Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
L'ERPWL.
L'ERPWL. [ODDIWETH EIN G-OHEBYBD ACHLYSUROL.] TAN MAWR. DYDD Mercher, y 9fed o'r mis hwn, ymosododd hwrdd-beirianau difrodoi y duw Vulcan ar warehouse mawr yn Lancelot's-hey, heol y Capel, yn y dref hon; ac oni buasai brysgyrehu am neifion a rhaglawiaid y dyfnder, bu- asai hen ddyfeisiwr taranfolltau din- ystr yn sicr o wneud galanas aruthr ar eiddo gwerthfawr trigolion L'erpwl. Ond nid rhyfedd fod Vulcan mor eofn tua chymydogaeth Lancelot's-hey a Fazackerley-street, gan iddo gyflawni gwrhydri tryehinebus a hir-goffadwr- iaethol yma yn y flwyddyn 1854. Er aruthrolrwydd ei gynddaredd am drawsfeddianu ystorfaoedd a swydd gelloedd "Tom en y Cenedloedd," bu laid i fyddinoedd y tanbelenwr encilio ar ffrwst o flaen dylifoedd o filwyr, ymerawdwr yr eigion mawr. Per- thyna'r ex-ioarehouse i'r Mri. Aspinall, Son, and Brooke, gwneuthurwyr hwyl- ian, rbaffan, a phriodoleddan mora wI erein a gellir yn hawdd dirnad wrth natur y defnyddiau uchod, fod yno le ardderchog i Vulcan a chatrawd o'i filwyr i ychwanegu at ei dan-fuddug- oliaethau. Dinystriwyd nwyddan cyf- anwerth a £ 10,000; ond mae'r oil wedi eu insurio am eu llawn werth, fel na iydd y perchenogion ar en colled mewn dim ond rhyw dipyn o anghyf- leusderau dibwys. Ar ochr ogleddol y warehouse y mae dirgel-dy (private house) y Cymro Gwylit—ymherawdw r y goruchwylwyr ymfudol—a gorfodwyd ein cyfaill i gario'r holl ddodrein allan o'r ty, o herwvdd fod trwst carnau meirch Vnlcan mor agos ato ond gan fod Cymro yn greadur mor ddewisol gan greawdwr ymfndiaeth (neifion,) daeth ei noddwr allan yn ei ogoniant i achub ei wasanaethwr ffyddlon ac nnplyg. Gwnaeth cvnddeiriogrwydd Vulcan I'r Cymro Gwylit droi allan ^Rbtiid cael magnelau bathwr byllt I gobo'r Gwylit o'i gaban! Pan oedd taranau difrod Yn gwatwar sail ei driatfod, Clywch swn pibyddinn Noifion gawr Yn bwrw i lawr wibernd Croch-beriai Neifion lydan Hot! boetb fyddinoedd Vulcan, A'r her dderbyniai'r toyrnaeh certb, A ffulliai gerth seirff allan. Gerllaw fe safai'r Cymro, Yn barod, draed a dwylo, I ddal cpnadon Neifion deg I atai i heg Iau eto. Ar 01 gwneud dewr ymdrechion, Fe gurodd tfyrn yr eigion, A ohiliodd Yulcau fawr a'i gad, Yn groch i wlad y gwreichion. LLOERUDDIAETHAU. Y mae'r llofrnddiaethan a'r ymgeis- iadau am hnnan-ddinystriad yn ofoad- wy o boblogaidd mewn lluaws o fanau, braidd yn anghydmarol, a gymerodd le yn ddiweddar yn mhentref tawel Dinnington. Ymddengys fod llaftirwr cyffredin wedi priodi a menyw ieuanc, efallai, fel llawer gwr anffodns arall, er mwyn ei thipyn arian; ond gan y gwrthodai hi roddi yr arian iddo neu ar ei enw, esgorodd ei hystyfnigrwydd annaturiol ar ymrysonfaoedd a phrof- edigaethau diderfyn, nes y defnyddiodd y dyn trucnusaf offerynau tin a dial- eddau i benderfynn tynged y gwr a'r wraig yn anterth en bywyd naturiol. Y mae Sarah Duxfield Charlton wedi anadlu yr anadl olaf am byth yn y byd hwn, ac yn gymaint ag i Richard Charlton, ei gwr llofruddiog, i saethu ei hun mor ofnadwy, nid oes un gobaith am iddo roddi iawn i gyfreithiau Pry- dain Fawr ar y crogbren. 0 bob mell- dith briodasol, nid oes un mor eithafol felly ag i ddyn briodi menyw yn fedd- ianol ar dipyn o arian, os na fydd gan- ddo efe ddim i gystadln a hi. Eæ uno disce omnes
ÂRNEALLDWRIAETH AGERLONGAWL.
