Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
DYGWYDDIADAU FFODUS.
DYGWYDDIADAU FFODUS. PAN y syrthiodd Miss Hewett gynt i'r Tafwys o fenestr ty ei thad ar Bont Llundain, yr oedd y ddamwain yn un ffodus i'r egwyddorwas ieuanc gwrol, yr hwn. a gymerodd header, ac a acliub- odd yr etifeddes ieuanc rhag boddi; canys fel gwobr am wroldeb parod y bachgen, pan daeth y plentyn yn fon- eddiges ieuanc hardd, ni wrandawai Syr William ar unymgeisydd cyfoethog, canys addawodd mai yr hwn a'i hachub- odd o farwolaeth a gai ei hetifeddu am fywyd; a chan ei bod hithau o'r un feddwl, darfu i Edward Osborne briodi merch y tywysog masnachol, a buont fyw yn ddedwydd byth wedi hyny. Ond nid oedd ymdaflu i afon Tafwys ond gweithred fechan at yr hon a gyf- lawnodd gwasanaethwr William of Orange o gariad at ei feistr, pan fy- gythiai y frech wen gymeryd ymaith fywyd y cyfryw foneddwr. Dywedai y meddyg nad oedd dim a achubai y claf ond i ryw ddyn ieuanc iachus fyned i orwedd yn yr un gwely ag ef, ac wrth ei gymeryd i'w freichiau daflu digon o wres i'w gyfansoddiad fel ag i orfodi yr afiechyd i dori allan. Bodd- lonodd Bentinek, page y boneddwr, i ymgymeryd a'r sefyllfa beryglus hon. Llwyddodd y prawf, a diangodd y dyn ieuanc yn ddianaf, a hyny i fwynhau rhan o lwyddiant bydol ei feistr, canys daeth yn Brif Weinidog Lloegr, a chafodd dy ac enw anrhydeddus yn ngwlad ei fabwysiad. Ychydig feddyliai yr apothecary di- nasol, pan y cynygiodd yru Arglwydd Butei'r aricket-match arMoulsey Hurst, ei fod yn rhoddi i'w gymydog gwledig lift mewn dwy ystyriaeth. Yr oedd -Frederick, Tywysog Cymru, yn edrych ar y chwareu, ac i'w ddifyru tra yr oedd y chwareuwyr yn aros am i'r gwlaw fyned drosodd, cynygiwyd ar fod i chwareu neillduol fyned yn mlaen. Yn gymaint a bod y pendefigion yn brin, cafwyd trafferth i wneud y nifer gofynol i chwareu i fyny, nes i rywun gofio ei fod wedi gweled Arglwydd Bute ar y maes. Deuwyd o hyd iddo, a gofyn- wyd iddo am gymeryd rhan gyda'r teulu brenhinol. Trwy iddo chwareu ei gardiau yn dda, wedi y game gwa- hoddodd y Tywysog ef am dro i Kew. Yn ftian addfedodd eu hadnabyddiaeth i gyfeillgarwch, a chyn bo hir yr oedd yr Iarll Ysgotaidd yn bob peth yn Lei- cester House-yn brif gynghorwr i'r gwestywr a'r westywraig, cyfarwyddwr addysg eu mab ac etifedd y goron. Gydag esgyniad William III. cyflymodd dyrchafiad Bute yn Ysgrifenydd Car- trefol, ac o hyny i Brif Weinidog- dyrchafiadau na fuasai byth yn eu cyr- haedd oni buasai am chwareu whist ar foreu gwlawog. Pan yn rhodiana ar draws y maesydd yn agos i Sayes Cqgrt, daeth Evelyn ar draws ty unigol, a phan yr edrychodd efe i mewn canfyddodd ddyn ieuanc yn brysur gerfio ar bren. Pan yr aeth i mewn, gwelodd waith na welodd efe erioed o'r blaen ei gyffelyb o ran cel- fyddyd. Hysbysodd Evelyn y brenin am yr hyn a welodd, ac edrychwyd allan am le iddo, yr hyn a roddodd gychwyn- iad i Grinling Gibbons