Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am syhiadau a golygiadau ein goliebwyr, ond yr vdyiiu am adael rhyddid barn i bob dyn, a rbyddid ysgrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfyMu cyfraith a moes- otdeb.—GOL.]
Y PABYDDION A GWAIIARDD-IAD…
Y PABYDDION A GWAIIARDD- IAD YR YSGRYTHYRAU. LLITH VII. YN awr, dyma y ddau yn dechreu ar yr ymJaddfa waedlyd-gwaedda Pius VI, Berth ei geg, Beibl a nodiadau! Beibl a nodiadau arno! Hwn yn unig a all ragflaenu unrhyw berygl neu gamarfer- iad! Gyda y floedd rvmus hon, wele Dafydd Morgan wgyntanio, ac yn ffagl wyllt, ac yn bloeddio gyda llawer o yni, Gwnewch goelcerth o'r esboniadau, ac o'r nodiadan Pabyddol yn eu plith." Wele yn awr guro a. hyrddiorhyngddynt Pibs VI. yn ysgrechian, "Nodiadau, nodiadau ar y Beibl dim Beibl heb nodiadau!" A'r bardd talentog yn crochfioeddio-" Ilosgwch y nodiadau! Ilosgwch y nodiadau Pabyddol! gwnewch gOelcerth o honynt." Gwyr pawb fod canlyniadau pwysig ar ol rhyfeloedd bob amser, ac y mae y rhyfel ucbod eto yn ffaith ddifrifol,—Mr. Jones wedi llwyddo i losgi y nodiadau Pabyddol, a Pius VI. yn gwrthod BeiblaU i'r werin Babyddol hebddynt. Oblegyd dyma reol y Pabau —"No Beibl is to be permitted but Latin Yulgate, or a version of it made by a. Roman Catholic, and accompanied with Catholic notes." Fe wel y darllenydd yn ddigon eglur nad yw y Pabau yn caniatau y Beibl yn blaen ac yn syml, heb ei lwytho a nod- iadau yr Eglwys Gyffredinol neu Bab- aidd; a chan fod Mr. Jones wedi llwyddo i losgi y nodiadau Pabyddol," a'r Pabau yn gwrthod Beibl iddynt hebddynt, dyma ganlyniadau difrifol yr Arm agedon uchod yw, llwyr wrthod, allwyrwahardd Y BEIBL i'r werin. Gan nad yw y Pabau yn caniatau Beibl—unrhyw Feibl yn syml "heb nodiadau Pabyddol" arno—y ffaith yw, fod Y BEIBL SANCTAIDD yn wrthodedig, gan Eglwys Rhufain. Syndod! Pwy eisieu synu sydd i unrhyw ddyn ag sydd yn gwybod ychydig am egwyddorion cyfeiliornus yr Eglwys Babaidd. Os teimla rhywun ar ei feddwl i ofyn pa- ham y maent mor ynfyd am y nodiadau, fiaiff Mr. Jones ateb ei hun, "en bod am I egluro, neu esbonio yr Ysgrythyrau i'r werin, fel ag eu deallir gan ddysgedig- ion Eglwys Rhufain; neu mewn geiriau ereill, yn unol ag egwyddorion Pab- yddol." A gadael Mr. Jones ei hun yn farnydd ar y mater, gan fod Eglwys Rhufain mor anunol ac aughyson a'r Beibl, dyma y gwir achos ei bod mor wrthwynebol i'r Beibl Sanctaidd. Y mae ei oleuni dysglaer, a'i lewyrch tan- baid a llachar yn ddinystriol i'w chyfan- soddiad, gan mai yn y tywyllwch yn unig y gall Pabyddiaeth hanfodi. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn, pa un ai Mr. Jones neu y pregethwyr sydd yn gywir ? Gall y gwanaf ei ddeall ddirnad yn ddigon hawdd ei fod ef yn eithaf cyfeil- iornus. Pan y mae dyn yn dadleu dros fater ag y mae ei sylfaen yn dywodlyd, y mae ei adeilad yn rhwym o syrthio yn bendramwnwgl gyda y gwlawogydd a'r. ystormydd, gan y cryna wrth yr awel leddfaf. Hwyrach nad yw pawb wedi deall a gwybod boll syniadau Pius VI. yn ei eiriau ei hun am y cymhwysder gofynol i dderbyn y ffafr gan Martini yr arch- esgob am y cyfieithiad Italaidd hwn— Especially when you show and set forth that you have added explanatory notes, which being extracted from the Holy Fathers, preclude any possible danger of abuse." Gan fod y Pab Pius VI. yn gosod cy- maint o bwys ar y nodiadau i ragflaenu perygl neu gamarferiad, profa hyn ei fod ef yn golygu fod niwed neu berygl o ddarllen y Beibl yn syml heb nodiadau. Er y cwbl, barnwn ei fod ef yn uwch yn ngraddfa rhyddid o ychydig na'i frodyr yn Nghymanfa Trent. Dywedodd Pius VI. ychwaneg wrth Martini hefyd,— The Scriptures ought to be open to all." Yn awr, gan fod y, Pab hwn yn dweyd wrth yr archesgob y dylai yr Ysgrythyr fod yn agored i bawb, pa synwyr a all un dyn wneud o'i eiriau os nad oedd y Beibl yn gauedig oddiwrth bawb ? Ynfydrwydd o'r mwyaf ydyw gorchymyn am agor unrhyw beth, os na fydd yn nghlo eisoes. 0 ganlyniad, dyma brawf cadarn ac anwrthwvnebol tod yr Y sgrythyrau yn guddiedig, gwrthodedig, a gwaharddedig gan yr Eglwys Babaidd hyd ddyddiau Pius VI. beth bynag. Ond pa beth a wnaeth ei ganlynwyr? Gwnaeth awdurdodau y Feibl Gymdeithas, er mwyn sicrhau cylchrediad i'r Beibl yn yr Eidal, rhoddi argraffiad o'r cyfieithiad uchod o'r Beibl Italaidd, sef o'r Vulgate; hyny yw, yr argraffiad o'r Beibl a argymhellwyd o hono gan Pius VI. Beth oedd y canlyn- iad wedi cael cyfieithiad y Beibl o'r Vulgate, cyfieithiad awdurdodedig Eg- lwys Rhufain ? Hyn ydoedd, rboddodd Pius VII. Bull yn erbyn y Feibl Gym- deithas am ei argraffu, sef eyfieithiad o'r Vulgate yn 1816; ac yn mhellach, gwaharddodd, gwrthododd, ac ataliodd i'r Beibl uchod i gael ei ledaenu yn Itali. Ei esgus dros ei ymddygiad yd- oedd, nad oedd nodiadau yn gysylltiedio- ag ef. Yn 1853, yn un o gyfarfodydd y Cy- nghrair Efengylaidd, Syr Culliug Gard- ley, cadeirydd teilwng, a alwodd sylw at haeriadau hyfion Dr. Cullen, y penaf o archesgobion Pabaidd yr Iwerddou, yn nghyfarfod mawr y Pabyddion a gynal- hy iwyd yr wythnos o flaen cyfarfod y Cy- nghrair Efengylaid yn ninas Dublin. Yr oedd un o'r lleygwyr Pabaidd oedd yno yn bresenol, Mr. Moore, A.S., wedi eyfeirio at yr egwyddor o ryddid gwladol a chrefyddol, ac wedi awgrymu nad oedd rhai personau mewn awdurdod uchel yn yr Eglwys Babaidd wedi talu digon o sylw a pharch i'r egwyddor hon, pan yr ataliwyd ef i fyned yn mlaen gan yr Archesgob Cullen, yr hwn, gyda gwyneb digywilydd, a ddywedodd, Y mae Mr. Moore (aelod o'r Eglwys Bab- aidd, ac aelod seneddol hefyd) yn cam- gymeryd, os yw am arwyddo fod y Pab wedi bod erioed yn elynol i ryddid gwladol. Lie bynag yr