Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
HAIARN O'R AMERICA.
HAIARN O'R AMERICA. DYWED newyddiadur o'r America fod llonglwythiad cyson o pig iron yn cael ei ddwyn yn mlaen o borthladdoedd y Debeudir i Brydain. Y mae yr baiarn yn cael ei ddefnyddio yn ballast i longau cotwm, ac yn cael ei werthu yn Liverpool am o 35 i 40 o ddoleri y dynell. Y mae yn cael ei ddysgrifio fel y charcoal pig iron goreu, ac yn ,cael ei anfon allan ar archiadau haiarn- feistri Seisnig, y rhai sydd yn abl i wneud proffid bychan mewn cydmar- iaeth i brisoedd y wlad hon. Y mae yr haiarn yn dyfod yn benaf o Alabama.
GLO PRYDAIN YN BELGIUM.
GLO PRYDAIN YN BELGIUM. Y MAE adroddiadau swyddogol o Brussels yn cadarnhau y ffaith ein bod yn anfon mwy-fwy o lo yn barhaus i Belgium. Yn mhedwar mis cyntaf y flwyddyn 1873, dadforiwyd yn Belgium 40,000 tynell o lo Prydeinig. Yn y pedwar mis cyntaf o 1874, dadforiwyd tua 60,000 o tynelli, ac yn mhum mis cyntaf o'r flwyddyn hon, 150,000 o dynelli.
TYB YR AFFRICANIAID AM ,BRIODAS.
TYB YR AFFRICANIAID AM BRIODAS. N IFER 0 Saeson yn trigo yn Neheudir America, wrth hela, a aethant tuhwnt i gyffiniau y "dad, ac a gawsant dder- byniad croesawus mewn pentref gan y Caffrariaid. Gofynodd y Penaeth pa sawl gwraig oedd gan Sais yn gyffredin, aphanifer o wartheg oedd raid iddynt dalu am bob un o honynt ? Dywed- asantwrtho, nad oedd yn gyfreithlon i un dyn, hyd yn nod i frenin, gymeryd chwaneg nag un wraig ac nad ydynt ddim yn ihoi eiddo am danynt, ond yn bytrach eu bod yn cael eiddo gyda hwynt. Yr ydych yn bobl o arferion dyeithr iawn," ebe y Caffre. Yn ein plitb ni, nis gallwn gael gwraig led weddol am lai na deg o ychain ac y mae ein penaethiaid yn talu hyd yn nod triugain o ychain am un o rinweddau rhagorol. Ond yr wyf yn ofni nad ydyw eich merched chwi yn gwneuthur ond gwragedd diofal, gan na rydd neb ddim am danynt, a bod yn rhaid i'w perthynasau dalu i'r dyn am eu priodi oddiar eu dwylaw.
EFFEITHIAU GOLEU-LEUAD AR…
EFFEITHIAU GOLEU-LEUAD AR Y LLYGAID. Y MAE effaith goleu-leuad ar y llygaid yn yr Aifft yn hynod o niweidiol. Dy- wed y trigolion wrthych, ac hefyd, trig- olion Arabia, yn yr un modd, am or- chuddio eich llygaid, os dygwydd i chwi gysgu allan yn y maes. Yn yr Aifft, tery a niweidia y lleuad y golwg, pan gysgoch heb orchudd ar eich gwyneb, yn llawer mwy na'r haul: -0 hyn cefais brawf anhyfryd iawn un noswaith, a bu i mi ofalu rhagddo wedi hyny. Yn wir, buan y gwaethygid, os na lwyr ddifethid, golwg y dyn a gysgai allan heb ddim dros ei wyneb. —« Llythyrau CRANE o'r Dwyrain." Yn Bengal, y mae gan belydrau y lleuad effaith niweidiol. Nis gellir halltu cig, os bydd heb ei orchuddio rhag goleu-leuad, eithr buan y llygra pan yr un pryd y gellir halltu yr un fath gig, os bydd wedi ei orchuddio a cheidw yn dda am ryw amser.— "Llythyr yn y CHRISTIAN OBSERVER."