ÂRNEALLDWRIAETH AGERLONGAWL. t Y mae'r annealldwriaeth a'r an- nghytundeb masnachol a fodolai rhwng gwahanol gwmnioedd agerlongau Mor y Werydd wedi ei derfynu mewn modd boddhaol, ar 0] i rai o honynt haner ymddryllio ar drafethellau prinder ac awyddgarwch ffromwyllt anafuddugol- iaethau y naill ar y Hall. Nid yw llinell Guion a'r llinell Genedlaethol yn hollol gydyrafFarfio a'r rhelyw o'r perclicnogion eto, ond nid yw ygwa- haniaeth ond dibwvs i'r naill a'r Hall wrth ei gyferbynu a'r dadgorfforiad mawr ar y cyntaf. Ysgatfydd y cynyrcha'r cytundeb dymunol hwn di- pyn o (ywiogrwydd yn mheirianau rhydlyd masnach rhwng yr American- iaid a'r Prydeinwyr; canys y mae ol- wynion y cerbydau trafnidiol yn troi yn arafaidd iawn o amgylch ogylch y porthladd Colossus hwn er ys talm o ddyddian bellach. Mawr ywowyn Ampricaniaid,—a thost Yw inith y Prydeiniwid o dan orthrwm llwm y llaid, A dolodd fasnacb delaid. Mae rbyw wawr uwch Mfiry Werydd-yn dweyd Y daw cynhwrf npvvydd Mewn masnach, a belluch bydd Gogoniant teg i gynydd. Yr eiddoch yn frawdol, PATHOS.
LEWIS REES A GOMER LLWYD.
LEWIS REES A GOMER LLWYD. WRTH edrych dros lythyrau canmol- iaeth Gomer Llwyd i'r Cymro Gwyllt a Dewi Wyn, at y rhai y^cyfeiria Lewis Rees yn ei lythyr, methaf weled fod ynddynt ddim allan o Ie; ac ymddeng- ys eu bod yn rhai synwyrol a didram- gwydd; o'r hyn lleiaf methaf ddeall fod ynddynt ddim yn galw am y fath ymosodiad beidclgar ar eu hawdwr ag a wnaeth Lewis Rees arno. Gwel y neb a ddarlleno ei lythyr i'r Cymro Gwyllt nad ydyw mewn un modd yn pardduo dim ar gymeriad Merthyrian, nac ychwaith yn eymeryd arno i daflu unrhyw oleum ar bwnc yr anghydfod rhyngddynt. Y cwbl a wna yw dadgan ei farn am unplygrwydd y Cymro Gwyllt fel dyn yn gyffredinol, a'i gywirdeb a'i ffyddlondeb fel goruch- wyliwr' ymfudol, a hyny tebygid rhag y gallai rhai o awgrvmiadau Merthyr- ian dueddu i greu anymddiried ynddo fel swyddog, ac felly niweidio ei sefyllfa. Ac am nodyn bychan yr Hen Felinydd i Dewi Wyn ar adeg ei ymsefydliad yn Mhontypridd, o'r braidd na ddwedem ei fod yn bob peth a ellid ei ddymuno. Pa beth, a oes rhywbeth allan o le mewn galw bardd athronyddol Dinas Powis yn brif-fardd ? onid ydyw yn un o'n prif-feirdd mewn gwirionedd ? ae oni chydnabyddir ef felly gan rai o brif lenorion Cymru ? Ac ai gormod- iaeth neu chwyddiaith ydyw ei alw yn farddfeirniad—un ynbeirniadn beirdd ? Onid efe ydyw golygydd barddol y Fellten ? ac onid ydyw yn beirniadu