Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am syniadau a golygiadau ein gohebwyr, ond yr vdym am adael rhyddid barn i bob,dyn, a rbyddid yugrif-bin hefyd can belled ag y goddef terfyuau cyfraith a moes- oMeb.—GoL.I
Y PABYDDION A GWAHARDD-IAD…
Y PABYDDION A GWAHARDD- IAD YR YSGRYTHYRAU. FE gofia y darllenydd ddarfod i mi ddweyd yn fy llythyr eyntaf nad oeddwn yn cymeradwyo penderfyniad Toulouse; ond a ydyw yn deg dal Pabyddion yr oes hon yn gyfrifol am bender- fyniad a wnaed 646 o flynyddau yn ol. Dichon y gwyr W. Jones i Feth- odistiaid Cymru, am dros 60 mlynedd, wahardd i neb weinyddu y Sacram.onkm yn eu plith ond off eiriaid Eglwys Loegr ond a ydyw yn deg dal Metiiodistiaid yr oes hon yn gyfrifol am ffolineb Charles o'r Bala a'i gyfoedion ? Os na, yna nid yw yn deg dal Pabydd- ion yr oes hon yn gyfrifol am bender- fymad Cynghor Toulouse yn 1229. Pe buasai gelyniaeth ga.n y Pabyddion at y Beibl, neu yn anfoddlon i'w ledaen- iad yn mhlifch y werin, ni fuasenfc yn manteisio ar y cyfle eyntaf wedi dyfeis- iad yr argraffwasg, i ddefnyddio y peir- ianthwnw i ddwyn allan argraffiad o'r Beibl. Cofier mai y Hyfr cyntaf a ar- graffwyd erioed oedd y Vulgate, yn ddwy gyfrol, yn 1461, a hyny gan y Pabydd- ion! Ai nid anwybodaeth a rhagfarn sydd yn peri i ddynion haeru fod y Pab- yddion yn elynion i'r Beibl yn ngwyneb y ffaith hon ? Ond odid nad yw darllenwyr y DAMAN yn gwybod rhywbeth am Gavazzi-y Tad Gavazzi—yr hwn a ymadawodd ag Eglwys Rhufain tua'r flwyddyn 1853. Clywais hwnw yn areithio yn 1856, ac er dangos ei safle anrhydeddus yn Eglwys Rhufain, dywedai mai y gorchwyl olaf wnaeth cyn ymadael oedd golygu argraff- iad newydd o'r Beibl Eidalaidd, gan ei gymharu a'r Vulga.te; ac iddo gael ei benodi i'r swydd bwysig hono gan y Pab ei hun. Gwelais inau y Beibl Eidalaeg gan Eidaliad yn Merthyr Tydfil yn 1864, ac yr oedd hwnw wedi ei argraffu yn Rhufain. Haera W. Jones oddiar dyst- iolaeth rhyw Barch. Robert Griffiths, nad yw y Beibl i'w gael yn Itali, Aws- tria, Yspaen, &c. A yw yn bosibl i mi gredu hyn, gan fy mod wedi gweled yr un Eidalaeg? Yn 1873, clywais oruch- wyliwr y Feibl Gymdeithas yn dweyd fel y canlyn :—" Mae yn fy llaw yn awr ychydig brawfleni o'r Testament Newydd wedi ei argraffu yn Rhufain' a hyny dan drwyn yr hen Bab ei hun; a hwn yw yr argraffiad cyntaf a wnaed erioed o'r Ys- grythyrau Sancta'dd yn Rhufain." Dyna ddywediadau o eiddo Goruch- wyliwr y Peibl Gymdeithas-! Gwyddwn ar y pryd fod ei stori yn anwiredd hollol, am fy mod wedi gvyeled y Beibl Eidal- aeg a argraffwyd yn Rhufain fwy nag ugain mlynedd cyn hyny. Yr oedd yn amlwg mai amcan y siaradwr oedd manteisio ar anwybodaeth ei wrandawyr, er ychwanegu eu rhagfarn yn erbyn Pabyddiaeth, a tbrwy hyny gael eu tocyns at wasanaeth y gymdeithas a gy- nrychiolai. Pe dywedasai fod yr ar- graffiad y cyfciriai ato y eyntaf a wnaed erioed