Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. ESGOB LLANDAF A'l DDEFAID. BYDDAI yn anhawdd gweled dim yn fwy trallodus na'r pwll tro y mae Eglwys Loegrynddo arypryd hwn. Ar un Haw y mae plaid yr "Eglwys Lydan," yn yr hen sefydliad, am ddirdynu ei chyfans oddiad, yr hwn sydd fel hen ledr yn amlygullawer cracagenoliawn, i ryw helaethrwydd diderfyn, tebyg i len llian Pedr, i gynwys holl garnolion a gwylltfilod, o dan enw rhyw fath o grefydd, pa mor baganaidd, eilun- addoliadol, neu anffyddol ac atheistaidd y bo. Y mae y dirdyniad hwn ar hen barchment credo a deddfau yr Eglwys, gan Dean Stanley, a llawer eraill, yn debyg o rwygo yr hen barchm ent yn ddipiau, fel y bydd yr hen sefydliad yn rhyw omnium gatherum, yn grynhofa o hen bethau gwrthwynebus, neu museum of all curiosities, neu Zoo- logical Gardens, yn cyuwys pob math o greadur gwyllt, a hyny heb ddim bariau i rwystro y naill i ymladd a'r llall. Ar y llaw arall, y mae yr hen Eglwys yn cael ei gofidio bron i farwolaeth, gan blant y Pab, y rhai sydd o'i mewn y rhai a geisiant grebacbu eu deddfau a'u swyddogaethau, i fod mor gyfyng ag y gall Pabyddiaeth eu gwneud. Y mae rhyw offeiriad yn Nghaer- dydd wedi bod yn ymdrechu gwneud hyn gyda hyfdra ac egni mawr. Y mae wedi ymdrechu ei orau i wneud yr adeilad a elwir eglwys perthynol, blwyf St. Mary, yn show room Babydd- ol, i geisio difyru ltygaid ei gynulleidfa a chanwyllau, addurniadau, a dilladach, neu garpiau mountebankaidd y Pab- yddion. Y mae mwyafrifmawr ei gynulleidfa 11 y wedi tramgwyddo yn aruthrol am fod ei gweinidog yn ymddwyn tuag atynt fel plant bach, wrth geisio eu difyru a theganau Rhufeinig, mwy addas i chwareudy nac i le o addoliad. Yn eu teimlad siomedig, y maent wedi apelio at eu tad mawr, sef yr esgob, gan geisio ganddo ef ddefnyddio ei awdurdod yn ei deulu eglwysig, i roddi terfyn ar antics Pabyddol eu gweinidog. Ond y mae eu tad cy- foethog wedi eu dwrdio am beidio gadael llonydd i'r bachgen drwg, Pabyddol, yr hwn sydd wedi eu haflon- yddu, gan ddweyd na wnant les yn y byd iddo wrth ei wrthwynebu; ac nad yw efe, fel tad, yn meddu llawer o awdurdod, os dim, i rwystro ei fab i gyflawnu triciau Pabyddol. Cyd- nabydda fod naw o bob dtg o'r gyn- ulleidfa yn erbyn y gweinidq^ Pabydd- ol, eto gwrthoda yr esgob wneud yr ymdrech lleiaf i roddi terfyn ar yr hyn a gydnabydda efe ei fod yn ddrwg; ond y gallant hwy gymervd y cya-ilbl- deb arnynt eu hucain i we'la y pla yn yr eglwys, dros ba un yr bona efe ei fod yn llywodraethu, ac am lywodr- aethu yr hon, yn nghyd ag eglwysi eraill, y derbynia efe £"1,200 yn y flwyddyn. Y gofid mwyaf ar ei feddwl ef yw. fod unrhyw gweryl yn yr eglwys, nid fod llygredd Pabyddol o'i mewn. Dywedodd esgob diweddar Ty Ddewi, ychydig flynyddau yn ol, fod y gwa- hanol bleidiau, y rhai a ymladdent a u gilydd yn yr eglwys, yn debyg o'i dyfetha hi. Y inaent yn gwneud hyny gydag egni a chyflymdra mawr. Y mae ei hanffyddwyr hi, fel Esgob Colenso, a'u Fhabyddion hi, fel Dr. Pusey a'i blaid, yn gyru ei dynion goreu i ddosbarthYmneillduwyrefeng- ylaidd. Ac y mae ei phapyrau, fel y Western Mail, wedi cael eu taro a dallineb barnol. Nid ydynt yn gweled nad Ymneillduwyr sydd yn tynu yr Eglwys i lawr ond ei hoffeiriaid a'i hesgobion hi ei hunan.