beirdd a thraethodwyr, &c., yn ami iawn yn ein heisteddfodau, a hyny heb eithro y rhai cenedlaethol ? Yr wyf yn methu gweled pa fodd y gwel Dewi Wyn ac ereill fod ei alw yn brif- fardd a barddfeirniad yn ddarostyngiad iddo. Pe arferasid teruiau o'r fath ar un heb fod felly mewn gwirionedd, buasai'yn ddarostyngiad mawr iddo; ond nis gall fod felly i fardd'o deilyng- dod Dewi Wyn. Cyn rhoddi yr ysgrifell heibio, dy- munaf ofyn i Lewis Rees, pa beth yn y llythyrau crybwylledig a fu yn achlysur iddo i wneud y fath sylwadau dialw am danynt yn nghylch awydd Gomer Llwyd i ganmol ei hun, &c.? Nid oes y cysgod lleiaf o'r duedd hono i'w ganfod yn y llythyrau soniedig, oblegyd canmol ereill yn unig wueir ynddynt. Gan hyny, ymddengys yn bur debyg i'r Lewis Rees hwn daflu y sarhad yna ar Gomer Llwyd yn fwy o ddigofaint a ehenfigen ato nag o ddim arall. Yr oedd yn syn genyf ddeall i'r gwr hwn alw Gomer Llwyd yn gorach digy- mod." Ai tybed fod yr hwn a wnaeth y fath ymosodiad beiddgar mor ddi- achos, ie, yr hwn a ddanododd hen betbau pydredig ac amheus heb un demtasiwn i hyny yn rhyw greadur cymodlawn iawn ei hun? Barned y darllenydd. COCHYBERLLAN.
PONTARDAWE-GWAEDD UWCH ENLLIB…
PONTARDAWE-GWAEDD UWCH ENLLIB "MAB IEUENGAF YR HEN WR O'R CWM." MAE yn hyfrydwch. mawr genyf we] ed fod Mab ieuengaf yr Hen Wr o'r Cwm" mor hynaws a charedig a roddi ychydig o gyDorthwy i'w dad oedranus, trwy geisio ei ymryddhau o'r benbleth y mae yr Hen Wr wedi syrthio iddo wrth ym- drin ag arddull angladdau yn Nyffryn Tawe. Mae yn debyg fod yr Hen Wr erbyn hyn yn dechreu editarhau am ei ffolineb pan yn ymosod ar bersonau cy- hoeddus yn nghyflawniad eu dyledswydd- au; ac yn hytrach nag ymresymu ei bwnc allan i eglurder. gwnaeth anog ei fao i ddyfod allan i'm diraddio, am fy mod yn ceisio cael rhyw reswm gan yr "Hen Wr dros ei ymddygiad bawaidd. Nid wyf yn dirnad yn iawn oddiwrth ysgrif y mab yn mha blaned y preswylia, ac nid oedd achos iddo fyned i'r drafferth o hysbysu darllenwyr lluosog y DARIAN ei fed yn rhyw fod uwchraddol, ac yn gawr ar faes llenyddiaeth, oblegyd mae ei ansoddeiriau mawrion, ei feddyl- ddrychau tywyll, a'i frawddegau clog- yrnaidd yn profi ar unwaith ei fod yn berson galluog, a'i fod wedi derbyn addysg athrofaol digymar. Mae ysgrif y mab yn arddangos i mi ei fod o alluoedd goruwehnaturiol, ac yn perthyn i ryw blaned anghanfyddadwy i athronwyr byd. ac o ganlyniad nas gall edrych ond gyda dirmyg arnom ni yr ednogiaid