Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
----MABON AC 'ARSYLLYDD' Y…
MABON AC 'ARSYLLYDD' Y GWLADGARWR MR. GOL.Yn eich rhifyn cyn y di- weddaf darfu i mi ysgrifenu ychydig o sylwadau ar nodiadau 'Arsyllfa' y Gwladgarwr ar gyfarfod Llanwyno, ac er fod fy nodiadau yn anwrthbrawrf, (er nad oeddynt ond yehydig o'r llawer y bydd i mi eu datguddio gydag amser), yn rhifyn olaf y cyfryw newyddiadur, wele Arsyllydd, yn anterth ei hy- awdledd, amleiriog, a spwrielaidd yn LV. vIlli ci i aiiiddiffyn caerfa, di- fwlch yn erbyn yfnosodiad I edlyebeidd. iol o'r fath edlyclieidaiaf.' Y fath gyson- deb mawreddog ond yn hollol gyd- weddol ond ystyried y darddfa. Q Feallai y dylwn hysbysu wrth dde- chreu, fy mod wedi dyfod i ddeall mai y lienor uchelryw Brythonfryn ydyw awdwr yr Arsyllfa, ac mai ag ef o gan- lyniad, ac nid ag unrhyw olygydcl yr oedd a fyno fy nodiadau ond er fy mod wedi cael fy ngoleuo ar bwnc yr awduraeth, nid yw yr hyn a ddywedais yn llai gwirioneddol. Dechreua ei nodiadau trwy daflu ychydig lysnafedd diystyrgar ar y DAE AN, gan ei galw yn gydwythnosolyn bychan, a hyny am mai tri gweithiwr sydd yn ei dwyn allan: rhaid oedd dangos yr egwyddor hyd yn nod wrth geisio gwadu ei bodolaeth. Beth arall oedd yn gofyn am y fath sylw ? Nid mor fychan, ond yn hytrach yn fwy nag y bu y Gwladgarwr' erioed hyd y pedwar mis diweddaf o'i fywyd, a gwyr y wlad yn dda beth fu achos ei helaethad pan y daeth. Un o'r cyhuddiadau a ddyg y bon- eddwr hwn yn fy erbyn yw, fy mod am "gloi tafod y wasg." Y mae hyn yn gyhuddiad pwysig; ond nid yw yn ddim ond geiriaM, canys gwyr pawb a wyr rywbeth am danaf yn fy nghysyllt- iad cymdeithasol nad oes rhith o wir- ionedd yn y fath faldordd; ond hyn a ddywedaf, mai goreu pa grntaf y cloir tafod pob gwasg a ymddyga tuag at y rhai a'i gwasanaetha fel yr ymddyg- wyd yn ddiweddar at gyfaill o Raven's Hill. Ond nid oedd yr hwn a frad- ychwyd ond gweithiwr y mae'n wir, eto gellid dysgwyl i awdurdodau y wasg gadw at eu haddewidion ysgrifenedig hyd yn nod at weithiwr. Y mae yn wir fy mod wedi esgyn ami i I wyfan yn ddiweddar, ac ar rai adegau wedi adrodd rhigymau talcen-slipaidd; ond os ydynt yn dalcen-slipaidd, gallaf dystio mai eiddo cartref ydynt, ac fe wyr Arsyllydd, ond odid, mai "es- mwyth y cwsg cawl erfin." Cofus genym glywed er's rhai mis- oedd yn ol am berson neillduol wedi ei gyflogi i geisio dinystrio Undeb y G-weithiwr, ac wedi bod yn taer geisio drws agored i actio y Balaam cynogedig ond Undeb y Gweithiwr oedd ei nod i fod, cofier Beth oedd ei amcan, tybed, yn dy- fynu darn o ysgrif Eos Wyn ? Cofus genyf pan yn grwt, os cyhuddid fi o tai, mai fy mhrif ddadl oedd fod arall wedi gwneud yn gyffelyb. Gwyddom nad yw ein cyfaill yr Eos ond gohebydd aclilysurol fel ninau, ond gwyddom cystal a hyny fod