COFGOLOFN MR. CHARLES O'R…
COFGOLOFN MR. CHARLES O'R BALA. YN 01 fy addewid, wel fi yn anfon i cbwi ychydig o hanes dadleniad Cof- golofn Mr. Charles o'r Bala. Gorchwyl cyntaf boreu dydd Iau oedd ordeinio nifer o weinidogion ieuainc, ac am ddau o'r gloch awd at y gwaith o ddadlenu Cofgolofn Mr. Charles. Y mae hon wedi cael ei gwneud o marble, ac wedi ei chodi yn ymyl capel hardd y Trefnyddion Cal- finaidd yn nhref henafol y Bala. Y cerfydd ydyw Mr. W. Davies, Llun- dain, a dywedir iddi gostio o leiaf £ 700. Drychfeddwl y cerfwr ydyw gosod allan Mr. Charles yn llefaru y geiriau hyn,-Beibl i bawb o bobl y byd. Cerflythreniad y golofn ydyw,— "Thomas Charles, 1755—1814. Adeil- ad wyd 1875. Casglwyd yr arian gan ddeiliaid ysgolion Sabbothol y Method- istiaid yn Nghymru, Lloegr, America, ac Awstralia. Yr ydym yn cael fod ein hen gyfaill a'n cydweithiwr gynt, Mr. Edwards Jacob Jones, gynt o'r Bala, ond yn awr yn Awstralia, wedi anfon £92 4s. oddiwrth ddeiliaid ysgoFon Sabbothol Cymreig Awstralia at y goloin. u Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan Mr. D. Roberts, Le'rpwl, a chyflawnwyd y seremoni o ddadleniad gan Mrs. Edwards, gwraig Dr. Edwards, ac wyres i'r hen Charles ei hun. Cydnabyddwyd yr anrhydedd a roddwyd arni gan ei gwr-y Dr-yr .hwn a ddywedodd fod Arglwydd Shaftesbury wedi cael ei wahodd i fod yn bresenol, a'i fod wedi derbyn Ilythyr oddiwrtho, yn gofidio am nad allai tod yn bresenol, a hyny am na cbafodd rybydd prydlawn o adeg y dadleniad. Dymunai ei arglwyddiaeth ei gofio yn neillduol atddeiliaid ysgolion Sabbothol y Dywysogaeth, ac ycaraiefe ddyweyd wrthynt yn eu hiaith eu hunain, y Gwir yn erbyn y byd Anerchwyd y eyfarfod yn nesaf gan y Parch. John Roberts, Bryngwenallt, yr hwn yn ei anerchiad a ddywedai nad oedd angen cofgolofn ar Mr. Charles, fod ei enw yn gysylltedig a phob cyfrol o'r Beibl a anfonid gan Gymdeithas y Beiblau i wahanol wledydd y byd, ac yn gysylltiedig hetyd a phob ysgol Sabbothol. Y nesaf i anerch y do rf fawr gwyddfod- olion oedd Dr. Charles, gynt o Drefeca, ac arei ol Mr. C. Jackson, un o ysgrif- enyddion y Beibl Gymdeithas, a'r Parch. W. Dickens Lewis, o'r Am- wythig. Yn nesaf galwyd ar y Parch. T. Levi, Abertawe, yr hwn a sylwodd fod y Parch. Daniel Rowlands, Llan- gaetho, wedi dweyd mai rhodd Duw oedd Mr. Charles i Ogledd Cymru, ond y gallasai yn briodol chwanegu ei fod hetyd yn rhodd Duw i'r byd.
