Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
TERFY6G GLOWYR AMERICA. j
TERFY6G GLOWYR AMERICA. j Oddiwrth yr hanEsioR a gyrhaeddodd y wlad hon ddiwedd yr wythuoit ddi-i weddaf, yr ydym yn cotcl fod terfygjf anarferol wedi bod yn mhlith gweith- wyr tanddaearol Schuylkill. Y mae yn ymddangos fod rhai o'r gweithwyr wedi peuderfynu myned at waith ar delerau y meistri, pryd y darfu i weithwyr ereill ymyraeth, y rhai hefyd a aethaat rhagddynfc tua Pottsville, er gorfodi en cycl weithwvr yno i roddi fyny gweithio. Ymae catrodau o filwyr yn dechreu cael en cyimll a'u hanfon i'r gymydog- aeth er cadw trefn. Dywed uu hys- bvsiad peilebrol fod y gweithwyr wedi riiodJi t&n yn un lofn, ac wedi gorch- fygu liif'er o filwyr a ddaethant i'w her- byn yn agos i Mahony. Lladdwyd a chlwyfwyd amryw yn y gwrthdarawiad. n
CLADDFA PICPUS YN PARIS.
CLADDFA PICPUS YN PARIS. Pwy o ddarllenwyr y DARIAN na chlyw- odd am gladdfa Picpus. yn Paris. Rhyw bedwar ugain mlynedd yn ol( pan yr oedd fceyrnasiad dychryn yn ei anterth, cafodd rhyw bymtheg cant o'r rhai a ddienyddwyd ar y guillotine eu claddu mewn pydew y tu allan (yr adeg hono) i brif-ddinas Ffrainc. Yn mhlith y meirw a ddienyddwyd ac a gladdwyd ar yr adeg, y oedd rhai o'r enwau anrhyd- eddusaf yn Ffrainc. Mewn blynydd- oedd wedi hyny, pan yr adferwyd trefn, pwrcaswyd y gladdfa hon gan blant rhai o'r prif ddynion a gladdwyd yn. mhlith y pentwr, ac ymgyfamodasant y buasai ,,y iddynt hwy a'u plant, am bedair cenedl- aeth i ddyfod, fynu gael eu claddu yn Picpus. Y mae yr ymgyfamodiad wedi ly cael ei gadw yn ffyddlawn, ac o bryd i bryd y mae llidiard rydlyd y lanerch neillduedig wedi cael ei hagor i dderbyn rhyw un o hiliogaeth yr enwogion dien- yddiedig. Heddyw (dydd Mawrth) casglwyd un yn rhagor o'r hiliogaeth at ei dadau, a hwnw, trwy enedigaeth, llin- ach, traddodiad, a greddf, yn perthyn i'r dosbarth hwnw a erlidiwyd, a ysbeil- iwyd, ac a ddienyddwyd gan y Werin- iaeth Gyntaf. ond yr hwn a wnaeth fwyaf yn ei ddydd, oddigerth M'Thiers, er sefydlu Gweriniaeth yn Llywodraeth yn Ffminc, Yr oedd M. de Remusatyn un o Werinwyr hynotaf, os nadpwysicaf ei ddydd, ond ei le nid edwyn ddim o hono mwyach.
MASNACH EIN GWLAD.
MASNACH EIN GWLAD. Mia yn ol yr oeddym yn lied obeithio ein bod wedi troi y cornel, a bod mas- nach ein gwlad ar wella. Yn wir, yr oedd adroddiadau. swyddogol y wlad yn rhoddi lie i gasglu hyn, yn nghyd ag ar- wyddion ereill. Modd bynag, oddiwrth yr adroddiddau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Fwrdd Masnach, yr ydym yn gweled nad oedd yr adroddiadau hyny yn beth an ag y gellid eu cymeryd yn safon dros wellhad masnach. Yr oedd cyfanswm gwerth ein holl allforion am Ebrill yn fwy o £800,000 nag allforioa y mis cyferbyniol y flwyddyn flaenorol, yr hyn oedd yr arwydd cyntaf o wellhad am faith dymhor. Yn anffodue, modd byiag, y mae yr adroddiadau am Mat yn waeth nag arferol, ac yu arddangos lleihad o dros £ 3,000,000. Y mae yn deilwng o sylw fod gwerth £800,000 llai o haiarn o bob math yn rhan o'r tair miliwn uchod, yr hyn sydd yn fwy o ostyngiad nag mewn un nwydd arall yn ein masnach. Y mae y wlad wedi cael prawf chwerw o sefyllfa andwyol y fasnach hon yn helynt y methiant sydd wedi cymeryd lie yn eich cymydogaethau chwi, yr hon feth- iant sydd wedi parlysu holl gylchoedd masnach y wlad i ryw raddau. Yr unig beth sydd i'w obeithio ydyw na cheir ychwaneg o amgylchiadau gofidus o'r fath.