--'-----'---BRITON FERRY AC…
BRITON FERRY AC UNDEB- IAETH. UHYFEDD mor ddiweled y mae rhyw ddos- barth o ddynion o barthed yr egwyddor- ion undebol, y rhai sydd wedi dyfod allan o wir bwrpas i amddiffyn y radd weith- gar sydd wedi cael eu taflu gan y don ormesol trwy bob oes o'r byd. Gwir ddyben yr undeb yw ein rhyddhau o rwymau caethiwed i gael yr hyu sydd yn deg a chyfiawn; ond am ryw ddynion ni fynant hwy gredu yr athrawiaeth hon o ,gwbl. Gellir dweyd am weithwyr haiarn Briton Ferry eu bod wedi tori twll yn y mur undebol, ac wedi rhanu cynwysiad y blwch rhyngddynt a'u gilydd. Y fath lwybr disail, heb un lloches rhag y dym- hest! Byd cyfnewidiol yw y byd hwn —heddyw mewn llawnder, ac yfory yn noeth a diymgeledd. Y fath lawenydd sydd gan y meistri pan y clywant am rhyw rwyg uudebol, fod y gweithwyr yn methu canfod eu hunanlesiant, lie mae yr arian, &c., ac ein bod yn cadw gormod o oruchwylwyr i fyw ar gefn yr undeb. Nid ar yr undeb y mae'r bai am hynyna, ond barned yr undebwyr pa faint sydd yn angenrheidiol. ARSYLEYDD.
Y FFYNON.
Y FFYNON. 01 o ddawn Duw'r hil ddynol—yw'r Ffynon 0 orpheniad dwyfol; Gweina yn dda ar y ddol, Ystor i bob ystyriol. LLEWLLWYD,
AT Y TRWYN-LYCHWYR.
AT Y TRWYN-LYCHWYR. Y MAE agos i bob cymerwr y Ilwch hwn yncymeryd un byswasgiad (pinch) bob deng mynyd; a phob byswasgiad, yn nghyd ag ymdriniaetb y cadacb, ac amryw bethau ereill sydd yn nglyn wrth yr àrfer, sy'n treulio mynyd a banerobob deg. Treulia hyn un di- wrnod cyfan o bob deg, yr hyn syddyn gwneuthur un diwrnod ar bymtheg ar hugain a haner mewn blwyddyn. Os dilynir yr arfer hon yn ol yr un mesur am ddeugain mlynedd, bydd dwy flyn- edd gyfain wedi eu treulio i lychwino ac oglais y trwyn, a dwy flynedd i'w chwythu. Barna y rhai y byddai yr arian a dreulir yn prynu llwch niweid- iol i'r trwyn, yn ddigon i dalu dyled teyrnas Prydain Fawr mewn ychydig o flynyddoedd. Wrth ysgwyd Haw a'r cyfryw, cymaint ydyw eu cariad i'w. trwynau, fel na ro'nt i'w cyfaill goreu ond tri bys bydd y fawd a'r bys bla&naf agos bob amser a phinshiad rhyngddynt. Ileblaw hyn, dywed un awdwr, fod yr arfer hon yn difeddianu dyn o un o'r synwyrau a roddodd y Creawdwr iddo. Y mae yr arogliad yn cael ei niweidio yn mhawb, a'i ddys- trywio yn hollol yn rhai; a chymaint ydyw ei effaith ar y llais, fel nas gellir braidd ddeall rhai yn ymadroddi Bydded i'r euog ystyried fod yr arfer fudr hon yn arfer dreulio amser, yn ofer dreulio arian, yn dystrywio yr arogliad, ac yn niweidio y llais a'r ymadrodd.