a'r daearolion bethau; eto cyfaddefa ein bod wedi ein creu i ryw ddoeth ddybenion, ac feallai mai ein doeth ddybenion yw aflonyddu ar ychaiu cryfion a theirw mawrion Basan pan y byddant wedi myned ar gyfeiliorn i feio ar arferion a gweithrediadau yr Ymneill- duwyr. Gan fod y mab yn awgrymu wrthyf am fod yn ddiwyd yn fy ngylch am fy myr dymhor, yr wyf yn sicr o ddyblu fy niwydrwydd, er rhoddi ambell symbyliad iddo cyhyd ag y byddo yn tori ar draws ereill. Gofynaf i'r mab etc, beth sydd yn well i ddyn na charu o hono ei gymydog, yn nghyd a chynorthwyo holl henafgwyr y dyffryn yn eu holl wen- didau corfEorol a meddyliol ? Fel y crybwylla yn ei ysgrif, y mae enllib yr Hen Wr o'r Cwm a'r Mab Ienengaf" wedi codi atom fel Ymneill- duwyr, oddiar y dybiaeth ei fod yn arfer- iad genym. Pan y byddo rhyw berthynas hoff i ni yn marw, ac wedi bod yn aelod mewn rhyw eglwys Ymneillduol, ac yn cael ei gladdu yn mynwent yr Eglwys Wladol, fod gweinidog yr eglwys yn mha un yr oedd y gwrthdddrych yn aelod o honi i roddi pregeth angladdol yn y ty ar ddydd y cynhebrwng; a chan nad yw y tad na'r mab yn cydymffurfio a ni fel Ymneillduwyr yn hyn, nid oes genyf well cyngbor i roddi iddynt na dweyd wrthynt am gadw draw, a pheidio Llunio bai lie na bydd." Bydded hysbys i'r Tad a'r Mab Ieuengaf" na bydd i mi wneud sylw o'u hysgrifau o hyn allan heb iddynt ddyfod allan o dan eu henwau priodol. TAWENFRYN. [Fp wel y "Mab Ieuengaf" y priodoldeb o ddyfod allan wrth enw adnabyddus, yn gymaint a bod Tawenfryn yn fwy adnabyddus wrth ei ffugenw na'i enw priodol. Gobeithio y gwel Tawenfryn IWyd y priodoldeb i ni adael allan yr hyn a wnaethom.—GOL.]
! GLOWYR A MWNWYR ¡RHYMNI.
GLOWYR A MWNWYR RHYMNI. GAN i ryw frawd wneud cyfeiriad ataf yn y DARIAN yr wythnos o'r blaen mewn perthynas i ryw nifer o bersonau sydd mewn anghydfod a glowyr a mwnwyr y lie uchod, bydded hysbys nad oes a fyn- wyf a'r drafodaeth ogwbl, ac nid wyf yn hoffi ail agor hen glwyfau gwenwynllyd y strike. Mae digon o ymladd wedi cymeryd lie yn y misoedd a aethant heibio. Hefyd, peth digon diflas yw trafod caren yn yr haf. Nid oes gan y dynion sydd yn achwyn neb i'w feio ond hwynt hwy eu hunain; ond nid wyf fi yn caru niweidio yr un o honynt, er eu bod hwy wedi lledaenu lloned truck rail- way o anwireddau am danaf fi ac ereill; felly ni fydd i mi ysgrifenu llinell yn mhellach ar y pwnc uchod, oddieithr i angenrhaid gael ei osod arnaf. IAGO AP RHYS.
BAGLAN A'I HELYNTION.
