Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. MEISTRI A GWEITHWYR. MESURAU Y LLYWODRAETH I WELLA DEDDFAU GWAITH. Nos Iau, y iofed cyfisol, dygodd Mr. Cross, Gweinidog Cartrefol y Llywodr- aeth, fesurau newydd i mewn i Dy y Cyffredin i reoleiddio perthynas meis- tri a gweithwyr a'u gilydd. Dywedodd Mr. Cross ei fod yn gy- huddiad yn erbyn cyfraith Loegr, nad oedd yn caniatau rhyddid cytundeb rhwng meistr a gweithiwr. Cydnab- yddodd fod y cyhuddiad yn wir gyda golwg ar hen gyfreithiau. Dywedodd fod y rhai hyn yn orthrymus. Yn amser Edward III., pryd y gofynai gweithwyr am ragor o gyflog, gwnawd cyfreitbiau gorthryrnus i'w rhwystro i gael rhagor o gyflog. Yn ol y gyfraith hono, yr oedd pob dyn o dan driugain oed, yn rhwym i weithio os meddai iechyd a gallu, pan y ceisid ganddo, neu orfod myned i'r carchar; ac os elai gweithiwr oddiwrth ei waith cyn yr amser a osodwyd iddo, rhoddid ef yn y carchar. Byddai yn rhaid iddo wneud ei waith am yr hen gyflog, ac nid oedd rhagor i gael ei roddi iddo. Gwnawd cyfraith ormesol ar y gweith- iwr yn amser Elizabeth. Gorfodid meistr i dalu 40s. o ddirwy am anfon ei was ymaith, ond rhoddid y gwas yn y carchar os ciliai efe o'i wasanaeth. Bu eyfreithiau gorthrymns mewn grym hyd 1824. Cyn 1867, ni chospid meistr, ond cospid gwas fel criminal am dori cytundeb yn nghylch ei waith. Gellid rhoddi y gwas yn y carchar cyn profi y cyhuddiad yn ei erbyn; a phan deuai prawf, ni allai amddiffyn ei hun. Ond gallai y meistr amddiffyn ei hun. Ni allai y gwas apelio. Cafwyd pwyll- gor seneddol i ystyried y gyfraith fel yr oedd, a barn odd y pwyllgor hwnw ei bod yn anghyfiawn a gorthrymus. Gwnawd cyfraith yn diwygo y cyf- reithiau blaenorol. Ond y mae gwall- au yn hon, yr hon a basiwyd yn 1867. Wedi gosod allan y materion uchod yn helaeth o flaen,y Ty, eglurodd ei gynllun ef ei hun. Dywedodd mai ei gy nllun eedd, fod dau fesur i fod, un yn perthyn i droseddau y dylid eu cospi a dirwyon, un arall yn perthyn i droseddau criminal. Tybiai efe os esgeulusai gwas ei waith yn y fath fodd ag i niweidio cymdeithas y dylid -edrych ar ei drosedd fel crime. Ys- tyriai efe fod unrhyw weithiwr yn ngwasanaeth cwmni dwfr neu nwy (gas) fel enghraifft, yr hwn, trwy esgeuluso ei waith a niweidiai drigolion tref, yn euog fel drwgweithredwr. Gyda gelwg ar droseddau'civil,' yn ngwyneb an- nghytundeb rhwng meistr a gweithiwr neu was, cynygiai efe fodyr anghytun- deb yn cael ei setlo yn y County Court,' a bod y llys hwnw i setlo yn nghyldh hawliau, a diddymu cytnn- tdebau.'os byddai hyny yn iawn. Nid yw llys y 'Chancery' byth yn rhoddi cytundebau o wasanajeth mewn grym, trwy orfodaeth. Yn y I County Court' gall un o'r pleidiau ofyn am iawn- daliad, ac i'r taliad hwnw gael ei ys- ystyried gany llys fel dyled i'w thalu trwy orfodaeth. Wedi hyny, sylwodd Mr. Cross ar ymddygiad gweithwyr tuag at eu gil- ydd, yn ceisio rhwystro eu gilydd i weithio, trwy eu dilyn o le i Ie, niweid- io eu hoffer, ymosod arnynt yn eu tai, neu yn eu gwaith, er mwyn eu gorfodi i beidio gweithio. Canmolai Mr. Cross y gyfraith sydd yn awr am gospi dyn a wnai beth fel