Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y N 0 F EL : GRYFFUDD JONES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y N 0 F EL GRYFFUDD JONES. WEDI clywed y penillion a'r cyfieithiad, "Gwir bob gair, ebai yr hen Gwilym Jones, ac ychwanegai, "dyna ti wedi enill ehwech mis eto o ysgol," cyn fod ein harwr, Gryffudd Jones, wedi cael amser i ofyn ei farn ef a'i rieni, a'r ychydig wrandawyr oedd ganddo pan y darllenai y penilliou. Parhaodd yr hen bererin, Gwilym Jones, i ganmol am gryn fynydau wedi i Gryffudd orphen darllen. Dywedai nad oedd yn edifeiriol ganddo ei fod wedi talu am ysgol a chynaliaeth Gryffudd yn Aberpont-Nedd-Fawr, a'i fod yn barod i dalu boreu yfory am chwech mis yn ychwanegol iddo; hefyd, os byddai i Gryffudd lwyddo cystal yn y chwech mis nesaf, yr ymdrechai ef i roi rhyw grefft dda iddo yn He ei fod yn dyfod gartref i ffermu at ei dad." "Diolch yn fawr i chwi," ebai Gryffudd, am ddyfod allan mor rhyddfrydig." "Taw a'th ffolineb," ebai yr hen Gwilym. "Y diolch goreu fedru di ei roi i mi ydyw i ti ymroi i ddysgu y chwech mis dyfodol fel y chwech mis gorphenol; yna byddi yn dipyn o ddyn, yn anrhydedd i'r teulu ac i ti dy hun. Cofia gadw yna mewn golwg. Yr wyt ar y ffordd i ddyfod yn ddyn. Gofala am dy gymeriad, oblegyd unwaith y syrthu yn ngolwg dy gydnabod o ran dy gymeriad, nid gwaith hawdd, cofia, fydd i ti ddyrchafu dy hun. Wel, 'does genyf ddim rhagor i'w ddweyd wrthyt. Trefna bob peth sydd yn eisieu arnat. Y mae gan dy dadcu ddigon o arian i dalu am bob peth sydd yn angenrheidiol, ac y mae yn berffaith foddlawn i wneud hyny." Yn fyr, rhoddodd cyfieithiad Gry- ffudd o'r penillion blaenorol foddlon- rwydd i'w dadcu, i'w rieni, ac i ddau oedd yn gwrandaw eu darlleniad. Yr oedd rhieni Grryffudd yn berffaith fodd- lawn iddo gael bod chwech mis arall yn yr ysgol, ac yn foddlawn iddo cldysgu rhyw grefft ar ben y chwech mis gan hyny, dechreuwyd parotoi pob peth ag oedd yn angenrheidiol ar Gryffudd i fyned. Daeth y pethau yn barod, a gwawriodd y boreu, yr awr, a'r fynyd i'n harwr ffarwelio unwaith eto. Ffarweliasant, ac i ffwrdd yr aeth tua Aberpont-Nedd-Fawr. Cyrhaedd- odd, a chafodd hwynt oil yno a breich- iau agored i'w dderbyn am chwech mis wed'yn. Treuliodd y chwech mis yn llafurus fel y chwech blaenorol. Ar ben y chwech mis hwn, cafodd dadcu ein harwr ymddyddan a'r Parch. Arthur Powell, yr hwn a ddylaii wadodd ar yr hen Gwilym i roi ysgol i Gryffudd; a chynghorodd Mr. Powell yr hen frawd Gwilym i'w roddi yn argraffydd. Dy- wedai Mr. Powell fod y gelfyddyd o argraffu yn grefft i rywun a thipyn o ymenydd yn ei ben, a'i bod yn sicr o ddyfod yn well pa oleua y delo y byd. Derbyniodd yr hen Gwilym, fel yr arferai. wneud, gynghor Mr. Powell. Wedi cael clywed fod Gryffudd yn hoffi y gelfyddyd, prentisiwyd ef am bum' mlynedd. Fel gyda phob peth arall ag a wnelai Grryffudd, dysgodd y gelfyddyd yn dda, ac erbyn canol y pumed flwyddyu o'i brentisiaeth, ys- tyrid ef yn un o'r argraffwyr goreu feddai Aberpont-Nedd-Fawr. Daeth tymhor y prentisiad i ben, a dydd talu y ffwtyn (dyferyn o ddablen), er mwyn cadw arferiad y crefftwyr i fyny. Cyd- syniodd a'r arferiad, a threuliwyd dwy dwy awr ddedwydd gan argraffwyr y dref. Y diwinod cyntaf wedi dyfod yn rhydd o'i brentisiaeth, dechreuodd weithio i'w hen feistr am 22s. yr wyth- nos. Tra y glynodd wrth y gelfyddyd argraffyddol, gweithiodd i'r un meistr ac yn yr un swyddfa. Yn ystod y blynyddau yma, sef amser prentisiad ein harwr, Gryffudd Jones, ni ddygwyddodd dim yn neillduol yn ei helyntion ef a'i Fari anwyl, y fetch oGelli Fechan. Pasiodd lluaws mawr o lythyrau rhyngddynt, ac felly hefyd rhyngddo ef a'i dad, ei fam, a'i dadcu. Yn ystod y blynyddau dan sylw yr oedd Gryffudd a Mari yn ffyddlawn iawn i'r naill y llall, ac yn gryf eu gobeithion fod oriau dedwydd a blynyddau lawer ganddynt i gyd-dreulio yn y dyfodol. Yr oeddent yn hollol, fel y gwelir rhai yn caru yn mhob ardal, yn ffyddlawn i'w gilydd, yn dal cysylltiad a'u gilydd, yn ffyddlawn, ffyddlawn, ac heb fod dim yn hynod yn cymeryd lie yn werth sylw; felly Gryffudd a Mari.

Cohebiaethau.

Y PABYDDION A GWAHARDD-IAD…

TRO ETO 0 AMGYLCH Y MYNYDD…

PWYLLGOR EISTEDDFOD THE-HERBERT…

* YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.