i gyfoeth ac enwogrwydd. Gallasai y buasai Sherwin, y cerfydd, wedi gorphen ei ddyddiau fel torwr coed oni buasai iddo gael 'ei alw i drawing-room, Mr. Mitford tra yr oedd y boneddigesau ieuainc yn mwynhau eu hunain wrth y gorchwyl o dynu dar- luniau. Wrth sylwi fod ei dorwr coed yn cymeryd dyddordeb neillduol yn yr hyn a wnelai y boneddigesau, gofynodd Mr. Mitford a fedrai ef wneud rbyw- beth yn y ffordd bono. Atebodd Sher- win nad oedd yn meddwl y gallai, ond y carai efe dreio. Rhoddwyd papyr a phencil yn ei law, ac er anystwythder ei fysedd celyd, tynodd ddarlun a syn- odd yr oil, a'r hwn, pan ei arddangos- wyd i Gymdeithas y Celfyddydau, a enillodd y tlws arian. Rhoddodd hyn gychwyniad yn Sherwin, fel yr enillodd enw yn myd y celfyddydau. Pwy na chlywodd am gychwyniad Sharp y paentiwr. Fe ddywedir ei bod yn arferiad i weision brenhinol gynt, pan y byddai y brenin yn myned o'r naill ran i'r llall o'r palas, i barotoi y ffordd o'i flaen trwy waeddu allan, 11 Sharp, sharp; look sharp." Cyr- haeddodd y waedd glustiau Sharp y paentiwr, yr hwn ar y pryd a barotoai liwiau yn rhai o ystatelloedd y palas brenhinol, a meddyliodd ei fod yn caei ei alw. Rhedodd allan i gyfarfod ei alwedydd, ond er ei ddychryn daeth wrthdarawiad disymwth a'r brenin, yr hyn fu yn achlysur i'r paentiwr druan fesur ei hyd ar y llawr. O'r adeg hono allan ni chollodd y brenin gyfle i gy- northwyo dyrchafiad y paentiwr, a dyrchafwyd Sharp trwy ei gwymp. Bu Halil Pasha yn ddyledus am ei ddyrchafiad i beth mor fychan a syrth- iad lamp. Yr oedd yn dygwydd bod yn gwneud gwaith tinman yn ystafell y Sultana Valide, pryd y tarawodd y lamp i'r Ilawr. Yn meddwl nad oedd neb yn Constantinople a fedrai well a y lisern ddefnyddiol, bwriadai ei hanfon i Paris, pryd y gofynodd y tinman ieuanc am gael treio beth a fedrai efe wnend o honi, ac a lwyddodd i'w rhoddi yn iawn. Cafodd y foneddiges ei boddloni gymaint fel y siaradodd am dano wrth ei mab, y Sultan, ac wedi iddo ynteu brofi gallu y tinman mewn amryw ffyrdd, apwyntiodd ef yn Brif Feistr ei Fagnelwyr, yr hon swydd a gyflawnodd yn anrhydeddus, ac er mantais fawr i'w wlad. Yr oedd offeiriad tlawd, ond balch, yn rhan-berchenog o ddarn diffrwyth o dir, yr hwn yr oedd boneddwr unwaith yn ceisio ei brynu. Yr oedd y bon- eddwr wedi addaw talu swm bychan i'r offeiriad am ei hawl, ond yn methu dod i fyny a'i gytundeb, aeth Mr. Hughes ymaith mewn tymer ddrwg, gan ballu gwneud dim yn rhagor a'r boneddwr anmhrydlawn. Yn fuan wedi hyny deuwyd o hyd i wythien werthfawr o gopr ar y darn tir, a thynodd yr offeiriad dros haner can mil o bunau yn flynyddol o'r tir y bu mor agos a rhoddi ei hawl o hono i fyny. Yr oedd Mr. Coutts yn ddyledus am ei lwyddiant fel arianwr i'r ffaith iddo glywed, yn fuan wedi dechreu mas- nachu, fod ariandy neillduol yn Llun- dain wedi pallu benthyg deng mil o bunau i foneddwr uchel. Ysgrifen- odd Mr Coutts at y