yn Rhufain o'r Gyfieithiad Pro- testanaidd, feallai y buasai yn gywir, er fod hyny yn amheus; ond yr oedd ei waith yn haeru mai hwnw oedd yr ar- graffiad cyntaf a wnaed o'r Ysgrythyrau yn Rhufain yn anwiredd amlwg. Gan fod 'William Jones mor hofE 0 wyro oddiwrth bwnc dechreuol y ddadl, ac yn defnyddio cynifer 0 specidations gorphwyll, yn lie ceisio gwrthbrofi yr hyn a ddywedais ar y cychwyn, mae yn briodol adgoffa y darllenydd mai yr hyn addywedais ac a brofais yw hyn, sef nad yw y Pabyddion yn gwahardd dar- lleniad y Beibl, oblegyd eu bod yn gwahardd y cyfieithiad Protestanaidd. Pe buaswn wedi dweyd nad ydynt yn gwahardd y cyfieithiad Protestanaidd, buasai rhyw nerth yn Ilythyrau W. Jones, oblegyd y cwbl y mae wedi wneud, a'r cwbl a all wneud, yw profi eu bod yn gwahardd y cyfieithiad hwnw, a rhai anwarantedig ereill. Y mae haeru eu bod yn elynol i'r Beibl oblegyd hyn yr un peth a phe haerai pobydd (baker) nad wyf fi yn bwyta bara, am nad wyf yn prynu ei fara ef, fel pe na byddai y bara a wneir gan fy ngwraig yn fara 0 gwbl. Mae W.' Jones yn hofE iawn o lynu wrth 'dystiolaethau y pregethwyr, megys H. Roberts, Bangor; R. Griffiths, Dr. Phillips, Dr. Hodge, &c. Gan fy mod wedi dweyd yn y cychwyn, mai anwir yw dywediadau y pregethwyr ar y pwnc hwn, nid yw gwaith W. Jones yn lluosogi eu dywediadau yn un gwerth. Yr hyn a ymgymerodd ef ag ef, debygwyf, yw profi eu bnd yn dweyd y gwir. Os medr ef wneud hyn, gwnaed. Nid yw ei waith yn glynu cyhyd gyda William Tyndal o un help iddochwaith, oddieithr iddo allu profi nad oedd y gwr dysgedig hwnw wedi ymadael a Phab- yddiaeth cyn iddo gyfieithu y Beibl i'r Saesneg, a phrofi hefyd iddo gael ei benodi i wneud hyny gan yr awdurdodau Pabaidd. Ond gan i William Tyndal herio y Pab a'i holl gyfreithiau yn y geiriau hyn,—" I defy the Pope and all his laws," yn nhy Syr John Walsh, Little Sodbury, swydd Gaerloyw, a hyny flynyddau cyn iddo gyfieithu y Beibl, mae yn amlwg ei fod yn heretic yn nghyfrif y Pab, a naturiol oedd iddo yntau fod yn elyn i Tyndal. Yn ychwanegol at herio y Pab a'i gyfreithiau, yr oedd Tyndal yn gwadu Duwdod Crist hefyd: a dichon na chyf- rifa W. Jones ef yn llawer gwell na heretic am hyny. Dyma ddalen o gyffes ffydd W. Tyndal:—"In such a God, (one born of a woman), I do not belive Peidi ed W. Jones a llewyguwrth. weledy gwirionedd. Felly nidyw coffa y ffaith fed y Pabyddion wedi llosgi y cyfieithydd a'r cyfieithiad yn profi eu bod yn elynol i'r Beibl, na'u bod yn peidio lledaenu eu Beiblau eu hunain. Mae y pwnc, gan hyny, yn aros yr un man, ac felly yr erys hefyd; oblegyd y mae gan y Pab- yddion eu cyfieifchiadau iuaws, ac y mae y rhai hyny at wasanaeth y werin, ac ni fedr W. Jones & Co. brofi yn wahanol. Soma W. Jones fy mod mewn cyfyng- der, mewn iludded, a chwys, &c., wrth drin y pwnc hwn. Yn nlha Ie mae yr arwydd, tybedp Ei ddychymyg gor- phwyll