Advertising
HANES MORGANWG. GAN DAFYDD MORGANWG. CYNWYSA y gyfrol 532 o dudalenau, map o'r C sir, darlun o'r awdwr, darJuniau o Abrrdar, Abertawy, Caerffili, Llanfleiddian Fawr, y Bont- faen, Pontypridd, a Llanddunwyd. Pris mewn Ilian addurnedig acymylon goreuredig, ] Os. Pob archebion i'w hanfon i'r awdwr, DAFYDD MORGANWG, Hirwain. YSGOLDAI NEWYDDION DOWLAIS. DALIER SYLW! DALIER SYLW!! BYDD i'r EISTEDDFOD ohiriedig uchod i gymeryd lie nos SADWKN, Gorphenaf 17eg, 1875, prydy gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn cyfan- soddi, dadganu, ac adrodd, yn ol y pro- gramme cyhoeddedig. Y cyfansoddiadan i fod yn Haw y beirn- iaid Gorphenaf y 3ydd, a'r ffugenwau ar y 10fed i'r ysgrifenydd. LODWICK DAVIES. LLANILLTYD F AERDREF. CONCERT MAWR. OYNELIRT CONCERT mawreddog uchod nos IAIJ, y 24ain o FEHEMK, 1875, yn Ysgoldy Llanilltyd. Gwasanaethir gan yr enwogion canlynol :-CARADOG a Master LEWIS, Caerdydd, Violinists; LLEWELYN ALAW ac ALAWYDD GLAN TAF, Telynorion; Miss BELL MORGAN, Pianist; TOM WILLIAMS, Pontypridd, R. ELLIOT, Ysw., ac E. LEWIS, Tenores; RYWEL CYNON a JOHN RICHARDS, Baritones; a Glee Party Llanilltyd. Llywydd, G. WILLIAMS, Ysw., U.H., Miskin. Soprano, Miss G. LEWIS, Caerdydd. Hon fydd y waith olaf i Caradog ym- ddangos yn y cyhoedd, gan fod ei fasnach yn ei hawlio gartref bob amser. Bydd yr holl elw er cynorthwyo Llyfn- wy wedi y golled a dderbyniodd trwy'r ddyfais hynod yn y Nantgarw. Ydym dros y pwyllgor, E. WILLIAMS, Cadeirydd. T. REES, Trysorydd. W. EDWARDS, Ysg. REES T. WILLIAMS, BOOKSELLER Sf STATIONER, Sfc., BRYN-WYNDHAM, TREHERBERT, A DDYMUNA hysbysu ei fod wedi ymsef- ydlu yn y He uchod i werthu pob math o Lyfrau Cymraeg a Saesoneg, Newydd- iaduron Dyddiol ac Wythnosol, y Misol- ion a Chwarterolion, Llyfrau Hymnau a Thonau y gwahanol enwadau i'w cael yma. Rhwymir pob math o Lyfrau yn gryf a thestlus am y prisiau mwyaf rhesymol. Music o bob math i'w cael ganddo. Agent dros Alexandre's Har- moniums, a phob math o offerynau cerdd. TEJLWRIAID YN EISIEU. YN eisieu ar unwaith, nifer o DElL WR-, IAID DA. Ymofyner a— J. M. WILLIAMS (Cynonfryn,) Tailor and Draper, Trecynon, Aberdare. Yn awr YIt barod, CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD CROSS INN, TRECYNON, Fw gael gaa Mr. John Richards, C-roxa Inn, Trecynon. Pris y llyfryn, 3e.; trwy y Post, 3tc. RHYBUDD 0 SYMUDIAD. DYMUNA RICHARD JONES, DILLEDYDD, 36, CARDIFF STREET, ABERDARE, Hysbysu ei gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod yn awr wedi symud o'r cyfeiriad uchod i 50, CARDIFF STREET, A thra yn diolch am y gefnogeeth haelfrydig y mae wedi ei dderbyn am y blynyddoedd a aethanb heibio, taer obeithio am barhad o'r unrhyw am y dyfodol. Gwertbir ganddo ddillad parod i wrywod a bechgyn mor rhated a ehan unrhywun yn Aberdar. Archebion am ddillad o bob math a gant y csylw buanaf. Cedwir stock dda o frethynau a defnyddiau ereill ar law bob amser. HYSBYSIAD. YN EISIEU, Bachgen o ddilledydd, o 15 i 20 oed. Cyflog da. Ymholer yn bersonol, neu drwy lythyr, a Mr. D. EVANS, Tailor 8f Draper, Gwauncaegur- wen, Brynaman, R.S.O. YN