Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…
BRYNFAB A PHWYLLGOR EIS- TEDDFOD Y GROGLITH TREHERBERT. Be merciful, great duke, to men of mould, Abate thy rage, abate thy manly rage! Abate thy rage, great duke FONEPDIGION,—Meddyliais y buasai fy llythyr blaenorol yn ddigon o eglurhad i Brynfab ar ein hymddygiad fel pwyll- gor yn atal y wobr. Ond yn 11 e cymeryd yr eglurhad yn derfyn ar y cwestiwn,tynu ei got i lawr, torcha lewys ei grys, caua ei ddeint, cwyd ei ddwrn, ymnoetha fraich ac asgwrn, yr un peth a phe o dan ddy- lanwad Syr John Heidden, a gesyd ei hun ar ffurf dyn am frwydr. Ond gwy- bydded Brynfab nad allan i ryfel y daethum. Yn wir, ni byddai ond yn- fydrwydd yn ymylu ar wallgofrwydd i mi, efo fy mhop gun," chwedl yntau, i wynebu y fath gawr a Brynfab a'i Lancaster dinystriol Gwarcbod pawb! byddai un ergyd o enau ei fagnel ffroen-lydan yn ddigon i'n chwythu i ddifancoll tragwyddol. Ond trwy dru- garedd, mae y drychfeddwl mat a. sweep y mae yn ymladd wedi dofi tipyn arno. Ie, garw o beth fyddai i chwi lychwino eich gwisgoedd canaidd wrth ymdrechu ag lID o'r fath ond garwach fyddai i'r sweep a'i frwsh ysgubo eichffug-honiadau trwy gorn y simne, Dywedwch i chwi ysgrifenu at lywydd yr Eisteddfod, ac at lywydd y pwyllgor. Nid wyf yn gwybod pa un a ysgrifen- asoch at y blaenaf ai peidio, ond os do, nid oedd ganddo ef ddim i'w wneud a'r cwestiwn, mwy na'r arweinydd. Ond am i chwi ysgrifenu at "lywydd y pwyllgor," nid yw ond anwiredd noeth, oherwydd myfi oedd, ac ydyw llywydd y pwyllgor, a gallaf eich sicrhaunachlyw- ais na siw na miw oddiwrthych ar ol yr Eisteddfod. Gofynwch yn ddefosiynol beth oedd genych i wneud ond gosod tan yn y gwersyll." Nid yw'r gwersyll mor barod i gymeryd tan ag y tybiwch. Mae yn nghymydogaeth y gwersyll ddigon o ddwfr oer i ddiffodd cymaint o dan a ellwch chwi a'ch lucifer matches ei gyneu (" Nemesis a Nhw a finau included). Y mae Brynfab yn cyfaddefnawelodd amodau ein Heisteddfod cyn yn awr; ond pe wedi eu gweled na fuasai byth yn cystadlu. Dyma beth alwn ni tua'r gwersyll yma yn brynu oath mewn cwd." Rhoddwn well credit i synwvr da Brynfab na'i fod yn gwneud troion fel hyn yn fynych. Cyffelyba ni, am wneud amodau e'r fath, i ladron pro- ffesedig." Ni roddwn hyn yna i lawr at ei gredit, gyda brigandiaid a swind- lers y llythyr o'r blaen. Yr oeddwn i wedi meddwl fod hawl gan bwyllgor unrhyw Eisteddfod i wneud rheol au fel y gwelont yn oreu, heb fod wrth hyny yn agored i gael eu cyffelybu i ladron proffesedig. Ond dyna, mae gwersi pwysig i'w cael bobdydd. Ceisiwnddy- lanwadu ar Brynfab, neu rywun tebyg, i'n cynorthwyo i wneud amodau yr Eis- teddfod nesaf.. Ond gadewch i ni weled pa beth oedd yn yr amod y cyfeiria Brynfab ati. Wele hi, "yn ngwyneb haul a llygad goleuni,"—" Fod y cyfansoddiadan i fod yn Haw y beirniad