- 1 PRIF YSGOL ABERYSTWYTH.
1 PRIF YSGOL ABERYSTWYTH. YR oedd dydd Mawrth diweddaf yn ddiwrnod mawr yn Mhrif Ysgol Aber- ystwyth, yn gylcbwyl flynyddol ac yn adeg gwobrwyo. Yr oedd Arglwydd Aberdar yn bresenol, yr hwn a dra- ddododd anerchiad ar yr achlysur, gan roddi hanes y mudiad'er ei gychwyn- iad. Wrth anerch yr ef'rydwyr, dy- wedai ei arglwyddiaeth am iddynt efelychu Mr Disraeli, yr hwn, pan y gofynwyd iddo gan etholwr beth oedd efe yn sefyll arno, a atebodd, Ar fy mhen," gan awgrymu ei fod vn VlTI- ddibynu ar ei alluoedd meddyliol yn fwy nag ar eigytoefh a'i ddylanwad. Ethol- wyd y Parch. J. Buckley, curate Castell Nedd yn Ddeon ac Athraw ieithyddol, aplienderfynwydail drefnu yr athrawon presenol, a bod i athraw Cymreig gael ei sefydlu. Yr oedd Mr. D. Davies, A.S., yn mhlith y siarad wyr.
PLENTYN YN PRIODI.
PLENTYN YN PRIODI. ER ei bod yn beth eyffredin mewn rhai gwledydd fod plant deuddeg oed yn priodi, eto yn y wlad hon y mae yn hynod anghyffredin, a'r fath amgylch- iad yn creu cryn siarad. Yr ydym yn cael fod merch fechan ddeuddeg oed, o'r enw Elizabeth Jones, yn byw gyda ei thad yn Llansawel, wedi priodi yn Nghasnewvdd a chenadwr o'r enw Lely, a hyny yn ddiarwybod i'w rhieni. Yr oedd y plentyn, fel plant yn gyffredin yn yr oedran hwn, mewn dillad byrion, a pkinafm'ey mae yn debyg o'i blaen. Fel y mae yn naturiol, y mae y tad mewn teimladau digofus, ac yn dweyd y byddai yn well ganddo ganlyn 'ei blentyn i'r bedd nag iddi gyflawni y fath beth. Modd bynag, mae y wraig ieuanc yn dweyd y myn hi fyned at Mr. Lely, ac y cyfiawna hunanladdiad os rhwystrir hi.
— — MARWOLAETH CADBEN WILLIAMS,…
— — MARWOLAETH CADBEN WIL- LIAMS, CWMAMAN. Y MAE marwolaeth yr henafgwr milwr- ol hwn yn deilwng o sylw ar y DARIAN. Hen filwr oedd Cadben Williams, Cwm- amau, sir Gaer, wedi hod yn gwasan- aethu ei wlad fel milwr yn mrwydr Waterloo. Ganwyd ef yn 1790, ac ymrestrodd yn filwr pan yn 15 oed. Bu farw ar y 19eg cyfisol, gan adael gweddw ar ei ol, yr hon a fu yn go- gyddes ar fwrdd y llong yr hwyliodd Arglwydd Byron i Groeg. Yr oedd y Beibl bob amser gan Williams yn ei fynwes pan ar faes y frwydr.
