Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
G AIR O'R WEST.
G AIR O'R WEST. AETH y cyfarfod a fwriadwyd ei gynal yn y Marquess Arms, Abertawe, dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, yn ffree gyda'r gwynt, ac aincari y rhai a'i galw- odd, yn rhanol, gyreiuion, i'r un lie. Mae wedi dod allan yr wythnos ddiw- eddaf fod cais y meistri undebol at y rbai antindebol, yn ychwaneg na gofyn am gyduno ahvynt i wthio y-gostyngiad ar y gweithwyr, sef gofyn iddynt atal be:hgyn y strike ag sydd yn gweithio yn eu glofeydd. Mae hyn yn cael ei gario allan yn wvch yma, os yw y llall wedi methu. Cewch ugain yn eael eu tynu allan o un lofa, pymthego un arall, deuddeg o un. a deg o un arall, &c. Mae'r bechgyn ag oedd ar y strike yn yr ardal- oedd yma yn cael eu chwynu yn ddidru- garedd o lawer o fanau; ac yr ydym yn •• allnog i ddweyd, oddiar awdurdod da, fod hyn yn cael ei wneud mewn canlyn- iad i lythyrau sydd wedi eu hanfon at berehenogion allywodraethwyr y glo- feydd hyn yn ddiweddar. Son am Inti- midation, y Criminal Law Amendment Act, &c., dyma. i chwi wylied a chyn- IIwyno o'r fath waethaf. Ni all gweithiwr siarad a'i gydweithiwr ar yr heol o barth 0 y 'IV ei fod yn gweithio mewn lie na ddylai, neu am bris na ddylai, heb fodyn agored i gael ei garcharu o dan y gyfraith un- oehrog hon. Onid yw ein newyddiadur- on yn frith o hanes gwyr, gwragedd, a phlant yn cael eu gwysio o flaen ynadon —yn cael eu dirwyo a'u r hwy mo i gadw heddwch, &c., dim ond am alw Be ar ol rhyw chirncoat neu gilydd, tra y mae y meistri yn gallu anfon llythyrau o'r naill i'r llall ag enwau personau, a'r z;1 rhai hyny mewn canlyniad yn cael eu troi i ffwrdd, a'r oil yn myned yn mlaen heb fod na chyfraith nac arall yn gwneud un sylw o honynt. Ond pa ryfedcl! Onid anwyl-anedig y meistri seneddol yw y gyfraith hon, wedi ei chyfansoddi a'i chynllunio i ddal ereill, tra ymaent hwy eu" hunain yn ddyogel—megys rhwyd wedi ei gwau i ddal pysgod bychain, tra y mae y rhai mawrion yn gallu. neidio drosti. Yr wythnos cyn y diweddaf, ym- ddangosodd advertisement ar y Western Mail yn ymofyn ugain o lowyr da, sef- ydiog, i'r "Wig Isaf Colliery" Cwm- bwrJa, Abertawe. Rhyfedd y fath dra- fferth mae'r boneddwr hwn yn ei gymer- yd, sef ymofyn ugain o lowyr da a sef- ydlog. Edryched oddiamgylch iddo, ac fe ffeindia adeugain o gystal cymeriadau ag a fu mewn glofa erioed. Ond na, bechgyn y strike gartrevol yw y rhai hyn, ac y mae'r lie yn rhy gysegredig iddynt fyned i mewn iddo. Y fath set arwynebol dvyyliodnis sydd wedi meddianu rhai o'r meistri y dyddiau hyn. Ni chyflogant, a throir allan a gynogwyd o'r rhai oedd ar strike o fewn cylch en hadiiabyddiaeth, tra y llanwant y gweithfeydd o ddyeithriaid. 