ef sydd yn gallu esgor ary fath ifwibri a hyn. Nid yw yn gyfyng ar neb sydd ar y gwir. Y rhai sydd yn gorfod cael props o gelwydd i gynal eu syniad- au cyfeiiiornus sydd yn gyfyng arnynt. Dyma gwrs campus o drin a phrofi pwnc, onide: "Beth pe amddifadid y Pabydd druan o'r Nodiaicczt-yiia byddai heb y Beibl Beth pe deuai y Pabyddion i feddiaaiu yr awdurdod wladol, a gorchy- myn i'r bobl roddi i fyny eu Beiblan i'r swyddogion Pabaidd yn nihen wytb niwrnod i'w llosgi, fel y gwnaethant a Beiblau y dysgedig William Tyndal, a gwneud y diffyg i fyny trwy roddi y Beibl Lladin yn eu dwylaw ? Pa. faint o faeth ysbrydol gaffent oddi wrtho? Tybiwn y clywn ami un o honynt yn bloeddio allan, dim, dim, dim." Dyma atodiad i'r cwrs hwn 0 brofi pwnc:—Beth pe byddai i Disraeli, gan ei fod yn Iuddew, ac yn brifweinidog, lwyddo i basio cyfraith i losgi pob Beibl yn y wlad end yr un Hebraeg P Lol Botes. Neu beth pe byddai i Sultan Twrci orchfygu y wlad hon, a meddianu y llywodraeth wladol, a gorchymyn llosgi yr holl Feiblau, a rhoi yr Alcoran yn eu lie ? Neu beth pe byddai i lygod fwyta holl Feiblau y wlad yr un noson, tra'r dynion yn cysgu ? Nonsense i gyd. Ni wna speculations o'r fath hyn byth brofi'r pwnc. DAFRM MOKGAXWG. (I'w barhau.)
BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…
BRYNFAB A PHWYLLGOR EIS- TEDDFOD Y GROGLITH TREHERBERT. Hysbys y dengys dyn 0 ba radd y bo'i wreiddyn." FONEDDIGIOX,—Ymddengys nad oes dim yn tycio i ddyfod a'r brawd Bryn- fab i drefn. Nid ydyw gwirionedd a rheswm yn cael yr effaith leiaf arno er ei ddwyn ato ei hun: ond ymglafoeria, a bwria ewyn, a phentyra eiriau a brawdd- egau mor ddiffygiol o synwyr a'r bobl hyny oedd yn mysg y beddau yn ngwlad y "Gadareniaid." Modd bynag, go- beithiaf na wnaifE un niwed mawr iddo ei hun yn mysg y beddau. Dywed y brawd wrthyf, am ddyfod allan i brofi ac i gyfiawnhau ymddygiad y pwyllgor yn atal y wobr. Y mae yn aros i'w brofi yn gyntaf ein bod wedi gwneud anghyf- iawnder. Y chwi sydd wedi cyhuddo, ac 0 ganlyniad dysgwylir i chwi brofi, ie, profi meddaf, ac nid difrio. Mewn cysylltiad ac anfon enwau'r pwyllgor i'r Chamber of Horrors," nid oeddwn yn gwybod o'r blaen mai enwau pwyllgorau Eisteddfodol oedd yno. Yr oeddwn i wedi arfer credu mai wax work oedd yno, a rhywrai wedi enwogi eu hunain mewn amryw gyfeiriadau fel y chwi. Y rheswm na werthwyd y gath" oedd, na chynygwyd yn deg am dani hi. Cred Brynfab" ein bod wedi gwneud cathod o honom ein hunain wrth beidio ei rhoddi iddo, teg neu beidio a dywed fod yn debyg oddi wrth y mewian a glyw, mai myfi ydyw'r Tom Cat." Y rheswm fod Tom yn mewian cymaint ydyw, fod cymaint o lygod o gwmpas iddo. Proffwyda "Brynfab" na fydd geuym yr un eisteddfod y flwyddyn nesaf, a cheisia genym ei alw yn gaubroffwyd" os bydd. Bydded hysbys i Brynfab" a Chymru benbaladr y bydd genym Eis- teddfod y flwyddyn nesaf. Yr