Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CATECHISM Y GLOWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CATECHISM Y GLOWR. G. Beth yw dy enw di ? A. Glowr. G. Pwy roddodd yr tnw hwn i ti ? A. Fy nghyflogwr a'm goruchwyl- iwr yn nyddiau fy ieuenctyd, pan ym gwnawd yn blentyn llafur, yn ddyn gofidus, ac yn etifedd i bwndel o gar- piau. G. Beth wnaeth dy arolygwr a'tb gyflogwr y pryd hwnw i ti ? A. Darfu iddynt addaw ac addunedu tri pheth yn fy enw.-laf. Fy mod i ymwrthod a phleserau y bywyd hwn. 2il. Fy mod i fod yn dorwr a llanwr glo; a phan fyddwyf wedi colli fy iechyd wrth weithiomewn awyr afiach, i bigo slags yn y screen, ac i edrych ar ol y "Billy." 8ydd. Fy mod i fod yn gaethwas iddynt holl ddyddiau fy mywyd. G. A wyt ti yn meddwl dy fod yn rhwym o gredu a gwneuthnr fel y byddont hwy yn gosod arnat ? A. Na, drwy gymhorth fy Nghre- awdwr a ebydweithrediad fy nghyd- ddynion, gwnaf fy ngoreu i ysgwyd ymaith gadwynau gormes, cymeryd fy safon yn mhlith dynion, a pharhau i wella sefyllfa fy nheulu byd ddiwedd fy mywyd. Adrodd i mi erthyglau dy gredo. Yr wyf yn credu nad yw Duw dderbyniwr wyneb—iddo greu pob peth er lies cyffiedinol a chyfartal i'r teulu dynol, ac y dylai pob person fwynhau ffrwyth ei lafur, am fod y Ihfurwr yn deilwng o'i gyflog. Credwyf hefyd nad wyf fi yn cael mwynhad teilwng o ffrwyth fy llafur; ac n?d yw glowyr y wlad hon, hyd yn ddiwedd ar, wedi cael y cydymdeimlad dyladwy iddynt gan ddyngarwyr; oblegyd tystiai ar- graffwasg unochrog yn eu herbyn, a chondemnid hwynt gan ddynion nad oeddynt yn, ac na fynent edrych i'w bachos mewn modd di-duedd, fel ag i'w galluogi i ffurfio barn onest ar eu mater. G. Beth yn benaf wyt yn ei ddysgu wrth yr erthyglau hyn ? A. Dysgaf yn gyntaf fod cyfiawnder a Christionogaeth yn hawlio terfyn ar y eyfryw sefyllfa. 2il. Fod fy Nghre- awdwr wedi fy nghynysgaethu â. chy- neddfau, gallnoedd, a theimladau cyd- marol i'm brodyr mwy ffodus' yn mhethau'r byd hwn. 3ydd. Y dylai holl.lafurwyr tanddaearol y deyriias, yn neillduol lie mae gormes yn sefyll yn erbyn gwelliantau cymdeithasol, aphen- defigaeth ormesol yn llywodraetbu, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd dros eu hiawnderau llafurawl a chyfreith- iawl, hyd nes y byddo i'r hil ddynol gael eu dwyn i agosach cyfartalrwydd nac ydynt yn bresenol ac os yn an- genrheidiol, sefyll wyneb yn wyneb a'r anghenfil yn nydd y frwydr oblegyd yr hwn ni ymladda dros les ei epil, ni ymladda chwaith dros ryddid ei wlad, ac felly yn annheilwng o anadlu awyr rydd. Dysgaf hefyd y dylem, fel dosbarth o weithwyr, ffurfio i ni ein hunain gymdeithasau cydweithredol o bob math, fel, pan mewn adeg o anneall- dwriaeth, na fyddom yn ymddibynn yn hollol ar ein meistri am waith, nac ar fasnachwyr am ymborth. G. Wrth ba nifer o orchymynion i'th rwymir ? A. Deg. Adrodd hwynt. 1. Na fydded i ti feistri ereill ond nyni. 2. Na fydded i ti le gweithio ond yr eiddom ni; na fydded i ti geisio cyflog uwch beth bynag fyddo y glo yn cael ei werthu ac ni chei wneud i ti dy hun le gweithio, oblegid ydym Feistr- iaid eiddugeddus, yn ymweled ag an- ufydd-dod y tadau ar y plant, drwy roddi iddynt rybydd i ymadael a'u tai, ac heb fod yn rhwym o wneuthur trugaredd a'r mwyaf ufydd o'n gweith- wyr. 3. Na chymer enwau dy gyflogwyr yn ofer, na siarad yn ysgafn am danom; oblegid nid dieuog genym y neb a gymero ein henwau yn ofer. 4. Cofia mai caeth wyt; chwe di- wrnod y gweithi, ond y seithfed dydd, gan ein bod yn rhwym o'i gadw, ti a allu orphwys fel y gwna ein mulod. 5. Anrhydedda dy gyflogwyr a'th arolygwyr, gyda'th het yn dy law. Bydd yn dy waith mewn amser, ac na rwgnach os bydd yn rhaid i ti weithio haner awr ar ol amser, fel y byddo dyddiau dy lafur yn hir ar y ddaear. 6. Na ladd ddim ar sydd eiddom ni, er nad oes un gwahaniaeth pa flinder a all dim fod yn ei wneud i ti. 7. Na fydded i ti iselhau dy hun trwy dori un o'r rheolau, nac anufydd- hau i uh o'n gorchymynion meistrol- aidd ni. 8. Na ladrata, ac na phiga ddim glo ar ein tips ni beb dalu am dano. Does dim gwahaniaeth os bydd yr oil yn myned yn wastraff. 9. Na ddwg dystiolaeth yn ein herbyn ni; na ddynoetha. ein gweithredoedd mewn Hysoedd gwladol na thrwy y wasg; ond goddef a chydymddwyn gyda phob amynedd, fel y gellir dy alw ynllaw fuddiol. 10. Na cbwenych eiddo dy gyflog-1 wr, na chwenych wraig dy gyflogwr, (er y gall ef chwenych dy un di,) na'i geffyl, na'i gerbyd ysblenydd. na dim a'r sydd eiddo ef, er fbd y cyfan yn cael eu prynu a'u cynal drwy chwys dy wyneb a'th lafur di. G M x.

LLYFRGELL Y BWTIIYN.

I YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.

+ Y STRIKE A'I IIEFFEITHIAU.

jY GALON DOREDIG.