hyn. Gyda golwg ar yr hyn a elwir con- spiracy, dywedodd fod y Llywodraeth yn cynyg rhoddi adran yn ymesur, na byddai cytundeb rhwng dau neu ragor oddjnion d gario allan eu hameamoa mewn dadl yn nghylch gwaith ddim yn cael ei gospi fel conspiracy os na bydd yn gospadwy fel crime. Dywedodd efe ei fod am: y rhyddid ewyllys mwyaf llwyr ag yw yn bosibl rhwng meistr a gweithiwr a rhwng gweithiwr a gweith- iwr, a gwas a gwas, ac mai i ddrwg- weithredwyr yn unig y bwriadwyd y carchar. Gellid sylwi ar y golygiadau uchod o eiddo Mr. Cross ei fod yn arferiad yn y Ty, wrth ddwyn mesurau o'r fath i mewn, i'w gosod allan yn y Iliwiau mwyaf deniadol. Wedi hyny, cafwyd allan lawer gwaith nad oedd y mesurau eu hunaiii mor ddengar ag y meddyl- iwyd. Dywedodd Arglwyddau R. Montagu nad oedd yr hen gyfreithiau a wnawd gan y breninoedd Pabyddol yn Lloegr mor ormesol ag y gosododd Mr. Cross hwy allan. Ond un o'r mawrion sydd wedi- troi yn Babydd amser yn ol yw ei arglwyddiaeth. Hyn hefyd a esbonia ei gydymdeimlad ef a'r, Trade Unions. Pe gallai efe wneud yr unions hyn yn offerynau i ddadymchwel Brotestan- iaeth yr oesoedd, diau y gwnai hyny fel mater o ffyddlondeb i'r Pab, oblegyd yr un peth yw Pabyddiaeth yn y wlad hon ag yn Prwsia. Diau y cawn achlysur eto i alw sylw at fesurau Mr. Cross. »
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r DAILY NEWS, Llundain.) MEHEFIN 5, Birmingham.—Y mae masnach yn nghymydegaeth y lie hwn yn myned yn mlaen yn lied sefydlog. Y mae methiantau yn y sefydliadau haiarn wedi gwnend marsiandwyr a chrefftwyr haiarn yn ofalus. Effeithir ar fasnach allforol yn fawr gan gystad- leuaeth dramor. Cwsmer gwael yw yr Unol Dalaethau. Cwsmeriaid da yw Canada, New Zealand, a Penrhyn Gobaith Da. Trosglwyddir icire o Bel- gium a Prwsia yma am 20 yn y cant llai o bris nag y gellir ei wneud yn Lloegr. Gwerthir spikes rheilffyrdd am o zC5 i X8 y dynell islaw prisoedd Staffordshire. Y mae nuts a bolts Americanaidd yn cael eu cynyg am o 20 i 25 yn y,cant yn llai na phrisoedd Lloegr. Gwerthir offer ffermwriaeth yn nghymydogaetb Birmingham. Eto ymp digonb waith i'r rhai awnantyr oifel hyn yn y wlad hon ac efallai fod nwyddau gwledydd ereill yn cael eu prynu am fod meistri gweithfeydd ein gwlad ni mor araf yn eu gwaith yn dwyn nwyddau ein gwlad ni i'r farch- nad. Middlesborough.—Y mae pethau yn fwy gobeithiol yn masnach yr haiarn wedi cael dealldwriaeth na bydd y colledion yn drwm, oblegyd y meth- iantau yn y gweithfeydd Cymreig. Gwneir miloedd lawer mwy o dynelli o haiarn y mis hwn nag yn mis Mai. Mehefin 8, Middlesborough.—Pris- oedd haiarn yn is na'r wythnos o'r blaen. Y mae 131 o ffwrnesi mewn blast, ac y mae 11 yn rhagor yn cael eu hadeiladu. Pris y glo o 10s. i 14s. wrth y pyllau. Mehefin 10, Birmingham—Masnach yma yn Iled farwaidd. Cwynir fod pris y glo mor uchel. Y mae rhai o'r gweithfeydd haiarn yn cael eu cario yn mlaen ar golled, a rhai wedi cael eu cau ifyny- Yn Middlesborough, dydd Mercher diweddaf, yr oedd y farchnad haiarn yn dra bywiog, a'r fasnach yn ymdda- ngos fel wedi gwella yn fawr yn ei thon. Yr oedd yno ofyn gwell am pig iron.