^ ABERDAR.—YMDDYGIAD ANNHEILWNG…
ABERDAR.—YMDDYGIAD AN- NHEILWNG 0 FENYW. Y MAE cryn siarad wedi cael ei achosi yma yr wythnos hon trwy fod gweddw o'r enw Ann Rees wedi rhoddi genedig- aeth i blentyn, ac wedi ei daflu, yn ol ei chyfaddefiad ei hun, i geudy yn ymyl. Y mae ymchwiliad manwl wedi cael ei wneud am y plentyn, ond nid yw wedi ei gael hyd yn hyn. Barna rhai ei fod wedi ei hen fwyta gan y llygod mawrion sydd yn nghymydog- aeth y geudy. Yn Dys yr Heddgeid- waid, ddydd Mawrth diweddaf, cafodd Rees a merch ieuanc o'r enw Mary Lewis, sydd yn byw gyda hi, eu rhwymo i ymddangos o fiaeu yr ynadon eto yn mhen pythethos.
-----.. MAR WOLAETH DYCIIRYNLL…
MAR WOLAETH DYCIIRYNLL YD MEWN GLOFA. PRYDNAWN dydd Llun diweddaf dyg- wyd i derfyniadyrheithch^Tilobartiied dainwain ddychrynllyd a gymerodd le mewn glofa yn agos i Nuneaton. Pan vr oedd dau ddyn o'r e.nwau Corbert a Ward yn dyfod i fyny incline yn y gwaith, daeth wagen ar wyllt i lawr, ac a laddodd Corbert, gan niweidio Ward hefyd yn fawr.
^ NAID HUNAN-LADDIADOL.
NAID HUNAN-LADDIADOL. CYMKRODD hunan-laddifld dychrynllyd le y dydd o'r blaen yn Hastings. Yr oedd yuo lenyw o ymarweddiad dryg- ionus, yr hon nad oedd wedi byw gyda'i gwr er's 14 oflynyddoedd, ond oedd yn cydfyw a dyn arall, ac wedi ymroddi i yfed, yr hon a neidiodd i lawr dros ddibyn 300 troedfedd o uch- der. Yr oed d ei ch orff wedi ei ddryl 1 i o ynchwilfryw.
>— >— LLWYNYPIA.— MARWOLAETHI…
>— >— LLWYNYPIA.— MARWOLAETH I Y PARCH. MR. REES. Y mae yn ddrwg genyf ei bod wedi dyfod i'm rhan i anfon y newydd o farwolaeth y Parch. Mr. Bees, capel Jerusalem (If.), i'ch TARIANT. Bn farw pvydnawri dydd Sn! diweddaf. Y mae Mr. Rees wedi I gadael gweddw a dau o blant ar pi ol. Mae yr angladd yn cymeryd lie heddyw (dydd Iau).
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r DAILY NEWS, Llundain.) Mehefin 12, Middlesborough.—Mas- zn nach yn isel. Birmingham.-Rhagolygon nosaidd ar fasnach yr hafhwn. Mehefin 15, Middlesborough.—Ych- ydig o ofyii am pig iron. Nid yw pwnc cyflog y gweithwyr wedi ei setlo eto gan y cyflafareddwyr. Mehefin 17, Birmingham.—Meth- iantau yn peri fod masnachwyr yn bruddglwyfus. Fel hyn y mae y nos wedi cau i raddau mawr ar fasnach yr wythnos hon,
--------+ T MEORKI.—I) AM…
-+ T MEORKI.—I) AM WAIN ANGEU- OL AC ANGLADD. BOJUiU dydd Gwener diweddaf, 1] add wyd dyn ieuanc o'r enw Walter Paterford, yn uglofa Abergorki. Yr oedd yn frodor o Marshfiekl, ac yn y prydnawn daeth ei fam a'i gariad i'r lie. Erbyn hyny yr oedd y corfE wedi ei osod yn weddaidd mewn coffin. Wedi gyveJed y corfF, de- chreuodd y gariadferch rwyejo ymaith r let yr amdo, gan ofyn i'r letywraig am ga- lico i roddi o amgylch y corif. Yr oedd y traneedig wedi bod yn aros yn Treorki am dair blynedd, a lletyai gyda theulu tra chyfrifol. Ceisiai y fam gael y corffi wedi ei symud o'r ty, ac oherwydd nad oedd byny yn oddefadwy, daeth yn hynod wrtbnysig a, cbas. Cymerodd ei a/ngludd le ddydd Lluh diweddaf, ae yr oedd ym- ddygiadau anystyriol y ferch ieuanc yn warthus.
