Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LLYFRGELL Y BWTIIYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRGELL Y BWTIIYN. PBJTQD III. CYCHWYNODD yn fuan am Rufaia, ga- gario llythyron i amryw bersonau o en- wogTwydd. Arweiniwyd ef i'r gym- deithas fwyaf anrhydeddas, ac yr oedd yn wrthrych o gryn gywreinrwydd fel Americanwr a Chrvnwr, yr hwn oedd wedi dyfod i astudio y celfyddydau breiniol. Ar ei arweiniad at y Car- dinal Albani, yr hwn, er ei fod yn hen ac yn ddall, a ystyrid yn feirniad mawr yn y celfyddydau, un o'r syhvadau cyntaf a wnaed gan y prelad oedd, gan dynu ei ddwylaw dros wyneb yr arlun- ydd ieuanc, mewn trefn i feirniadu ei wynebpryd,—" This young savage has very good features, but what is his complexion ? Is he black or white ? Atebwyd ef gan y boneddwr, yr hwn oedd yn ei arwain, ei fod, yn "hynod deg." What meddai y Cardinal, as fair as I ami Ain fod gwynebpryd ei fawrhydi o liw tywyll-ddu, cynyrchodd y gofyniad hwn ddifyrwch mawr, a daeth yr ym- adrodd as fair as the Cardinal," dros amser, yn ddiareb. Yr oedd yn falter 6 syndod," medd un o fywgraffwyr West, p'an y cafwyd allan nad oedd y dyn ieuanc yn ddu nac yn ddyn gwyllt, ond prydferth, synwyrol, ac arlunydd parod." Mewn trefn i arddangos ei dalent, paentiodd West àrlun, honeddwr; i'r hwn yr oedd yn ddyledus am lawer o gymwynasau, sef Mr. Robinson, wedi hyny Arglwydd Grantham. Derbyn- iwyd ef gyda chymeradwyaeth mawr gan feirniaid celfyddyd, a chyhoeddwyd ef uwchlaw, mewn rhai golygiadau, i gynyrchion Raphael Mengs, yr hwn oedd yr amser hyny y blaenaf yn Rhu- fain. Canmolodd Mengs ef ei hun yn ddidwyll, a rhoddodd rai byfforddiadau rhagorol iddo. "Y mae genych eis- oes," meddai, "y ran allofyddol o'ch celfyddyd. Gan hyny, yr hyn a gy- meradwywn i chwi fyddai manylu ar bob peth sydd yma o werth sylw, a gwneud ryw haner dwsih o ddarluniau oddiwrth y delwau goreu yna myned i Florence, ac asfctidid yn y galleriesy wedi hyny myned yn mlaen i Bologna, „ a myfyrie gweithiau'r Carracci; yn ganlynol ymweled a Parma, a manylu yn ofalus ar ddarluniau Coiregio ac yna ewch i Venice, ac edrychwch, ar gynyrchion Tintoretto, Titian, a Paul Veronese. Pan y.byddwch wedi cyf- lawni y gylchdaith hon, dychwelwch i Rufain, paentiwch ddarlun han esyddol, arddangoswch ef yn gyhoedduS, ac yna yr opiniwn a fynegir gan y cyhoedd am eich talentau a benoda y linell o'r gelfyddyd a ddylech ei dilyn." Rhwystrwyd West i ddilyn y cy- nghor buddiol hwn yn, uniongyrchol gan afiechyd a ddygwyd oddi amgylch, mae'n debyg, gan y eyffro parhaus i ba un yr oedd yn agored. Dychwelodd i Leghorn, er cael mwy o lonyddwch, a bu am agos flwyddyn yn analluog i ail gychwyn ei Jjfyrdodau a'i oruchwyIion fel «rlunydd. Yn ys- tod yr amser hwn, daeth y bri a enill- odd yn hysbys yn America, a phen- derfynodd ei gyfeillion haelionus, Mr. Allen a'r Llywydd Hamilton, na chawsai hynt y fath arlunydd addawol ei rwystro oherwydd diffyg ar|an. Anfonasant archebau at eu harianwyr yn Leghorn, am iddynt roddi iddo unrhyw symiau a geisiai efe ganddynt. Yr oedd yr haelionusrwydd mawr ac annysgwyliedighwn o'r pwysigrwydd mwyaf i Mr. West, oherwydd yr oedd ei ystorfeydd wedi eu dihysbyddu yn Dwyr bron. Priodol iawn y sylwa Mr, Galt nad oes enghraifft odidocach o haelionus- rwydd i'w cbael hyd yn nod yn nghroniclau Flerence. Haelioai y Mediciaid a ragorwyd arnb gan eiddo swyddogaeth PhilágéIpllia: e p I-α Yn awr dechr«nodd ei gylchdaith o dan nawdd ffafriol. iawn, ac ymwelodd, gyda mantais fawr, a galleries y gwa- hanol ysgolion yn Itali. Catodd ei dderbyn yn mhob lie gyda charedig- rwydd, ac etholwyd ef yn aelod o'r atlujpfeydd yn Parma, Bologna, a Florence. Anrhegwyd ef a bri cyffelyb wedi hyny yn Rhufain., Tra yn Itali y paentiodd ei Cimon ac Iphigenia," ac "Angelica a Me- dora," y rhai a sefydlodd ei enwog- rwydd fel historical painter, Gwnaeth hefyd gopi ardderchog iawn o'r St. Jerome o Corregio. Y mae'r darlun hwn yn awr, yr ydym yn tybio, yn meddiant tylwyth Mr. Allen, yn America. Yn awr wedi gorphen ei amcanion IDeWI ymweled ag Itali, dechreuodd feddwl am ddychwelyd gartref, ond mew* cydsyniad a chyngor ei dad,; peaderfynodd dalu ymwelTad a Lloegr (y fkm-wlad), i'r hon eto yr edrychai trigolion America gydag anwylder mawr. Gwnaed ei drefniadau yn luan, a tbeithiodd trwy Ffrainc, gan ym- weled a phob peth teilwng o sylw, ac ar yr ngeinfed o Fehefin, 1763, cyr- liaeddodd Llandain. Gan nad oedd yn bwriadu aros yn Lloegr, ymwelodd yn unioHgyrchol a'r cydasgliad o baent- iadau yn Llundain, ac yn Hampton Court, Windsor, a Blenheim hefyd treuliodd rhyw amser gyda chyfeillion ei dad, y rhai oedd yn trigianu yn Keading. Yn y cyfamser, daeth i gydnabyddiaeth a'r rhai mwyaf neill- duol o'r arlunwyr Brytanaidd, yn mhlith; y rhai yr oedd Syr Joshua Reynolds a Mr. Burke, gwybodaeth gelfyddydol yr hwn oedd mor gywrain a dwfn ac yr oedd ei wybodaeth o lywodraethiad. yTrw barhau) 4

MiN.ION Y DARIAN.

HEDDWCH.

ELFENAU LLWYDDIANT A > DYRCHAFIAD.

♦ YR AFIECHYD MARWOL YN YNYSOEDD…

Y GALON DOREDIG.