Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

"LLAIS ARALL" AC ARWEIN.YDDION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"LLAIS ARALL" AC ARWEIN- YDDION Y GWEITHWYR. ME. GoL ,—Mae'r dull y dygwyd oddi, amgylch derfyniad y strike ddiweddaf. fel pob smnealldwriaeth blaenorol, wedi rhoddi ach v nir i'r dynionach cul a cre- baehlyd hyny, pa rai nad ydynt byth yn ddedwydd oni ddygir oddi amgylch bob anghydfod rhwng meistr a gweithiwr yn unol a'u barn a'u mympwyon eu hunain, i briodoli pob math o gau" amcanion i'w hymdrechion, pa mor deilwng bynag y byddont. ac nid ymorphwysant nes ar- llwys eu dygn Jysnafedd ar eu personau, er, efallai, bod y eyfryw yn llafurio hwyr a boreu i wasanaethu eu cydweith- wyr. Barnwyf oddiwrth epistol enllibus a masw "Llais Arall," yr hwn a ym- ddangosodd yn eich rhifyn am y 4ydd cyfisol, ei fod yntau hefyd yn un o'r cy- feillion byn. Mae yn ymddangos i mi, wedi darllen ei ysgrif yn fanwl a phwyll- og, fod brys "Llais Arall" i bardduo eymeriadau ei gydweithwyr y fath, fel y methodd gael amser i ymresymu dim oddiwrth y gosodiad a esyd i lawr, gan ei awydd i arllwys ei ddig ar y bradwyr tybiedig. Felly nid all ei ysgrif fod yn ddim amgen na thwyll-rhesymeg. Dy- lasai'r Solon hwn, yr hwn sydd yn deall athroniaeth bole-outs a strikes mor ber- ffaith, wybod hefyd mai cri ygweithwyr drwy y blynyddoedd oedd cael pob an- nealldwriaeth a gyfodai rhwng cyfalaf a llafur wedi eu penderfynu drwy gyflafar- eddiad. a'n cyflogau gael eu ilywodraethu gan y farchnad. Ac os bernir wrth eu llais y pryd hwnw, nid oedd unrhyw aberth yn ormod ganddynt i'w wneuthur er cyrhaeddyd yr amcan mawr mewn golwg. Ond nid ymostynga "Llais Arall" gymaint a gwneud sylw o'r teim- lad hwn. Hwyrach fod yr hyn a ysgrif- ena yn fwy cydnaws a'i natur ddialgar. Mae hyn yn profi i mi nad all dyn weled na rhinwedd na hawddgarwch mewn egwvddor noeth, onite ni chawciai byth a hefyd yn nghylch y ten per cent. Oni wyr yr addolwr mammon hwn fod mwy o ymdrech wedi ei wneuthur. a mwy o druenusrwydd wedi ei ddyoddef yn mhob oes o'r byd dros egwyddorion na thros arian, er cystal ydynt. Yr wyf yn cyfaddef yn rhwydd i ni fethu cyr- haedd ein holl amcanion yn y cytundeb a wnaed yn Nghaerdydd; ond credwyf ini elill llawer mwy nag a gollasom, drwy i ni gyrhaedd ein b amcan mawr. Fe wyr J oyhoedd yn gystal a ninau i'r gweithv'jr yn y ddwy gynadledd yn Kghaerdycld cyn. y i/yfodiad allan, pail y gwrthoclodd y meUtri roddi prawf boddbaol iddyzifc ogyfiawadery gostyng. b iad, i'r dii/prwywyr g-ynyg tath'i.'r pwnc mewn i gyflarareddiad, a sefyll wrth y canlyniad pa beth bynag fuasai. Er hyn oli. nid ellir amheu nad oedd y dosbarth mwyaf goleuedig yn ein mysg y pryd hwnw yn ofn pe buasid yn cyf- lafareddu ar y ten per