oedd yr Eglwys Babaidd mewn goruchafiaeth, yr oedd yno wir ryddid yn canlyn; a lie yr oedd Catholiciaeth (sef Pabyddiaeth, cofier) wedi ei ddiorseddu, yno yr oedd caeth- iwed yn canlyn. Felly yr oedd yn mhob gwlad er dechreuad Cristionogaeth. Wedi i mi wneud y gwrthdystiad hwn, yr wyf yn gofceithio nad a yr aelod an- rhydeddus yn mlaen yn mhellach yn ei sylwadau, ac y cred ef fod y Pab, gyda'r esgobion, yn wir gyfeillion i ryddid gwladol a chrefyddol." Wedi darllen geiriau Dr. Cullen (yr archesgob Pabaidd), galwyd gan Syr C. Eardley, y cadeirydd, ar ddau dyst o'r fath gymhwysaf. Y tyst cyntaf oedd Mr. M. Revel, cadeirydd eglwys y Wal- densiaid, yr hwn a adroddodd am naw o frodyr oedd wedi cydgyfarfod o'r tu allan i ddmas Florence i ddarllen yr Ys- grythyrau. Pa beth oedd cosp yr awdur- dodau Pabaidd arnynt am ddarllen y Beibl? Eu dal, eu caircharu, a'u hall- tudio am feddu a darllen yr Ysgrythyrau. Yr ail dyst ydoedd Signor Saffi, un o'r tri wyr ag oedd yn llywyddu pan oedd y Pab, druan, yn ymgysuro yn Gaeta: a thybiodd yntau mai un o'r troseddau mwyaf yn Rhufain oedd meddu copi o'r Beibl, a bod naw o bersonau ar yr un achlysur wedi cael eu bwrw i garchar yno y gauaf diweddafyn unig o herwydd hyny. Gwyddai hefyd am lawer o ber- sonau wedi cael eu dirwyo yn ninas y Pab am ymgadw oddiwrth y gwasanaeth Pabaidd yn ngwyliau y Pasc. Ar ol y ddau dyst uchod, daeth y Dr. Achilli hefyd yn mlaen i dystio ffeithiau cy- ffelyb. Ac mewn cyfarfod canlynol i'r Cynghrair Efengylaidd, fe ddarllenwyd papyr gan Dr. Andrew Thompson, yn cynwys adroddiadau i'r un perwyl." Gwel y Brysorfa. (I ba-Jiau.)
[No title]
TYBIAIS, wrth ddarllen cyfres flaenaf llythyrau W. Jones, o'r Rock, ar y pwnc hwn, ei fod efyn foneddwr, a'i fod yn gwybod y ffordd i drin pwnc mewn dull boneddigaidd ond wrth ddarllen ei ail gyfres, y mae wedi profi ei hun yn hollol i'r gwrthwyneb—mae'r blackguard a'r celwyddwr wedi dyfodi'rgolwg yn amlwg bellach, ac o'r braidd ymae dyn felly yn werth fy sylw. Nid yw wedi gwrthbrofi un iota o'r hyn a ddywedais yn fy llythyr cyntaf, ac ni fedr ef na neb arall wneud hyny, oblegyd y mae'r gwir yn ansigledig. Yn ngwyneb y prawf a ddygais dros fod y Beibl at wasanaeth y werin Babyddol, sef ei fod ar werth i bwy bynag a ewyllysia ei brynu, a bod pob esgob Pabyddol yn Iwerddon yn ei daer gymhell ar y bob], ac wedi ei gyhoeddi yn rhanau chwe' cheiniog y rhan er mantais i'r tlodion, gofynaf, yn enw gwirionedd a synwyr cyffredin, pa brawf cryfach ellir gael dros fod y Beibl heb ei wahardd i'r werin? Gan fod y gwirionedd hwn yn rhy drwm i W. Jones i'w ysgogi, y mae yn ei ail gyfres o lythyrau yn efelychu y pre- gethwyr y cyfeiriwyd atynt yn meirniad- aeth Eisteddfod Llwynypia, sef haeru anwireddau hollol ddisail, gan wibio braidd i bob cyfeiriad oddiwrth y pwnc, a defnyddio