Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRGELL Y BWTHYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRGELL Y BWTHYN. PENOn II. DR. Smith, arlywydd y coleg ym Phila- delphia, wedi ei alw i Lancaster i drefnu myfyrdodau yr ysgol ramadegol,, a welodd y darlun, ac wedi ymddy- ddan a'r arlunydd ieuanc, cynyg- iodd ei gynorthwyo i gyrhaedd y ddysg- eidiaeth hono, pa un yr oedd yn awr yn teimlo mewn angen o honi. Can- lyniad y cynygiad hwn oedd i Ben- jamin fyned i Philadelphia, a thrigianu gyda'i frawd-yn-nghyfraith, Mr. Clarkson. Yn mhrif ddinas Pennsylvania, lla- fariodd yn ddyfal wrth yr alwedigaeth, yr hon yr oedd yn awr wedi ei dewis, ac o dan amgylcbiadau manteisiol inwn. Cafodd ganiatad i weled nifer o baentiadau cain, yn neillduol casgliad y Llywydd Hamilton, yn yr hwn yr oedd un St. Ignatius, gan Murillo. Yr oedd wedi ei gymeryd o long Ysbaen- aidd, a ehopiodd West ef, heb fod yn hysbys o'i awdwr, na llawn ystyried ei werth. Hanesvn, yr hwn a adroddir am dano yn y cyfnod hwn o'i fywyd, a ddengys ei foreuol arferiad o sylwad- aeth. Tra yn nheulu Mr. -Clarkson, cymerwyd ef yn glaf; ac ohtrwydd ei fod mewn sefyllfa wan, ni chaniateid ddim goleu i'r ystafell, ond yr hyn oedd yn gweithio ei ffordd drwy yr agenau yn y ffenestr-gauadau. Pan ymlonyddodd ei dwymyn, ac yntau yn gorwedd yn y gwely, rhyfeddwyd ef wrth weled "ffurf o fuwch wen yn dyfod i mewn ar un ochr i'r nen, gan gerdded uwch ben y gwely, a diflanu yn raddol yr ochr arall. Synwyd ef yn ddirfawr gan y phenomenon, ac ofnodd fod ei alluoedd meddyliol wedi eu niweidio gan ei aftechyd, yr hyn a dybiodd ei chwaer hefyd, pan, ar ei mynediad i mewn i'r ystafell, yr ad- roddodd wrthi yr hyn oedd wedi ei weled. Gadawodd yr ystafell yn ddi- atreg, a hysbysodd ei gwr, yr hwn a ddychwelodd gyda hi i'r ystafell; ac fel yr oeddynt ill dau yn sefyll wrth ochr y gwely, ail adroddodd West y stori, gan waeddi ei fod yn ei weled y pryd hyny, pan oedd yn siarad, amryw o foch bychain yn rhedeg ar hyd y nenfwd. Cadarnhaodd hyn hwynt yn eu hofnau o'i orphwylldra, ac anfon- asant am feddyg; ond yr oedd curiad .9 ei waed yn gyson. y cnawd yn dyner a thymerus, y syched wedi lleddfu, ac, yn wir, yr oedd pob peth o amgylch y ZIY dyoddefydd yn arwyddo gwellhad. Eto parhaodd yr arlunydd yn ei stori, a sicrhaodd hwynt ei fod y pryd hyny yn canfod cysgod o amryw o'i gyd-gyfeill- ion yn myned heibio ar hyd y nenfwd, uwch y gwely, a'i fod hyd yn nod yn canfod y dofednod yn pigo, a cheryg yr heol. Ymddangosai y cyfan iddynt yn hynod anarferol, am nad oedd eu llygaid yn gynefin a thywyllni yr ys- tafell, ac ni allasent ddirnad dim; a'r meddyg ei hunan, er gwaethaf yr ar- goeliou, a dechreuodd dybio fod y gwell- had yn wir orphwylldra. Gan sylwi, o herwydd hyny, ycymysgiadcyfansoddol a gymerodd Ie, ymadawodd, gan ddeisyf ar Mrs. Clarkson a'i gwr i ddyfod oddi yno, a pbeidio aflonyddu y dyoddefydd. Wedi iddynt ymneillduo, cododd yr arlunydd, yn benderfynol o gael allan yr achos o'r drychiolaethau dieithr, pa rai oeddynt wedi eu brawychu gymaint i gyd. Ynmhen ychydig amser, canfyddodd cwlwm-dwll trionglog yn un o'r ffenestr- gauadau; ac wrth osod ei law arno, diflanodd y paentiadau ffugiol oedd ar y nenfwd; ac wedi cael sicrwydd o'r ffordd yn mha un yr oeddynt yn