BAGLAN A'I HELYNTION. NID yn ami y mae dim yn ymddangos o'r lie hwn ar dudalenau y DORIAN glod- wiw, ond yn bresenol y mae amgylch- iadau yn galw arnom i draethu ein lien ar g'oedd y byd am yr ymddygiad gwarthus a gymerodd le yno nos Sa- dwrn, y 5ed cyfisol. Y mae yn debyg fod gwraig o'r plwyf hwn wedi bod ar neges yn Aberafon, ac wrth ddy- chwelyd adref, tybir i'r personau can- lynol ymosod arni yn ddidrugaredd, sef Lewis, Fish ac Aubrey. Y mae Aubrey yn ddyn priod, a'r ddau ddyn arall yn sengi, acyn preswylio yn Briton Ferry. Daliwyd hwynt yn fuan gan fechgyn y cotiau gleision, ac y maent yn bresenol yn ngharchar y sir yn aros eu prawf yn y frawdlys nesaf. GWILYM DDU O'R LLAN.
AMRYWION O'R AMERIG.
AMRYWION O'R AMERIG. MASNACH FEDDWOL Y TALAETHAU. Mae yn y Talaethau. unedig 146,000 o saloons a thafarnau, yn y rhai y gwerthir diodvdd meddwol; eithr nid oes yn yr holl wlad ond 128,000 o ysgoldai, a 54,000 o gapeli. Gwna hyn dros 2,703 o saloons am bob capel o fewn yr holl Dalaethau! Hefyd y mae 560,000 o bersonau yn gwneud ac yn gwerthu y diodydd medd- wol, sef 12 am bob pregetbwr drwy yr Undeb, a 4 am bob ysgolfeistr yn yr holl ysgolion a'r colegau o fewn y tir! Mae yn ymweled a'r saloons, i gyfranogi o ddiodydd meddwol, 5,600,000 o ber- sonau, sef un allan o bob saith o'r boblogaeth; ac o'r nifer uchod y mae 100,000 yn cael eu carcharu yn flynyddol am ddrwg-weithredoedd, yr hyn syddyn costio i'r wladwriaeth 90,000,000 o ddo- leri; ac yn mhellach, y mae 150,000 o'r personau uchod yn syrthio i fedd y meddwon yn flynynyddol, gan adael ar ol 200,000 o blant amddifaid yn fegeriaid! Darllenwyd yr ystadegau uchod mewn cyfarfod dirwestol yn New York yr wythnos o'r blaen.
IiLOmtTDDIAETH DYCHRYNLLYD…
IiLOmtTDDIAETH DYCHRYNLLYD MEWN CAPEL. Cyflawnwyd un o'r llofruddiaethau er- chyllaf yn addoldy y Bedyddwyr, Boston, ar y Sabboth, ychydig wythnasau yn ol. Aeth geneth fechan bum' mlwydd oed gyda'i modryb i'r capel; ac ar ol gor- phen y moddion cyhoeddus, safodd y wraig i ymddyddan gyda chydnabod yn nghyntedd y capel dros ychydig fynyd- au, a'r amser hwnw aeth yr eneth o'i golwg yn ddisymwth. Yn fuan dechreu- odd y wraig chwilio am dani, ond nid oedd neb yn gwybod dim o'i hanes. Yn y cyfamser hysbysodd pobl o'r ochr arall i'r heol eu bod wedi clywed rhyw ocheneidiau rhyfedd i fyny yn y clochdy. Wedi i nifer o ddynion weithio eu ffordd drwy le cul i fyny i'r twr, ac ar lofft uchel, dywell, daethant o hyd i'r eneth wedi ei thafiu yno yn ei gwaed i farw; a chaed fod asgwrn ei phen wedi ei fal- urio! Cymerwyd y clochydd i fyny ar amheuaeth mai efe a gyflawnodd y gyf- lafan. Llofruddiwyd geneth arall yr un modd tua blwyddyn yn ol; ac nid oes neb a all ddyfalu beth all fod yr amcan, ond y mae rhesymau dros gredu mai yr un llofrndd a laddodd y ddwy.