erbyn y lafoFawrth gyda ffugenw yn unig. A'r enw priodol dan sel i'r ysgrifenydd." Atolwg, a oes rhywbeth yn y rheol yna yr ydym fel pwyllgor yn haeddu cael ein cyffelybu i ladron proffesedig o'i herwydd ? Ie, i "brigandiaid" a "swindlers." Os oedd gan Brynfab wrthwynebiad i'r enw priodol dan sel, fel y dywed, yr oedd croesaw, fel y dywedasom o'rblaen, iddo beidio cystadlu. Ac nid ydyw ei fod ef yn teimlo yn wrthwynebol i'r enw pri- odol dan sel" yn rhoddi hawl iddd da-nu ei lysnafedd ar draws y pwyllgorau fyddo yn gofyn am hyny. Haera Brynfab nad oedd ein program yn crybwyll pa ddyddiad yr oedd yr enw dan sel i fod yn Haw yr ysgrifenydd, ac y gallasai ei anfon ddydd yr Eisteddfod, neu yn awr. Fe wel pob dyn sydd a chymaint a gronyn o had mwata-rd o synwyr yn ei ben, fod yr enw priodol dan sel i fod yn llaw'r ysgrifenydd yrun d d dyddiad ag yr oedd y cyfansoddiadau i fod yn llaw'r beirniad. Poor fellow, beth sydd i ddweyd wrtho ? Pwy all feio dyn ar foddi am gydio mewn gwelltyn crin? Ond y mae Brynfab yn ymgysuro yny grediniaeth y gall fyw heb y wobr yn well na'r pwyll-or ai amddiffynydd, a barnu oddiwrth arwyddion yr amserau." Druan o'r pwyllgor a'i hamddiffynydd tlawd. A oes rhyw debygolrwydd y cant ymborthi o'r briwsion fyddo yn syrthio oddiar fwrdd eu harglwydd, wys, os aiff hi yn galed ? "Will your grace command me any service to the world's end? I will go on the slightest errand now to the Antipodes, that you can devise to send me on I will fetch you a tooth-picker now from the farthest inch of Asia; bring you the length of Prester John's foot; fetch you a hair off the great Cham's beard; do you any em- bassage to the Pigmies." A barnu oddiwrth arwyddion yr am- serau," byddai yn drugaredd i'r pwyll- gor gael rhywbeth i'w wneud yn ngwas- anaeth gwr mor fawr! Nid oes dim yn y rhan olaf o'r llythyr yn deilwng o sylw. Yr eiddoch, foneddigion, Treherbert. D. M. JOMES.
W. TAWENFRYN WILLIAMS A'R…
W. TAWENFRYN WILLIAMS A'R "HEN WR O'R CWM." MR. GOL.Crefaf ganiatad i anfon an- erch at ohebydd galluog a bydenwog W. Tawenfryn Williams, Pontardawe, arran Hen Wr, fy nhad. Diau eich bod yn cofio iddo dro yn ol ddyfynu ychydig o un o lithiau yr Hen Wr a ymddangos- odd yn Llais y Wlad, pa un oedd yn ym- drin a dull yr angladdau yn Nyffryn Tawe, ac iddo addasu i'w osod o flaen darllenwyr y DARIAN, gyda gosod pregeth j lem i'r Hen Wr ar garu o hono ei gy- mydog," os deallais ei destyniawn. Cy- nghorai ef i gynorthwyo holl henafgwyr y dyffryn yn eu holl wendidau corffoiol a meddyliol, a dywedai mai ei ddyled- swydd ef oedd hyny; ac wn i beth fydd y canlyniadau os nad ufyddha yr Hen Wr i'r demands, diau y caiff deimlo nerth cyfraith Mr. John Bull os caiff Tawen- fryn allan fod ei ddyledswyddau yn cael eu hesgeuluso yn y dyfodol. Fe allai eich bod chwi, Mr. Tawenfryn