boneddwr urddasol, a gofynodd iddo alw; ac wedi iddo alw cynygiodd iddo fenthyg y cylryw swm. Ond nis gallaf gynyg i chwi unrhyw sicrwydd," ebai y boneddwr. "Bydd nodyn o dan eich llaw yn ddigonol," oedd yr atebiad. Derbyniwyd y cy- nygiad, ac aeth y benthycwr ymaith a phum mil o bunau, gan adael y lleill at ei alwad. Ymdaenodd yr hanes yn gyflym, yr hyn a dynodd luaws o gws- meriaid newyddion. Daeth yr hanes i glustiau y brenin, yr hwn a allfonodd am weled yr arianwr haelfrydig, a bodd- lonwyd ef gymaint gan ei ymddyddan- ion, fel y gorchymynodd drosglwyddo ei fasnach arianol i Ariandy Coutts.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am eyniadau a golygiadau ein gohebwyr, ond yr vdym dm adael rhyddid barn i bob dyn, a rhyddid ysgrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfynau cyfraith a moes- oldeb.-GOL.'
PWYLLGOR EISTEDDFOD TREHERBERT…
PWYLLGOR EISTEDDFOD TRE- HERBERT A CHWYTHWR EU HUDGORN. ( Parhad.) Os darfu i chwi gystadlo. (a ydych bron myn'd i amheu hyny!) ac enill, yn ol yr amodau, gellwch hawlio y wobr mewn Ilys gwladol." Purion. Yn awr, yr wyf wedi cael gafael yn eich program, ac nid yw yn dweyd erbyn pa ddyddiad yr oedd yr enw priodol i fod yn llaw yr ysgrifenydd, a gallaswn roddi fy enw i'r ysgrifenydd dydd yr Eisteddfod, neu heddyw os mynweh, a hyny heb dori eich rheol dyllog chwi. Hefyd, nid yw eich program yn son dim am atal y wobr, oa na fuasai yr ymgeiswyr yn anfon eu henwau priodol i'r ysgrifenydd. Y mae yn rhyfedd genyf os nad yw hyn yna yn ddigon o sail i'ch tynu fel pwyllgor i'ch lie priodol. Dywed fy adolygydd coethedig yn mhellach fy mod wedi "dyrysu," a fy mod wedi troi i ofyn am drugaredd oddi ar eu dwylaw! Rhagorol, syr. Dyna dybiaeth wreiddiol a thragwyddol" beth bynag. Gallasai dyn wedi dy- rysu fod a'i ddeall yn ddigon cryf i" ragweled mai llafurio yn ofer a fuasai apelio at y fath hiliogaeth a hwy am drugaredd. Gwn fod gwahaniaeth (nis gwn a ydyw yn "dragwyddol" neu beidio) rhwng cyfiawnder a thrugaredd, a gwn hefyd fod gwahaniaeth dirfawr rhwng pob un o'r ddau ag ymddygiad Pwyllgor Treherbert. "Yr ydych yn ymresymwr diail," meddai fy adolygydd. Y mae yn dda ge>nyf nad yw ei ymresymiad ef yn gwrth- brofi hyn; ae i gwrdd a'r adran hon o'r adolygiad y mae fyngofyniadynyllyth- yr blaenorol yn sefyll, sef,—I beth oedd y pwyllgor yn cynyg gwobr am bryddest, os oeddynt am ddal ar gysgod o beth i'w hatal wed'yn-? Y mae y ffaith yn aros yr un..Egwyddor ddrwg yn cael ei chwythu yn Mam gan ragolygon ystorm- us a barodd iddynt atal y wobr. Y mae fy adplygydd hollwybodus wedi breuddwydio fy mod yn teimlo i'r byw wrth weled fy llafur wedi myned yn ofer. Na, frawd, yr wyf yn rhy gyfarwydd a hyny, can belled ag y mae a fyno gwobr eisteddfodol a'r peth. A gallaf hysbysu fy nghyfaill dysgedig na fu cyfansoddi y bryddest yn fawr llafur i mi ond er lleied oedd, yr oedd yn ormod i'w daflu fel gemau o flaen