pob gwawdiaeth o fewn ei gyrhaedd er diystyru ei wrthwynebydd, ly fel pe byddai hyny yn profi y pwnc. Yn awr, gan fy mod yn dweyd fod W. Jones yn ddigon haerllug i ysgrifenu anwiredd, er colofni dan olygiadau cyfeiliornus, dyma fi yn profi fy ngosodiad, fel ag wyf wedi profi nad yw y Beibl yn wahardd- edig i'r werin Babaidd. Yn y DAMAN am Mai 14eg, haera W. Jones fy mod yn dweyd nad yw y grefydd Babaidd yn sylfaenedig ar yr Ysgrythyr- au Sanctaidd, &c. Dyna anwiredd atgas, a chyhuddiad y byddai yn flin genyf fod yn euog o hono, a chofied y cyfaill o'r Rock nad wyf yn caniatau iddo ddweyd hyn am danaf, heb ei ddal yn gyfrifol o ddwyn camdystiolaeth yn erbyn ei gy- mydog. Yn ei lythyr yn y DARIAN am Mai 28ain, haera droion mai William Tyndal gyfieithodd y Beibl gyntaf i'r iaith Seis- neg! Dyna anwiredd noeth eto. Yr oedd y Beibl wedi ei gyfieithu i'r Seisneg, a hyny gan Babydd, cofier, cyn geni tad William Tyndal. Nid yw yn hysbys pwy gyfieithodd y Beibl gyntaf i'r Seisneg, ond y mae copi ar gael yn awr mewn ysgrifen a gyfieithwyd i'r Seisneg yn y drydedd ganrif ar ddeg. Gorpheuodd John Wycliffe ei gyfieithiad yn 1380, tra na orphenodd Tyndal ei gyfieithiad cyn y flwyddyn 1526. A ydyw W. Jones o'r Rock yn meddwl fod pawb yn anwybodus oblegyd ei fod ef felly? Neu ynte, a ydyw yn meddwl fod y wlad yn ddigon hygoelus i gredu pob sothach a ysgrifenir ganddo ef ? Yn yr un llythyr, dywed fod rhyw Asser o Fynwy wedi bod yn dysgu Lladin i'r Brenin Alfred! Yn mha le yn Mynwy yr oedd yr Asser hwnw yn byw P Gwyr pob hanesydd mai Asser Menevensis fu yn dysgu Lladin i Alfred, ond nid oes neb ond W. Jones a haera fod cysylltiad rhwng y gwr dysgedig hwnw a Mynwy. Dichon fod y cyfaill o'r Rock, gan ei fod yn dal yr enw Asaph Gwent, am honi ei fod yn ddisgynydd o Asser Menevensis, gan ei fod yn haeru mai Asser o Fynwy oedd. Yn wir, nid wyf yn cofio i mi weled cymaint o olion anwybodaeth mewn rhes o lythyrau erioed ag sydd yn eiddo W. Jones o'r Rock. Haera oddiar dystiolaeth rhyw Barch. H. Roberts, Bangor, fod y Pabyddion yn cyfyngu eu hunain at y Beibl Lladin, ac mai Lladin yw pobpeth sydd ynnglyn ag Eglwys Rufain, &c. Rhaid fod H. Roberts, Bangor, yn eithafol o anwybodus o barthed i Babyddiaeth cyn y buasai yn cyhoeddi y fath ffwlbri. Mae y ffaith fod y Pabyddion wedi cy- hoeddi y Testament Newydd yn yr iaith Seisneg oddiar y flwyddyn 1582, a'r holl Feibl oddiar 160,9, yn brawf nad ydynt yn cyfyngu eu hunain at y cyfieith- iad Lladin. Y gwir yw, y mae y Pab- yddion wedi cyfieithu y Beibl agos i bob iaith yn Ewrop, gan gymeryd y Vulgate yn safon, ac yr wyf yn herio William Jones, a phob William arall, i droi hyn yn ol. Mae dau gyfieithiad Pabyddol o'r ys- grythyrau yn fy meddiant, sef y Seisneg a'r Ffrengig, ac yr wyf wedi gweled yr un Eidalaeg; ac erhyny, myn H. Roberts