'Does dim gwahaniaeth pa un ai rhai ar y strike neu lock-out y byddant. Mae i'w obeithio na wet hwn un o'r ugain hyd nes y bydd iddo droi pen ei clelescope i edrych nes gartref. G-ellir penderfynu fod pethau yn myned yn dl iwd pan fyddis yn aclvertiso am unrhyw ddosbarth o weithwyr o ganol lie y byddo nifer o'r dosbarth hwnw yn segur. Fe gofia cyf- eillion Trimsaran dro am yr advertise- ment fu am ddynion i ddod yno, a'r can- lyniadau o hyny; ac ond odid nad anghofia y cyfeillion a aeth yno drwy effaith yr addewidion teg a gwenieithus am y driniaeth gawsant hwythau am tifyddhau i'r alwad. Wedi cael y gwaith yn orlawn, a deiladon i'w tai, y peth cyn- taf welodd y cwmni yn dda oedd troi 5 o'r hen ddwylaw i ffwrdd heb raid na rheswm; ond dymunid arnynt i fyned yn dawel gan nad oeddent ond i flaenu 12 arall. Wedi cael y rhai hyn i if wrdd, y peth nesaf oedd stopo un rhan o'r gwaith neu gael tynu cryn dipyn ar y pris i lawr. Wedi llwyddo i newid trefn y gwaith o weithio, a chael wrth hyny rhyw gymaint o ostyngiad, y nesaf yn ol yr arfaeth oedd y rhan arall o'r gwaith i gael yr un peth; ond cyn i hyny ddod oddiamgylch, fe ddaeth y rhybudd cyfEredinol, a chyda hwnw i Drimsaran gynyg am Is. 3e. y dynell o ostyngiad; ac oblegyd na welsai y C, CIY gweithwyr yn dda dderbyn y cynygiad. fe ddaeth i ran y tenantiaid yn ddieithr- iad, a phawb i gael notice to <jruit, ac am na wnaent rhyw lawer b sylw o hwnw, y peth nesaf oedd notice of ejectment, a dacw hwy erbyn heddyw, y gwaith heb weith- wyr, a'r tai heb breswylwyr. Pwy a wyr nad rhywbeth tebyg sydd yn medd- yliau y rhai hyn. Mae yn sicr nad yw yn rhy dda gan eu bod yn anfon ar gy- hoedd gwlad i ymofyn glowyr, a lluaws allan o waith oddiamgylch iddynt. Mae index j gostyngiad wedi cyrhaedd Llanelly. Os bydd cwmni Nevill & Druce yn bwriadu rhoi gostyngiad i'w gweithwyr, bydd y rhai a fedrant ddarllen arwyddion yr amserau, yn gwyb- od yn fuan iawn. Y peth cyntaf fydd haner newyn yn y gwaith. 2il. Araeth Fethodistaidd hir o ffenestr office y box. 3ydd. Stopo St. George. Poor St. George! Mae'r tri wedi (ymeryd lie eis- oes. Ond bernir fod tipyn rhwng yr indes a'r benod y tro hwn. GWYLIEDYDD.
..¡ CYFANSODDIADAU BTTDDUGOL…
CYFANSODDIADAU BTTDDUGOL EISTEDDEOD CROSS INN, TRECYNON. Mvwii y siarad a'r ysgrifenu sydd wedi bod yn ddiweddar am "Hel- yation y Beii-dd," a Helfa Cwmdar." Y mae rhai yn cwyno fod y cadno wedi cael ei ranu yn rhy fan ereill a dystiant mai rhwng y cwn cloffaf yn yr ymgyrch y rhanwyd yr ysbail. Beth bynag, er- byn hyn, y mae y cwbl sydd yn per- thyn i'r pwyllgor, oddieithr y feirniad- aeth, wedi eu dwyn i wyneb haul a llygad goleuni," ac yn agored i'r wlad i fEurtio barn arnynt. Y mae yr ysgrif ar yr Hen Wf," y cane non i'r Lack-ant, a'r Tribanau yn gyfryw ag a allasem ddysgwyl am y gwobrau cynygiedig. Er hyny, ceir amryw frychau pwysig yn andwyo pob un o honynt. Ond gan fod pawb yn ymddangos yn dawel o barthed teilyngdod y rhai hyn, cyfyngwn ein sylwadau yn bresenol at yr Helfa" yn unig. Yr ydym yn synu fod y beirniad wedi rhoddi y fath ganmoliaeth uchel, ar air a chydivybod," i'r fath gruglwyth o sothach. Er nad oes yn nghan Samson' yr un gwlithyn ofartldoniaeth, na gwreich- ionen o fywyd, y mae ryw hynodrwydd neillduol yn perthyn iddi. Y mae yn hynod yn ei mesur, yn hynod yn ei chy- nghaneddion proestog, yn hynod am ei hodlau gwallus, yn hynod am ei geiriau Ilanw, ac yn hynod o dalcen slipaidd o'r dechreu i'r diwedd. Dyfynwn y penill cyntaf, yr hwn sydd yn un o'r rhai mwyaf barddonol.