EISIEU, DEUDDEG o Deilwriaid ar unwaith Ymofyner a R. EVANS, Compton House, Llanidloes. EVAN LLOYD, London House, ABERAMAN, BEGS to inform the public generally that he always holds a very large assortment of all kinds of DRAPERIES. DRESS STUFFS In endless varieties; namely, French Merinoes, Coburgs, Lustres, Alpacas, and FANCY DRESS STUFFS. MILLINERY. Very extensive varieties of all kinds of Millinery; and a FIRST-CLASS MILLINER employed. SHAWLS and MANTLES in abundance. FANCY GOODS of all descriptions and in great varieties. "WOOLEN CLOTH^. A LARGE STOCK of Broads and Narrows. TAILORS always kept on the premises to make up orders. OTTTFITTINGr For Men and Boys. READY-MADE CLOTHING! in abundance, consisting of Cloth, Moleskin, and Duck Goods. In fact, nearly all kinds of DRAPERY for Ladies, Gentlemen, and Children, may be had at LONDON HOUSE, ABERAMAN. COFFINAU, BHADM D Y STUN A SAMUEL MORRIS, 64, BUTE STREET, ABERBAR, HYSBYSU y cyhoedd yn gyffredinol ei fod yn awr yn barod i ymgjmeryd a gwneud unrhyw fatb o GOFFINAU, a hyny mor isel nv4t is na neb arall yn y cymydogaethau. Y mae yn teirnlo yn wir ddiolchgar i'r cyhoedd am y gefnogaeth y mae wedi ei chael yn ystod yr usain mlynedd diwoddaf^ pan obeitliio y bydd iddo gael parhad o'r cyfryw gefnogaeth ain y dylodol. I TO THE INHABITANTS OF FERNDALE. WILLIAM WILLIAMS begs to in- Vw form the inhabitants of Ferndale that he has just received a supply of wood for making Coffins. They will be made according to the sizes required. Also they will be as cheap as possible, and will be made at a short notice. 15, Pontypridd Road, Ferndale. ALICE GRAY. CAN, gjda geiriau Cymreig a Saesneg yi. .ngbyd a chyfeiliant i'r piano. Pria 44c. Cyfeirier-S. REES, Trefaorth, Swansea. Llyfrau cyhoeddedig ac ar werth gan GRIFFITHS & SONS, AUG It A FF W1R, &c., CWMAVON. Y P A R T H S Y L L Y D D, neu EIRLYFJi DAEARYDDOL, sef HANES YR HULL FyD gan y diweddar Ddr. Etnlyn Jones, a'r Paicb. J. Spinther Jones. Gorphenir y gwaitb rucwi dwy Gyfrol, ac addurnir ef a mapiau heirdd. Gellir cael y Gyfrol gyntaf gan y Cyhoedd wyr, neu unrbyw Lyfrwerthwr. Ei phris yn rhanun 16s.; wedi ei rbwymo, £ 1. Y mae y lofed Rhifyn o'r Ail Gyfrol allan o'r Wasg. Gor- phenir y gwaith mewu un rhifyu eto. Gali y eyfryw sydd yn rneddianu y rlianau cynta o'r gwaith gael ei orpheri. Y FODRWY AUR, a'r RHOSYN DIWEDDAF, sef Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Alltud Glyn Maelor, Pris 3s., yn rhwym. HANES Y BEDYDDWYR, o'r ganrif gynta hyd yn bresenol, vn rifrhvd a Thraethawd ar HANES Y BEDYDDWYR CYMREIG. Pris 2s. 6c., yn rhwym. BARDDONIAETH TELYNOG, yn cynwye nifer fawr o Bryddestau, Awdlau, Caniadau Digrif aGwladgarol, Cywyddau, acEnglynion; yn nghyd a Byr Gofiant o'r Awdwr talentog. Pris 2s. 6c. ESBONIAD DR. JENKINS o Hengoed, ar yr Hen Destament a'r Newydd, mf wn byrddau. Ei bris, ar yr Hen yn unig, £ 1 12s.; y Testa- ment Newyrld yn unig, £1 Is.; y ddau gyda'u gilydd, £ 2 10s. LLAW-LYFR DUWINYDDIAETH, gan y Parch. John Stock. Cyfieitbiedig i'r Gymraeg, gan y diweddar Barch. T. Nicholas, Aberaman. Pris 4s., yn rhwym. PETHAU'R YSGOL