awdwr yr Arsyllfa yn un o staff taledig y Bradgarwr, ac yn ysgrifenu dan yr ystyriaeth hono, heb nag enw nag arall wrth ei eiddo. Fe allai nad yw wedi cael yr anrhydedd o wisgo y teitl o Olygydd mwy nag ereill sydd wedi cyflawni y givaith, ond fe wyr y cyhoedd yn dda sat y mae pethau yn sefyll er hyny. Ac onid oes gan staff unrhyw newyddiadur hawl i ddweyd eu barn ? Pwy erioed a geisiodd eu lluddias ? Ond yn sicr iiid ydyrit hwythau yn fodau anffael- edig, ac yn enwedig awdwr yr Arsyllfa! A dyma y boneddwr sydd yn son am gloi tafod y wasg! Yr yd wyf yn gwybod digon am helynt dadl John I y Gray, yr Etholiad Cyffredinol diweddaf, a llnaws o bethau ereill, fel ag i ddeall pa chwareu teg y mae y gweithiwr wedi ei gael, ac megys yr oedd y mae eto. Y mae Arsyllydcl yn cyfeirio at gy- huddiadau personol, ond pwy erioed a fu yn fwy personol nag ef yn ei nodiad ar gyfarfod Llanwyno, gan dystio mai W. Abraham a fn yn foddion i dori y cyfarfod i fyny, &c., a hyny heb wneud dim, lie yr oedd deng mil yn bersonol! Rhyfedd y fath ddylanwad oedd gan- ddo! Pe buasai genyf amser, caraswn ym- helaethu, ond fe allai y gallwn gadw y pwnc yn agored am ychydig wythnosau, nes y byddaf yn fwy rhydd. Beth y mae yr awdwr clasurol yn ei feddwl wrth y frawddeg goeth fod gtcr yn ceisio lledu ei phylacterau i oZZwng saeth f Yr eiddoch yn fyr a brysiog, MABON.
PWYLLGOR CYNORTHWYOL TON-YPANDY,…
PWYLLGOR CYNORTHWYOL TON- YPANDY, CWM RHONDDA. YN y rhifyn diweddaf o'r DARIAN, ymae Ysgrifenydd y Pwyllgor uchod yn ei O.S. yn dweyd, os oes amheuaeth yn fy medd- wl o barthed i'w atebion i'm gofyniadau yn y Western Mail, y gallaf gael-y Ilyfrau i'w harchwilio yr adeg y mynwyf. Gan ei fod ef wedi rhoddi yr un gwa- hoddiad i mi yn y Western Mail, a'm bod inau wedi peidio cymeryd y cyfleusdra hwnw i archwilio y llyfrau, dylasai gy- meryd yn ganiataol fy mod yn cael fy moddloni ar ei atebion. Ond gan ei fod wedi dewis dwyn y pwnc yn mlaen yn y DARIAN, wedi yn agos i fis fyned heibio, dymunaf wneud sylw ar un o'r gofyniad- au, sef, "A oedd yn wirionedd fod Mr. Addi Richards a'r Pwyllgor yn cael 7s. y dydd am eu llafur ? Atebodd yntau mai "anwiredd ffiaidd (abominable false- hood) ydoedd. Nid yw Mr. Richards wedi bod cystal a dweyd pa faint oedd ef ac y mae yn awr yn ei gael am ei lafur, yn nghyda gwahanol aelodauy Pwyllgor. Ystyriwyf fod yr ysgrifenydd yn nghyd a'r pwyllgor yn gwneud yr hyn ni ddy- lent, wrth godi eu talu am ranu cyfran- iadau sydd yn cael eu rhoddi i ddynion mewn angen, fel y mae gwaethaf y modd fod canoedd yr adeg derfysglyd bre- senol. Pan y bydd yn gyfleus i mi dderbyn ei wahoddiad i archwilio y llyfrau, rhodd- af rybudd prydlawn iddo, ac efallai y byddaf yn barod o hyn i ddiwedd yr wythnos hon. Ydwyf yr eiddoch, E. THOMAS. Swan Inn, Dinas.
MANION O'R WEST.