ydym eisioes wedi cytuno a'r beirniaid, ac ar ddwyn y prif destynau allan. Cyhoedd- ais yr amod y cwyna "Brynfab" o'i herwydd yn fy llythyr o'r blaen. Ac yn ei lythyr diweddaf dywed Brynfab" nad oedd dim bai ar yr amod, ond mai arnom ni yn ei chario hi allan yr oedd y bai. Hwyrach y bydd y brawd cystal a chysoni hyn a'r hyn a ddywedodd yn un o'i lythyrau blaenorol; ac er mwyn i'r darllenydd gael gweled eu cysondeb, rhoddwn hwyat gyferbyn a'u gilydd. Gofynais iddo yr adeg hono a oedd rhywbeth yn ein hamodau yn anunol a chyfiawnder. Wele ei atebiad Ie, frawd hollol anunol hefyd. Os dywedir mai cyfiawnder ydyw gosod rheol bwr- pasol i ysbeilio ymgeiswyr, taflaf yr ysbwng i fyny ar unwaith. Gwyddom fod deddfau gan ladron proffesedig, ond nid yw eu bod yn gweithredu yn ol y cyfryw ddeddfau yn cyfiawnhau y gronyn lleiaf arnynt." Eithaf gwir, a phe buaswn yn gwybod eich rheolau dyna fel y buasai hefyd." Na, nid oes dim yn y rheol sydd yn rhoddi i'r pwyllgor y teitlau a deilyngant. Eu hymddygiadau hwy wrth ei chario allan sydd yn gwneud hyny." Y mae y brawd fel y gwelwch yn taflu'r bai weithiau ar yr amod, bryd arall ar y pwyllgor, yn ol fel y byddo yn ateb ei bwrpas ef. Yn awr "Brynfab" yr ydych wedi lolian llawn ddigon, rhoddwch eich bys ar yr hyn yn ein hymddygiad ni sydd yn groes i'r amod. Stand to the point. Dywed yr amod fod yr holl gyfansoddiadau i fod yn llaw y beirniad, gyda ffugenw yn unig, a'r enw priodol dan sel i'r ysgrifenydd." A ddarfu i chwi gydymffurfio a'r rheol yma, a'i naddo atebwch do, neu naddo, a dyma derfyn ar y ddadl: dyna'r pegwn ar ba un y mae'r ddadl yn troi. Nid yw o un pwys beth ailai fod amcan y rheol, a hyn a'r llall. A ddarfu i chwi weithredu yn ei hoi ydyw'r cwestiwn. Beiddiaf ddweyd yn ngwyneb ilengawd 0 fathau Brynfab, Nemesus, ac Athan Fardd, ein bod wedi gwneud cyf- iawnder i drwch y blewyn, a heriaf y tri i brofi yn wahanol. Os oes ar eich ealon i ysgrifenu ar y cwestiwn fecbgyn, cofiwch roddi lie uchaf i resvvm-i ffieithiau, ac nid pentyru geiriau disyn- wyr ar draws eu gilydd. Cofiwch, nid ydyw fy ngalw yn dywysogywniadur" a rhyw lol botes o'r fath, yu niweidio dim arnaf. Yr wyf yn falch o'm galwed- igaeth, ac y mae yn llawn mor gyfrifol, am a wn i, a gorchwyl yr un o honoch. Llai 0 ferw a thwyll fawredd-llai 0 Llai 0 rith dyngaredd; [rwysg, Llai o dwrf a llai o dedd, Neu ganu'n gwag ogonedd." Bydded Nemesus cystal a chofio mai gwaith gwrachan yw hysian, Ha 1 r_l Y dewrddyn ni faldordda." Os na all Brynfab brofi ein bod wedi gwneud anghyfiawnder, nid yw o un gwerth i barhau'r ddadl; beth bynag, nid oes genyf fi na hamdden na phleser mewn cecraeth;ddifudd ac o'm rhan i, 0 hyn allan caiff Brynfab and Co. y maes iddynt eu hunain, gan obeithio eugweled eill tri yn ein Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Yr eiddoch, foneddigion, Treherbert. D. M. JONES.