a W. Jones haeru nad oes ganddynt ond y Lladin! Dywed W. Jones yn un o'i lythyrau fod gelyniaeth anghymodol' gan y Pab- yddion tuag at y Beibl. Gadewch i ni weled a oes rhyw gysgod o sail i'r haer- iad hwn. Yr hyn a ddwg Asaph Gwent yn mlaen i geisio profi y peth yw pen- derfyniad Cynghor Toulouse yn 1229. fy t, Yn awr, ynte, os oedd "gelyniaeth anghymodol gan y Pabyddion tuag at y Beibl y pryd hwnw, atolwg, pwy oedd i ofalu am ei ddyogelwch fel ag i rwystro y Pabyddion i'w lwyr ddinystrio? Ych- ydig gopiau o'r Beibl oedd yn Ewrop y pryd hwnw, a'r rhai hyny mewn ysgrifen, 9 oblegyd nid oedd yr argraifwasg wedi ei darganfod, ac nid oedd Protestaniaeth mewn bod. Pwy, ynte, oedd i ofalu am a dyogelu y Beibl rhag dinystr os oedd y Pabyddion yn elynion anghymodol iddo ? A fedr W. Jones & Co. ateb hyn ? Y gwir yw, i'r Pabyddion yn unig yr ydym yn ddyledus am ei ddyogeliadyn Ewrop. Fel y dywedais o'r blaen, ac y mae hyny heb ei wrthbrofi, y cyfieithiadau anwarantedig yn unig gondemniwyd yn Nghymanfaoedd Toulouse a Trent, yn ogystal a phob penderfyniad arall a wnaed gan Eglwys Rufain yn erbyn y Beibl. Cyfieithiadau anwarantedio- yn unig y maent wedi eu condemnio, tra y mae eu cyfieithiadau hwy eu hunain yn cael eu caniatau i'r werin yn mhob gwlad ac yn mhob oes. (Tw barium.)
AT Y GLOWYR YN GYFFREDINOL.
AT Y GLOWYR YN GYFFRED- INOL. ANWYL GYDWEITHWYR,—Dymunaf wasgu ar feddwl pob un o honoch yr angen- rbeidrwydd i ni.beidio esgeuluso a sathru dan draed reolau ein hundeb, y rhai ydynt wedi costio amser a llafur mawr i ni fel dosbarth. Y mae rhai personau yn ein plith ar derfyniad y strike yma yn rhuthro dros bob terfynau, gan sathru pob rheol dan traed. Pe buasem wedi ein llwyr orchfygu, a'n gyru o faes y frwydr. ni fuasem mewn gwaeth annhrefn. Yn mhlith y rheolau ereill a fethrir gan y dosbarth hwn, y mae y rheol bwysig sydd yn gwahardd i ni dynu dosbarthiadau ereill i'n plith, a'u dysgu i dori glo. A ydym mor fuan a hyn wedi anghofio araeth Arglwydd Aberdar mewn cysyllt- iad a safon ein cyflogau, fod hyny yn ymddibynu ar ein llawnder fel gweitb- wyr yn y farchnad ? Elw personoF yw motto rhai personau ni waeth ganddynt 1 ba amryfusedd y syrthiwn, ddim ond iddynt hwy elwa rhywfaint yn yr am- ryfusedd. Credwyf fod yn llawn bryd i ni fel dosbarth i roddi terfyn ar ystranciau iselwael y cyfryw, ac mai y cam cyntaf yw y cam goreu i weithredu. Felly dy- munaf ar unwaith ar i lowyr pob pwll, yn neillduol pyllau Abernant, ystyried yr angenrheidrwydd o alw yn nghyd y pwyllgorau perthynol i bob pwll, ac ar swyddogion y dosbarth i alw pwyllgor cyffredinol o gynrychiolwyr y gwahanol byllau. Credwyf mai dyma y dull mwy- af uniongyrchol a,c effeithiol i weithredu z,Y ar y gwahanol achosion, fel y gwyddom am ei effeithiau daionus yn y gorphenol. LLYGAIDGRAFF.
ATAL GWOBRWYON.
