlong Cadiz," perthyn- oli Lundain, o Lisbon, gyda llong- lwytho win a nwyddau ereill, wedi myned yn ddrylliau trwy daraw yn er- byn craig boreu dydd Sadwrn diwedd- af, ac na achubwyd ond pedwar o ddwylaw allan o'r ugain oedd ar ei bwrdd. [Diweddarach. ] Oddiwrth adroddiad a wnawd yn Southampton, gan un o'r rhai a achub- wyd oddiar fwrdd y Cadiz, cawn na achubwyd ond tri Portugead ag yn- tau. Fod y dwylaw yn 31, a bod ar y bwrdd hefyd 35 o deithwyr. Y mae felly yn amlwg fod 62 o fywydau wedi eu colli. Tarawodd y llong yn erbyn craig fawr ar dueddau Brest yn ystod "iwl tew.
41 GOBEITHION Y CYNAUAF A…
41 GOBEITHION Y CYNAUAF A MARCHNAD YR YD. Yu ydym yn cael fod y gwlaw tyner a ddisgynodd, yn nghyda'r tywydd ftafr- iol a'i canlynodd wedi gwneud efiaith neillduol ar y wlad. Y mae y cyfnew- idiad ffafriolhwn wedi effeithio hefyd i raddau er gostwng y prisiau. Y mae y cnydau gwenith yn y wlad hon yn edryoh yn rhagorol, ac hefyd yn Efrainc. Y mae y gwenith wedi gos- twng rhwng 6c. a Is. yn Paris, yn gys- tal a thrwy yr holl wlad.
DARGANFYDDIAD GLO YN ,NGHWM…
DARGANFYDDIAD GLO YN NGHWM RHONDDA. DYDD Llun diweddaf, darfu i Mri. Thomas a Griffiths, perchenogion glo- feydd Llwyncelyn, Gelli, aThynybedw, daraw ar wythien ragorol arall o lo yn Nhynybedw. Hon ydyw y drydedd wythien sydd wedi ei chael yn y pwll hwn, yr hon sydd yn bum troedfedd a phedair modfedd o drweh. Yr oedd y wythien gyntaf yn bedair troedfedd a dwy fodfedd, a'r ail yn bum troedfedd a chwech modfedd. Y mae gan y cwmni hwn 900 erw o'r gwelyau glo hyn, heblaw y cyfoeth mwnawl sydd eto heb ei ddarganfod.
. CYFLAFAREDDIAD YN NGOGLEDD…
CYFLAFAREDDIAD YN NGOG- LEDD CYMRU. Y MAE Mr. Horatio Lloyd, Barnwr y County Court yn Ngogledd Cymru, yr hwn a apwyntiwyd fel canolwr er penderfynu yr annealldwriaeth oedd rhwng meistri a glowyr Gogledd Cymru, wedi rhoddi ei ddyfarniad, sef yw hyny, fod gostyngiad o 10 y cant i gymeryd lie yn y cyflogau er y laf o'r mis presenol. Yr oedd y meistri wedi rhoddi rhybudd am ostyngiad o 15 y cant.
. CYFLOGAU Y GLOWYR.
CYFLOGAU Y GLOWYR. WRTH sylwi ar yr hyn a ysgrifenodd Mr. Thomas Brassey, A.S., y dydd o'r blaen i'r Times, yn yr hon ohebiaeth y dywedai fod ganddo sail i gredu y byddai i berchenogion glofeydd Dehen- dir Cymru, mor gynted ag yr elai y y gweithwyr i mewn, fabwysiadu cyn- Ilun er codi a gostwng cyflogau gyda'r farchnad, y mae newyddiadur arall, sef yr Iron, yn dweyd fod mabwysiad y cynllun hwn wedi cael ei gynyg gan- ddo ef er ys dros deuddeg mis.
[No title]
DYDD Sadwrn diweddaf yn Leaming- ton, darfu i bwyllgor gweithiol y labr- wyr amaethyddol benderfynu anfon £20 yn ychwaneg i lowyr Deheudir Cymru sydd yn awr ar strike, yn gwneud cyfanswm o £120, heblaw can punt a danysgrifiwyd gan y labrwyr eu hunain. Y MAE cynygiad aelod seneddol sir p Frycheiniog i gymeryd lie dydd Sad- wrn nesaf, a'r etholiad dydd lau, yr 20fed cyfisol. 0 FIJI yr ydym yn cael fod anhwyl- deb wedi rhedeg dros yr holl frodorion fel tan, ac wedi lladd rhai ugeiniau o bersonau. Dywedir mai y brenin a'i fab a'i cariodd i'r ynys i ddechreu.
Y STRIKE.