Family Notices
MARWOLAETHAU. Ebrill 17eg, yn Lime Springs, Iowa, Margaret Theophilus, priod y cerddor medrus a'r lleisiwr gwych, Daniel The- ephilus. Daethant i'r wlad hon saith neu wyth mlynedd yn ol o Troedyrhiw, Llansadwrn, sir Gaerfyrddin. Yr oedd y pryd hwnw, fel y parhaodd hyd ei bedd, yn hynod wanllyd o ran ei hiech. yd, a chanddi blant lawer i'w magu, yn nghyda myrdd o anghyfleusderau yn nglyn a sefydlu mewn gwlad newydd i ymladd yn eu herbyn. Ebrill 24ain, yn Mineral Ridge, Ohio, yn 51 mlwydd oed, John Evans, brawd i'r Parch. David Evans, Ebensburgh, Pennsylvania. Yr oedd yn enedigol o Capel loan, sir Gaerfyrddin. Bu yn byw am amryw flynyddoedd yn Rymni, o'r hwn le y symudodd i'r wlad hon tua chwech mlynedd yn ol, a sefydlodd yn y lie uchod. Mai 3ydd, yn Plymouth, Pensylvania, yn 37 mlwydd oed, Mrs. Anu Thomas, gynt o Cendl, Mynwy. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1869 at ei phlant. Mae iddi bedwar o fechgyn a dwy o ferched yn awr yn.byw yn Plymouth. Claddwyd ei phriod yn Nghendl tua 11 mlynedd yn ol. Mai 16, yn Brookfield, Ohio, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Mary Morgans, priod Mr. Daniel Morgans, o'r lie uchod. Ni bu yn glaf ond am un wythnos. Wrtb fyned adref o'r cyfarfod y nos Sabboth blaenorol tarawyd hi a'r parlys, yr hwn a derfynodd yn angau iddi yn mhen yr wytbnos. Yr oedd Mrs. Morgans yn enedigol o Merthyr Tydfil. Mai 19, yn Williamsburg, New York, Richard Jenkins, yn ei 74ain mlwydd oed. Ei afiechyd oedd clwyf y galon, yr byn a drodd yn ddyfr-glwyf. Gan- wyd Mr. Jenkins yn Bryncoch, ger Cas- tellnedd, Morganwg, ac ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1832, pryd yr ymsefydlodd yn Albany, New York. Oddiyno symudodd i ddinas New York, lie y bu am flynyddau lawer yn cario yn mlaen fasnach fel saer-cerbydau.
AT Y BEIRDD."
AT Y BEIRDD. Oyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. W. JONES. (Dafydd Morganwg) Hirwain.
[No title]
Merch Tawenfryn.—Yr Englyn i ym- ddangos. Gath D. D., JDotvlais.—Da chwi dewiswch destynau o ddyddordeb eyffredinol i gauu arnynt. YBradycJmr.—Diffyg cynghanedd. Llinellau i Ardcl R. D., Troedyrhiw.—Blin yw gwrthod gwaith hen fardd profiadol o herwydd y testyn, eto rhaid gwneud. Ymadawiad G. W. i Patagonia.-Mae'r un sylw yn briodol i hwn a'r un blaenorol. Dyfodiad Dewi Wyn i Bontypridd.-Nid yw'r gynghanedd yn hollol gywir. Priodas L. T., Birchgrove.-Nid yw'r llin- ellau i fyny a'r safon. Helfa Gwmdar.—Mae gormod lawer wedi ymddangos ar y testyn iselwael hwn. Nid oedd yr helfa na'r helwyr yr werth canu llinell iddynt. Breuddtvyd yMilwr.- Testyn da. Y darn yn rhy faith. Gosodwch y meddwl mewn llai o Ie. Wyresfach Mr. B. J.—Ymddengys nad oes wyres gan R. J., ac felly mae yma gamsynied. I ymddangos yn eu tro:—Beddargrag Mary Morgan, Geneth Dewi Eilydd, Y Mawn, Samson, Gwenynen Afan, Y Cogwrn Dyrchafol, Beddargraff J. H., Y Cybydd, Boreu'r Dydd, Arthur Bach, Telyn Cymru, Y Llong yn Suddo, a Marwolaethy Strike.