(?) yn y gan G wnaf o ddifrad ddweyd y difrod, Wneir ar lauau gan lwynogod, Mynych clyvvir aairvw gwynion Gan yr hvvsmon, Cymry a Saeson Hwy ddont allan 'nol eu bwriad, Lladaant vvydd ar g'oedd heb genad, Rhan o'u melus fwyd yw'r hwyad, Yn ddiddefod Iladdant ddafad, Dygant hoen yr oen amddifad." Credwn mai insult ar synwyr cyffredin y wlad fyddai cynyg dangos diffygion yt. ysgerbwd hwn. Yn yr ail benill y mae gwyr Cwmdar yncynllnnioi ddal y "llwynog,; ond yn y llinell nesaf, y mae y llwynog yn myn'd yn "bryfed," a'r cwn, "yn ol eu hadduned, yn eu hymlid er mor amled!" Gogoniant y tri phenill nesaf yw enwau yr helwyr, ac enwau cwn; ac yn fuan iawn ceir y llinellau dyeithr a ganlyn ond na ato Ceridwen i ni ddweyd fod barddoniaeth mewn peth mor ddi- synwyr,— "Ymaith aeth [y llwynog] fel saeth yn sydyn Gan ymrithio drwy yr eithin, A'i elynion yn ei ganlyn Trwv y lleoedd mwyaf gerwin, Treiglent frig y creigiau'n grcgyn." Arswyded y nefoedd, a chryned y ddaear wrth feddwl fod yn ein byd gwn z;1 hela yn medru treiglo y creigiau oesol yn gregyn i'r glynoedd islaw Pe gollyngid yr h el gwn- hyn yn rhydd dros wahanol fynyddau Cymru, buan iawn y caem fod yn dystion o wirionedd y bro- phwydoliaeth, hono—" Pob pant a. gy- fodir, pob mynydd a bryn a ostyngir." Ymgynygiodd am y Daran, Ond fe'i twyllwyd wrth y TyllaD, Fe'm dyryswyd yn fy amcan, Treiaf dirio'n ol i'r Daran Gorfu arno fyn'd yn heini," &c. Ymddengys i mi fod gwirionedd di- grif iawn wedi ei gyfieu yn y llinellau uchod. Ar ol dweyd fod y cadno wedi ei dwyllo" wrth amcanu cyrhaedd y "Daran," -dywedir fod yr awdwr wedi dyrysu yn ei amcan." Digon tebyg ei fod, oblegyd y mae y gan drwyddi yn profi fod rhyw ddyryswch yn rhywle yn y peiriant a'i cyfansoddodd. Y nesaf ydyw can Heliwr; ac y mae tebygrwydd mawr yn hon i'r gan flaenorol, Y mae holl hynodion bfcno yn perthyn i honeto. Yr un mesur, yr un arddull, ac ambell linell bron yn llythyr- enol yr un fath. Yr ydym yn rhwym o gredu mai yr un ymenydd a nyddodd y ddwy; a liwnw, wrth gwrs, we'di "drysu fel y cyfaddefwyd yn y gan flaenaf. PerJbyn i hon dri phenill o ragymadrodd, yn yr hwn yr ymffostia yr awdwr mai yn Nghwmdar y mae dynion goreu'r ddaear" i chwareu pel, hyrddiotrosol, rhedeg gyrfa, cicio pel droed," &c.,— rhinweddau gwerth eu cofnodi; a phed ychwanegai atynt y pitch and toss, buasai y rhestr yn gyflawn. Wele benill blaenaf y gan, wedi ei ddiosg o'i eiriau llanw,— Ar ryw toreu ——— -bu cynulliad I hel cadnaw hwylus Yn Nghwmdar Hen gynullfan pryfaid gwylltion, 0 bob rhywiau A dianair yw eu dynion i oil, maent yn gyfeillion I helwriaeth Yna ar ol enwi yr helwyr yn anghel- fydd, y mae y cwn yn dechreu rhwyfo i'r chwareufa" -ar hyd afon Rhondda Fach yn ddiau; a chyn hir, er syndod i holl greigiau R-hiw'r Mynach, clywir y "cwn yn canu! Beth