---TROEDYRHIW.—DAMWAIN ANGEUOL.
TROEDYRHIW.—DAMWAIN ANGEUOL. DYDD Sadwrn diweddaf, cymerodd dy- gwyddiad galarus le yn Mhwll No. 2 o eiddo y Mertbyr Vale Colliery, yn Ynvs Owen, ger Troedyrbiw. Pan yr oedd sinher o'r enw Owen Morris yn sefyll yn shaft y pwll, ac wedi dechren gweithio, syrthiodd i'r dwfr yn y gwaelod, yr hwn sydd oddeutu ugain troedfedd o ddyfn- y 11 der. Clywid ei ysgrechiadau gan ei gyd- 0 weithwyr, y rhai a ddaethant o hyd i'w gorli yn mhen oddeutu ugain mynyd. Mae y dyn anffodus wedi gadael gwraig a theulu i alaru eu colled af ei ol.
[No title]
'El) GIJYN NEDD.—Dyddiau Sal a Llun diweddaf cynaliodd y Trefnyddion Calfinaidd eu cylchwyl flynyddol yn Mhontneddfychan, a neillduwyd y cyfarfod olaf dydd LJun at sefydlu Mr D. Davies, diweddar o Risca, yn fugail yno. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchedigion M. Morgans, Aberdar D. James, Llanennvg; T. Rowlands, Aberdar W. J. Williams, Hirwain; M. Thomas, Resolven R. Morgans, Llwydcoed; R. Parry; J. Evans (B) a D. G. Davies (A), Glyn Nedd.
[No title]
YR ydym yn cael fod cyfarfod o gy- lirychiolwyr glowyr Deheudir Cymra a sir Fynwy wedi ei gynal ddydd Mawrth diweddaf yn y Bute Arms, Aberdar. Bu amryw bethau o flaen y cynrvchiol- wyr c barthed i sefyllfa yr Undeb, &c., ond ni wnaed dim yn gyhoeddus. Rhanwyd oddeutu mil o bnnau er cynorthwyo y rhai hyny sydd heb gael gwaith hyd yn hyn. Y mae glowyr Dean Forest yn go- medd myned yn mlaen a'u gwaith ar y gostyngiad o ddeg y cant a geisir gan y I meistri. Y mae lluaws o lowyr Fifeshire yn gadael eu gorchwvlion tanddaearol, ac yn ymgymeryd a gwaith labrwyr, o herwydd fod gostyngiad pellach yn cael ei fygwth. Y mae glo Channoch Chase wedi ei ostwng 2s. a 3s.(;c. y dynell. Glo tai yn benaf a godir yno, ac y mae dys- gwyliad y cymer gostyngiad eyffelyb le yn y gwahanol fathau o lo yn Nosbarth Dudley. Y mae heddgeidwad o'r enw William Morgan, Rhif 74, Birkenhead, wedi cael ei yru i garchar, gyda llafur caled, am bedwar mis, am ladrata saith o wyau. Y mae yn dda genym hysbysu fody llong Earl of Setlcind, yr hon a gy- chwynodd a nifer i'awr o ymfudwyr o Ddeheudir Cymru ar ei bwrdd tua New Zealand, wedi cyrhaedd yn ddy- ogel, a phawb yn iach ar ei bwrdd. Deallwn fod Cyngor y meistri, yn Oaerdydd, dydd Gwener diweddaf, wedi gomedd derbyn cynrychiohvyr y gweith- wyr mewn cysylltiad a phwnc neu ddau o art ghv tun deb.