Y STRIKE. I DDECHREU yn Aberdar, nid oes yma ddim cyfnewidiad i'w ganfod yn sef- yllfa ein gweithfeydd. Y mae Mr. Nixon wedi rhoddi atebiad i'r cynygiad canlynol a anfonwyd iddo gan weith- wyr Mountain Ash :—" Ein bod ni, y gweithwyr, yn ymrwymo i dalu haner y ddirwy, os bydd i Mr. Nixon adael Undeb y Meistri, gan dderbyn tri gweithwyr er ymgymodi neu gyflafar- eddu ar y 10 y cant o ostyngiad, y bydd i ni ddechreu ar unwaith, a bodd- loni i'w dyfarniad hwy." Dywedodd yn y lie cyntaf nad allai efe gydym- flurfio a'u dymuniad o ymadael ag Undeb y Meistri, a pha beth bynag ydoedd ei syniad personol ef, neu ei gydberchenogion o barthed cyflafar- eddiad, eu bod yn rhwym o roddi i fyny i fwyafrif aelodau yr undeb. Fod cyflafareddu ar ddeg y cant o ostyng- iad allan o reswm; fod gweithwyr Mountain Ash cyn dechreu y strike wedi boddloni myned i mewn ar ddeg y cant o ostyngiad, ond iddynt gael eu gorchfygu gan bleidleisiau cyfarfod Merthyr. Gan fod eu synwyr da hwy yr adeg bono yn dywedyd wrth- ynt y dylent fyned i mewn o herwydd sefyllfa y farchnad, pa faint mwy yn awr, wedi i ostyngiad cyffredinol gy- meryd lie yn mhris y glo trwy yr holl wlad. Eu bod wedi arddangos eu Z7, boddlonrwydd yn Rhagfyr i fyned yn mlaen heb gyflafareddiad, ond gofyn yn awr am yr hyn a fyddai yn golled amser, anm, a thrafferth! Hel law hyny, y dylent ddeall, pe boddlonent i'r 10 y cant gostyngiad, nad allai efe dderbyn eu gwasanaeth ar y telerau hyny. Yn nghyfarfod diweddaf Caer- dydd, fod cynygiad wedi ei wneud i chwanegu y deg i 20 y cant o ostyng- iad, ac mai mwyafrif bychan oedd dros ei adael ar y 15 y cant, ac nad oedd yn alluog i dderbyn unrbyw delerau gwa- hanol. Dywedai ei fod yn cydym- deimlo yn fawr a hwy, yn gymaint a'u bod wedi eu gorfodi i ddyoddef cy- maint trwy ddilyn llwybr nad oeddynt wedi eu chwenych ar y dechreu. Eu bod wedi gwrandaw yn ddigon hir ar y rhai oedd wedi eu tynu i dylodi, trueni, a dinystr, a r rhai, mewn ychydig eto a fyddai wedi eu gwneud yn ddi-dy a di- gartref. Y gallai y gelwid hwy yn clurncoats, ond na fyddai hyny yn wir- ionedd am danynt, yn gymaint ag mai eu barn hwy ar y dechreu oedd mai gwell oedd gweithio, a phe gwran- dawsid ar eu llais y buasai y tlodi a'r trueni sydd wedi cael eu dyoddef heb gymeryd lie. Cynghorai ef hwynt i fyned at waith ar y 15 gostyngiad, trwy yr hyn yr enillent lawer gwell cyf- log nag yn 1870-y gallai gweithwyr da enill o wyth i 12 swllt y dydd. Ei fod yn apelio atynt os nad oedd yr hyn a ddywedai o barthed eu cyflogau yn 1870 yn wirionedd. Ei fod hefyd yn deall oddiwrth ymholiadau sydd wedi en gwneud yn America, fod nifer mawr o Gymry a garant ddyfod yn ol i Gymru pe celent eu cludiad wedi ei dalu, a bod cwmniau yr agerlongau yn foddlon cludo y cyfryw am X2 10s. y pen, ond cael liong-1 wyth o 500; ond y byddai yn ofidus ganddo os gorfodid ef i wneud hyn. Y mae yn cael ei hysbysu fod cyfar- fod i'w gynal gan Undeb y meistri dydd Gwener, ac y bydd i gynrychiol- aeth o gymydd Aberdar a'r Rhondda fyned i'w cyfarfod, gan ddatgan eu plrodrwyrld i fyned at waith ar y deg y cant gostyngiad, ar y dealltwriaeth fod pob annealldwriaeth yn y dyfodol i gael ei benderfynu trwy gyflafareddiad neu ymgymodiad. Ar y tir hwn yn unig y mae yn ymddangos y mae glo- wyr Aberdar a'r Rhondda yn barod i fyned i mewn.
ICWM RHONDDA.