MANION O'R WEST. DrwEDlR fod yMeistri Undebol wedi an- fon cy lch lythyrau at y meistri nad ydynt yn yr Undeb, ac sydd a'u gweithfeydd yn gweithio, yn ceisio ganddynt gydym- ffurfio a hwynt i wthio y gostyngiad ar y gweithwyr. Dywedir fod cyfarfod wedi ei gynal gan Feistri'r Glo Careg, yn Cross Inn, Llanybie, dydd Gwener diweddaf, i gy- meryd y m ater i ystyriaeth; a'u bod wedi methu a phenderfynu, ac wedi gohirio y cyfarfod hyd ddydd Mercher, i'w gynal yn Abertawe. Dywedir fod un o Feistri Cwm D-n-v-n-t wedi galw ei weithwyr yn nghyd i gyd-ystyried y mater, a'i fod wedi gadael at farn y gweithwyr beth oedd oreu ganddynt wneud. Os derbyn- ient y gostyngiad, y byddai iddo yntau ostwng pris y glo. Dywedir fod ugain o fechgyn y strike perthynol i Pwll y Saint^Fforest Fach, wedi cael eu troi allan o'r Mynyddbach, nos Sadwrn diweddaf. Dywedir fod gweithiau glo Llanelli, sir Gaer, wedi arafu yn anghyffredin,- fod y cwmni yn methu a gwerthu'r glo, a bod llongau yn myned allan o'r porth- ladd yn methu cael glo er un pris. Dywedir nad yw Mr. Neville yn agos cystal meistr wedi cael myned i'r senedd ag ydoedd cyn hyny. Dywedir nad yw yn debyg y bydd cy- nifer o feistri Deheudir Cymru yn llwydd- ianus yn yr etholiad nesaf. Dywedir fod cynllun ar droed i slaco'r gweithiau glo, er analluogi y rhai sydd 1 yn gweithio i gynorthwyo j rhai Bydd yn sefyll allan, am fod hyny yn llawer mwy genteel way nag ymladd gyda'r gweithwyr. GWYLIBDTDD.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. DYDD Iau, yr wythnos ddiweddaf, talodd leuan Gwyllt ail-ymweliad a'r dosbarth hwn. Hermon, Dowlais, gafodd yr an- rhydedd o'i groesawu y tro hwn, a chaf- wyd cyfarfod rhagorol iawn. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Jones, Dowlais, a dechreuwyd twy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Morgans, Cefncoed- cymer. Wedi cael anerchiad pwrpasol gan y cadeirydd ar drefn ac amcan y cyfarfod, galwodd ar Mr. Roberts at ei waitb. Argraffodd yntau yn ol ei ddull difrifol arferol, y pwys mawr i bob un fod yn ddystaw a gweddaidd, er mwyn gallu teimlo yn gystal a chanu. Can- wyd y tonau Dusseldorf, Moab, Llan- gan, Llangristiolus, a Llanilar; Iesu o Nazareth, y Ddafad Golledig, yr Hen- hen Hanes, ac Yn y Man (Swn y Jubili), y Salmdonau, Yr Arglwydd yw fy Mu- gail, a Mawr yw yr Arglwydd, a'r an- them Chwiliaist ac adnabuost fi." Cafwyd anerchiadau pwrpasol a gwresog yn ystod y cyfarfod gan y Parchedigion D. Morgans a Morgans, Rymni; a Mri. Evans (Heman Gwent) a Rosser Beynon (Asaph Glan Taf.) Yroeddynllongen- ym weled dau hen dywysog cerddorol y Deheudir wedi cyfarfod ar yr un esgyn- lawr, ac yn arliwys eu teimladau gyda'r fath foddhad. Dywedai Mr. Beynon ei fod wedi cael y cyfarfodydd blaenorol yn Mhontmorlais, a bod y cyfarfod hwn yn gystal a'r rhai hyny-y goreu fu yn y gymydogaeth hon, os nad yn un gymyd- ogaeth arall erioed. Fod taith Mr. Ro- berts yn sicr o wneud lies dirfawr i sir Forganwg, nid yn unig i'r Methodist- iaid, ond i bawb yn gyffredinol-fod yr holl enwadau yn derbyn o'r un ysbryd, ac yn dechreu deffro eisoes. Mai nid dyn y Methodistiaid yn unig ydyw Mr. Ro- berts, ond dyn yr holl genedl. Sul a'r Llun diweddaf, y 9fed a'r lOfed cyfisol, cynaliwyd cylchwyl flyn- yddol 'Hermon, Dowlais. Pregethwyd gan y Parchedigion Owen Thomas, Liverpool; D. Saunders, Abertawe; Phillips, Castellnewydd Emlyn; a D. Lewis, Llanfynydd. Gan fod dysgwyliad am bregethwyr mor fawr, yr oedd dys- gwyliad mawr am bregethau mawr, a pha mor uehel bynag ydoedcl y dysgwyl- iadau, yr ydym yn