Williams, wedi credu bellach fod yr Hen Wr wedi tagu w:rth lyncu eich pregeth dduwinyddol chwi; ond gellwch fod yn sicr nad ydyw, ac nad yw wedi cyffwrdd a dim o hono, ac ni wnaiff gyffwrdd a hi ychwaith dni fydd iddo gael dwsin o'i rhyw, canys y mae ef yn bur gadarn. Y mae ef wedi goroesi llawer iawn o'ch rhyw-y mae wedi gweled llawer tro ar fyd ac eglwys, ac y mae yn gadarn yn y ffydd fod gwybed wedi eu creu i ddoeth ddybenion yn yr Universe, ac mai yno y maent i fod, ac nid ar gyrn ychain cryf- ion a theirw mawrion Basan i'w hatal rhag porthi ar lysiau'r maes canys ofer yw eu gwaith yno yn gyfangwbl. Gan hynycymerwch yr awgrym yn garedig Mr. Williams, a byddwch ddiwyd yn eich cyleh am eich byr dymhor, i ddal yr ednogiaid bychain anghanfyddadwy yna i'r llygad noeth, canys dyna sydd yn cydweddu a'ch rhyw oreu. Yr wyf yn ystyried hyn yn ddigonol am eich hyfdra ar yr Hen Wf, fy nhad, am ddim ond traethu ei farn ar destynau sydd a gwir angen eu gwyntyllu, a hyny i'r fath fodd ag a gydwedda ag Ysgrythyr, ac nid ag arferion ofergoelus a gaugrefyddol. Gan hyny cedwch yn eich cylch, Syr, o hyn allan, a phan y teimloch rhyw ysfa 'Y ynoch am wneuthnr ryw wrhydri, gwnewch ef i'ch cydgreaduriaid, canys y mae yn ddiau le. Yr eiddoch yn gwta, MAB IEUENGAF YR HEN WR O'R CWM.
EIN OANU CYNULLEIDFAOL.
EIN OANU CYNULLEIDFAOL. MB. GOL.,—Orefaf am ychydig o le yn eich TARIAN glodwiw i draethu fy marn ar y penawd uchod. Y mae yn dda genvf weled y Methodistiaid yn ymestyn i ymberffeithio yn y gangen o roddi mawl i Dduw: caraswn weled ychwaneg o'n henwadau crefyddol vn cymeryd eu hesampl; yrwyfyn meddwl y gwnelai les dirfawr i'n gwlad a'n ce- nedl yn gyffredinol. Bum yn y &yman- fa ar Hirwaun ag yn Aberdar, yr oedd y canu yn ardderchog, a sylwadau y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt) yn ei wneud yn adeiladol dros ben. G-obeithio y bydd iddynt wneud trefniadau i'w gael bob blwyddyn. Nos Sul, y 9fed cyfisol, aethum i Bryn Seion, Trecynon, i'r addoliad, pryd y rhoddodd y pregethwr air allan i ganu; dyma rhyw ran o'r gynulleidfa yn codi, a'r rhan arall yn eistedd i lawr, yr ar- weinydd yn troi ei ben o'r naill ochr i'r oriel, gan enwi y don ag yxk dechreu canu, a rhyw bump neu chwech gydag ef. Nid oeddynt fel yh enjoyo i i'm tyb i) y peth mwyaf pwysig o'r gwasanaeth. Yroeddwn yn methu a dirnad beth a allasai fod y rheswm o hyn, nes i mi gael ar ddeall wedi hyny. Wel y rhe- swm yw hyn, nad ydynt yn ewyllysio canu gyda'r fath arweinydd am ei fod yn ddyn mor fawr (?). Gobeithio y bydd i'r blaenoriaid edryeh i mewn i rwystro peth fel hyn, rhag iddynt golli had yr eglwys, yn gymaint a pod canu da yn anhebgorol er llwyddiant. yr eglwys: carwn weled diwygiad. Ewch rhagoch frodyr at berffeithrwydd, nes cael y ddaear yn fwy tebyg i'r nefoedd. Yr eiddoch, &c., X TEITHIWR.