CASTELL CAREG CENEN.
CASTELL CAREG CENEN. Colofn gysegredig cenedlgarwch, Mor anwyl gan fy nghalon yw dy hedd, Dy iron gyneswyd gt nt a tholn gwjadgarwch Ein tadau dewr sydd heddywyn eu bedd! Os owympwyd hwynt, fe safodd digon yma I hongian iorwg fel galarwisg ddu Uwchben merthyron annibyniaeth Gwalia, Y rhai fu gynt yn cadw'r castell cry'. Rhyw haner addoliadol yw'tb hen furiau Gan bawb sy'n caru bi einlau Cymru wen; Mae niwl y boreu'n gorphwys ar dy friwiau, Ac fel pe'n ceiaio cuddio'th ddrylliog ben Y cwmwl gwyn yn goron ar dy goryn, A Chenen ylch dy draed a'i dyfroedd glân, Fel hoff arwyddion parch am it' amddiffyn I gadw'n fyw ogoniant Gwlad y G&n. GLAN CARNANT.
YR YSTORM.
YR YSTORM. Ai rhyw bunllef ddychrynllyd-wasg y byd I gwsg bedd difywyd ? Deil y boen anadl y byd Yn ei fron farw enyd. Ond uwch ei ben daw chwibaniad—y storm Fel ystwr deffroad, Ac aiff rhyw wyllt gyffroad Dyrnol iawn drwy y wlad. Ei dwrn hi sy'n darnio hedd—ne' dawel Yn dy o gynddaredd; A'r hen for, hi wna'i fawredd, Gan ddychryn yn wyn ei wedd. Cenllypg ar ffo dros g-anllaw,-ymyl tan Cymyl tew yn rhuthraw A mellt y ne' 'n yrawylltiaw 0 deyrn drwst y daran draw GLAN CARNANT.
GOLYGFEYDD YSTRADFELLTE.
GOLYGFEYDD YSTRADFELLTE. Mewn llanerch ramantus, unigol, llawn hedd, Saif Cefn Ucheldre ar lan afon Nedd, Dan gysgod y mynydd, mor ddedwydd yw'r fan,. Rhag Hid yr ystormydd a'r corwynt mawr ban. Mewn llanerch lawn hedd, ar ]an afon Nedd, Saif Cefn Ucheldre, amaetbdy teg wedd. Uwchlaw saif y Fanau ardderchog eu gwedd, Lie tardd yn ffrwd fechan y gain afon Nedd, Yr hon a ymdroella, dun furmur drwy'r glyn, Dros wely barddonol y calchfeini gwyn. Ar orsedd fyuyddig eiatedda'r Fan Nedd, Brenhines warcheidiol y dyffryn bardd wedd, Gan syllu ar ddirif btydfertbion y glyn, A'i wregys arddunol yw'r cwmwl llaith, gwyn. Mor dlws a barddonol yw gyrfa y Nedd, O'i tharle mynyddig i'w dyfrllyd fedd, I gulfor Caerodor arllwysa ei Hi' Ar draeth Briton Ferry, dref enwog ei bri. Fro deg Ystradfellte, mae'th reieidr di Drwy Gymru benbaladr yn enwog eu bri; Mae Sewd Einion Gam ar y Pyrddin mewnnod,, A rhaiadr Gwladys goronir a chlod. Yr uchaf, a'r ganol, a'r isaf Clyngwyn, Rhaiadrau y Fellte wnai'r bobl yn ayn Ond coron ei hurddasyw ogof Porth Mawr, Lie rheda y dyfroedd drwy'r galch graig i