HELYNT HYNOD BWRDD YSGOL.
HELYNT HYNOD BWRDD YSGOL. Ai tybed fod yr hanes sydd wedi ein cyrhaedd am weithrediadau Bwrdd Ysgol Wolverhampton yn wirionedd ? Os yw, yr ydym yn gobeithio na cheir llawer o'r fath. Y mae yn ymddangos fod mas- nach wr o'r enw Boxwell wedi cael ei wysio gan y Bwrdd Ysgol am beidio anfon ei blant i'r ysgol. Pan y cyrhaeddodd y wys, nid oedd Boxwell yn y dref, a rhodd- wyd allan,itarrant er ei ddal. Pan y clyw- odd hyn, dychwelodd ar unwaith, a daeth 0 flaen yr ynadon. Yn gymaint ag nad oedd ond un ynad yn bresenol, clowyd ef i fyny am bedwar diwrnod mewn cell yn iigrosaf yr heddgeidwaid. Arderfyniad yr adeg hono, gwrandawyd yr achos, pryd y profodd i foddlonrwydd fod ei blant ar y pyyd yn dyoddef o nfiechyd, ac mai o herwydd hyny yr oedd wedi eu •cadw gartref. Y maeyn sicr fod yr helynt C, hwn yn un o'r pethau gwartbusaf sydd wedi cael ei gyflawni yn ein gwlad gan unrhyw Fwrdd yn ddiweddar, ac nid yn unig yn warthus, ond hefyd yn angbyf- reithlon. Yr ydys yn achwyn yn ami ar rieni am anfon eu plent i ysgolion cy- hoeddus tra yn dyoddef o afiechyd a allai y, mdaenu, ond dyma ddyn yn cyflawni ei ddyledswydd fel dinesydd cydwybodol, ac eto yn cael ei daflu i garchar am bedwar diwrnod am hyny. Mae yr helynt yn warth, a phe buasai wedi cael ei gyflawni yn rhyw ran o Gymru, ni buasem yn cael diwedd ar ei ddanod.
--AT LOWYR A MWNWTB SIR FYN-WY…
AT LOWYR A MWNWTB SIR FYN- WY A DEHEUDIR CYMRU. GYDVEiTHVTR,—Mown Cyfarfod Cy- fEredinol o'r Pwyllgor Cynorthwyol a gynaliwyd yn y Bute Arms, Aberdar, dydd Iau, Mehefin y 3ydd, 1875, pasiwyd fod pawb dynion sydd yn gweithio yn y gwahanol lofeydd i gael eu hargymhell yn y modd mwyaf taer i wneud yr oil a allont > ail-ymuno yn un corff mawredd- og, fel y byddom yn barod i gyfarfod a'r meistri pa bryd bynag y galwont y pwyll- gor yn nghyd er trefn uy safon i'r raddfa symudol cynygiedig yn y cytundeb dydd Gwener, yr 28:vin o Fai diwecldaf. Teimlwn hefyd ei fod yn angenrheid- rheidicl i gynal cyfarfod cyffredinol o gynrychiolwyr yn y British Workman Hall, Merthyr, dydd Llun, Gorphenaf y 5ed, am lleg o'r gloch, i'r dyben o ben- nodi y pwyllgor i gyfarfod a'r meistri pan y gelwir am dano, gyda gallu i ethol ereill a farno y cyfarfod yn gymhwys i ymdrin a'r cyfryw gwestiwn pwysig. Yr ydym yn mhellach yn anog y glo- wyr, mwnwyr, ac ereill sydd yn gweithio yn ac oddiamgylch y glofeydd, ar eu dy- chweliad, i dalu 2s. 6ch. yn unig o flaen- dal, yn nghyda 6ch. yr wytbnos o gyf- raniadau, i'w talu yn bymthegnosol; y taliadau i fod yn unffurf yn yr holl ddos- parthiadau, fel na byddo un dosparth yn niweidio y llall, ac er ceisio gwneud i ffwrdd a'r arddodiadau (levies); hefyd fod cyfarfodydd cyhoeddus i'w cynal mor fuan ag y byddo yn gyfleus, i'w trefnu gan y goruchwylwyr yn mhob Dosparth. Yr eiddoch fel arfer, Thomas Thomas, Cwmbran; William Jones, Merthyr James Clarke, Blaenavon W. M. Thomas, Pont- ardawe Thomas Davies, Cwmavon; John Jenkins. Llanfabon Thomas Smith, Abertillery; Stephen Grif- fiths, Pengam.—Pwyllgor Canolog. H. Mitchard, Blackwood; W. Abraham, Llwchwr; Isaac Connick, Merthyr; William Williams, Abersychan; Phillip Jones, Abertillery; Samuel Davies, Aberdar; George Coles, Rhondda.—Goruclvwylwyr.