CWM RHONDDA. Cawn fod cyfarfod wedi ei gynal gan Oruchwylwyr Glofeydd Cwm Rhondda dydd Mawrth diweddaf, yn Mhonty- pridd. Nid yw yn sicr beth oedd am- can y cyfarfod, ond credir ei fod yngyf- ryw ag y bydd canlyniadau pwysig i'w ganlyn mewn cysylltiad a'r anneall- dwriaeth. Y mae y crier wedi bod ar hyd y cwm yn galw y gweithiwyr i gyfar- fodeu goruchwyliwr heddyw (Mercher) yn Nhonypandy. Credir yn gyffredin ein bod yn agoshau at y terfyn. Enfyn gohebydd o Dreorci yr oheb- iaeth ganlynol i ni mewn perthynas i'r cyfarfod rhwng Mr. Davies A.S. a'i weithwyr Gwn fod ychydig o hanes o'r gwahanol faxiau ar y cyfwng presenol yn dderbyn- iol iawn gan eich Iluosog ddarllenwyr, fel fy hunan. Nos Ferclier, Mai 5, tua 9 o'r gloch, clywid y criwr trefol a'i gloch yn ceisio ein cynull yn nghjTd i'n hysbysu fod Mr. Davies, A.S., Llandinam, yn dymuno cyfarfod a'i weithwyr boreu dydd lau am 10 o'r gloch. Boreu tranoeth, tua'radeg apwyntiedig, gwelem ugeiniau o lowyr pryderus yn hwylio eu camrau tua'r fan i gyfarfod a'u cyn-feistr. Fel lluaws ereill sydd yn awyddus am weled yr anghydfod presenol yn dyfod i derfyn- iad, aethym inau tuag yno i'r dyben o glywed y dadleu; ond yn hyn fe'm siom- wyd, gan fod yno heddgeidwad yn cadw y drws, ac yn gwrthod y fraint i bawb ond i'r rhai hyny oeddynt yn gweithio yn mhyllau Cwmparc a'r Ton cyn y strike; felly gorfu arnom aros y tu allan, a hwythau y tu mewn. Rhyfeddem beth at ymddygiad yr aelod anrhydeddus a'i weithwyr. Ai tybed fod arnynt ofn i'r wlad glywed eu hymdrafodaeth? Beth bynag, tua 4 o'r gloch yn y prydnawn, torwyd y cyfarfod i fyny, wedi bod yn nghyd o bump i chwech awr heb wneud dim ond amlygu eu penderfynolrwydd i sefyll at eu cynygion gwreiddiol, sef fod y gweithwyr i gael eu gostwng 10 y cant, gyda'r eithriad o 5 y cant, yn ol cyfadd- efiad Mr. Davies, a roddwyd yn fath o ddirwy at y 10 cyntaf am ymddygiad y gweithwyr yn nghyfarfodydd Llanwyno a Mountainash, yr hyn sydd yn gwneud y gostyngiad yn anhebgorol angenrheidiol ynol ymchwiliad Mr. T. Brassey, A.S., o 15 y cant cyn y gall y perchenogion gario yn mlaen eu gweithfeydd gydag elw rhesymol. Penderfyniad y gweithwyr o'u tu hwythauoedd, dal at y penderfyn- iad gwreiddiel, sef gwrthod y gostyngiad hyd nes y ceid ffeithiau a rhesymau i brofi y dylent ymostwng, ac yna, a dim cyn hyny, y derbynient, nid yn unig y 10 y cant, ond y 15 y cant yn ewyllys- gar. Wel, onid yw hyn yn gymaint ag y gall un bod rhesymol ddysgwyl gan fod rhesymol arall ?—M. J.
.MERTHYR.
MERTHYR. Mewn cyfarfod a gynaliwyd gan weithwyr Cyfarthfa a Plymouth dydd Mawrth diweddaf, penderfynwyd, trwy fwyafrif bychan, nad oeddynt yn myned i mewn ar delerau cynygiedig y meistri. Fe welir fel hyn fod y gweith- wyr yn hynod ymranedig, ac nad ellir dysgwyl unrhyw ddaioni tra y maent fel hyn. Dywed ein gohebydd o Fer- thyr fel y canlyn Wedi i sefyllfa y lie hwn newid ei wecld, a'r loch-out i strike, nid hir bu y gweithwyr cyn ymostwng i delerau y meistri a chychwyn ar eu gwaith. De- chreu yr wythnos ddiweddaf, gwelid amryw o'r glowyr yn gadael yr hen lwybrau segur fuont yn dilyn am y pedwar mis diweddaf, ac yn ymestyn at eu hen gelloedd tanddaearol. Ych- ydig oeddynt y diwrnod cyntaf, ond ychwanegwyd atynt o ddydd i ddydd. Dydd Sadwrn, cynaliodd glowyr Dow- lais gyfarfod i gymeryd y pwnc dan ystyriaeth drwy y tugel, a'r canlyniad oedd, fod 191 dros weithio a 71 yn er- byn. Mwyafrif o 120 dros weithio. Diameu y cymerir yr un cynllun gan weithwyr Cyfarthfa a Plymouth yn fuan, a5 y bydd yr un mor llwydd- ianus.—T. J.