Y PEIRIANWYR A SYSTEM YR WYTH…
Y PEIRIANWYR A SYSTEM YR WYTH AWR. MR. GOL.Tebyg fod ein llith diw- eddaf wedi efreithio i raddau helaeth ar wersyll peirianyddol. y dosbarth cyf- eiriedig. Dengys i ni hefyd eu bod yn dyfod i weled fod y wlad yn gyffredinol a'ullygaid arnynt; ond na chredant y buasai neb mor ifol ag anturio i wneu- thur y sylw lleiaf" o'u gweithredoedd drygionus yn ngwydd y byd. Maddeued Mr. B g a T--n C——h i ni am ein bod wedi gweled y priodoldeb o'u gosod yn wrthddrychau ein testyn, a thrwy hyny yn rhoddi lie i'r byd i iawn farnu sut ddynion ydynt o ran eu hegwyddor- ion. Gan fod ein peiriant yn myned mor gyflym, deuwn ar unwaith i gymydog- aeth yr A-d, yn nghyda H-i W d J—n C—s. Y mae y bobl da hyn hefyd yn gweithio ar yr un telerau a'u brodyr blaenorol; ond yn unig dywedir eu bod mewn gwell parch gan eu meistri na'r I blaenaf. Bostia y rhai hyn eu bod yn cael deu ddamper y dydd o ffrwyth y brag a'r hops am eu llafurwaith caled, a hyny yn ychwanegol at ychydig sylltau yn y mis. Achwyna J- fod dau ddam- per y dydd yn rhy fach o lawer, am ei fod yn chwysu pump o honynt i'w feistr bob dydd trwy ei lafur caled. Felly, gwelir eu bod o'r blaen o ran tal, ond yn yr un cwd o ran eu hegwyddorion. Dyma i chwi specimen o gydymdeim- lad, a hyny tuag at eu brodyr sydd allan ar y strike er ys pum mis, a rhai o honynt yn gweithio o'u hamgylch fel labrwyr am ychydig neu ddim, er cael ychydig ymborth i'w teuluoedd angh enus, pryd y gallasent weithio ar system yr wyth awr, pe caniata y bodau hyn idd- ynt. Pa nifer o honoch ag oedd yn teimlo dros Pedr a'i deulu newynog cyn iddo i ymostwng i gydio yn y gaib a'r rhaw? A phwy o honoch sydd wedi cyfranu tnag at y rhai yna sydd yn y frwydr bresenol ? Son am egwyddorion, &c., dyma i chwi egwyddorion didwyll ag sydd yn gwneud cymeriadau dynion mor ddysglaer a'r ffurfafen ei hun, a syned y byd fod y fath egwyddorion yn bodoli yn nghalonau dynion. Os mewn camwedd a phechod y bydd byw dyn, felly hefyd y bydd farw;" gan hyny, os mewn gwarth y byddwch chwithau byw, mewn gwarth hefyd y byddwch feirw, ac hyd yn nod eich henwau yn ddrew- edig gan yr oesau a ddel. Yr eiddoch,- PEIRIANYDD.
SEFYLLFA Y GWEITHIWR.