meddwl yn sicr fod pob un wedi cael ei lwyr foddloni. Yr oedd yr hen hanes am y groes mor felus ag erioed, a'r gynulleidfa yn gwrando gyda bias. Nos Sabboth ar ol yr oedfa bregethu, rhoddwyd mantais i bawb oedd yn teimlo awydd am roddi eu hunain i'r Gwaredwr, a chafwyd yr hyfrydwch o dderbyn chwech. Canwyd amryw o donau melus Mr. Sankey o Swn o Ju- bili," yn hynod effeithiol yn ystod y cy- farfodydd. Gan nad oes dyled ar y capel, cafwyd yr holl gyfarfodydd yn rhydd oddiwrth dinciadau yr arian. MASTERS AND SERVANTS' ACT. — Yn Llys yr Heddynadon dydd Mercher, y 5ed cyfisol, ceisiodd Mr. John Morgan, perchenog "Ainddiffynydd y Gweith- iwr," ddwyn un o'i weithwyr o'r enw J. R. Evans (loan Egwest,) i afael y gyf- raith annheg ac unochrog uchod; ond dyfarnodd yr ynad dysgedig yn ei erbyn. Yr ydym yn synu fod Mr. Morgans, yr hwn sydd yn galw ei hun yn "Amddi- ffynydd y Gweithiwr," ac un sydd wedi traethu ac ysgrifenu cymaint yn erbyn y Masters and Servants' Act yn defnyddio y gyfraith hono mor faleisus tuag at ei weithiwr eihun. Mae byn yn dangos yn eglur mai ifugiwr o gyfaill ydyw, ac y mae pob ffugiwr yn sicr o ddyfod i'r am- lwg hwyr neu hwyrach. Bydded i'r gweithwyr fod a'u llygaid yn agored pwy ydyw eu cyfeillion. GOHEBYDD.
YR HAWLYDD TICHBORNE.
YR HAWLYDD TICHBORNE. MEWN atebiad i Mr. Whalley, yn Nhy y Cyffredin nos Fawrth diweddaf, dy- wedodd Mr. Cross ei fod wedi gweled y llythyr yn y Morning Advertiser, yr hwn y dywedid ei fod wedi dyfod oddi wrth y carcharor Castro, neu pa enw bynag y dymunai y boneddwr anrhyd- eddus ei alw wrtho. Yr oedd ef wedi cael ei hysbysu fod y carcharor wedi lleihad yn fawr yn ei faint, yr hyn oedd i'w ddisgwyl; ond fod y swyddog meddygol yn Dartmouth wedi hysbysu ei fod wedi dyfod i lawr braidd yn gyf- lym, ond ei fod yn awr yn bwysau da i ddyn o'i faintioli ef. Yr oedd y car- charor wedi achwyn ei fod yn dyoddef yn feddyliol a chorfforol oddiwrth an- wyd, ond na chwynodd o gwbl o barth- ed ei ymborth Fod llywodraeth ei borthiant yn hollol yn nwylaw y medd- yg, a bod hwnw yn ddiweddar wedi gwneud rhai cyfnewidiadau yn y cyf- ryw, yn gystal a gorchymyn ei fod i gymeryd ychwaneg o ymarferiad corff- orol yn yr awyr agored.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r Daily News, LIundain.) MAi 3, Midblesborough. Marwaidd eto yw y farchnad mewn pig iron. Llawer o gludo i longau yn ol cytun- debau (contracts). Y mae terfyniad tebygol y strike yn Neheudir Cymru yn effeithio ar y fusnes yma, am y bydd cyfran o fasnach y rails yn myned yno. Gofyn cynyddol am haiarn wedi ei weithio (manufactured). Cwmni Mri. Richardson a'i fab wedi tori. Y mae cu dyledion yn fawr, ond dywedir fod ganddynt ddigon o ol-eiddo i gwrdd a'r dyledion. Birmingham.—Yr un amser, Russia a Norway yn anfon archebion mawrion am beiri an waith, ac ofFerynau, &c. Nid yw cwsmeriaeth Germani a Ffrainc o fawr werth. Y mae cystadieuaeth peirianweithiau Germani a Belgium yn effeithio yn fawr ar ranau o'r fas- nach yma. Prisoedd glo a haiarn yn aros yr un fath. inlai 6, Wolverhampton.—Ychydig o ofyn am y bars goreu. Y mae meistri yn gallu rhoddi cyfiawn waith i'w gweithwyr. Ychydig o gynydd yn masnach haiarn wedi ei orphen. Ond dim fawr o elw. Dim gwerthu p ig iron yn myned yn mlaen. Cyflawnder o fwn haiarn. Marchnad y glo yn drymaidd. Mai 7, Birmingham.—Ychydig rha- gor o fywyd yn masnach yr haiarn. Gofynir yn benaf am sheets a bars. Isel yw masnach haiarn cyffredin. Ni ddisgwylir llawer o wahaniaeth yn nghyflogau gweithwyr, am fod prinder o weithwyr yn deall eu gwaith.