lawr. Tlos raiadr EifWy a'r Hepste, ffrwd Ion, Gall dyn rodio'n bensyth dan gwympiad dw'r" hon; Ond melldith ar ben y Gwyddelod drwg nwyf, Ddrylliasant ger Scwd Einion Gam y Maen, Chwyf. Yn nghanol y pentref, yn addurn i'r fan, Ymddyrcha'n henafol Iwyd Eglwys y Llan; Yn mynwes y fynwent, dan gypgod yr Yw, Dwys huna'r plwyfolion hyd foreu dydd Duw. Ond Hermon, deg gapel, ar lechwedd y bryn, Yw penaf ogoniant yr ardal fech hyn, Ty Arglwydd Dduw Israel a'i gysegr Ef. Ar Hermon drwy'r oesau boed bendith y nef. Ffarwel, Ystradfellte, a'th lenyrch mor gu, Fel gem yn ngwerdd fynwes hen Walia wyt ti j; Dy feibion fo'n ddewr, megys creigiau dy dir, A'th ferched fo'n bur fel dy bar ddyfroedd dir. ALAW LL YNFELL..
LLAIS BUDDUGOLIAETH.
LLAIS BUDDUGOLIAETH. Er maint yw gwatwaredd Y gelyn mawr, cry', Ei gestyll a ddryllir, Difodirei fri; Bydd gwg ar ei wyneb, A chiedd yn ei fron, Tra dirwest yn gwenu, A'i chalon yn lion. CYDGAN,—Yn fyddin fawr, gref, Dyrchafwn ein lief Mae Ilais buddugoliaeth Yn adsain o'r nef. Er cryfed ei furiau, Er llymed ei gledd, Ei nerth a'i alluoedd 1. A wywant i'r bpdd Tra'n suddo i'r llynclyn Ofnadwy, ynrhydd Bydd dirwest yn llamu »* Yn llwyddiant ei ffydd. I Yn fyddin fawr, gref, &c. Mor brydferth yw gweled Y weddw a'r tlawd, Drwy nert h a dy Ian wad I Pur dirwest a'i ffawd Ust! clywch eu caniadaii Sy'n llanw eu bryd, Mae adlais eu lleisiau Yn adsain drwy'r byd. Yn fyddin fawr, gref, &c. Aberdar. MAELOG.
ANERCRIAD I "D ARIAN Y .GWEITHIWR."
ANERCRIAD I "D ARIAN Y GWEITHIWR." E gawd TAIUAN lan i lu—-o arwyr Tra gwrol ben Gymiu; Gwylia'n deg y gelyn du Rhag unwaith beri 'u gwanu. Y gweithiwr -nawr rhag gwthiad—ei dreiawyr Fedr osod diffyniad; Dyry'n fwyn i'w DARTAN lftd Benill ar ei derbyniad. 4 Melus enw Mills seinir-drwy y byd, Er ei barch, wr cywir; Ein Davies hoffus yn hir A'r gwrol Lynch fawr gf rir, Yn enwog wyr o anian—a goethant Y gweithiwr a'u TARIAN Ar ei gwedd drylaw-wedd lin Yr edrych pob rhyw oedran. MRS. CICELIA PRICE. Plains, Pa., America.
CYSGU DAN Y BREGETH.
CYSGU DAN Y BREGETH. OW.! pur gaeth yw pregethu-yn ddoniol I ddynion fo'n cyegu, Ni ddewisant nawdd Iesu, Hya sy'n lladd ei weis yn 11a. Gwareder llesgwyr adwyt^—a gysgaut A gwasgiad anesmwyth; Er eu deffro, rhai diffrwyth, Heddyw yn fkesi ddwyn ffrwyth ABRAjuFARDDt