SEFYLLFA Y GWEITHIWR. MR. GOL.Y mae olwyn fawr amser wedi dirwyn pethau i ben, fel erbyn heddyw, wn i ddim beth i ddyweyd. Mawr y plentyneiddiwch a'r anwadal- wch sydd yn perthyn i ddynion. Trown ein gwynebau yn ol dros ysgwyddau rhyw bum mis, yr amser y terfynodd y rhybudd oedd yn gynwysedig o ddau swllt yn y bunt i'r gweithwyr, dadleuem yn ddiysgog yn erbyn ei gyfreithlondeb neu gael rheswm dros ei gyfreithlondeb. Gwrthodwyd hyn i ni, taflasom ninau ein hofferynau gwaith o'n dwylaw, a daethom allan fel un gwr yn ei erbyn, am nad oeddem yn credu fod y farchnad yn ei gyfiawnhau. Safasom fel un gwr am ysbaid pedwar mis i wrthod y cyfryw ostyngiad; ac o gylch y pedwarydd mis, ychwanegwyd ef i dri swllt y bunt, yr hwn ychwanegjad a gredwn, oedd yn fwy o ddiryw na dim arall. Ond dali- wyd eto yn wrol dros ychydig ond 0 o gylch pythefnos yn ol, dyma rwygiad yn cymeryd lie yn y fyddin heb yr un rheswm dros hyny. Pa bryd y cawn ddynion yn debyg i ddynion, fel y gallom ymorphwys ac ymddiried ynddynt. Gwir iawn eu bod yn ymgynyg at ddy- fod a rhyw fath o resymau, ond i'm barn i, nid ydynt yn amgen na ffin gwellt. Ceisiant gyfiawnhau eu hymddygiadau trwy ddyweyd eu bod hwy yn teimlo wrth weled tylodi ar ei gynydd yn achos y drychineb hon. Yrwyf yn synu wrth glywed dynion yn cymeryd arnynt fod yn ddynion call, eu bod yn siarad yn y fel yna. Onid ydych yn deall athron- iaeth y strikes yn well na hynyna ? Oni wyddoch mat canlyniad anocheladwy yr achos mawr strikyddol bob amser ydyw tylodi ac angen; neu os na wyddoch, rhaid cyfaddef eich bod yn brin iawn o wybodaeth a phrofiad. Felly, gan ein bod yn gwybod yn flaenorol mai dyna fyddai y canlyniadau, paham yr oeddem yn dyfod allan o gwbl? neu ynte os ydym yn caniatau i'n teimlad i fod yn arweinydd yn bresenol, wedi bod allan am bum mis, paham na fuasai yn cania- tau i'n teimlad i esgyn i'r orsedd lyw- yddolyngynt? Na, yr ydym yn ofni fod rhywbeth fel mantellyngorchuddio'r pwnc dyrys yma hoblaw teimlad. Bu- wyd yn curo yn flaenorol wrth ddor ein teimladaii gan drymach morthwylion na'r rhai presonol; ond gwrthodwyd agor. Paham yr agorwyd y tro hwnp Barna di, ddarllenydd. Yr oedd y dull y cariwyd y cyfarfod diweddaf yn Aber- dar, yn ddigon i ferwi gwaed dyn yn ei gorff. Clywais rai yn dyweyd mai doeth oedd iddynt osod eu hunain o dan yr an- genrheidrwydd poenus o symud cam yn mlaen, oblegyd eu bod yn gweled yr angenrheidrwydd. 