nesaf P Own yn nwwian mae'n debyg iawn; a bydd hyny yn llawn mor briodol a dweyd eu bod yn "canu." Paham na fuasai yr awdwr yn gorphen ei gan yn naw penill, neu ynte ei thori i fyny ar wyth, yn hytrach na gadael haner penill fel cyn- ffon cath lie dylai yr amen fod P Y mae can Heliwr Profiadol" yn perthyn i ddosbarth uwch na'r ddau arall. Ond y mae'n amlwg fod rhyw ddryswch" yn nglyn a hon eto. Wrth ddarllen y rhan flaenaf o honi, gallem feddwl ein bod yn nghanol y rhyfel mwyaf cynhyrfus a ymladdwyd erioed. Dywedir fod y meirch yn gweryru, ac yn gwawdio y cloddiau "yn ffyrnig dros ben;" ac udgoru y gad yn adsain rhwng holltau y creigiau, nes cynhyrfu y wlad drwyddi. Ond yr hyn sydd yn ddigrif yw, nad oedd yr un march na mwlsyn yn helfa Cwmdar o gwbl. Nid oedd yno yr un udgorn ychwaitb, ond yr ud- gyrn hyny sydd wedi %u cyfleu yn natur- I iol yn nghorn ceg pob un o'r helwyr. Ond gan nad yn mha helfa bynag y bu yr awdwr, os oedd y meirch a welodd yn gweryru ac yn carlamu gyda'r fath gyflymder ag y dywedir eu bod yn y penillion blaenaf, yr ydym yn synu na fuasent wedi cyrhaedd Castell y Nos cyn diwedd y chweched penill. Yn ymyl y Maerdy, Ow Ow! dynaRuby Yn rhuo yn byf." Cato ni! Pa fodd y meiddiodd y creadur "ruo yn hyf" mewn helfa? Dylasent rwymo ei safn cyn cychwyn yn ddiddadl. Ymddengys fod yr holl gwn ereill yn rhuo yn Zlwfr, ac mai hyny barodd i'r awdwr alw eu hudiadau yn hyawdledd." 0'1' diwedd y mae y cadno, druan, yn cael ei ddal; ac wrth ei weled yn cael ei ddarnio" gan ei elynion, y mae yr awdwr yn codi ei ddwylaw i fyny, ac yn gwaeddi mewn syndod, "0! firain olygfa." Yr oedd gweledhen gadno tlawd yn cael ei dynu yn chwilfriw, yn olygfa firain neu bara- dwysaidd dros ben. Wrth derfynu, dywedwn eto ein bod yn synu fod un ag sydd yn cymeryd arno fod yn fardd ac yn llenor profedig, wedi rhoddi y fath ganmoliaeth i ryw hurtwch o'r fath hyn. Gwelsom ganeu- on i helgwn o'r blaen, a difyrwyd ein calon, a gogleisiwyd ein hysbryd wrth eu darllen; ond am y caneuon hyn, y maent mor ddifywyd a Chraig y Bwllfa ei hunan. BIIOCJIWEL Y SGYTRROG.
EISTEDDFOD ABERTAWY.
EISTEDDFOD ABERTAWY. CYNALIWYD yr Eisteddfod hon yn y Musio Hall, Llun y Sulgwyn, yn ol yr hysbyriad. Llywydd, y Parch. Kilsby Jones. Arweinydd, Gwilym Davies, Ysw. Beirniaid y Gerddoriaeth, Mri. D. Jenkins, Trecastell: D. Bowen, Dowiais, ac Eos Morlais. Beirniad y cyfansoddiadau, Dafydd Morganwg, Hirwain. Yr oedd yr hin yn hynod ffafriol, ac felly cafwyd cynulliad da iawn ac yr oedd y eystadlu ar y cyfan yn fodd- haus. Enillwyd ar ganu Y Danchwa," gan gor Taibach, dan arweiniad Mr. Prosser (Eos Cynlais). Yr oedd y wobr yn £ 40, yn nghyd a'i ddarlun (oil painting) i'r arweinydd. Yroedd 10s. o wobr am yr englyn goraf i'w osod dan y darlun uchod. Cy-ftadleuodd wyth ar yr englyn, a'r goraf oedd eiddo Rhydderch ab Mor- gan. Rhanwyd y wobr o ddwy bunt am y traefchrwd goreu ar Ddylanwad niweid- iol y fasnach Feddwol ar Foesoldeb Cynideithasol, rhwng Dewi Dyfan, Aberdar, o Gwilym Glan