moch." Am y wobr, nid cymaint oeddwn yn hidio am dani; oblegyd gallaf fyw hebddi yn well na'r pwyllgor hwn a'i hamddiffynydd, a barnu oddiwrth arwyddion yr amaerau." Dymunaf wnend yn hysbys i fy adol- ygy.dd fy mod yn deall Cymraeg yn ddigon da heb iddo ymdrafferthu i cl chwilio am frawddegau Seisnig. Na wastraffed yr hyn sydd yn ei feddiant o'r iaith fain, rhag ofn iddo gael ei bun mewn lie y bydd yn ofynol iddo wneud defnydd helaeth o honi. "Heaven give thee rest," &c. Diolch iddo am ei ddymuniad, ond byddai cystal iddo beidio a bod yn rhy hael ar ei gyffeiriau, gan ei fod ef ei hun a'i dylwyth mewn cymaint o angen am danynt. Yn awr am asgwrn y gynhen. Go- fynais beth gwell fuasai y pwyllgor pe buasai fy enw gan yr ysgrifenydd. Ond ni welodd udganwr yn dda fy ateb; ond gofyna yn wawdus, beth gwaeth ^fuas- ech chwithau o anfon eich enw i'r ys- grifenydd ? Y mae yr ateb wrth law. Pe buaswn yn gwybod fod eisieu anfon yr enw priodol i'r ysgrifenydd, ni fuaswn yn dodi pin ar bapyr gogyfer ag Eistedd- fod Treherbert. Yr wyf yn rhy gyfar- wydd a thriciau ysgrifenyddion i ym- ddiried yr enw priodol iddynt. Yn an- aml iawn y ceir ysgrifenydd yn ddigon gonest i gadw yr enwau priodol dan sel" hyd ddydd yr Eisteddfod. Y mae eithriadau gogoneddus mae'n wir; ond y mae yn amheus genyf pa un a ellir rhestru Ysgrifenydd Treherbert yn mhlith yr eithriadau. Yr wyf cyn hyn wedi gweled yr holl enwau priodol a an- fonwyd i ysgrifenydd dan sel," wedi eu rhesu yn gryno mewn llyfr pwrpasol, a holl gyfeillion yr ysgrifenydd yn gwy- bod pwy oedd pawb oedd yn cystadiu cyn dydd yr eisteddfod a'r ysgrifenydd, can gynted agydarllenidyfeirhiadaeth, yn agor ei lyfr, ac yn hysbysu pwy oedd y buddugol, pa un a fuasai yn bresenol neu beidio; a lied debyg pe buaswn i wedi anfon fy enw i'r ysgrifenydd, y buasai ef a'i dylwyth yn gwybod pwy oeddwn yn yr ymgynghoriad pwysig y noson flaenorol i'r Eisteddfod. Yr wyf wedi penderfynu na fydd i mi anfon fy enw priodol byth i un ysgrifenydd pan y byddaf yn bwriadu bod yn bresenol yn yr Eisteddfod, neu anfon cynrychiolydd, a hyny pe bawn heb wobr yn dragywydd. Yn awr, Mr. Jones, onid dyben yr enw priodol dan sel" ydyw i gael gwybod pwy fydd yr ymgeisydd buddugol os na fydd yn bresenol yn yr eisteddfod pan elwir ei ffugenw? Nid yw y rheol hon wedi cael ei bwriadu erioed i fod yn foddion i ddynion diegwyddor i ysbeilio yr ymgeiswyr o'n gwobrwyon. Ond nid dyma y rheol gyntaf ag y gwnaed cam- ddefnydd o honi gan ddynion ag y dis- gwylid pethau gwell oddiwrthynt. Yn awr feirdd a thraethodwyr, a holl ymgeiswyr Eisteddfodol Cymru benbal- adr, gan fy mod yn debyg o gael fy ngwneud yn ferthyr mewn cysylltiad a rheol yr "enwau priodol dan sel," yr wyf yn meiddio cynyg yn ngwyneb haul a llygad goleuni," nad ydys i gyd- ymffurfio a'r rheol hon o hyn allan; ac oa na fydd yr ymgeiswyr yn bwriadu bod yn yr Eisteddfod, neu anfon cynrych- iolydd, bydded