ATAL GWOBRWYON. (At Olygwyr y DARIAN.) FONEDDIGION,—Yr wyf yn hollol gyd- olygu a Brynfab parth hen reolau brynt- ion ac ynfyd rhai dynsawdiach, ahonant eu bod yn gwneu d i fyny Bwyllgor Eis- teddfodol. Daw'r gair patriarchaidd A hwn o pwyll a cor," neu gor pwyll- og o ddynion yn ymdrafod a rhyw achos- ion neillduol, ond y mae y tir cysegr- edig a ranwyd iddo gan ein henafiaid clodfawr wedi cael ei drawsfeddianu gan ddreigiau ac ysbrydion aflan; ac yn y cyffredin, gwyr diddawn, didalent, a di- anrhydedd ydynt. Ataliwyd gwobr oddiwrthyf fi yn New Tredegar, dan feirniadaeth yr anwyl ymadawedig Emlyn Jones; hefyd atal- iwyd gwobr oddiwrthyf gan bwyllgor o'r Hen Gorff anrhydeddus yn Glyn Ebbwy tua phedair blynedd yn ol, a'r un oedd fy mhechod i yr amser hwnw a phechod mawr (!) Brynfab yn Nhreherbert; felly fe wel Brynfab fy mod i wedi dyoddef merthyrdod o'i flaen ef dipyn. Y mae drelgampau'r asynod mallgorawl dan ystyriaeth yn siarad pethau ofnadwy yn erbyn y gwrthgenedlgarwyr ymchwydd- fawr a cbrachfeirniadol. Eu holl ymgais hwy yw gwneuthur arian; nid oes gan y degwm o honynt wreichionen o athrylith, na chymaint a thrwyn gwybedyn o ddysgeidiaeth. Pwy ddisgwyl i'r cor- fodau uchod wneud unrhyw beth a fyddo yn gydweddol a chyfrinach eynhyrfwyr coluddion y chaos! Y bardd i gydym- ffurfio a'u rheolau gwagsaw a philcot- aidd hwy! Y mae'r bardd yn ormod o'r mawr—o'r extramundane—o'r dwyfol a'r tragwyddol, i gymeryd ei gylcharwain gan haid o Philistiaid dienwaededig a chroch-ymchwyddol, a ffugiant wladgar- wch, er mwyn gwneud arian drwy offer- ynoliaeth hen sefydliad patriarchaidd, archoffeiriaid a phroffwydi anian Y mae yn hen amser i'r ystyrbwyll a'r goleuedig i godi eu lleisiau yn erbyn jargon gwaradwyddus yr Aiphtiaid lloer- igawl a fwrddrasant urddas hen allorau nef-gysegred;g ein tadau boneddigeidd- foes: y mae yr awdurdod wedi bod yn Assyria a Babylonia yn ddigon hir bell- ach; y mae yn bryd i Arch Apollo gael ei dwyn yn ol i Ganaan ar olwyn o dan, -mae yn bryd i daranfolltau yr ysbryd- ion creadigol i ysgwyd ysgeiriau rheng- oedd dynwaredol o'r tir: y mae'r cenedl- oedd lliprynaidd, penfain, siolwag, a diddawn uchod wedi my*ed, trwy drais a, damwain, i gysegr sancteiddiolaf duw- iesau ysgafndroed gwlad y meddwl—y darfelydd a'r sancteiddrwydd creadigol; y maent wedi dychrynu bollladeryddion a gwyliedyddion allorau y pur, y pell, a'r dyrchafedig: gyrasant fyddinoedd byawdledd ar encil brawychus; ac o'r dydd y sangasant ar y tir anghyfreith- lawn, y mae dawn a dysgeidiaeth yn gorfod llechu yn ogofeydd a chilfachau mynyddoedd ac hafodydd hen Wyllt Walia! Mae yr ysgrifenydd yn gwybod yn dda fod ambell un da-gzvi- clda-yn per- thyn i bob pwyllgor, ond beth all un neu ddau wneud gyda naw neu ddeg o ynfyd- ion pan yr a rhyw benderfyniad i bleid- lais? Nid gwiw ymresymu a hwy, o herwydd nad yw rheswm a bwythau yn byw yn yr un ymherodraeth; nid gwiw hyrddio bidogau a thanbelenau hyawdl- edd at eu penglogau, neu ffurfiant ben- derfyniad uniongyrchol i ddiarddel yr hwn a ryfygo afloriyddu ar eu cawdel uutocrataidd hwj\ Pell o gyrhaedd pwyllgorau—y drelgwn, Ffoed yr heulgar dduwiau Prudd gweled y praidd golau Efo'r gwyr ay'n frivv k gau. 'Tyred allaplan lenor 0 gerbyd y gwaedlyd gôr Gad iddo tuago ei lwvtb, Hyd wely*r marwol dylwyth Na ro di un awr dy air, Na dyferion dy fawrair, I gynal sarffog wenwyn, Abrwd roch y bradwyr hyn Nid addas pleidio diddim, A safun prydyddion dim A^dasach i'r corach certh Yw, tagu eu bost hvgertb, A hedeg i Gaergwidion, I roi bwyd i gler y bon A chenir clycbau anian, A charol prydyddoJ dan; Er cof am fra-d wy r ofer, A dawn seirff fu dan y eer. Llynlleifiad. A.F.