0 na, ond oblegyd y cam pwysig a wnaeth cyfarfod Moun- tainash yrwythnos flaenorol. Fel y cyfaddefwyd yn Aberdar, nid oedd mwyafrif corff y gweithwyr yn cael ei gynrychioli yno. Wel, os na, pwy roddodd i chwi, y lleiafrif, yr aw- durdod i basio y fath gynygiad pwysig yn eu hapsenoldeb ? Diameu y buasai yn lied chwithig genych chwi weled y lleiafrif yn cynyg gwrthwynebu y mwy- afrif yn Aberdar. Beth bynag, yr oedd yno wynebau gwenieithus i'w canfod yn wyneby mwyafrif; a phell wyf ogredu eto fod mwyafrif gogoneddus wedi ei gael yn Aberdar. Carwn gael gwybod beth yw rhif Dosran Aberdar pan fyddo pob peth yn ei lawn waith. Beth bynag, yr oedd tair mil ar ddeg yno dydd lau diweddaf ond nis gallaf gredu fod Hos- barth Aberdaryn cynwyshynyna yn ei sefyllfa strikyddol. Hefyd, yr oedd yno ddau bersbli ar lun dynion yn cynrych- ioli un fil ar ddeg a throsodd eu hunain. 0! eithafion haerllugrwydd, ai tybed fod yddau berson yna yn gwybod sefyllfa lleisiau yn agos i ddeuddeg mil o bobl ? Na, nis gallaf goelio. Ond dyna, beth na wnaiff dyn. Nid gwiw i ni guro yn er- byn y swmbwl. Y mae morthwyl yr ar- werthydd wedi disgyn, ac nid oes dim i'w wneuthur mwy ond goddef ei bwyeau • Gydweithwyr hoff, y mae y strike '75 wedi ei gwerthu yn rhy rad o lawer ond y mae yn rhaid talu am bob dysgeid- iaeth. Treiwnfod yn fwy craffus pwy yw ein harweinyddion. Edrychwn heibio liw eu cnawd a ffurf eu gwynebpryd. Mynwn ymgydnabyddu a'r egwyddor. Carwn osod un gofyniad wrth derfynu, pwy roddodd fodolaeth i'r drychfeddwl o encilio o faes o frwydr, a beth oedd eu rhesymau dros hyny ? Y mae yn rhaid codi ychwaneg o odrau'r curtain i fyny cyn cael trefn ar bethau. Yr eiddoch gyda chofion parchus atoch, LLAIS ARALL.
GAIR 0 GYNGHOR.
GAIR 0 GYNGHOR. SYR,- Gwelweh yn dda ganiatau i un o'ch darllenwyr cyson i roddi gair o gynghor i'r cyfeillion sydd yn ysgrifenu "Helyntion y Beirdd." I ° Gwell canmol na chablu, gwell cyngor na cherydd, gwell tewi a son na diys- tyru. Mewn ysgrif am Mai 14, y mae yr awdwr yn' cyfeirio at wobr a roddir gan Mr. Etna Jones. Mae yr ysgrif hono wedi cynhyrfu holl Drecynon, o herwydd fod Etna wedi cael ei brofi y mwyaf haelionus o bawb yn yr amser cyfyng gorphenol. Mae wedi cyfranu saith gini at y tlodion yn ystod y tri mis diweddaf trwy ddwyla,w Pwyllgor Cy- northwyol Trecynon. Os bydd rhyw amheuaeth, anfoner at yr ysgrifenydd. Ond. beth, tybed, oedd yn meddwl Prydydd pan yn dweyd gadawer iddo, techgyn, i ysmocio yn ei flaen." Ai meddwl yr oedd am y maes iddo ei hun ? Ffordd newydd i enill gwobr, neu ynte yn meddwl fod etholiad cyffredinol yn yr ymyl, ac y bydd digon o waith gan- ddo i redeg o Drecynon i'r B— A-, neu dichon mai awgrym anfwriadol oedd. Beth bynag am hyny, gwnaf ysgwyd Haw a'r Prydydd y tro cyntaf y cyfar- fyddaf ag ef, o herwydd nid wyf wedi cael yr anrhydedd o'i gyfarch er pan y mae wrth ei hapus orchwyl newvdd sef "Hwi lwli babi." HALLIDAY.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yny modd ac i'r cyfeiriad canlynol: MR. W. JONES. (Dafydd Morganwg) Hirwain.