cent, mai colli a wnaethem. Mae "Llais Arall" yn brochi yn ar- uthrol wrth yr arweinyddion am na fu- asenfc cyn eychwyniady strike yn hysbysu y gweithwyr o'r ffaith, ac y gorfodid hwynt i encilio o'r maes oherwydd angen a newyn. Y fath ffolineb Pwy ar gychwyniad yr annealldwriaeth ddy- chymygodd y parhasai y strike am bum mis ? A phwy hefyd allasai ddweyd pa un o'r pleidiau fuasai yn fuddugol, pan yr oedd y naill mor benderfynol a'r Hall i orchfygu ? Paham y delir yr arwein- yddion yn gyfrifol am gychwyniad y strike, pan mae y ffeithiau yn profi mai y gweichwyr eu hunain yn nau gyfarfod J £ erfcliyr3 nea yn hytrach eu pleidlais yno, a beaderfynodd y dyfodiad allan ? Oni roddwyd mantais i bob gweithiwr ar ben ei lofa i bleidleisio dros neu yn erbvn strike, fel. y gallai y cynrychiol- ydd gario y cyfryw bleidlais i'r cyfar- fodydd, a'r canlyniad fu, fel y gwyddis erbyn hyn, i'r mwyafrif fyned. dros ddy- fod allan. Paham ynfce yr achwynir ar y leaders ? Haerir gan awdwr y llythyr dan sylw na chynrychiolwyd yn deg weithwyr y Darran, Aberdar, yn y cwrdd o gynrych- iolwyr a gynaliwyd yn y dref uchod y. diwrnod cyn terfyniad y strike. Carwn wybod ei awdurdod am yr honiad. At-1 olwg, oni chynaliwyd mass meeting o holl lowyr v cwm y dydd o'r blaen gerllaw y Pare, pan yr oedd yn bresenol o chwech i saith mil o weithwyr i ystyried y pwnc f Onid hwn yw'r dull arferol i gael llais y bobl ar bob achos pwysig ag sydd yn dal cysylltiad a'r gwaith ? Ac os nad oedd pawb yn y cyfarfod a allasai fod yn bresenol, arnynt hwy oedd y bai, ac nid ar neb arall. Yn mhellach, Llais Arall a amheua rif y gweithwyr a gynrychiclid yn nghyfar t'od y cynrychiolwyr yn Aberdar, gan ofyn y gofyniad eanlynol Beth I ydyw rhif Dosran Aberdar pan fyddo pobpeth yn ei lawn waith?" Atebaf, ilawer mwy na'r rhif a roddwyd yn y cyfarfod dan sylw. Os nad wyf yn cam- gymeryd fe fu un amser mwy nag un mil ar ddeg o Undebwyr yn Nt sbarfch Aberdar. Ond yn awr yr ydym yn dynesu at climav yr athrodwr a'r enllibwr haerllug. Fel hyn yr ysgrifena,—" Hefyd yr oedd yno ddau berson ar lun dynion yn cyn- nrychioli un fil ar ddeg, a throsodd, eu hunain." Dyna anwiredd noeth; yr oedd yn y cyfarfod chwech o bersonau yn cynrychioli Dosbarth Aberdar. Syl- wer ar awgrymiadau bychanus y dyn am bersonau ag sydd wedi llafurio yn ddibaid am flynyddoedd dros eu eyd- ddynion!! Pwy a glywodd erioed fod unrhyw gymhwysder mewn ffurf a maintioli cyrph pobl i gynrychioli eu cyd-ddynion Dyma athrawiaeth ne- wydd i mi. Yn wir, mae'r syniad islaw sylw unrhyw greadur yn ei lawn bwyll. Yn mlaen fe ddywed, ac y mae yn par- hau i esgyn y grisiau,—" JSTid gwiw I ni guro yn erbyn y swmbwl. Y mae mor- thwyl yr arwerthydd wedi disgyn, ac nid oes dim i'w wneuthur ond goddef ei bwysau." Gydweithwyr