gweith- redu, galwodd ei chwaer a'i gwr i'r ys- tafell, ac eglurodd iddynt." Ar ei ddychweliad, yn fuan wedi hyn, i dy ei dad, yr oedd ganddo flwch wedi ei wneud gydag un o'i ochrau yn dyllog, ac wedi bwriadu, heb erioed glywed son am yr offeryn, i ddyfeisio y CAMERA OBSCURA. Pan yn adrodd, yn mhen amser ar ol hyny, wrth gyfaill am ei ddadgudd- iad, cafodd ei synu wrth ganfod nad oedd ond yn unig wedi dyfeisio yr hyn oedd yn hysbys i ereill yn flaenorol. Ond er iddo gael ei brofi ei fod yn "new-found old invention," nid llai canmoliaeth a deilynga am ei athrylith. Pan tua deunaw oed, trallodwyd West gan farwolaeth ei fam. Lleiha- wvd llawer ar atyniadau cartref gan yr amgylchiad blinderog hwn, buan yr ymsefydlodd yn Philadelphia fel portrait-painter, lie y tynodd ei y ieuenctyd, ei fedrusrwydd, a'i brisoedd cymedrol, nifer dda ko eisteddwyr. Y mae rhai o'r paentiadau boreuol hyn ar gael eto. Aeth o Philadelphia i -New York, lie y dyblodd ei brisoedd, a buna y canfyddodd ei liun yn pen- tyrn digon i'w alluogi i foddhau dy- muniad mwyaf angherddol ei en aid, yr hyn oedd ymweliad ag Itali. Dygwyd yr amgylchiad hwn o anigylch yil gynt nag y dysgwyliodd. Mr. Allen, masnachydd cyfoethog o Philadelphia, oedd yn gosod allan long ar gyfer Leghorn, yn mha un yr oedd ei fab yn myned allan ar bleserdaith. Clywodd West am y Hong tra yn New York, a phenderfynodd ddal ar y cyf- leustra o ymweled agwladyrarlunwyr. Yn y cyfamser, cafodd ei gyfaill a'i y athraw blaenorol, Dr. Smith, ganiatad gan berchenogion y llong iddo gydym- deithio a'r masnachydd ieuanc. Yr oedd pob peth fel hyn yn ddymunol iawn, ac yr oedd yn arfaethu drachefn i dderbyn profion ereill o garedigrwydd ei gyfeillion a'i gydnabyddion. 0 bawb arlunwyr, yr oedd, feaUai, trwy ei fywyd y mwyaf llwydd'anus i eniil serchiadau dynion, gyda'r rhai yr oedd bron yn gyffredinol barchus. Yr oedd yn ddyledus am hyn, yn rhanol, i'w dalentau uchel, ac hefyd i'w ymddyg- iadau tawel, anymwthgar, a llednais, ac i'r gonestrwydd manwl wrth ba un yr oedd yn cael ei nodweddu yn was- tad. Daeth ei gydnabyddion yn gyf- eillion, ac ymdrechodd ei gyfeillion fod er mantais iddo, oherwvdd gwelsant nad oedd llwyddiant yn ei ddyrchafu yn anamserol, ac fod pob mantais yn cael ei defnyddio yn ddoeth. Yr oedd West yn rhwym gyda'r gorchwyl o dynu darlun Mr. Kelly, masnachydd o New York, pan y penderfynodd hwylio o Philadelphia. Crybwyllodd ei gynllun wrth Mr. Kelly, yr hwn a gymeradwyodd ei benderfyniad, a thai- odd iddo am y paentiad ddeg gini, a rhoddodd iddo lythyr i'w roddi i'w brwywyr yn Philadelphia. Pan yn cyflwyno y llythyr, canfyddodd ei fod yn cynwys archeb am haner ca' gini,— A present to aid in his equipment for Italy." Croniclo y fath weithredoedd o gar- edigrwydd ydyw un o'r pethau mwyaf boddhaol yn mywgraffiad dyn o ath- rylith. Yn 1760, pan yn un mlwydd ar hugain oed, gadawodd yr arlunydd ei wlad, i ba un ni ddychwelodd byth wedi hyny. Bu ei daith yn llwydd- ianus, a derbyniwyd ef yn garedig gan Mri. Jackson a Rutherford, gohebwyr Mr. Allen. 4

Y "PERMISSIVE BILL" A'R ,…

MINION Y DARIAN.

dtoddefgxrwch A. natub DDA.

ANWYBODAETH ENWOGIOX

CYNGOR TRWY DWLL Y CLO.

Y CYMYDOG PERYGLUS.

♦ Y GALON DOREDIG.

4 APEL AR RAN CYN-BEIRIANWYR…

4 iY GWARTH OFFEIRIADOL YN…

^— COLOMEN NOA.