[No title]
+ Y MAE Mr. T. B. Williams, bargyf-, reithiwr, newydd gael ei ddyrchafu ya Q.C.
PLENTYN WEDI EI GAEL MEWN…
PLENTYN WEDI EI GAEL MEWN SEWER YN NGLYN EBBWY. PRYDifAWJC dydd Sadwrn diweddaf, deuwyd o hyd i go-ff baban yn un o brif sev-erx Glyn Ebbwy. Deuwyd o hyd iddo gan Want oedd yn chwareu wrth enau y sewer yn Victoria Road. Cymerodd Sergeant Flemmings y corff i orsaf yr heddgeidwaid, lie yr arcbwiliwyd ef gan Dr. Davies. Yr oedd yn oddeutu tri diwrnod oed. Cafwyd yn y sewer hefyd gynfas, yn yr hon y tybir ei fod wedi ei rwymo pan y taflwyd efi mewn. Y mae menyw o'r enw Ap Rogers wedi cael ei chymeryd i fyny ar y cy- huddiad o fod wedi achosi ei farwol- aeth. Y mae y garcharores o gysyllt- iadau anrhydeddus, ac y mae yr am- gylchiad wedi achosi cryn gynhwrf yn y Ile.
.—4. DAEARGRYN YN NEHEUBARTH…
.— 4. DAEARGRYN YN NEHEUBARTH AMERICA. Y MAE newyddiadnron New York wedi cyhoeddi hanes daeargryn ddy- chrynllyd a gymerodd le yn Cucuta Valley, Gweriniaeth Grenada Newydd. Dywed yr hanes fod Cucuta wedi ei llwyr ddinystrio, ac nad oes ond yehy- dig deuluoedd wedi cael eu hachub, ac i bump o drefydd ereill bron syrthio i'r un dynged. Allan 0 boblogaeth y dosbarth yr ymwelwyd ag ef gan y ddaeargryn, y rhai a rifent rbyw 35,000. dywedir fod 16,000 wedi colli eu bywydau. -4 —
KHEW-DALPIAU YN MOR Y WERYDD.
KHEW-DALPIAU YN MOR Y WERYDD. Y MAE llawer mwy o rew i'w ganfod yn y Werydd, ar lwybrau yr ager- longau ymfudol, nag arferol yn Me- hefin. Ar y 6ed cyfisol, aeth yr ager- long Americanaidd, Wyoming, heibio i chwech o rew-dalpiau o wahanol faintioli, rhai o honynt yn 300 troedfedd uwchlaw arwynebedd y dwfr, a chymaint arall a hyny o hyd. Yn hwyr yr un diwrnod, cyfarfyddodd a nifer o fan dalpiau, y rhai a ymddan- gosent fel pe wedi ymryddhau oddi- wrth dalpau oedd fwy ar eu taith De- heuol, ac yn fuan gwelodd delpyn oedd yn 500 troedfedd ouchder, acyncuddio dros dri erw. Yr oedd y talpau hyn yn gwneud morio yn hynod beryglus.