DOWLAIS—PWY SYDD GYFAILL !…
DOWLAIS—PWY SYDD GYFAILL A PHWY SYDD ELYN. SYR, Byddwchcystal a chaniatau ychydig linellau i ymddangos ar eich TAIUAN, at 0 Weithwyr Dowlais a Phenydarren, o barthed i'r dclau dosbarth yma, sef cyfeillion a gelynion. Dylem fel gweith- wyr geisio eu hadnabod mor belled ag sydd bosibl. Dywed y Sais, "A friend in need is a friend in deed." Yn ddiau mae llawer iawn o wirionedd yn bona Yn ystod y misoedd o segurdod gorfodol a fu yn ein plith, cawsom gyfie .da i adwaen y cyfryw. Nid meistri ynunig yw gelynion interest y gweithiwr o na, y mae gyda ni gorph helaeth iawn yn ein plith ein hunain o elynion calon i ni—ond ein harian. Nid oes wahan. iaeth yn y byd ganddynt beth ddaw o honom, ond iddynt hwy gael eu cyllaau gwancus wedi eu diwallu. Bradych wyd ni fel glowyr fwy nag unwaith o'a,yi J. y tyIwyth dideimladyma, trwyysgrifenu 0 nodau yn awr ag yn y man, dan yr enw Glowyr Profiadol, ac yn y blaen, i bapyrau nad ydynt yn rhoddi eu hunain yn atebol am lawer o wirionedd a rheswm, bud bob amser a'u golwg ar y rhai y mae digon o'r lliw melyn gan- ddynt. Methodd un o'r tyhvyth hyn ftrwyno ei dafod eihun,poorfellow, mewn cysylltiad a'r pwt hwnw a ymddangos- odd ar dudalenau paraduwr y gweith- iwr, Caerdydd, dan yr enw gonesj J. J Anwyl gydweithwyr, dyma golier braf, dyma goller yn rhoi eu farn ar beth y ddylem eu wneud a pha delerau i weithio arnynt. Boed i ni ei barchu drwy gario llawer yn rhagor iddo, neu boed iddo fyned i rhyw Batagonia. Ond nid yw wrtho ei hun, druan o hono; o na, y mae iddo gvmydog da iawn o fewn i ychydig ddrysau iddo, rhyw fath o golier wedi bod ond pob parch iddo, wedi cyfnewid ei farn am y mandrel i gael gwell byd-eithaf da. Syned y byd ar menywod, y mae Die Dafyddiaid i'w cael heb law Die Shon yr Iaith Gymraeg. Beiddiau y mawr hwn ddyweyd mai eywilydd wynebau glowyr Dar a Rhondda eu bod yn gwrthod telerau y meistri; ei fod ef wedi clywed Mri. Evans a Simons, o Ferthyr, dynion mawr fel ei hunan, yn dy weyd fod y meistri wedi profi mor belled ag oedd yn angen, i'r gweithwyr, fod y gostyngiad yn deg, a beth yn rhagor oedd y gweithwyr yn eisiau. Y mae genym yn ein plith ddynion yn masnachu, ac yn cydnabod pwy sydd yn asgwrn cefn eu masnach. Ac nid dau gant o latheni y mae un o'r bonedd- igon hyn oddiwrth y cymeriadau hyn. Gwr yn meddu ar deimlad da a thyner ywMr. Evans, draper, Dowlais, ac yn foddlon cydnabod hawliau dyn yn mhob sefyllfa, nid a'i air ond a'i law hefyd. Gall lluaws yn Nhowlais ddweyd ei fod ef wedi bod yn foddion i gadw newyn du o'r drws i fesur helaeth. Gwnaeth ei briod tyner anfon bara iweddwdlawd oedd a phump o blant yn fwy na haner newynu, pan nad oedd yr un tamaid yn y bwthyn dros y Sabboth. Dyma foneddwr yn ngwir yetyr o'r gair. Yr eiddoch. ]I 18 JOHX JOXBS.