anwyl, a ydyw pethau wedi dyfod i'r fan yma ? Pa Ie y mae'n hymddiried yn ein gilydd wedi myned ? Pa syndod ein bod yn ddiareb i'r dos- barthiadau a'n cylchynant, pan yr ydym fel yma yn bradychu bob ymddiried yn ein gilydd? Er cysur i mi, mae genyf seiliau cedyrn i gredu mai ychydig yn ein mysg sydd yn coleddu barn y dyn hwn am ei gyd-ddynion. Gan fod genyf sail gref i gredu mai Dafydd Morgan, Mountain Ash yw un o'r persQnau y cyfeirir ato gan Llais Arall; a chan fy mod yn adnabyddus er's blynyddau bellach a'r cyfaill hwnw, yr wyf yn y modd mwyaf penderfynol am ddwyn yma dystiolaeth i'w onest- rwydd trwyadl a'i uniondeb pur. Fe wyr pawb sydd yn adnabyddus a Dafydd Morgan, fod ei gymeriad hyd yma (fel gwraig Cesar) uwchlaw amheuaeth, ac nad ymostyngai ar un cyfrif i gyflawni unrhyw fryntwaith. Fe wyr y cyhoedd yn dda fod Dafydd Morgan, fel llawer o weithwyr call ereill, yn barnu nad doeth oedd dyfod allan yn nechreu y flwyddyn, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y dylanwadwyd ar weithwyr Mountain Ash i bleidleisio dros ohirio y strike hyd y gwanwyn. Nid fy amcan wrth ys- grifenu fel hyn yw gwneuthur fy hun yn fath o ymddiheurwr dros Dafydd Morgan, oblegyd y mae ei enw da erbyn hyn yn ddigon hysbys yn mysg ei gyd- weithwyr. A phe buasai angen rhagor o brawf o'r ffaith yma, cyfeiriaf sylw Llais Arall" at y penderfyniad basiwyd mewn cyfarfod cyhoeddus o weithwyr yn Mountain Ash yr wythnos ddiweddaf, pan y cytunwyd i roddi pleidlais o'r ym- ddiriedaeth lwyraf ynddo ef a'i gyd- gynrycbiolwyr, am eu hymddygiad yn eu trafodaeth a'r meistri, ac hefyd fel atebiad i awgrymiadau disail £ Llais Arall." Mae yinosodlad iselwael personau fel "Lhis Arall" ar gymeriadau arwein- yddion y gweithwyr yn ddigon, fe dyb- iwn, iddynt wneud llw na chymerant unrhyw ran gyhoeddus yn ett hachosion; oblegyd mae yti eglur, pa mor ganmol- adwy bynag y byddo eu hamcanion, na foddlonant bavi b. Mae y modd y siaredir am arwein- yddion y gweithwyr gan ddosbarth o'u cydweithwyr am y dull y dygwyd y strike i derfyniad, a'r modd y siaradwyd am y cyfryw yn y wasg gan bleidwyr y meistri, yn chwerthingar dros ben. Yn awr, fe ddywed rhai yn mysg y gweithwyr fod y strike wedi cael ei gwerthu. Amser yn ol, haerai y South Wales Daily News fod Mr. McDonald a'i gyfeillion yn cynal y strike yn mlaen er mwyn i'r fasnssh lo fyned o Ddeheudir Oymrn i Ogledd Lloegr. Ond pan ddaeth Mr. Oasey i'r ardal i geisio heddychu pethau, con- demnir ef gan rai o'r gweithwyr, ond canmolid ef gan yr organ uchod. Pa le mae'r cysondeb ? Yr eiAffoch, &c., W. J. J.

AT LOWYR A MWNWYR BSHtrDIIl…

MYNEDIAD Y COR MAWR I'R AMERICA.

KODION O'R WEST.

CYFARFOD GAN LOWYR FOREST…

•ANNEALLDWRIAETHAU YN NOSBARTH…

DYFNANT, GEB, ABERTAWE.

Advertising