Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y TEULU ANNEDWYDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TEULU ANNEDWYDD (Allan o hen Fisolyn tua 40 mlynedd yn ol.) RHWYMWYD un o'r bechgyn gyda llaw- feddyg yn y gymydogaeth; ond yn lie astudio ei gelfyddyd, rhoddai ei fryd yn gwbl ai oferedd. ac ni byddai byth wrth ei fodd ond pan yn nghymdeithas y dynion ieuainc mwyaf ofer yn yr ardal. Pan fyddai yn dosbarthu meddyginiaethau, byddai bob amser yn gwneuthur y camsyniadau mwyaf, yn rhoddi y naill beth yn lie y Hall, ac felly yn barhaus yn gosod bywydau dynion mewn perygl. Oblegyd ei es- geulusdra o'i gelfyddyd, yn nghyd a'r fuchedd ofer a ddilynai, anfonodd ei feistr ef ymaith, gan ei fod yn ei ni- weidio mor enbyd yn ei fasnach. Wedi hyn, rhoddwyd ef gyda chyfreithiwr, ond os drwg oedd o'r blaen, gwaeth o lawer yn awr oblegyd aeth ei galon yn fwy caled, a'i dymherau yn fwy creulon o ddydd i ddydd. Dysgodd amrywiol gastiau drygionus, ac ni pheidiodd yma drachefn a niweidio masnach ei feistr, drwy dderbyn gwo- brwyon, datguddio cyfrinach ei feistr, yn nghyda gwahanol bethau ereill. Twyllodd ddynes ieuanc brydweddol, ac wedi ei halogi efe a'i gadawodd yn ysglyfaeth i'w gofid a'i chywilydd, gan ymorfoleddu yn ei ysgelerderau ac yn fnan ar ol hyn cymerodd y traed a diengodd ymaith o'r gymydogaeth. Nid ydoedd tynged y ferch arall yn well na'r hynaf, oblegyd yr oedd yn dueddol iawn i nwydau drwg, ac er pan ydoedd yn blentyn ni wnaed dim tuag at wellbau ei thymherau drwg, ond cafodd ei ffordd ei hun, fel yr aeth yn faich iddi ei hun ac i bawb oddiam- gylch iddi. Dilynodd lwybrau annuw- ioldeb, a phan ddaeth hyn i glustiau ei rhieni, yn lie ymdrech u ei dwyn yn ol i lwybr rhinwedd a diweirdeb, aeth ei thad yn gynddeiriog, ac efe a'i trodd allan o'r ty i'r byd sydd yn llawn twyll a maglan. Derbyniwyd hi i dy cyfaill, ac ymddangosai ei bod am ddiwygio ei buchedd, ac felly i ail enill ewyllys da ei rhieni. Priododd ddyn ieuanc, a'r hwn yr oedd gydnab- yddus pan yn yr ysgol, ond yn fuan trodd yn anffyddlon i'w gwr, yr hwn, oblegyd y siomedigaeth a gafodd yn- ddi, a dorodd ei galon, ac a fu farw yn fuan. Collodd hi ei pharch yn llwyr oblegyd hyn, gadawodd y wlad, ac aeth i'r brif ddinas, He y bu farw mewn eis- iau yn un o'r teiau aflanaf yu Llundain. Yr oedd un o'r plant yn gwbl ddisyn- wyr ac yr oedd yn mhob ystyr fel yr anifail, heb wybod dim am ei Gre- awdwr, er bod ei enw glan yn wastad yn ei enau, oblegyd dysgodd gablu a rhegu, am fod hyny yn swnio yn bar- haus yn ei glustiau. Aeth yn berygl- ns iawn i bawb i ddynesu ato, am y rhedai ar eu hoi a chyllell fawr gan- ddo, neu ryw arf angeuol arall, gan eu bygwth ag angeu yn uniongyrchol. Trwy