[No title]
DERBYNIADAU :— Y Gwcw.-Nid yw y Uinellau hyn yn deilwng o honi. YPeiriant Gwnio.-Dim cynghanedd. Dyrchafiad EUas.—Y ddwy linell flaenaf heb gynghanedd. Eryr Glan Cynon.-Englynion cywir o ran celfyddyd, a dichon eu bod yn bortread o'r gwrthddrych; ond gan ein bod eisoes wedi gwrthod lie i'r beirdd ganmol eu gilydd (seboni eu gilydd) ar y DARIAN, yr ydym yn pen- derfynu dal at y rheol. Byddai yn dda genym gael cynyrch awen yr hen fardd hwn ar destynau dyddorol. Gostyngeiddrwydd,—Atodiad. Y Grotyn Amddifad.—IAed faith. Atod- iad. Y rhai canlynol yn gymeradwyFy Nhad & Mam, Y Duw Sanctaidd, Aelwyd Lan, Siomiant, Cariad, Bwth- yn fy Nhad, Y Merthyron Anghyd. ffurfiol, Comed 1874, Yr Ymosodwyr Ffugenwol, Neuadd Gyhoeddus Aber- afau, Miwsig yn y Dail, Marwolaeth Gwaliwr Gwyllt, Myfyrdod ar foreu yny Gwanwyn.
TRI PHENILL
TRI PHENILL I gyntaf-anedig DAVID a CATHERINE MOR- GANS, Pontardawe. Fel drych yn llawn o awyn, Daeth Rachel, geneth fwyn, I'r teulu hapua Ac ynddi'i rhiaint sydd Yn gwel'd eu delw'n rhydd, Yndawnsio nos a dydd, Fel banon hoenns. Mae'r ddelw'n hardd ei hun Ond yn ein Rachel gun Y mae yn harddach Clog diniweidrwydd pur, A choron tegweh clir, A wisga yma'n wir, Nes yw'n fil dlysach. Fel pegwn, boed i hon I sugno serch eich bron Bob dydd o'ch bywyd; Fel ffrwd boed cysur llawn Yn llifo'n hyfryd iawn I'ch rhan, yn nefol ddawn, 0 fryniau gwynfyd. Alltweny IOAHAB OwE>f,
/ Y NEWYDDIADUR.
Y NEWYDDIADUR. Yn tnhlith amrywiol betbau'r byd A Ifurfiwyd er ein cysur, Mae unYlJ wprthfawr iawn o hyd, O'r enw Newyddiadur Gwaith hoffUs hwn o gylch y byd Yw cludo pob newyddion Ei ymdrech ef a'i awyddfryd Ywporthi meddwl dynion. Mae hwn yn dylod fel rhyw ffrynd A newydd yn garedig, I'r hen wr lleng sy'n methu myn'd O'i gadair wellt blethedig; I'r gweithiwr tlawd, lethedig frons Yn gystal a'r penadur, Fel haul yn dod a gwyneb lion Y mae y Newyddiadur. A phan y byddaf weithiau'n glaf Dan boenus bwn anghysur, I laesu'r fron yn fynych af I chwilio'r Newyddiadur; Caf ynddo ef hanesion gwlad, Heb fyned o'm hanedd-dy, Yn ol fy meddwl mae lleshad I wybod pethau felly. Yn hwn y mae dadleuon brwd Rhwng dynion doeth ein gwledydd, Ac oddiwrtbynt llifa ffrwd 0 wersi ini beunydd Canfyddwn oil fod dirfawr les Yn deilliaw oddiwrtho; Wel, bydded i'n o frawdol wres Ddymuno llwyddiant iddo. Clydach. LEWis HOPKINS.
- MYNYDD PEN PYCH.
MYNYDD PEN PYCH. Testyn cystadleuol Eisteddfod TreherberL Nadolig 1874. Mynydd "Pen Pych" drych yw am dro- Anfeidroldeb ynddo; i wel'd] Neu lid fryn i wel'd y fro Addurnawl oddi arno. Fry'n y nen mae Pen Pych/ri lawr yn 0 le'r eymyl edrych y cwmj Y rhondda droa mai drych I gario ei lun gorwych. CARW COCH.