CYNRYCHIOLAETII MERTHYR AC…
CYNRYCHIOLAETII MERTHYR AC ABERDAR. Y MAE etholwyr y bwrdeisdrefi hyn yn parhau i siaracl ac ymgynhyrfu yn nghylch y tebygolrwydd o gael etholiad aelod seneddol yn lie Mr. Fothergill. Ymae cryn ddwsin neu bymtheg eisioes wedi eu henwi, ac odid na cheir cymaint a hyny eto cyn y cymer y dewisiad le, os y cymer hyny le o gwbl. Yn mhlith ereill a enwir y dyddiau diweddaf hyn y mae ein cyd-drefwr parchus y Dr. Price. Yr ydym yn credu y dylem fel bwrdeisdrefi o Anghydffurfwyr .wneud penderfyniad safadwy nad ydym i ddychwelyd neb ond Anghydffrirfiwr egwyddorol. +
ARCHWILIAD GWEITHFEYDD TANDDAEAROL…
ARCHWILIAD GWEITHFEYDD TANDDAEAROL Y DEYRNAS GYFUNOL. ODDIWRTH adroddiad swyddogol sy ld newydd gael ei wneud, yr ydym yn cael mai nifer glowyr a mwnwyr Prydaiu Fawr a'r Iwerddon am yflwyddyn 1874 oeddynt 538,892. Nifer y gweithwyr tanddaearol oeddynt 428,611, a nifer y rhai ar y tir caled oeddyut 110,215. Cyfanswm y glo a gyfodwyd oedd 126,590,108 o dynelli. Nifer dam- weiniau angeuol y flwyddyn oeddynt 8{}5, tra yr oedd yr holl farwolaethau a achoswyd trwy ddamweiniau hyny yn I 1,056.
LLONGDDRYLLIAD A CHOLL-IAD…
LLONGDDRYLLIAD A CHOLL- IAD BYWYDAU. Y MAE hysbysiadau wedi ein cyrhaedd 0 Corunna yn rhoddi ar ddeall fod yr agerlong Southport, o Bryste i Sicily, wedi myned yn ddrylliau ar draethau Malpica. Achubwyd dau, ond collwyd y gweddill o'r dwylaw.
* COLLIAD YR AGERLONG VICKSBURG…
COLLIAD YR AGERLONG VICKSBURG A 27 0 FYWYDAU. Y MAE y Hong brydferth Vicksburg, perchynol i linell y Mississippi a Do- minion, wedi myned yn ddrylliau ar y Werydd, a hyny wrth ddyfod i wrth- darawiad a'r talpiau ia. Cymerodd y trychineb le ar yr 2il cyfisol, pan yr oedd yr agerlong daith pum' niwrnod o Quebec, ar ei thaith i L'erpwl. Yr awgrym cyntaf a gafwyd o'r anffawd oedd cyrhaeddiad yr agerlong State of Georgia yn New York, acar ei bwrdd bump o ddwylaw y Hong anffodus. Yr oedd dau gwch arall a'u Hond wedi ymadael a'r llong cyn iddi suddo, y rhai y dysgwylir a ddeuant i glawr; ond y mae yn ofhus fod ar fwrdd y llong pan yr aeth i lawr 47 o bersonau, yn cy- nwys y cadben.
ABERDAR—DAMWAIN ANGEUOL.