yr enw priodol dan sel" wrth y cyfanaoddiad, ac na foed i un ysgrifenydd gael tori y "sel," eithr an- fon y cyfansoddiadau aflwyddianus a'r enw priodol heb ei ddadlenu i'r gwa- hanol ymgeiswyr p.n anfonant am dan- ynt ac os na fydd i'r ymgeiswyr anfon am eu cyfansoddiadau o fewn un dydd a blwyddyn, tored yr ysgrifenydd y sel," a thanied ei bibell o'r cyfansoddiad os myn. Pe gwnaed hyn, caem wared o lawer o driciau Eisteddfodol, a thorid ewinedd bodau ysglyfaethus fel yr wyf fi wedi gorfod ymwneud a hwynt. Frodyr llenyddol, traethwch eich lien ar y mater, y mae eisiau ei godi i'r gwynt. Os i'm sylwad beiad bydd, Agored wyf i gerydd. BRYNFAB.
DEWI DYFAN.
DEWI DYFAN. DA genyf ddeall fod mudiad ar droed i anrhegu y llenor coeth a'r gweinidog llafurus, Dewi Dyfan, ar ei ymadawiad ag Aberdar am ei faes newydd yn Nhgeredigion. Gobeithio y bydd i ffrynd- iau y cyfaill caredig hwn wneud yr an- rheg yn un deilwug o hono. Bydd yn dda genyf gael cyflenstra. i daflu fy hadling i mewn.- Y I' eiddoch, RHYS ETNA JONES.
Y PABYDDION A GWAIIARDD-IAD…
Y PABYDDION A GWAIIARDD- IAD YR YSGRYTHYRAU. LLITH III. DYWED Mr. D. W. Jones (Dafydd Mor- ganwg) wrth ymdrin a phenderfyniad Cymanfa Trent, yn .1564, mewn cysyllt- iad a'r llyfrau gwaharddedig ei fod yn debyg i'r hyn a achlysurodd Gynghorfa Toulouse yn 1227. Dywed Mr. Jones fod addysg grefyddol y werin wedi cael ei hesgeuluso. Ac yn ngwyneb yr es- geulusdra hwn o du yr offeiinaid, a bod yr Eidalaeg, iaith gyffredin y bobl, yn ,Y gwabaniaethu oddiwrth y Lladin, sef iaith y Beibl, a bod copi yn costio tua £ 60, fe wnaeth rhai o'r werin, yn cael eu cynorthwyo gan rai o'r cyfoethogion, ymgymeryd a'r gorchwyl o wneud y di- OY ffyg i fyny goreu y gal-lent, trwy gyf- ieitbu rhanau o'r Beibl Lladin i'w hiaith sathredig eu hunain. Os oedd rhai o'r cyfieithiadau heb fod yn ddigon cywir o'r Lladin, yn ol barn yr esgobion a'r offeiriaid Pabaidd, ac os oedd ambell un yn afler; eto, dywed Mr. Jones nad oedd hyny yn cyfiawnhau penderfyniad y Gynghorfa (Toulouse). Yn awr, pa beth y mae Mr. Jones yn dweyd nad oedd yr offeiriaid Pabaidd i'w cyfiawnhau am yr hyn a wnaethant yn y Gymanfa? Wel, am iddynt basio penderfyniad "nad oedd neb i ddarllen llyfrau yr Hen Destament na'r Newydd, na neb i gyf- ieithu un o'r llyfrau i iaith gysefin y bobl." Neu ynte, yn 01 syniad Mr. Jones, mai "y rhai a gondemniwyd oeddynt gyfieithiadau o'r Lladin, sef eiddo Je- rome, i iaith sathredig y bobl yn 1229, pan oedd y Lladin wedi clafychu, ac yn dechreu myned yn iaith farw." Yn awr, gan fod Mr. Jones yn dweyd nad oeddynt i'w cyfiawnhau am eu dedfryd yn "atal yr Ysgrythyrau i'r werin yn yr iaith ag oeddynt yn ei deall, sef yr Eidalaeg, pa beth a ddywedwch am danynt yn cadw y Beibl mewn iaith nag 0 oedd y werin yn alluog i ddarllen y Beibl na'i ddefnyddio, sef y Lladin ? Ni chawsai neb arall gyfieithu y Beibl i iaith y bobl gan yr