UNDEB GWEITHWYR CYMRU.
UNDEB GWEITHWYR CYMRU. MR. GOL. Y mae yn eithaf eglur y dylai gweithwyr Cymrti adolygu eu sefyllfa er mwyn dyogelwch a llwydd- iant yn y dyfodol. Y mae ganddynt hamdden i wneud hyny yn awr mewn pwyll, gan eu bod yn ol yn eu gwaith. Nid yw amgylchiad o bryder am fyw- ioliaeth yn cynhyrfu en teimladau i donau, yn nghanol y rhai y gallai llong deall a synwyr fod yn ami ar ei hochr, neu bron o'r golwg. Afraid bron fyddai ceisio clarbwyllo un dyn a fedclai fenydd, y byddai o'r pv/ys mwyaf i'r gweithiwr ac i gorff gweithwyr Cymrn, i wneud ymchwil- iad manwl a go nest i haeddianau pob ffnrf o weithreeln, pob moddion o ddy- lanwad ac amddiffvn, a phob offerynol- iaeth a ddeihyddiwyd yn yr amser a basiod d. Y n; ae gwelnantau bennydd iol yn cael cynyg a'u profi yn mhob peirianwaith, er mwyn lleihau poen neu berygl, ac er mwyn sicrliau helaeth- ach graddau o lwyddiant ac effeithiol- rwydd. Nid oes un dyn a ddylai fod allan o wallgofdy a ymladdai dros un- rhyw ffurf o ^reithredu, gan ei fod wedi cael hir fodolaeth, nea oblegyd fod dynion dylanwadol wedi ei gefnogi. Kid oes un ffnrf o orthrwm anghyf- iawn heb henaint i'w gefnogi, na, heb ddynion dylanwadol a dysgedig i'w folianu gyda sel ac athrylith. Pwy na wyr fod Pharaoh, Herod, Neio, Mari waedlyd, Siarls I., Laud, ac ereill, wedi cael eu hamddiffyn gan gyfoeth, dysg, doniau, a llefau miloedd o folianwyr slafaidd ? Y dyn na fyno edrych i wallau eglur unrhyw gyfundrefn o weithredu, gan mai cyfundrefn ei blaid ef yw hi, a wnai bagan pabyddol, dall-bleidiol, er- lidgar, o dan arweiniad twyllwyr hun- angeisiol, y rhai a roddant gyflawnJer o fel o amgylch y gwenwyn a daflant i feddyliau segur, anymchwilgar, ym- ddibynol. Y mae ymdrech unrhyw ddosbarth o ddynion i guddio anmherlfeithiadau dinystriol eu cynllun hwy o weithredu, mor ynfyd, ac mor hunan-ddinystriol, a phe bae dyn claf, yr hwn sydd yn ngafael afiechyd peryglus, yn celu oddi- wrth y meddyg ryw arwyddion awgrym- iadol o berygl, am ba rai y gwyr efe. Ni allai ddewis moddion mwy effeith- iol i rwystro gwelliant na'r fath ym- drech i gelu ei afiechyd oddiwrth yr un a allai ei wella. Dywedir am ryw greadur ei fod yn