ABERDAR—DAMWAIN ANGEUOL. YN hwyr nos Fawrth diweddaf, yn agos,i, screen Hen B wll y Gadlys, caf- wyd dyn o'r enw David Coleman wedi syrthio dros fur y rheilffordd. Gwnawd y Taith yn hysbys i'r heddgeidwaid, ac hefyd i'r meddyg, y rhai a ddaethant i'r lie, ac a gawsant fod y truan ar farw. Penderfynwyd rhoddi y creadur an- ffodus mewn hut yn ymyl y rheilffordd i anadlu ei olaf. Oddeutu chwech o'r gloch, pan y daeth rhai o'r gweithwyr i'r lie, er eu syndod cawsant fod yno ddau ddyn—un yn fyw a'r Hall yn farw. Dyma rybudd poenus eto i grwydr- iaid y nos, y rhai a dynant at y gweith- feydd i gysgu. Hwn ydyw y trydydd sydd wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn yr un lie dan yrun amgylchiad. Yr oedd yn 46 oed, ac yn frodor o Aberdar. 0
DAMWAIN YN NGWEITHFA PRIDDFEINI…
DAMWAIN YN NGWEITHFA PRIDDFEINI ABERTEIFI. DYGWYDDODD damwain angeuol i ddyn o'r enw James Evans yn ngweithfa priddfeini Aberteifi nos Lun diweddaf. Tra yn cyflawni ei orchwyl, syrthiodd colofn 0 briddfeini arno, ac a'i claddas- ant yn y fan. Clywodd rhai o'i gyd- weithwyr drwstypriddieiniyn syrthio, y rhai a redasant i'r lie ar un waith, ond yr oedd wedi marw cyn ei gael oddi danynt.
Y GWEITHFEYDD.
Y GWEITHFEYDD. ABERDAB. Y mae yn ddrwg genym hysbysu fod gweithiau haiarn Abernant bron wedi llwyr sefyll, ac heb arwyddo symndiad buan i gymeryd lie. Dywed rhai o newyddiaduron y Brif-ddinas na fydd cwmni y gweithfeydd hyn yn alluog i dalu dros o ddau i dri swllt y bunt i'w gofynwyr. Y mae y gweithfeydd glo yn myned rhagddynt, ac yn debyg o gael eu cario yn mlaen. Y mae glo- feydd Mountain Ash yn myned yn mlaen yn rhagorol, a phawb yrt ym- ddangos am wneud eu goreu i eniU vn ol yr hyn sydd wedi ei golli yn ad eg y strike.
DEAN FOREST.
DEAN FOREST. Y mae glowyr Mri. Crawshay, yn y Dean Forest, wedi dewis, yn hytrach na chael eu gostwng mewn cyflogau, i weithio amser byrach, -+-
ABERAFON - IIUNANLADDIAD.
ABERAFON IIUNANLADDIAD. DYDD Sadwrn diweddaf, cyflawnodd gwraig i hen wr o'r enw Johnson, yn I byw yn agos i Landrindod, hunanladd- iad trwy ymgrogi. Ni wyddis hyd yn hyn beth fu yr achos.
MARWOLAETH CAWRES.
MARWOLAETH CAWRES. Y MAE Mrs. Robin, yr hon a adna- byddid fel y "fenywdew," perthynol i arddangosta Barnurn, wedi marw yn East Baltimore, yn 29 oed. Ei phwys- au oedd 58g pwys, yn 6 troedfedd a 4 modfedd o dalura, ac yn 72 o fodfeddi o amgylch ei chanol.
[No title]
YN Nghymanfa y Bala, ddydd Mawrth diweddaf, cyflwynwyd i'r Parch. Dr. Edwards yr anrheg hardd o 2,642 gini, y rhai a gyfranwyd gan y Corff yn Ngogledd a Deheudir Cymru. n DYDD Mawrth diweddaf, ymwelodd cynrychiolaeth dylanwadol, yn cael ei flaenori gan Arghvydd Aberdar, a'r Due o Richmond, er Grfyu am grant i Brif Ysgol Cymru. YN Nghymanfa Flynyddol y Bedydd- wyr, yr hon a ddechreuwyd yn Nghaer- dydd, ddydd Mawrth diweddaf, ethol- ¡ wyd y Parch. H. Jenkins yn lywydd I am y flwyddyn ddyfodol. Yn mhlith y penderfyniadau a fabwysiadwyd yr oedd un yn cynyg ar fod i dysteb o 2,000 i gael eu rhoddi i'r Parch. Dr. Thomas, llywydd Coleg Pontypwl.