offeiriaid a'r esgobion Pabaidd, ac ni wnaethent hyny eu hun- ain. Dengys hyn fod yr hyn aglywsom gan y pregefhwyr yn wirionedd am an. foddlonrwydd yr offeiriaid Pabaidd fel dosbarth i'r werin i ddarllen a defnyddio yr Ysgrythyrau," er fod Mr. Jones yn eu condemnio am wneuthur hyny o'r pwlpudau, ac mai chwedl gyfeiliornus o eiddo y pregethwyr oedd hyn am yr offeiriaid Pabaidd. Caiff Mr. Jones draethu ei farn yn mhellach ar benderfyniad yr un Gy- nghorfa,—" Yr oedd yr esgobion a'r offeiriaid yn debyg i'r ci yn y preseb, yn y chwedl, ni chyfieithent y Beibl eu hunain, ac nid oeddynt yn foddlawn i neb arall wneud hyny." Dyma addefiad o eiddo Mr. Jones ei hun yn dangos yr anfoddlonrwydd mwyaf gan yr esgobion a'r offeiriaid Pabaidd i'r werin i ddar- llen a meddianu y Beibl. O'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y caed allan felusder." Y mae Mr. Jones wedi can. fod yn yr offeiriaid a'r esgobion Pab- aidd debygrwydd mawr i'r ci yn y pre- seb; anaml y clywais erioed ymadrodd mwy dirmygus gan un pregethwr o'r pwlpud am danynt. Y mae mewn cwn allu mawr, nid i ysgyrnygu eu danedd a chyfarth yn unig, ond i gnoi ac archolli yn arswydus. Pwy sydd wedi siarad fel yna am yr esgobion a'r offeiriaid am eu hanfoddlonrwydd i neb gyfieithu y Beibl i iaith a allai y bobl ddarllen yr Ys- grythyrau ynddi? Pwy allai y darllen- ydd feddwl ydyw, ond Mr, Jones (Da- fydd Morganwg), er ei fod wedi trin y pregethwyr am ddweyd fod yr offeiriaid Pabaidd, fel dosbarth, yn wrthwynebol i'r werin ddarllen y Beibl. Credwn ni- nau yr un peth a'r pregethwyr; a chyn y terfynwn ein llythyrau, adroddwn am eu gwaith yn llosgi copiau o'r Ysgryth- yrau. Eu prynu gan Feibl-gludwyr, ac ar ol talu am danynt, yn eu darnio o flaen eu llygaid! Y mae Mr. Jones am i ni ddal sylw fod dwy wyneb i ddalen penderfyniad y ddwy Gymanfa, Toulouse a Trent. Y mae Mr. Jones, wrth edrych ar un wyneb i'r ddalen, a chwip o fan reffynau, ac nid yw yn arbed ei defnyddio ar gefn yr offeiriaid Pabaidd, nes yw y gwaed yn ffrydio yn llifogydd mawrion o'r cwysi, gan fel y mae ag un llaw yn eu slasho am atal cyfieithu yr Ysgrythyrau i iaith y werin." Ac yn nghanol y chwys mawr a'r dagfa ar ol iddo eu chwipio, y mae gyda hunan-foddhad yn ysbio y wyneb arall i'r ddalen, yn dechreu ad- fywio a chael tipyn o'i anadl, ac yn gweled toraeth o fel ar y wyneb hono, a brasder anghymharol i'r bobl arni, ac mi wn fod y darllenydd agos a myned i lesmair esmwyth o eisieu gwybod yn iawn pa fath wledd oedd yr offeiriaid a'r esgobion Pabaidd wedi ei darpar i'r werin anysgedig yn y ddwy gymanfa. Wel, wel, dyma bob peth yn barod bell- ach i ni gael crochfloeddio pa beth ydyw y ddarpariaeth ddigymhar hon, dyma hi -Beibl Lladin: Beibl Lladin i'r werin, a hwythau heb wybod yr iaith Lladin Ie, ïe. Dyma gyfleustra gwerthfawr i ail gnoi cil, beth bynag am fforchogi yr ewin. (Twbarhau.) ••
CYFRAITH Y MEISTR A'R GWEITHIWR.