cuddio ei ben yn y tywod, os bydd mewn perygl, fel pe byddai yn credu nad oes perygl yn I In bod o gwbl, os na bydd ei lygaid ef yn edrych arno. Dyma sydd wedi niweidio y meistri, eu bod wedi celu cymaint oddiwrth bawb— ond eu brawdolia-th eu hunain -lawer o'r diffygion hyny yn eu dull o weithredu, y rhai Bydd yn bwyta elw eu masnach, ac yn eu harwain i wasgu I cyflogau gweithwyr bron i ddiddim- dra. Gwnant weithwyr yn aberthau i'w camsyniadau eu hunain. Os bydd meistr yn cadw i fyny sefydliad bon- eddwr mewn pump neu chwech o balasau mewn gwahanol ardaloedd, os gwario efe ddeng mil o bunau yn y flwyddyn ar y sefydliadau tywysogaidd hyn, rhaid iddo gael enillion mawrion yn ei fasnach bob dydd, tuhwnt i'r hyn a dal efe mewn cyflogau, neu aiff ei long yn ddrylliau yn erbyn creigiau hyllion bankruptcy." Pa ryfedd fod gwr o'r fath yti ngolwg perygl yn ceisio gwasgu ychydig geiniogau o fer esgyrn gweithiwr, er mwyn cynal rhwysgfawredd am ychydig amser, gan wrthod cyflafareddiad, rhag i wir sefyllfa ei fasnach ddyfod i'r golwg. Y mae drygau fel rhai eel y cliwil- lys, y myuachdai, a'r lleiandai, yn nghyda phagiiHiaeth felldigedig yr urddam Pabyddol, 11a wn o ddirgelwch anwiredd," yncael eu cyhoeddi ar ben- au tai yn y diwedd gan y rhai sydd wedi dyoddef eu gormes diefiig. Y mae ya angenrheidiol i'r gweith- wyr gymeryd llong eu cynllun hwy o weithredu i'r dry doclcs er mwyn gwneud ymchwiliad ffyddlon i ffaeledd- au eu Hong. Nis gall neb ddweyd ar dir fieithiau, ei bod wedi profi ei hun yn bob peth ag a ddyniunid yn nghanol mwg y rhyfel diweddaf. Yr oedd y crew arni yn gorfod bod wrth y pumps yn barhaus. O'r braidd y diangodd rhag suddo. Ni ddylai gweithwyr ohirio diwrnod, ym ol ein barit ni, heb gynllunio rhyw lwybri wneud eu hunain yn ddigon aerthol i sicrhau cyfiawnder iddynt eu huaain oddiwrth y aieisfcri. Y mae genym lawer e awgrymiadau i'w rhoddi iddynt, y rhai a roddwn eto. Ond yr ydym y* credu yn ddiysgog, os ydynt am fod yn nerthol a llwydd- ianus yn y dyfodel, fod yn rhaid i weithwyr Cymru gael "Undeb Cymr- eig," annibynol ar bob undeb arall, cyn y bydd en llong yn addas i fyned i un- rhyw frwydr eto. GLOWII.
AMRYWION O'R AMERIG.