DOWLAIS.
DOWLAIS. Gellir dweyd fod Dowlais wedi de- chreu o ddifrif er dydd LInn. Cyfl-ifir fod o leiaf fil o lowyr wedi dechreu ar eu gwaith. Ymae yrholl geffylau per- thynol i'r cwmni, y rhai oeddynt wedi eu gyru yma a thraw, yn awr wedi cael eu gostwng i'w hen leoedd tan- ddaearol. Y mae yn cael ei ddweyd hefyd fod cwmni Dowlais wedi parotoi er talu y gweithwyr mwyaf angenus yn ddyddiol am beth amser, tel na fydd neb yn gorfod dyoddef 3ng-en tra yn gweithio. C
IY __ RTMNI.
IY RTMNI. Cynaliwyd cyfarfod dydd Mawrth diweddaf gan lowyr Rymni, er ceisio dyfod i gyd-ddealltwriaeth o barthed i'rhyn a wnaent—gweithio ai peidio. Yn y cyfarfod cyntaf yr oedd y mwyaf- rif yn erbyn gweithio ar delerau y meistri; ond dros fyned i mewn ar y ddeg y cant, a chael pob annealldwr- iaeth dyfodol wedi ei benderfynu trwy gyflafareddiad. Modd bynag, dywedai amryw ar ddiwedd y cyfarfod yr el- ent at waith o waethaf y cwbl, ac felly yn y prydnawn cynaliwyd ail-gyfarfod, ac y cymerwyd y pleidleisiau trwy y tugel, ac y cafwydy mwyafrif dros fyned i mewn ar delerau cynygiedig y meis- tri. Ar ddiwedd y cyfarfod hwnw, dywedodd y cadeirydd fod yr holl lo- wyr yn rhydd i fyned at eu gwaitb, ac apwyntiwyd cynrychiolwyr i fyned at y meistri er sicrhau ar fod i bawb gael eu hen leoedd eu hunain yn ol.
TREDEGAR A SIRHOWY.
TREDEGAR A SIRHOWY. Cynaliwyd cyfarfhd g-an lowyr Tre- degar, yn y Neuadd Ddirwestol, ddydd Mawrth diweddaf, pryd y daethpwyd i'r penderfyniad o fyned i mewn ar y gostyngiad o 15 y cant. Y mae gwaith wedi dechreu o ddif- rif yn Sirhowy, y rhan fwyaf o'r hen lowyr wedi cymeryd eullleoedd yn y gwahanol weithfeydd.
BLAENAFON.___
BLAENAFON. Y mae oddeutu *650 o lowyr yn gweithio yn Blaenafon, ond dywedir nad oes yr un Undebwr eto yn eu plith.
LANDWR.
LANDWR. Y mae y newydd wedi ein cyrhaedd fod glowyr Park Pit, perthynol i Weithiau Dur Landwr, wedi pender- fynu myned i mewn ar y gostyngiad o 15 y cant, ac y bydd i'r wythnos hon weled diwedd ar y strike yn y gweith- iau hyn.
4-: CYNRYCHIOLAETH SENEDDOL
4- CYNRYCHIOLAETH SENEDDOL MEWN cyfarfod perthynol i Gymdeith- as Rhyddfrydol Manchester, a gynal- iwyd prydnawn dydd lau diweddaf, penderfynwyd anfon deiseb i'r senedd yn gofyn am apwyntiad Dirprwyaeth Brenhinol er trefnu cael cynrychiolaeth mwy trwyadl a chyfiawn o'r boblog- aeth yn y senedd. Y mae y Ddeiseb yn arddangos, tra y mae Manchester yn cynwys 58,793 o etholwyr, nad oes yno ond tri aelod, ond y gellir enwi 55 o fan fwrdeisdrefi, nad yw eu poblog- aeth gyda'u gilydd ond 58,331 o ethol- wyr, eto yn dychwelyd 62 o aelodau i'r senedd. Yn Manchester, nid oes ond un aelod dros bob 19,000 o'r etholwyr, tra yn y bwrdeisdrefi bychain y cyfeirir atynt, y mae un aelod ar gyfer bob 940 o'r etholwyr.
ITRYWANU YN NGHOED-DUON.
TRYWANU YN NGHOED-DUON. Nos Sadwrn diweddaf, darfu i ddyn ieuanc o'r enw Tyrus James, glowr, yr hwn sydd newydd ddychwel o'r America, ac yn byw yn Pengam, drywanu glowr arall o'r enw Thomas Farraday mewn dau fan a chyllell hir. Trywanwyd ef yn ei ochr. Cymerwyd James i fyny yr un noson.