Nedd, On- llwyn. Cor y Taibach a enillodd y wobr o bum punt am ganu Y Gwanwyn." Cystadleuodd chwech Brass Band i chwareu Gloria, sef Band Hirwain, LI an ell ij Penclawdd, Iberdar, Glan- dwr, a Thredegar. Dyfarnwyd y wobr o ddeg punt i Seindorf Tredegar. Gohiriwyd gwobrwyo ar destyn Y Gadair," sef Pryddest i'r Pagan am fod dwy o'r pryddestau mor gyfartal, fel na theimlai y beirniad yn ddedwydd i ddyfarnu o blaid y naill na'r llall o honynt, nes cael barn beirniad arall o saton uchel ar y ddwy dan sylw. Rhoddodd y beirniaid cerddorol gan- moliaeth uehel i'r corau, a diamheu eu bod yn ei deilyngu. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngerdd yn yr un lie, pryd y gwasanaethwyd gan leirniaid y gerddoriaeth, a rhai o brif gantorion yr ardal. Gellid barlluoddiwrth y cynulliad fod yr anturiaeth wedi bod yn ddi- golled beth bynag.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. Nos Fawrth, y 18fed cyfisol, cafwyd cyf- arfod o'r fath oreu yn y George Sf Dragon, yn y lie uchojl, ar ymadawiad Mr. John John (ITathati) i'r America. Agorwydy cyfarfod gan Gwilym o'r Bryn, cyn- lywydd yndeb y Glowyr, adran Castell- hedd, yr hwn a ddywedodd fodyn ddrwg iawn ganddo fod Nathan yn eu gadael, a bod colled mawrar-ei ol. Gellir dweyd ya,ddibetrus fod Nathan wedi gwneud ei oreu er hwylysu y cerbyd undebol yn mlsen yn adran Castellnedd oddiar y dechreu hyd yn awr. Mae ystwythder ei feddwl a dylanwad ei athrylith yn .If darawiadol iawn. Chwareuwyd yn fedrus ar yr offeryn cerdd gan fab Mr. William Hill, a chan un arall ar y chwibanogl, nes synu pawb yn fawr. Cafwyd ar- eithiau pwrpasol gan rai. wedi bod yn cydweithio a Nathan. Wedi cael gwledd feddyliol am tua dwy awr a haner, aeth pawb adref wedi cael eu llwyr foddloni. Rhwydd hynt i'r brawd dros y Werydd donog nes cyrhaedd America. GWILYM DDU O'R LLAN.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. Yn oedd yn wyl gyffredinol yn y lie hwn y Sulgwyn diweddaf. Yr oedd naw o Ysgolion Sabbothol wedi troi allan, y rhai oedd yn rhifo dros ddwy fil, ac aethant yn orymdaith fawr trwy y lie, yn neillduol o flaen Vernon House, trigfa Arglwydd Vernon gynt. Mae y rhod- feydd o amgylch y ty hwn yn ysblenydd, a'r blodau amryliw ar ymylon y rhod- feydd yn gwneud yr olygfa yn daraw- iabol iawn. Gwallgofdy yw y palas yn bresenol, a bodau afresymol yn preswylio oddifewn, y rhai nas gallant fwynhau y golygfeydd oddiallan. Wedi dychwelyd, aeth yr ysgolion gwahanol yn ddiadell- oedd, lie yr oedd te a bara brith wedi eu trefnu erbyn eu dyfodiad, yr hwn sydd yn gynllun doeth iawn er Iluosogi deil- iaid yr ysgolion. Cafwyd gwledd fedd- yliol o'r fath oreu yn yr hwyr yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Agorwyd y cyfarfod trwy araeth gan y llywydd, y Parch. Mr. Llewelyn Llewelyn, ac yna cafwyd ton gan y Gobeichlu, ac anerch- iad gan yr ysgrifenydd. Bu y cyfarfod trwyddo oil yn hynod o effeithiol, ac yn lies mawr er dadblygiad meddyliau y to ieuanc sydd yn codi. GWILYM DJDU O'R LLAN.
GWYL L'ENYDDOL LLWYNYPIA.