EISTEDDFOD LLANBEDR.
EISTEDDFOD LLANBEDR. CYNALIWYD yr Eisteddfod hon mewn pabeH eang yn ymyl Coleg Llanbedr, dyddiau lau a Gwener diweddaf, ar yr hwn amgylcliiad y dangosodd y dref a'r ardal eu bod hwythau hefyd, er mor neillduedig, yn fyw i hen sefydliadau anrhydeddus eu gwlad a'u ceuedl. Llywydd, y Gwir Barchedig Deon Ty Ddewi, a llaiiwyd yr is-gadair gan y Parch. J. Courtley. Yr arweinydd oedd Mynydlog.. Dechreuwyd ar weithred- iadau y dydd trwy gael anerchiad gan y llywydd. Y gystadleuaeth gyntaf oedd adrodd Cywydd yr Haul gan blant dan 16 oed, ac enillwyd y wobr o 5s. gan W. Joseph, LlandysiJ. Y gwobrau am yr Antimacassar a'r crys gwyn goreu a enill- wyd gan Miss H. Jones, Holloway House, a Miss Davies, Coedmor. Enillwyd y wobr o 6s. am ganu yn oreu Hen Gymru Anwylaf' gan D. J. Davies, Betws. Enill- wyd y wobr o 10s. am y penillion goreu i GwnCadnaw Neuadd Fawr gan J. Jen- kins, Llangeitho. Canu unrhyw Ganig gan wyth, ac enillwyd y wobr o £1 gan y Deri Ormond Minstrels. Wedi cael anerchiad bywiog gan yr is-lywydd, darllenwyd beirniadaeth y traethawd ar y Priodoldeb o gael Cyf- ieithydd galluog i lysoedd Cymru,' gwobr j65, yr hon a enillwyd gan Eynon Rich- ards. Am ganu unrbyw Catcli, gwobrwy- wyd D. Davies a'i gyfeillion, Llanbedr. Rhoddwyd y wobr o 5s. i Evan Jones, Tanygwndwr, Talsaru, am yr araeth oreu ar Ragoriaeth yr Amaethwr diwyd ar yr un esgeulus. Am ganu yn oreu y deuawd, Flow, gentle Deva, gwobr haner gini, gwobrwywyd Mr. Howell, Aberdar, a Mr. Davies, Treorci. Y wobr o bum gini am y bryddest oreu er cof am y diweddar T. J. Hughes, Ysw., Castell Du, a ranwyd rhwng Isaac Evans, Llan- wnen, a Brythonfryn. Y wobr o £6 am y traethawd goreu ar Follc-lore Cymru, a. enillwyd gan y Parch. W. Moris, Bryn- menyn. Enillwyd y wobr o £1 am y Cywydd goreu ar Ddedwyddwch Teulu- aidd gan Mr. W. Evans, Llanbedr. En- illwyd y wobr o 5s. am y Llythyr Cyd- ymdeimladol goreu gan Brythonfryn, Aberdar. Enillwyd y brif wobr gerdd- orol o £25 gan gor Ffaldybrenin. Gwobr y gadair a enillwyd gan y Parch. N. Thomas, curad, Pontardawe.
[No title]
———————————— f HOLLOL DMA^GESRHATD.—Gofynwyd i foneddiges ieuanc yn ddiweddar i ymuno a'r undeb a elwir y Daughters of Tern- perance." Atebodd bithau, "Mae hyny yn hollol ddiangenrhaid, gan fy mod yn bwriadu ymuno ag un o'r meibion yn fuan." Dyna foneddiges gall, onide? MAEffarmwr yn America wedi dyfeisio ff wraes, sef math o roller, yn llawn tan, a dynir dros y tir nes crasu y grass- I hoppers wrth y miliwnau. Mae y tan yn cael ei ohwythu allan hefyd trwy y | ddau ben yn yr ysgogiad yn mlaen.