Family Notices
BU FARW. BOREU dydd Sul diweddaf, Mehefin yr 20fed, yn bedair blwydd oed, Gwilym Rees Curtis, mab henaf Mr. a Mrs. Davies, Park Row, Trecynon, wedi pump wythnos o gystudd trwm. Y mae Davies yn un o dri wyr y DARIAN," ac wedi colli yn ystod rhyw chwech neu saith o wythnosau, ei dad, ei fam, a'i blentyn anwyl! Yr oedd y perlyn bychan yn wyr i Mr. a Mrs. Curtis, Trecynon, yn mhreswylfa y rhai y bu farw. Yr oedd ei daid a'i nain yn hoff neillduol o hono, a theimlant yn ddwys yn herwydd ei golli. Prydnawn dydd Mawrth canlynol, hebryngwrd ei ran farwol i fynwent EgIwys Sant Ffagan, pryd y gwasan- aeth wyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Rogers, Curad, a Mr. Wm. Protheroe, arweinydd cor yr EglWYS uchod, yr hwn a chwareuodd y "Dead march in Saul" a'r Dying Christian yn hynod effeith- iol. Nawdd Duw fyddo ar y galarwyr oil". Mawr alar o'i fyned fydd, O'r bjd mor gynar i'r bedd Lops a siom am Gwilvni sycid, F'aeth i fry boff fytli fro hedd. Pn ham v bu i ti ond troi I mewn, a tfoi i fyny ? A ddstrfu gwue a phoen y byd I wynfyd dyddychrynu ? Bydd saint yn son am droion byd Gan panu with adgofio Cei dithau ddweyd, a dyna'r oJl, Amen bum inau yno."
MR HALLIDAY YN YMGEISYDD SENEDDOL.
MR HALLIDAY YN YMGEISYDD SENEDDOL. Y mae Mr. Halliday unwaith neu ddwy bellach, mewn cyfarfodydd mawr- ion ag y mae wedi bod ynddynt, wedi cyhoeddi ei hun yn ymgeisydd am Aelodaeth Seneddol dros Fwrdeisdrefi lYlerthyr ac Aberdar os bydd i Mr Fothergill roddi ei Stvydd i fyny.
TREORKI—Y COR MAWR.
TREORKI—Y COR MAWR. DYDD Iau, yr wythnos diweddaf, cyn- aliwyd cyfaifod mewn cysylltiad a mynediad y Cor Mawr i'r America, yn y lie hwn, gan Cyngor y Cor, yn nywesty Caradog. Penderfynwyd fod cyfarfod cyffredinol o'r pwyllgor i gael ei gyrsai yn N euadd Calf aria, Aberdar, ar y laf o Orphenaf; a hyny er cy- meryd dan sylw y priodoldeb o barotoi ar gyfer myned i'r America. Y mae yn wir y stared ir yn ysgafn am dano gan rai, eto ere Iwyf y gellir cael yr ymgymenad yn ffaeth os eir ato yn yr iawn ffordd. Y mae yn sicr y ceir gwrthwynebiadau, ond bydd y rhai hyn yn bofiondiymod o'i lwyddiant. GOHEBYDD.
. IRYMNI—DAMWAIN ANGEUOL.…
RYMNI—DAMWAIN ANGEUOL. ANGEUOL. PRYDNAWN dydd Iau diweddaf cy- merodd damwain angeuolle yn klhwll Mardy, yn y lie hwn, gan achosi marwolaeth uniongyrchiol dyn o'r enw John Owens, Wellington-street. Yr oedd ar y pryd ar ei benliniau, pryd y daeth yn agos bum tynell o gwymp arno. Yr oedd yn fyw pan y catwyd ef o dan y cwymp. Diangodd y bachgen oedd yn gweithio gydag ef. Yr oedd y dyn anffodus oddeutu i)5 oed, yn gymer- adwy gan eigydweithwyr, acyngadael gweddwac un plentyn ar ei ol.