ENGLYN
ENGLYN I CARNELIAN am ei Awdl ar y DyfodoL Er na welaist, Carnelian, -y sylwedd Is- beuliau bedryfan; Enaid a geir yn dy gALn-broffwydol, Anwyf awenol y nef ei hunan. CARW CYNON.
ADGOFION MEBYD.
ADGOFION MEBYD. Mae'm calon yn hiraethu am Y dyddiau anwyl gynt, Pan oeddwn i yn blentyn iach Yn chwareu ar fy hynt. CYDGAN. Mor bapus oeddwn y pryd hyn Hebddim i chwerwi'm bron, A holl bleaerau'r byd i gyd Yn llifo atom 'n llpn. 'Rwy'n cofio yn dda pan oeddwn i Bron digio wrth fy hun, A gofyn ganwaith i fy nhad Pryd cawn i ddod yn ddyn? Mor hapus oeddwn, &c. Fy nhad, edrychai dros fy mhen, A d'wedai yn yr ha', Ond ar yr amod byddai'n rhaid I'm fod yn fachgen da. Mor hapus yr oeddwn, &c. Acer mwyn i'm gael myn'd yn ddyn, Addewais fod yn dda, Ond gofyn oeddwn bron pob dydd, Pa faint sydd tan yr ha' ?" Mor hapus oeddwn, &c. Mae hen adgofion dyddiau gynt Ar helynt am yr haf, Yn gwneud i'm calon lawenhau Wrth gofio'r dyddiau braf. Mor hapus oeddwn, &c. Aberdar. RHAIADRFAB.
Y CYFARFOD GYHOEDDUS YN ABERDAR.
Y CYFARFOD GYHOEDDUS YN ABERDAR. Nos Fercher, Mai 26ain, cynaliwyd gyfarfod cyhoeddus yn ymyl y Pare Cyhoeddus, er cael barn y glowyr ar y dull goreu o weithredu wrth gyfarfod a'r meistri yn Nghaerdydd y dydd Gwener canlynol. Etholwyd Mr. Dafydd Morgan, Mountain Ash, yn gadeirydd, yrhwn C wedi egluro amcan a dyben y cyfarfod, a ddywedodd y byddai iddo alw ar Mr. S. Davies i roddi hanes y cyfarfod o gynrychiolwyra gymerodd le y dydd Iau blaenorol yn Mountain Ash, ac ar Mr. Prosser i roddi hanesgweithred. iadau y cynrychiolwyr tranoeth i hyny yn nghyfarfod y meistri yn y Royal Hotel, Caerdydd. Oherwydd ymddyg- iadau iselwael rhai personau ydynt a'u holl egni yn ymdrechu pardduo cy- meriadau y cynrychiolwyr, trwy daenu pob math o chwedlau anwireddus ar hyd y lie am danynt, dymunodd y cadeirydd, yn gystal a Davies a Pros- ser ar ei ol, os oedd gan unrhyw berson neu bersonau unihyw gyhuddiadau yn erbyn unnen ychwaneg o honynt hwy fel cynrychiolwyr, fod taer ddymuniad ar y cyfryw gyhuddwyr i ddyfod yn mlaen fel dynion, mai dyma y man a'r amser priodol i'w cyhuddo, ac nid yn. y tafarndai a chonglau yr heolydd, yn eu habsenoldeb, lie a phryd nas gallent gael cyfle i amddiffyn eu hunain, ac os oedd gan unrhyw un ofyniad neu ofyn- iadau i'w gofyn i'r cynrychiolwyr, fod cyflawn roesaw iddynt i'w dwyn yn mlaen. Wedi cael hanes manwl o'r cyfar- fodydd yn Mountain Ash a Chaerdydd gan Davies a Prosser, er mawr foddhad i nythaid aflonydd o bersonau oeddynt wedi dyfod yno gyda'r bwriad o der- fysgu y cyfarfod, daeth eu dyn, J.