AMRYWION O'R AMERIG. TRADDODODD y Seneddwr Sherman araeth bwysig yn ddiweddar o flaen Bwrdd Cyfnewidfa Cincinnati, a sicr- haai ei wrandawyr fod arwyddion am- lwg o adnewyddiad masnachol yn ganfyddadwy yn mhob cyfeiriad. Der- byniwyd y newydd hwn gyda graddan amlwg o lawenydd, a diau y gobeithir yn gyffredinol iddo brofFwydo y gwir- ionedd. Hefyd hysbyswyd mewn cyf- arfod cyhoeddus a gynaliwyd yr wyth- y nos o'r blaen yn Philadelphia, fod mas- nasnach yn bywiocau mewn modd boddhaol drwy y wlad yn gyffredinol. Dydd Llun, Mai 17eg, bu farw John C. Breckinridge, yn Lexington, Ken- tucky, yn 55 mlwydd oed. Cof gan y darllenydd i'r deheuwyr caethwasol ei neillduo yn ymgeisydd am yr Ar- lywyddiaeth yn 1860, yn erbyn Lincoln, Douglas, a Bell; oad ar ol etholiad Lincoln, eisteddodd am rai misoedd yn y Senedd a chafodd ei droi allan o herwydd bradwriaeth yn 1861. Yn fuan ar ol hyny gwnaeth ei ymddangos- iad yn gadfridog yn myddin Jeff. Davis, a bu yn rhai o'r brwydrau poethaf. Clwyfwyd ef gan belen, oddiwrth yr hyn y dyoddefodd hyd ddydd ei farw- olaeth, Yn ddiweddar, yn rhandir Llyn Superior, darganfyddwyd telpyn mawr o gopr pur yn y ddaear. Codwyd y talp copr o'i wely, yr hwn oedd 1G troedfedd islaw arwynebedd y ddaear, ac y mae yn pwyso tair tynell, neu 6,000 pwys. Dyn o'r enw Davis oedd y dargaufyddwr ffodus. Caed yn yr hen fwnglawdd oddiamgylch y talp mawr amryw fan ddarnau yn pwyso o 1 wns i 17 pwys, y rhai a dorwyd ymaith o'i onglau gan yr hen fwnwyr cynoesol. Hefyd, yr oedd yno amryw forthwyl- ion ceryg callestr yn pwyso o 10 i 30 o bwysi, a rhychau ynddynt am y rhai yr arferai yr hen fwnwyr nydd-droi gwiail gwydn, er ffurfio coesau y mor- thwylion. Darganfyddwyd llwythi troliau lawer yn y gwahanol f»nglodd- iau o'r morthwylion hyn, yn nghyda nifer mawr o gynion miniog, wedi eu gwneud o geryg caledion, a chopr wedi ei weithio i wahanol ddullweddau. An- fonwyd y talp copr enfawr a nodwyd yr wythnos o'r blaen i St. Louis, Missouri, ac y mae yn creu syndod cy- nredinol yn mhlith y bobl. Dywedir mai dyma y dernyn mwyaf a ddargan- fyddwyd erioed yn bur p: digymysg, ac y mae yn rhaid ei fod wedi myned trwy ryw ffwrnes eiriasboeth yn nghrawen y y ddaear ryw gyfnod pell yn ol.
GOHEBYDD RHYMNI A'I ANWIREDDAU.
GOHEBYDD RHYMNI A'I ANWIREDDAU. MR. GOL, Y mae rhyw ohebydd yn ymddangos yn eich colofnau, wythnos ar 01 wythnos, i geisio pardduo cymeriadau glowyr a mwnwyr y lie hwn, a chymeraf finau y oyfleusdra presenol i hysbysu gwlad a gorwlad nad oes yr un gair o wirionedd yn yr holl helynt. Mae y peth yn sefyll yn gyfangwbl rhwngy Go- hebydd a thad y eel wydd. Nid oes eisieu rhyw lawer iawn o graffder cyn canfod hyny yn ei ysgrifau. Dywed yn ei ysgrif t, gyntaf fod cyfarfod wedi ei alw yn nghyd heb genad yr awdurdodau," (atolwg, syr, pwy oedd yr awdurdodau?) a bod cwrw wedi cael ei gynyg i'r dynion am fyned i weithio. Anwiredd bob gair. Fe wyr y gohebydd hwn a'igyfeillion eu bod hwy wedi rhoddi cwrw i ryw fodach ar lun dynion am fyned i derfysga y cyfarfod, ac fe siaradwyd yn y cyfarfod hwnw yn, nerthol a didderbynwyneb gan ein cyfaill ap Rhys, nes peri i bwyllgor hunan-etholedig Twyncarno i grynu yn eu hesgidiau, a byddai yn dda iawn, genym pe gwnelai ein cyfaill Iago anfon ychydig o'r ftfeithiau