Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YN SYNAGOG YR IUDDEWON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YN SYNAGOG YR IUDDEWON. (Parhad o'r rbifyn diweddaf.) DYWEDODD un mawr unwaith am un mawr arall, there is eloquence in his silence." Yr ydym yn tystiolaethu yn y man hwn fod gwyngjs yr luddew, pan yn ymbil am faddeuaat pechodau o pec flaen ei Dduw, yn hyrddio hyawdledd purach a mrtholach tuag atoch nag y medr un cnawd byw i wneud a'i dafod. Y mae yr luddew yn ymagweddu o flaen ei Dduw fel un wedi cwympo i'r mor, ac yn nghanol pangfeydd annir- nadwy, y mae yn ymysgwyd coluddion ei gorff a'i en aid i geisio achub ei hun- an. Anghofiaf fi byth o agwedd ym- ostyngol Islwyn seraphaidd y tro diw- eddaf y cysgasom dan yr un gronglwyd —ei ymbiliadau prudd-gwynfanol a ymddolenent fel cljchau byd avail o'n hamgylch o hyd, a phob tro yr awn i'r ZIY I Synagog, yno y mae Islwynyddiaeth wedi ymberffeithio. O hyawdledd pur a derchafedig: nid oes ond anadl yr Hollalluog a all dy gveu y mae dy ddwyfol belydrau wedi cael eu gwasgar drwy holl ym- herodraethau y Duw mawr; ac yn gy- anaint a bod dy ddylanwad mor anfeid- rol rymus, yr ydym yn cwympio wrth dy orsedd i ddymuno arnat i'n cadw o dan dy lywodraeth drwy yr oes hon a holl oesau y tragwyddoldeb diderfyn. Y mae y gyfraith luddewig wedi ei hysgrifenu ar groen, fel y gwyddis, a dywedodd Rabbi Iuddewig wrthyf nad oes bawl ganddo fe na neb aralli ddar- llen Torath Moshe (Cyfraith Moses) ond o'r "Rol" yn unig; ond yr wyf fi wedi clywed personau anurddedig yn darllen allan o lyfr seiffer eyffredin. Gwyr y cyfarwydd nad oes bogeiliaid yn perthyn yn wreiddiol i'r iaith Hebraeg, ond y mae yn ddosran o'r linach Iuddewig wedi rhyfygu yn ddiweddar i ychwanegu vowel points at yr arwyddluniau llyth) renol, yr hyn weithred anfad (?) a gwrth- Hebreaidd a fu yn foddion i dynu lawr ar eu penau holl watwargerddi a gogan y ddosran avail; nid yw'r ychwanegiad bogeiliol, medd y ddosran olaf", ond ymgais o eiddo ynfydrwydd dynol i wella ac ychwanegu at yr iaith buraf a greodd Adlonoi!" Gwaith anhawdd darllen yr Hebraeg drwy gynovthwy y vowel point chwaithach ei darllen heb un ond eto, nid oes neb wedi anturio hyd yma i ddodi'r Ilafariaid yn y "Rol" gysegredig a ddarllenir yn y Synagog, a gwaith yn ymylu at an- mhosiblrwydd yw i Rabbi na neb arall i ddarllen heb un camsynied, ac os dy- gwydd wneud sain anweddus neu es- geuluso eymaint ag yod, atelir ef yn union, efallai, gan bedwar neu bump llais ar unwaith, a gorfodir ef i wneud ail gynyg- Y mae hyn yn dangos pa mor bwysig yn ngolwg yr luddew ydyw darlleniad cywir o air y Crewr Mawr. Y mae tonyddiaeth ddarllenyddol yr luddew yn gras, ao o'r braidd yn feichus, hyd nes yr ymgymodir ac y deallir ei ansawdd a'i ddyben. Y mae yn rhwyddach i ddyn, a fedd ychydigyn o ddirnadaeth am Hebraeg, i ddeall yr luddew yn cynghaneddu'r "Ebryw," na'r un a fedda'r un cymaint o wybod- aeth Roegaidd i ddal ar yr hyn a ddar- llenir gan Roegwr er fod yr Iuddewon yn darllen yn gyflym, gall y gwran- dawr gael digon o amser rhwng eu geiriau i bwyso a mesur y cwbl oil. Mor fendigedig o ddylanwadol a pheroriaethus yr ymbyrlymant allan Beireishith bara Elohim!" Yr ydym ni wedi bod a'n henaid ar drothwy tiriogaethau yr ysbrydion wrth wran- daw ar dorf fawr o Iuddewon yn dolef- ain Wri! wri! lifshi wseich Tsion," &c. Dylai pob efrydydd ysgrythyrol ddeall rhywbeth am deithi yr Hebraeg. Dywedodd un o blant Abraham wrth- yf unwaith nas gallasai'r Parch. lefaru y gair Iehofah. Y pechod mawr a syrthiai y Parch. —— iddo yn ngolwg yr Hebrewr ydoedd dweyd Jehofah yn He Iehofah; ac wrth bob rheswm, yr Hebrewr sydd yn iawn. Gair Hebraeg pur yw Iehofah. Ond beth yw Jehofah ? Nid oes y fath air mewn bodolaeth, ac y mae yn gabledd ar enw y Duwdod i neb lefaru ei enw felly. Nid oes y fath sain mewn bod- olaeth a'r un a rodda'r Saeson a'r Cymry, ysywaeth, i" J." Ond haera rhai mai edliwsain o "Tsade" yr Hebraeg ydyw, ond y mae'r annhebyg- olrwydd seinyddol mor fawr yn y ddwy lythyren, fel y gorfodir ni i gredu oar unwaith nad yw'r darnodiad uchod ond mympwy. I *Y lythyren leiaf yn yr Hebraeg. fel iota yn y ixtoeg, neu Alaf fyn y Syriaeg. Y mae llawer o'r gorch-fantolion ar- wyddluniol yn egwyddor yr Hebraeg. Gall yr Iuddew ddweyd "ch" gystal a'r un Cymro yn y byd. Y mae gan- ddo ddwy gydsain yn dwyn sain yr ch," sef "choph" a "ches." Y mae gwrandaw ar y Rabbi a choro Iuddew- on yn cynghanu y gwddfolion celyd uchod yn ddigon o ad-daliad i neb pwy bynag am fyned yn mhell i'w gwrando. Yr mae yn ddirmygiis meddwl am yr ymgais annghristionogola wneir gan ambell Gristion (?) i ddamsang ar draed yr Hebrewr. Os yw crefydd y Gristion yn well nag un yr luddew, dangosed mewn modd sylweddol i'w gydgreadur gwrthgiliedig yn mha fodd t, y mae yn rhagori. Foneddigion, y mae fy llythyr wedi rhedeg yn feithach nag yr arfaethwyd ef. Er nad wyf wedi dyweyd y lilted ran a allaswn am yr hen linach Abra- hamaidd, teimlwjf nas gall epistolau o'r natur yma fod yn destynau myfyr- 101 ac o ddyddordeb gan ddegwm eich darllenwyr, mewn canlyniad dyma fi yn ymgrymu wrth orsedd "Thau." ATHAN FARDD. O.Y.—Yr Eglwys Almaenaidd yn nesaf.A. F.

4 ADGOFION AM MERTHYR.

UCHELGAIS A'I DRAWSAR-GLWYDDIAETH.

PLENTYN ATHRYLITH.

AR BWY Y MAE'R BAI?