CYFRAITH Y MEISTR A'R GWEITHIWR. MR. GOL. Yn eich rhifyn diweddaf ymddangosodd ysgrif dan y penawd uchod, yr hwn sydd yn camddarlunio y cynghaws a wrandawyd yn Llys yr Heddo-eidwaid, Merthyr, dydd Mercher, v Sed'cyfisol, yn mha un yr oeddwn i yn gvfranog; a thrwy fy mod yn credu na cbyhoeddech yn wirfoddol yr hyn nag sydd yn gywir, yr wyf yn hyderu y can- iatewch chwareu teg i mi wrthbrofi yr haeriad yn yr un colofnau ag yr ymddan- gosodd, ac i draetbu y gwinoneddyngy. mhwys fel ag y safai. Y mae yn wir- ionedd i mi gael gwys ynerbyn John R. Evans am yn wirfoddol absenoli ei hun oddiwrth ei waith, ond ni wnaethum hyn er mwyn cosbi y dyn ond i gael iawn ganddo am yr hyn a gollais trwy ei absenoldeb, ac ni ddarfu i mi ei wysio o dan gyfruitb ddarostyngedig y 14th Section ond y 9fed Section In awr, trwy fod dosbarth penodol yn ceisio gwneuthur o hyn gymaint ag a fedrant, yr ydwyf yn meddwl mai teg ydyw i mi ddwedyd, i mi ugeiniau o weithiau ry- buddio Evans yn nghylch esgeuluso ei waith, ac nad oedd genyf deimlad dial- eddgar, nac yn chwenych cospi, a welir yn amlwg pan y dywedaf mai fy amcan 1 ydoedd dwyn y mater ger bron yn y County Court am y golled a dderbyniais; ond cefais ar ddeall gan fy nghyfreith- iwr nas gallwn wneuthur hyn, ac mai fy unig lwybr fyddai cymeryd yr achos o flaen yr Heddynad. Yn ychwanegol yr oeddwn wedi cael fy sicrhau y byddai cymhelliad ar yr arch a wnaed yn yr wys, o dan y 9fed Section, yn gymhwys yr un mewn gweithrediad ar County Court. Ond y mae eich gohebydd chwi yn dweyd fod yr "Y nad dysgedig wedi rhoddi ei farn yn fy erbyn," yr hyn nid yw yn wirionedd. Y gwirionedd yw fy mod, ar ol i'r wys gael ei gwasanaethu ar Evans, gvtuno ag ef, ond iddo ef dalu y costau, a swm bychan o iawn, ar y de- alltwriaeth ei fod i ddyfod i weithio yr wythnos ganlynol. Daethum i r cytun- deb hwnnos Sadwrn, a thelais iddo 25s. amy gwaith yr ydoedd wedi ei wneu- thur, ond ar y dydd Llun canlynol darfu i'r amddiffynydd dori yn wirfoddol y cytundeb hwn mewn modd gwarthus, trwy sarhau ei gydweithwyr, a chyfaill ag ydoedd gyda mi yn y swyddfa ar y pryd. Er fymod wedi madden y trosedd cyntaf, wele ef yn cyflawm ail droseddy dydd Llun canlynol, am ba un y gallwn ei wysio. Pa fodd bynag, tynais yn ol y wys cyntaf, ac ni ymyrais yn mhellach yn y mater. Pe bawn yn ddialeddgar, fel y mae rhai dynion yn ceisio haeru, buaswn wedi dwyn y cwyn o dan y 14eg Section, yr hyn sydd. yn gwneuthur tor- iad amod yn criminal opnee, ond