Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYHOEDDIAD HEDDWCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYHOEDDIAD HEDDWCH. PRYDNAWNdyddSadwrn diweddaf, cynal- iwyd cyfarfod cyboeddus ger Aberaman, Aberdar, i'r dybenowrando argynrych- iolwyr y glowyr yn rhoddi cyfrif o'u goruchwyliaeth wedi cyfarfod a'r meistri yn Nghaerdydd y dydd blaenorol. Y fath olygfa ddymunol ydoedd gweled y swyddogion medrus a doeth hyn yn cyf- arfod a'u milwyr dewrion a lluosog, y rhai a ymladdasant mor anrhydeddus a di-ildio yn erbyn pob rhwystrau am y pump mis diweddaf-nid i roddi y gor- chymyn iddynt i ymladd yn mlaen y tro hwn, ond i'w hysbysu o'r ffaith bwysig a rydd ysgafndid i filoedd o galonau pry- derus fod heddweh wedi ei sefydlu rhwng y pleidiau gwrthwynebol-y gallant yn awr yn ddyogel daflu eu hariau i lawr, a gorphwys, wedi iddynt, fel y cydna- bydda pawb, ymladd y frwydr galetaf a ymladdwyd erioed rhwng llafur a chyf- alaf, ac i eniJl y main point at issue er y dechreuad, sef cyflafareddiad. Ethol- wyd Mr. John Thomas, Cwmaman, i'r gadair, yr hwn a agorodd y cyfarfod drwywneud rhai sylwadau priodol i'r achlysur. Yna galwyd ar Mr. Thomas King i roddi hanes eu cyfarfod a'r- meistriyn yr iaith Seisnig, ac ar Mr. D. Morgan, Mountain Ash, i roddi hanes yr un cyfarfod yn yr iaith Gymreig. Wedi hyny, galwyd ar Mr. John Prosser, Tre- cynon, yn mlaen, yr hwn a siaradodd i bwrpas ar nexth undeb, ac a roddodd ychydig anogaethau effeithiol i'r gweith- wyr er meithrin ynddynt egwyddorion undebol. Siaradodd Mr. J. Prosser yn helaeth am y cwynion a glywir yn ami fel yr ymddygir at fasnachwyr rhydd- galon gan rai personau, sef mewn geiriau byr, peidio talu am y nwyddau a dder- byniasant oddiwrthynt mewn cyfwng fel y gorphenol, a thaer anogodd bawb a gawsant goel i ymdrechu eu goreu i dalu eu gofynwyr, ac i wneud y goreu o'u harian, eu hamser, a'u galluoedd meddyl- iol yn y dyfodol; mai dyma y brif ffordd i wella cymdeithas. Teimlai ei fod yn ddyledswydd arbenig arno i'w banog i'r llwybr hwn am ei fod ef fel un wedi teimlo ei werth. Terfynwyd y cyfarfod trwy amlygu cymeradwyaeth gwresog i'r cynrychiol- wyr am a wnaethant yn y gorphenol, a dadgan llwyr ymddiriedaeth ynddynt yn y dyfodol, heb gymaint ag un llais i'w gwrthwynebu. GOHEBYDD.

YR EISTEDDFOD IFORAIDD

MANION O'R WEST.

GLOFA. GWATOCAEGURWBN.'

TERFYNIAD Y STRIKE.

Y CYTUNDEB. -

TERFYNIAD Y STRIKE.

Advertising

YR ANERCHIAD.