SUL. Cynwysa ddarnau Barddonol a Rhyddieithiol. Pris 6ch. Y SEREN GOMER, Y BEDYDDIWR, a'r GREAL, sef hen Gyhoeddiadau Cymreig. Y mae ar law nifer mawr o'r hen gyhoeddiadau uchod, wedi eu rhwymo yn gryf. Gwerthir hwynt am brisoedd rhesymol. GWJRIONEDD A CHYFEILIORNAD, gan Dr. Bonard, yn rhwyiu, Pris 3s. 6ch. BEIBLAU. Cedwir ar law bob amser nifer o Feiblau, o bob prisiau, ac wedi eu rhwymo yn gryf ae hardd. Hefyd, gorphenir Beiblau. ESBONIAD DR. GILL ar y TestamentNt wyfld yn ddwy gyfrol. Gwerthir yr Ail beb y Gyntaf am £ 1 10s. Pris y ddwy, £ 3. Y mae yn rhwymedig mewn croen llo. BLODAU'R BEIRDD, sef gwaith 28 o Feirdd Cymru. Pris Is. Y LLYFR DARLUNIADOL; neu LYFR Y BOBL. Y mae'n addurniedig a darluniau heirdd, ac a darnau Barddonol a Rhyddieithol campus. Pris 6ch. Danfonir un neu ragor o'r llyfrau uchod yn ddi- draul ar dderbyniad blaen-dal. Cyfeirier, GRIFFITHS & SONS, Printers, &c.KCwm- avon, Glam. SPRIN.G FASHIONS, ¡ IS75. HENRY LEWIS HAS NOW RE-OPENED his SHOWROOMS WITH THE LATEST NOVELTIES IN MILLINERY, COSTUMES, SKIRTS, MANTLES, DRESSES, SILKS, FANCY GOODS, &c. 11, Commercial P/aee, ABERDARE. INFANTS' POWDERS.—Thousands can testify that the Europa Infants' Life Preservers have saved life, after advertised remedies, and the best nipdical skill bad been tried in vain. They con- tiiin no Opium, or anything injurious to the youngest infant, therefore, are the only safe medi- ine to give Infants while lathing, —por Measles, Scarlatina, Inflammation, Fits, Costive- ness, Bronchitis, and all disorders of Children from one week t<i 12 years old, Ihey are invaluable In the most severe attacks, if a dose be given every four hours or SD lbt*y never fail t.. check the disease, and thereby arrest danger. Mothers bu using them save their offspring and escupe the d'eaded Doctor's bills.—Testimonials, directinof for use, and other particulars enclosed with each packet. Sold by all Chemists and Medicine Vendors at Is. I id. and 2s. 9d. per packet. Cau- tion.-Avold an Soothing Syrups, and so called Powders. They kill more Infants than all the diseases of Children put together. Notice.- When you ask for the Eutopn Lite Preservers," see that you (jet them, as other cheap, but worth- ies, aud perhaps dangerous substitutes may be offered by unprincipled parties, — Wholesale Agents-—London—Barclay & Sons, W. Sutton & Co., Mather, &c.; Bristol— i, A. Raper & Co.; Cardiff— S. P. Kernick most wholesale houses, and from the sole Proprietor B. A. George, Family Chemist, Pentre, Pontypridd.—A packet free per post for 14 or 34 stamps, WATCH, CLOCK, & JEWELLERY DEPOT, 44, COMMERCIAL-STREET, ABERDARE Alberts and Chains at Thomas's B Brooches and Ear-rings at Thomas's o Clceks and Watches at Thomas's D Diamond and other Rings at Thomas's M Eye and Opera Glasses & Spec- tacles at Thomas's F Filigree Jewellery at Thomas's G Gold and Silver Watches at Thomas's H Hair Rings made to order at Thomas's 1 Irish Bog Oak Jewellery at Thomas's J Jet Jewellery at Thomas's. K Keyless Watches at Thomas's L Ladies Gold Leotine Chains it Thomas's M Malachite Brooches & Ear-rings at Thomas's N Necklets of every description at Thomas's o Office and other Clocks at Thomas's P Plated goods in 'Jvery variety at Thomas's Q Queen's Pattern Spoons & Forks at Tkomas's R Rings, signets—gem & wedding at Thomas's S Slop centre seconds Watches at Thomas's T Thomas, the Practical Maker U Useful articles of all sorts at Thomas's V Vienna Clocks ,,1, Thomas's 117 Watches (300 New) tochosefroni at Thomas's X Xcels in Workmanship at Thomas's Y Y go any where but at Thomas's Z Zealously attends to all orders re- ceived at Thomas's D. THOMAS, PRACTICAL WATCHMAKER,, 14, COMMERCIAL-STREET, ABERDARE. HYSBYSIAD PWYSIG I DRIGOL- ION BLAENLLECHAU. YMAE Mr. WATK1N POWELL, London W Souse, Heol Fawr, wedi ymgymeryd a derbyn archebion am GOFFINIAU, a'u cael oddiwrth Mr. ISAAC THOMAS, Aberdar, yr hwn sydd yn hollol adnabyddus trwy y gymyd- ogaeth. Cofier y gellir gweled rhostr o'r gwahanol bria- oedd gan Mr. Powell am bob quality ac oedran. L14 Y NEB SYDD MEWN ANGEN DILLAD P AROD DA, AM BRISOEDD ISEL, YMOFYNER A ROBERT JONES, YN MARCHNAFA ABERDAR, BOB DYDD SADWRN. [16 REES EVANS, DILLED YDD, 45, COMMERCIAL STREET ABERDAR. ADDYMUNA ddatgan ei ddiolcbgarwch am y gefnogaeth y mae wedi ei derbyn oddiar law y cyhoedd yn gyffredinol. Fel yn y gorphenol, felly yn y dyfodol, gwaith da a defnyddiau o'r fath oreu am y prisoedd iselaf. l17 INMAN LINE OF ROYAL MAIL STEAMERS. PASSENGERS BOOKED AT ABERDARE BY D. P. DAVIES, 17, Commercial Street. Authorized Agent for the Company. [12 J. M. WILLIAMS, TAILOR & DRAPER, UNION STREET, TRJECYNON, ABERDARE. ALL ORDERS PUNCTUALLY ATTENDED TO. MORRIS MORRIS, 64, BUTE STREET, ABERDARE, ADDYMUNA hysbysu y cyhoedd ei fod yn ymgymeryd a thynu Plans anedd-dai, yn nghyd a. phob math o Adeiladau a Chyfnewidiadau angenrheidiol eupasio gan Fyrddau lechyd. M. M. a hydera, gan y bydd iddo iddi y sylw buanaf i archebion o'r fatb, ac ne bydd iddo ofyn crogbris am ei waith, gael rhan o gefnog- aeth y cyhoedd yn y cyfeiriad hwn. [13 YMFUDIAETH I QUEENSLAND! YN EISIAU, 5,000 o Aniaethwyr, Glowyr, Mwnwyr, Gwasanaeth-ddynion, Peirian- wyr, Gofiaid, Seiri Coed, Chwarelwyr Adeiladwyr Llongau, a Cbrefftwyr ereill, i ymfudo i Queens- land, Australia, ar delerau rhad a chynorthwyol. Gellir cael pob manylion o barthed i'r cludiad, manteision y wlad, cyflogau, &c., gan Mr. W. J. Presswell a Mr. John James, Crown Hotel, Aber- dare. Mae Goruchwylwyr Lleol wedi eu penodi yn irhob ardal yn Ngbwm Rhondda a Phonty- pridd, y rhai a \veithredant ar ran Mri. James a Presswell. At JBwyllgorau JEisteddfodau a Chyngherddau. DAYID BOWEN, Organist, DOWLAIS, ADDYMUNA hysbysu ei fod yn barod i wasanaethu fel SOLO P ANIST a ACCOMPANIST ar delerau rhesymol. Cyfeirier fel uchod. [11 Newydd ei gy7weddi, Pris Tair Ceiniog, SO BRWYDD A'R GOOD TEMPLARS, GAN JOHN DAYIES, SOAR, ABERDAB. o I'W GAEL gan y llyfrwerthwyr yn Merthyr ac Aberdar. Anfonir un- rhyw nifer drwy y Llythyrfa, ar dder- byniad eu gwerth mewn stampiau dimai. Pob orders i'w gyru i'r Cyhoeddwr, Mr. Joseph Williams, Swyddfa'r Tyst a'r Dydd, Merthyr. Rhoddir yr elw arferol i lyfrwerthwyr.