met oeddwn yn ewyllysio gwneuthur hyny trwy fy mod yn amddiffyn yr hyn yr oeddwn yn wastad yn ei amddittyn, fod toriad amod i gael ymdrin ag ef fel civil offence. Ond y mae genyf eto I w ddysgu gan fod dyn gweithgar amddiffynydd i iawnderau llafur, ei fod I oddet gael ei niweidio gan weithiwr arall heb otyn am ryw gydnabyddiaeth ganddo. J- r ai hyny a wyddant y cwbl o amgylchiadau mater a ryfeddant yn fawr na chymeru i;; gynghaws yn ei erbyn ar amr^wio achosion cyn hyn. Ond y mae genyf achos i fod yn eithaf boddlawn ar y cyr- newidiad a wnawd yn y swyddfa, ac y mae yn bur ddrwg genyf na buaswn wedi gwneuthur y cyfnewidiad hwn 12 mis yn ol. Yr wyf yn foddlawn gadael I r mater aros yn y man y mae. Yr eiddoch yn gywir, Merthyr. J. T. MORGAK.
CASTELLNEDD-Y GYMANFA GERDDOROL.
CASTELLNEDD-Y GYMANFA GERDDOROL. Y MAE yn hysbys bellach fod y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt) ar ei daith trwy sir Forganwg er symbyliad y canu Cynulleidfaol, ac y maE ei lwyddiant yn rhyfedd yn dlwyllio canu pyrth merch Seion, yrhyn sydd yn anbebgorol angen- rheidiol, Dydd Iau, y 13eg, talodd ym- weliad a'r lie nchod. Decbreuwyd y cyfarfod am dri o'r gloch y prydnawn trwy weddi gan y Parch. Mr. Walters, ac yna canwyd Llangoedmor mewn hwyl dros ben. Gellir dweyd am y cyfar- fod hwn ei fod yn un pleserus dros ben. Dechreuwyd cyfarfod chwech o'r gloch trwy weddi gan y Parch. Llewelyn Llew- elyn, Briton Ferry, ac yna aethpwyd yn. mlaen. Hwn ydoedd y cyfarfod goreu y buom ynddo erioed. Nid a'r genau yn unig y canwyd, ond a'r ysbryd hefyd. Y darnau mwyaf effeithiol oeddynt Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio ac Yn. y Man," o Swn Jubili. GWILYM DDU O'R LIAJ*-
[No title]
DYDD Sadwrn diweddaf anrhegwyd Mr. S. Morley, A.S., a Mr. J. R. Miikj, a'u darluniau, fel cydnabyddiaeth am. eu llafur diflin ar ran Anghydffuriaeth.. 0 YN Richmond dydd Sul diweddaf llof- ruddiodd un Mrs. Hilier ei baban newydd-anedig trwy dori ei wddf. Ceisiodd wedi hyny gyflawni hun an- laddiad am ei bod yn analluog i drju bil y meddyg.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
Prynwyd ef i fewn am £ 36,000. Dengys hyn sefyllfa isel masnach. Mai 11, Middlesborough. 128 o ffwmesi ar waith. Llawer o haiarn yn cael ei wneud. Pris y glo yn dda. Mai 12, Wolverhampton. Prisoedd da am yr haiarn goreu. Llawer o geisio am gyfranau bychain o haiarn. Y mel- inau mewn gwaith hyd eithaf yr amser oblegid dyddiau gwyl y Sulgwyn yr wythnos nesaf.