CYNRYCHIOLAETH MERTHYR .AC…
CYNRYCHIOLAETH MERTHYR AC ABERDAR. MR. GOL.—Caniatewch i mi, fel un 0 r tanddaearolion bethau, i draethu fy marn fach ar yr hyn sydd, neu mewn geiriau ereill, yr hyn ddylai gael ein sylw difrifolaf yn yr amser presenol. Y r ydyro yn cael ar ddeall, wrth ddar- llen y gwahanol newyddiaduron, fod cyf- newidiad ar gymeryd lie yn nghynrych- iolaeth y fwrdeisdref hon, oherwydd fod Mr. Fothergill yn bwriadu rhoddi ei sedd i fyny; ac felly ein dyledswydd ninau, fel etholwyr, yn ngwyneb y cyf- ryw amgylchiad, yw gwneud ein goreu i bwyso a mesur pob un o'r personau sydd eisoes wedi eu henwi, ac ereill a ddichon gael eu henwi, i gael gweled pa. faint o gymhwysderau sydd ynddynt i'n cynrychioli, a dethol y goreu, sef y dyn mwyaf cyfarwydd yn mhrif bynciau y wladwriaeth; oherwydd cymhwysderau gwladwriaethol ddylai fod yn benaf mewn golwg genym wrth ddewis dyn i'n cynrychioli yn y senedd: gosod y dyn priodol yn y lie priodol, os gallwn, bob amser. Y mae y peraonau canlynol wedi eu henwi, fel ymgeiswyr am y sedd. Enwaf hwynt fel y daethant i fy llaw. Yn gyntaf, daeth y Fellten, ac enwau y rhai canlynol ynddi:—yr Anrhydeddus H. C. Bruce, mab hynaf Arglwydd Aberdar; Mr. Davis, Maesyffyonn; Mr. C. H. James, cyfreithiwr, Jderthyr; Mr. Lloyd Jones, a Mr. Maclxver, Bristol; ac enw un Mr. Parkinson, Tori, wedi ei godi o'r Western Mail. Yn nesaf dyma y DARIAN yn dyfod a dau foneddwr eto, sef Mr. B. T. Williams, a Syr Ivor Guest, Tori arall. Wedi hyny dyma y Taff Vale Gazette yn dyfod allan a phedwar, tri o ba rai sydd wedi eu henwi o'r blaen, ac y mae yntau am ychwanegu y rhif trwy enwi Mr. G. T. Clarke, Dowlais House, fel un cymhwys i'n cynrychioli. Yn awr, fy nghydetholwyr, dyna naw o bersonau wedi eu henwi, ac yr wyf am enwi un arall, a hwnw yn neb llai na Morgan Williams, cofrestrydd, Merthyr, (neu fel yr adwaenid ef gynt, Morgan Williams, Pen-yr-heol). Beth a ddywed fy nghydetholwyr am dano? Pa faint o honynt sydd yn ei adnabod ac yn gwerthfawrogi ei dalent? Pa faint o honynt sy'n cofio am yr hyn a wnaeth ? Nid yw yr hyn a wnaeth yn ddim, at yr hyn a allai, ac a wnai yn ddiamheu, pe cawsai fyned i'r lie priodol i weitbio. Nid wyf yn gwybod pa un a safai Mr. Williams ai peidio. Fy rheswm dros ei enwi yw fy mod yn teimlo i'r byw fod y fath seren ddysglaer yn cael ei chadw dan gwmwl; ac hefyd ein bod yn rhoddi gwahoddiad i estroniaid i ddyfod i'n cynrychioli, pan y mae genym eu gwell o lawer gartref, yn ol fy marn fach a chul i. Beth a ddywed yr hen gewri rhydd- frydig am hyn, megys W. Gould, Henry Thomas (Hooper), Dr. James, ac ereill rhy faith i'w henwi, heb anghofio Dafydd Morganwg. Dewch allan, fechgyn, fel un gwr, a dangoswch i'r byd beth ydyw eich barn am deilyngdod Mr. Williams fel cynrychiolydd dros y fwrdeisdref hon yn senedd Prydain Fawr. UN o WYR r BLACK ARMY.