Y FASNACH HAIARN YN CLEVELAND.
Y FASNACH HAIARN YN CLEVELAND. YR oedd y fasnach yn hynod farwaidd ddydd Mawrth diweddaf, a'r cwbl yn ymddangos i fod mewn sefyllfa hynod o ansefydlog. Y mae pawb yn hynod o wyliadwrus o herwydd fod cymaint o fethdaliadau yn cymeryd lie. Y mae effeithiau y ddwy flynedd ddifywyd a cholledus sydd wedi myned heibio yn dangos eu hunain yn lied fynych, ac ofnir fod ychwaneg eto i'w datguddio. Y mae gweithiau yr haiarn gorphen- edig mewn 11 awn waith, ac yn debyg o fod felly, am fod yr archebion ynlluosog.
TRYWANU YN L'ERPWL.
TRYWANU YN L'ERPWL. Nos Sadwrn diweddaf, cymerodd am- gylchiad o drywanu yn angeuol le yn L'erpwl. Pan yr oedd dyn o'r enw Michael M'Mahon yn chwareupiich-and- toss gydag amryw ereill, ac wedi colli 2s., ymgynhyrfodd gymaint fel yr heriodd unrhyw rai o honynt i ymladd. Ar hyn tynodd gyllell fawr o'i logell, gan ym- gais at drywanu un o'r Iluaws, ond meth- odd, wedi yr hyn, yr ymosododd efe ar ddyn o'r enw Michael Jennings, yr hwn nad oedd ond edrychydd, ac a'i trywanodd ef ddwywaith yn ei frest. Bu farw mewn deg myned wedi ei archolli.
ABERDAR-DAMWAIN ANGEUOL
ABERDAR-DAMWAIN ANGEUOL DYDD Sadwrn diweddaf, yn un o lofeydd y Gadlys, Aberdar, cyfarfyddodd dyn ieuanc 28 oed, o'r enw Daniel Rees, a'i ddiwedd yn dra disymwth, trwy i gwymp o lo syrthio arno. Mab ydoedd y tranc- edig i Rees Jones, Trefach, Llanwnog, ger Llanybydder. Yr oedd yn ddyn ieuanc a geridyn fawr, ac ynperthyn i'r frawdoliaeth Demlyddol. Dydd Mawrth diweddaf hebryngwyd ei weddillion i dy ei hir gartref gan dorf anarferol o fawr. Yr oedd yn un o'r angladdau mwyaf a welwyd er ys tro yn Aberdar.
Advertising
Yn awr yn barod, CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD CROSS INN, TRECYNON, I'w gael gan Mr. John Richards, Cross Inn, Trecynon. Pris y llyfryn, 3c. trwy y Post, Ile. HANES MORGANWG. GAN DAFYDD MORGANWG. CYNWYSA y gyfrol 532 o dudalenau, map o'r sir, darlun o'r awdwr, darluaiau o Aberdar, Abertawy, Casrffili, Llanfleiddian Fawr, y Bont- faen, Pontypridd, a Llanddunwyd. Pris mewn llian addurnedig acymylon goreuredig, 10s. Pob archebion i'w hanfon i'r awdwr, DAFYDD MORGANWG, Hirwain. BETHEL, TRECYNON. CYNELIR CYFARFOD CYSTAD- leuol yn y capel uchod, prydnawn dydd Tau, Mehefin y 3ydd, 1875, pryd y gwobrwyir y buddugwyr mewn Rhydd- iaeth, Barddoniaeth, Caniadaeth, &c. Programmes, yn cynwys yr holl dest- ynau, &c., i'w cael amy pris arferol, gan W. Davies, 9, Glan Road; Rhys Etna Jones, a B. Phillips, Gadlys Road, Aber- dar SPRIN.& FASHIONS, ( 1875. HENRY LEWIS HAS NOW RE-OPENED his SHOWROOMS WITH THE LATEST NOVELTIES IN MILLINERY, COSTUMES, SKIRTS, MANTLES, DRESSES, SILKS, FANCY GOODS, &0. 