GWYL L'ENYDDOL LLWYNYPIA. ER cymaint ydyw y cymylau duon sydd yn ymestyn dros ein penau v dyddiau presenol, y mae ieuenctyd y TIe yma yn gallu mwynhau eu hunain gyda llenydd- iaeth yn bur hapus. Oddiar dechreuad y strike presenol, y maent yn ymgynull at eu gilydd i ymbleseru mewn llenydd- iaeth-y maent yn cynal cyrddau bob wythnos er ceisio tynu allan eu doniau yn mhob cangen o wybodaeth. Os yw olwynion masnach wedi sefyll, ac yn de- chreu rhydu yn eu gilydd, y mae olwyn- ion y meddwl yn troi o hyd. Er fod trwst yr ymryson presenol sydd rhwng gormes a chyifawnder yn ddigon i ddy- chrynu y cryfaf o ysbryd, y mae'r medd- wl yn gallu mwynhau breintiau llenydd- iaeth; ac er fod swn y fflengyll hirion yn clincian yn ein clustiau, a swn y frwydr i'w glywed fel taranau y dydd diweddaf, a swn y droed haiarnaidd i'w glywed yn dod o gam i gam er gwasgu y gweithiwr tlawd yn gaethwas dirmyg- edig, er y cyfan, mwynhau eu hun- ain mewn llenyddiaeih y mae bechgyn y lie yma, ac y maent wedi tynu sylw y cwmydau oddiamgylch. Dydd Llungwyn, Mai 17, anturiodd yr ieuenctyd i gynal gwyl lenyddol yn Ys- goldy Llwynypia. Llywydd, W. G. Me Murtrie, Ysw., Llwynypia. Arweinydd, Mr. W. Williams, Llyfrwerthwr, Tony- pandy. Beirniad y canu, Mr. Thomas John, Ysgolfeistr, Llwynypia. Beirniad y cyfansoddiadau, Mr. H. H. Hughes, *(Ap Arwystl,) Penygraig. Ond yn ab- senoldeb Ap Arwystl, penderfynwyd fod Mr. D. J. Rees, Trealaw, a Mr. Richards, d/rapet, Pandy, i sefyll gwaith y dydd yn ei Ie. Cafwyd anerchiad gan arwein- ydd y dydd, yr hwn hefyd a osodwyd yn y gadair yn absenoldeb Mr. Murtrie, a chafwyd anerchiadau barddonol gan y beirdd ieuainc. Y buddugwyr oeddynt GutynDdu acAlaw Gwendraeth, Philip Davies a'i barti (Llwynypia), Dafydd o Went a Homo Ddu, Ebenezer Davies a Phillip Parry, loan Cribwr, M. Rees a'i barti (Dinas,) M. Jones ac E. Daniel, Walter Davies, Gwynrudd, W. Williams, Thomas Williams, Cor Tonypandy (dan arweiniad David Williams.) Da genym ddweyd fed y eyfarfod wedi talu ei ffordd yn yramser tlawd presenol. MORLAISWYSON
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol MR. D. W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun
Y PYSGOTWR.
Y PYSGOTWR. Y pysgotwr, yw'r gwron,-dyn ei rwyd Yn wir hawdd drwy'r afon; A'i ddwylaw'n hy' e ddeil yn hon Yr eogiaid chwim yr eigion. DBYW.
M Y CYBYDD.
M Y CYBYDD. Dya o hyd yn ei wane—ydyw'r cybydl, Cadwa'r cwbl rhag dianc; Ei grefydd ywlcael i'w grafanc Arian y byd i'w thoi'n y banc. DRTW.
Y RHA GrRITHIWR.
Y RHA GrRITHIWR. rn a'i wyneb oil yn wenau-ydyw. A hudol areithiau; Lladd y gwir a llwyddo gau Ydyw ei weithrediadau, DRTW.
Y CYSODYDD.
Y CYSODYDD. (Gyflwynedig i H. C, Watts.) Da'i grafanc, gwr digorifol,-a sydyn Yw'r cvsodvdd hudol Diwyd, a'i law yn deol—llyth'renau, A'u hasio'n eiriau synwyrol. GLANDULAIS,
YMILWR.
YMILWR. Dewr ymwelydd ydyw'r millu,-y cledd Ydyw clod y glew wr Ond cawn ei fron yn dirion dwr J'n noddi fel gweinyddwr. GLANDULAIS.
V PONT MENAI..
V PONT MENAI.. Pont asiwyduweh pant oesol,-pont haiarn- Gadarn, pont hir-gydiol; Pont ar ddwy sedd, pont urddasol, Pont aid bob pont o'i hol. GLANDULAIS.
RHAGLUNIAETH. v'
RHAGLUNIAETH. v' Llaw Duw lor yn agoryd—trugaredd Trwy gyrau yr holl fyd Rhyfedd mae hi yn rhoi hefyd I'r gwych aj gwael yn hael o hyd. MORLAISWYSON.