Y GALON DOREDIG.
er gwneuthur sefyllfa feudwyol a dwfn nnigol yn fwy anrheithiedig, tynodd eiddigedd a gwg ei thad i eithafion ofnadwy, o herwydd ei chariad-ymlynol, diysgog, a diwrthdroi yn ol wrth yr ymadawedig; felly, a ymdditadwyd hi o nodded, ac a wnawd yn alltudes ddiam- ddiffyn o gronglwyd ei thad; a phe na byddai i gydymdeimlad a charedig- rwydd eyfeillion gyffroi a dihuno i'w noddi a'i hymgeleddu, cawsai wybod a dyoddef llymder a thrahausder dideim- ladrwydd calon dyn ffromllyd, a hyny yn eithafion pangfeydd y nwydau dynol. Ond 0 ffawd anwyl, da yw genym fod dynion i'w cael sydd yn frwdfrydig a serchgarol, yn llawn o deimladau byw, cynhyrfus, a thosturiol, a hyny pan fydd pob ewmwl bolddu wedi tori, a phob elfen ddrwg yn ymollwng yn eu cynddaredd a'u nerth mwyaf: amrai yn barod i amddiffyn hon rhag bod yn brofiadol o eisiau. Cydymdeimlad dyddanol felly a gafodd, a'i noddi yn y modd mwyaf ymgeleddol gan yr enwogion, cyfoethogion, a theuluoedd anrhydeddusaf y wlad. Cymerwyd hi i gymdeithasau uchelwych, ac ni bu eybydd-dod na phrinder ar gyfoeth, moethau, a dyddanwch chwareus a di- grifol, er ceisio chwalu ymaith eihir- aeth a'i gofid, a'i henill oddiwrth ei chariad, yr hwn nid oedd mwy. Ond methodd pob bwriad yn ei amcan, a bu pob ymgais yn ofer ac felly, y mae ambell i chwa ddeifiol o groesfyd a blinfyd yn sychu a chroesi yr enaid, a thrywanu trwodd i orsedd fywiol dyddanwch, gan ei fallu a'i chwalu ymaith, fel nad yw yn blaguro a blo- deno byth mwy, a thyma ydoedd ei chyflwr hi yn awr, er nas gwnai byth ymwrthod amyned i leoedd dyddanus, y rhai oedd a thuedd i loni, ysgafnhau, a chodi yr ysbryd, fel y medr nofio yn firydiau o lawenydd. Ond, ond, yr oedd hi mor unigol yno a phe yn ngwaelodion dyfhion unigrwydd. Pan yn cerdded, byddai mewn rhyw brudd- freuddwyd ymneillduol, yn hollol an- wybodus ac o glyw y byd. Oddiam- gylsh iddi. ac o'i mewn, byddai rhyw och a gwae fythol, y rhai oedd yn diystyru gwenau a serehogrwydd cyf- eiligarol. Nis clywai felusgerdd swyn, gan nad pa mor eithafol byddai ei nod. Rhag blino y darllenwyr a meithder, gadawn yn y fan yma eto, a chewch un llith ychwanegol ar y wir galon doredig. Trecynon. CYNONFRYN.