77) Commercial Place, ABERDARE. COFEINAU EHADJ! DTMUNA SAMUEL MORRIS, 64, BUTE 8TBEUT, ABEIIDAII, HYSBYSU y cyhoedd yn gyfi'redinol ei fod JLI yn awr yn barod i ymgymeryd a gwneud unrhyw fath o GOFFINAU, a hyny mor isel neu is na neb arall yn y cymydogaethau. Y mae yn teimlo yn wirddiolchgar i'r cyhoedd am y gefnogaeth y mae wedi ei chael yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, gan obeithio y bydd iddo gael parhad o'r cyfryw gefnogaeth am y dylodol. YN EISIEU, DEUDDEG o Deilwriaid ar unwaith. Ymofyner a R. IS VANS, Compton House, Llanidloes. SUM IEKTASHro¥s, 1875. WM. SARVIS, ABERDARE, BEGS to announce that, having com- pleted his arrangements for the Season, he has commenced showing, on S AT,U ED AY LAST, MAY 8th, And following days, all the most RECENT NOVELTIES In the Leading Departments: MILLINERY! MANTLES! COSTUMES! SHAWLS! SILKS! DRESS MATERIALS! GLOVES! FLOWERS! FEATHERS! &c., &c., SQliciting tlte favour of a Call. P.S.—W. S. begs to inform his Friends, Patrons, and the Public generally, that he has not issued Circulars this Season, and hopes that they will accept this mode of announcing his return from the L Markets. NOTICE!! G. GEORGE, MILL STREET, FOR NEW BONNETS & HATS MANTLES! DRESSES! SKIRTS! PARASOLS! &c., &c. SHOW-ROOM now OPEN, SATURDAY MAY 8th, 1875. And will continue so until the close of the Season.
PWYLLGOR EISTEDDFOD THE-HERBERT…
esgynlawr i gyd yn llogell Mynyddog- Ond dichon eu bod wedi eu parljpeu gan bigiadau cydwybod (os gwyddant beth yw hyny). Am y llywydd, Mr. Curnew, j yr wyf yn sicr r.a chymeraBai ei bwysau 0 aur am fod a Haw yn y fath a.none«t- rwydd. "Nid yw y cyfiawn yn breuddwydio am ofn; yr euog sydd yn ofni." Eithaf gwir, frawd. Dyna wirionedd. o le heb ei erfyn. Nid oedd genyf fi ddim i'w ofni, canys nid oeddwn wedi gweled y tu ol i'r lien nes i mi esgyn grisiau yr esgynlawr ond gwn fod y pwyllgor yn y cyfrinion oddiar y noson flaenorol. Felly, mae pob synwyr yn dweyd mai y pwyllgor oedd mewn ofn, tra y gallaswn inau ganu esmwyth cwsg potes maip." Yn y paragraff lie mae fy adolygydd yn trin gwreiddyn y drwg," y mae fel dyn yn cerdded yn droednoeth—yn go- falu nad a yn agos i'r drain sydd ar ei ffordd. Ai golygu yr ydych nad oedd amod- au yr Eisteddfod yn nnoi a deddf cyf- iawnder egwyddorol P Ie, frawd, holl- 01 anunol hefyd. Os dywedir mai "cyf- iawnder egwyddorol" yw gosod rheol bwrpasol i ysbeilio ymgeiswyr, taflaf yr ysbwng i fyny ar unwaith. Gwyddom fod deddfau gan ladron proffiesedig, ond nid yw eu bod yn gweithredu yn ol y cyfryw ddeddfau yn cyfiawnbau y gro- nyn lleiaf arnynt, nac ychwaith yn profi fod llawer o gyfiawnder egwyddorol^' yn eu hawdwyr hefyd. Dywed fy adolygydd os nad oedd yr Ily amodau yn fy siiito, fod croesaw i mi beidio cystadlu. Eithaf gwir, a pbe bu- aswn yn gwybod eich rbeolau, dyna fel y buasai hefyd. Ymddengys fod yr oil o fy nghydfeirdd wedi arogli sawr afiach yn eich amodau, neu paham na fuasent yn anfon i gystadleuaeth eich eisteddfod chwi fel eisteddfcdau ereill a gynaliwyd yn Nhreherbert ? (Tw orplien yn ein nesaf.)