hyny i'r DARIAN. Yn yr ail ysgrif, y mae yn cyhoeddi fod rhai wedi dechreu gweithio, ond mai nid glowyr oeddynt, eithr gwehilion y lie, &c. Ni cbaniata amser i mi fanylu ar ys- rifau anwireddus y segurddyn uchod; ond y ffaith yw hyn, fod glowyr a mwn- wyr Rhymni yn gweithio aryr un teler- au a lleoedd ereill. Ac am y dyrnaid rhwygwyr a gafodd eu hatal i weithio, gwnaethpwyd hyny ar gais y gweith- wyr, am eu hanesmwythder a'u han- onestrwydd gormesol; ac os na wna y dynionach uehod fod yn dawel, caiff yr holl helynt ei gyhoeddi. Ni chafodd neb ei atal am ysgrifenu i'r DARIAN. Ffalsder i gyd. Y mae lie yr ysgriblwr wedi myned yn rhy dwym yma, a dyfeisia hynyna er mwyn cael tipyn o gwyn mewa lie dyeithrol. Bydd dawel, rhag i mi osod nod arnat. G
REES T. WILLIAMS,
REES T. WILLIAMS, BOOKSELLER 8> STATIONER, c., BRYN-WYNDHAM, TREHERBERT, A DDYMUNA hysbysu ei fod wedi ymsef- ydlu yn y lie uchod i werthu pob math o Lyfrau Cymraeg a Saesoneg, Newydd- iaduron Dyddiol ac Wythnosol, y Misol- ion a Chwarterolion, Llyfrau Hymnau a Thonau y gwahanol eDwadau i'w cael yma. Rhwymir pob math o Lyfrau yn gryf a thcstlus am y prisiau mwyaf rheaymol. Music o bob math i'w cael g^nddo. Agent dros Alexandre's Har- moniums, a phob math o offerynau cerdd.
LLANILLTYD F AERDREF.
LLANILLTYD F AERDREF. CONCERT MAWR. CTNEMRy CONCERT mawreddog uchod nos IAU, y 24ain o FEIIEFIN, 1875, yn Ysgoldy Llanilltyd. Gwasanaethir gan yr enwogion canlynol:—CARADOG a Master LEWIS, Caerdydd, Violinists; LLEWELYN ALAW ac ALAWYDD GLAN TAF, Telynorion; Miss BELL MORGAN, Pianist; TOM WILLIAMS, Pontypridd, R. ELLIOT, Ysw., ac E. LEWIS, Tenores; RYWEL CYNON a JOHN RICHARDS, Baritones; a Glee Party Llanilltyd. Hon fydd y waith olaf i Caradog ym- ddangos yn y cyhoedd, gan fod ei fasnach yn ei hawlio gartref bob amser. Bydd yr holl elw er cynorthwyo Llyfn- wy wedi y golled a dderbyniodd trwy'r ddyfais hynod yn y Nantgarw. Ydym dros y pwyllgor, E. WILLIAMS, Cadeirydd. T. REES, Trysorydd. W. EDWARDS, Ysg.
Advertising
Y SGOLDAI NEWYDDION DOWLAIS. D ALIER SYLW! DALIER SYLW!! BYDD i'r'EISTEDDFOD ohiriedig -D uchod i gymeryd lie nos SADWRN, Gorphdnaf 17eg, 1875, prydy gwobrwyir yr ymgeiswyr buddngol mewn cyfan- §oddi, dadganu, ac adrodd, yn ol y pro- gramme cyhoeddedig. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw y beirn- iaid Gorphenaf y 3ydd, a'r ffugenwau ar y lOfed i'r ysgrifenydd. LODWICK DAVIES. EVAN LLOYD, London House, ABERAMAN, BEGS to inform the public generally that he always holds a very large assortment of all kinds of DRAPERIES. DRESS stxjffs In endless varieties; namely, French Merinoes, Coburgs, Lustres, Alpacas, and FANCY DRESS STUFFS. MILLINERY. Very extensive varieties of all kinds of Millinery; and a FIRST-CLASS MILLINER employed. SHAWLS and MAN1LES in abundance. FANCY GOODS of all descriptions and in great varieties. WOOI.EN CLOTHS. A LARGE STOCK of Broads and Narrows. TAILORS always kept on the premises to make up orders. OTTTFITTINGr For Men and Boys. READY-MADE CLOTHING in abundance, consisting of Cloth, Moleskin, and Duck Goods. In fact, nearly all kinds of DRAPERY for Ladies, Gentlemen, and Children, may be had at LONDON HOUSE, ABERAMAN.
L'ERPWL.
wyr i beidio cbwareu a masnach nad yw yn talu ei ffordd.