/ Y SER.
Y SER. Nef lampau, perlau purlan,—y w y ser A'u siriol wawr eirian Per lwys ffenestri, pur lan, Neu orwych ddysglau arian. MORLAISWYSON. ———
DEG PENILL AR FIJSUR TRIBAN…
DEG PENILL AR FIJSUR TRIBAN MORGANWG I'R RHAGRITH- IWR. Rhagrithiwr teg ei eiriau, Fel awel ber y borau Ei wenau sydd fel diliau mel, Efe heb gel yw'r gorau. Fel cyfaill cywir, ffyddlon, Yn nghanol da a digon, Rhagritbiwr brwnt, mae dydd gerllaw I'r golwg daw ei galon. Pan fyddo'r byd yn gwgu Ar ddyn a'i amldenlu, Daw ef i'r fan a'i swynol lais, Gan wneuthur cais i'w gwerthu. Os llwydda yn ei amcan, Fe ddaw yr ellyll allan Cyhoedda hwynt i'r pedwar gwynt, Heb yngan hynt ei hunan. Mae'n garwr campus hefyd, Ac hynod falch o'i febyd Rhagrithia ef i lawer merch, Nes prawf ei serch yn sychlyd. 'Nol cael gan rai i'w gredu, Trwy danio'u serch a'u denu I feddwl am y bachgen balch, Fe wna y gwalch eu gwadu. Os rhywrai wel ag arian Mewn ffnir yn mentro allan, Er gwybod gwneud o hono gam, Fe wertha'i fam ei hunan. Proffesa fod yn Gristion Haelionus, cywir galon, Ond arian fyn ac aur i'w god, Ei gred a'i nod y'nt greulon, Ar byd ei oes yn ddibaid Cais wneuthur pawb yn ffyliaid, Gan dwyllo llu y man y bo, O'r diwedd twyllo 'i enaid. Fel hyny, rhwth rhagrithiwr, Wna'u dallu—mae'n erch dwyllwr, Trwy^tfugio'i fod yr hyn nid yw, Gochelwn fyw'n ei gyflwr. ERYR.
ANERCHIAD
ANERCHIAD I Jenjoin Mathews, Ysw., Cashier Gwaith Bymni. Iaith synwyr Mathews enwog,—0! coeliwch Cewch iaith calon wresog Os gallaf, canaf fel cog Lwys orchwyl i'ch fawl serchog. Wele fwyn, haeddawl foneddwr,—a'i barch Hir bydd fel dyngarwr I'r gwan mae'n darian, mae'n: dwr, Ei glod geir fel gwladgarwr. Saif ei hanes i fyny-tra bo lien, Tra byw llu yn Rymnu, Tra mwyn gau, tra emyn gu, Hoff y gwr caiff ei garu. Lienor synwyrgall, union,-a noddwr Llenyddiaeth y Brython Cawri o fri, cer ei fron, Ddynesant iddo'n weision. Deil awenau dylanwad-yn y He Mewn llwydd a dyrchafiad; O'i uchel swydd gwych leahad A ddeillia i ddiwyIliad. Ei wlad anwyl gofieidia,-ei geaedl Yn gynes a gara; Ei hoff iaith der a'i phethau da, A'i warogaeth fawryga. I aelwydydd tylodion.-o'i rinwedd Cyfrana anrhegion Gwr difreg, agored fron, Câr gwylaidd, cywir galon. Ion addwyn, dyro iddo-hir einioes A'i rinwedd gynyddo; A phan a'r byd gorpbeno, Ei haddef fyth mewn hedd fo. IOAN AB DEWI.
- ENGLYNION I'R COF. '- r
ENGLYNION I'R COF. r Buddugol yn Eisteddfod Llantrisant, 1874. Y gyneddf flodeuog hono,-neu ran O'r enaid sy'n cofio, Yraddysgroddiriddo Beunydd er cynydd yw'r co'. Ein hyf ddelion ddrychfeddyliau,—o'r COf Daw'r eyfftn inown geiriau; Ynddo cedwir gwir a gau, A dethawl wybodaethau. Gwir fanwl ysgrifenydd-yr enaid, 4 | A'r uniawn drysorydd; By w hwnw sy'n dal beunydd, Y cyfri' oU yw'r cof rhydd. CARW CYNON. $