bob peth, aeth y rhieni yn dlawd iawn, a dechreuasant fod mewn eisiau yn nghanol gresynoldeb mawr. Er hyn oil, nid edifarasant, ac nid ymos- tyngasant ger bron yr Arglwydd, yr hwn sydd yn derbyn yr edifeiriol, ond ymgyndynu ac ymgaledu fwy-fwy a wnaetbant fel yr oeddynt yn nesu tua therfyn byd tragwyddol. Bu y bach- gen gwallgof farw mewn gwallgofdy, a'i fam a fu farw mewn cyflwr annes- grifiadwy oblegyd er bod ei chyd- wybod wedi dihuno, eto ni ddychwel- odd at yr Arglwydd; o ganlyniad, ni agorwyd drws gobaith iddi, a suddodd yn nghorbyllau yr afon, yn nghanol tywyllwch duaf bro marwolaeth. Yr ychydig ydoedd gan y tad a werid ganddo mewn tafarndai, yn y rhai y ceid ef fynychaf mewn agwedd dra ani- feilaidd. Yr oedd y gnof a fawr yn ei fynwes, ond ni ddefnyddiai yr iawn foddion tuag at dangnefeddu ei gyd- wybod. Un diwrnod pan mewn ta- farndy, cymerodd newyddiadur yn ei ddwylaw, a tharawodd ei lygaid ar yr hanes ganlynol: Dydd Mawrth diweddaf, dienydd- wyd yn ddyn o'r enw am ysbeiliad a llofruddiaeth. Yr oedd yn ddyn ieuanc glan, ac yn ol pob ym- ddangosiad o ddygiad da i fyny, a thosturiai pawb wrth ei sefyllfa. Es- gynodd i'r dienyddle gan grynu, ac anerchodd y dorf wyddfodol yn y geiriau canlynol: w Yr wyf yma ger gwydd yn cyf- addef uniondeb y ddedfryd a roddwyd arnaf, oblegyd mewn gwirionedd yr wyf wedi cyflawni ysgelerderau a haeddant farwolaeth. Ganed fi o rieni cyfoethog yn Nghymru, ond ni chy- merasant y gofal lleiaf am fy moesau, ac o ychydig i ychydig, ymgaledais yn mhob drygioni. Pe dygesid fi i fyny yn llwybrau rhinwedd a chrefydd, ni ddaethwn i'r dienydd hwn. Dysg- wyd fi i esgeuluso rhybuddion yr Ysgrythyr Lan, ac yr wyf yn awr yn eu cashau am eu bod yn fy nghon- demnio. Melldithiodd fy nhad fi gan- oedd o weithiau, gan ddymuno ar i'r diafol fy nghymeryd; ac mewn ffordd o ad-daliad yr wyf finau yn ei felldithio yntau, yn gystal a'r groth a'm hym- ddygodd; ac yr wyf yn gobeithio y cat weled fy rhieni yn uffern gyda mi. Och! och yr wyf yn cau fy llygaid ar y byd, a thyma fi yn myned i dra- gywyddoldeb." Gwybu y tad mai ei fab ydoedd yr adyn hwn, a theimlodd ei felldithion yn cyrhaeddyd ei galon dychrynodd, crynodd fel y ddalen. Gadawodd y ty yn uniongyrchiol er myned tua'i artref, gan fytheirio allan bob melldithion yn erbyn Duw a dyn. Yr oedd y noswaith hono yn dymestlog iawn, yn melltenu ac yn taranu yn ora dychrynllyd; ac yn llawn dirdyn- iadau mynwesol cyrhaeddodd gaerau pi artref; cymerodd afael mewn ellyn er tori ei wddf, ond rhwystrwyd ef gan gymydog, ac yn fuan mellten a'i taraw- odd yn farw yn y man.

Gohebiaethau.

Y PABYDDION A GWAIIAEDD-IAD…

BRYNFAB AC EISTEDDFOD TREHERBERT.

CYMERIAD Y CYMRO YN CAEL EI…

L'ERPWL.