GAIR AT UN 0 RYMNI.
GAIR AT UN 0 RYMNI. Y MAE y brawd uchod yn fy ngyhnddo o lenladrad; lladrata yr alaw, y hon yr wyf yn rhoddi gwobr am ei chynghan- eddu yn nghyfarfod cystadleuol Brvn Seion, Gilfach Goch. Ond gallaf ddweyd wrtho mai n yw gwir awdwr yr alaw, a gallaf ddweyd hyn yn nghlyw y byd. Etc nid wyf yn amheu na all rhai manau fod yn debyg, ag efallai yr un peth yn gywir. Ond gallaf ddweyd mai yn holl- ol ddiarwybod i mi, a'u bod hefyd yn wreiddiol i mi. Gallwn nodi llawer o'n prif gerddorion wedi dygwydd dyfod i'r un man, a Iu henwi hefyd pe bae angen. Buaswn yn ddiolchgar iawn i chwi, frawd, pe byddech wedi bod mor fonedd- eddigaidd ag enwi y tonau yn lie haeru. Gilfach Gocb. DAVID DANIEL.
L'ERPWL.
L'ERPWL. [ODDIWRTH EIN GOIIEBYDD ACHLYSUROL.] TANAU ADNEWYDDOL. DYNA dan aruthr a gymerodd le yn Dublin—-gwlad y chwildroadwyr a'r hystyngwyr anghyrnodlawn-yr" oedd y gwiroclydc1 poethion yn ymddylifo ar hyd yr heolydd yn rhaiadrau mawr- ion, a lluaws mawr o'r Gwyddelod fel pantheria,id gwancns yn dyfoli arno, heb brisio dim beth a ddeuai o'r tan a'r meddiamau drudfawr oeddynt yn ngafaeiion Yulcan; achan morangerdd- ol ydoedd eu blys am ddyfoli ar y gwa- hanol ddiodydd a ymffullient heibio yn mhob cyfeiriad, gorfuwyd galw meirch- iilwyr y ddinas allan i. wastadhau eu cynddaredd hylifol. Nid yn unig yr oedd y whisci yn ymddylifo yn ol deddfau natur, ond yr oedd wedi cy- meryd tan, ac ymarllwysai drwy yr heolydd fel dreigiau ymddylifol o'r un natur a welodd Homer yn ngwaelod Hadez Y mae'r tan hwn yn cael ei ystyried yr un pwysicaf a gymerodd le yn Dublin erioed. [Ystyr yr enw Dublin yw dwfr sanctaidd,' yn ol rheithiau y Wyddelaeg.] Dinystriwyd gwerth £100,000, medd rhai newydd- iaduron, ond dywed y newyddion pell- ebrol diweddaraf fod y golled yn ymylu ar £ 340,000 Cymerodd tan arall le yr wythnos ddiweddaf yn Stanley D.R., ond dar- ganfyddwyd ef mewn pryd cyn iddo wneud llawer 0 alanas. Gerllaw i'r man bwn y mae fy mrawd a'm cyfaill pur Mr. Henry Lewis, yn brif oruch- wyliwr o dan y JBridgiociter Trust Co., TAmited. Brawd henaf fy hen gyfaill coronog Llew Llwyfo yw y Mr. Lewis hwn, ac y mae'n mhob modd yn deil- wng o'i frawd talentog a derchafedig. Y mae Mr. Henry Lewis yn wir gyfaill i'r Hwntw breuddwydiol hwn nid oes neb Cymro, ac eithrio'r Cymro Gwyllt, wedi gwneud cymaint dros y gwr anffodus hwn, a Mr. Henry Lewis, erpan ddaeth efe i Le'rpwl. Drwy Mr. Lewis y cefais fy ethol yn aelod o Bwyllgor y Gordofigion gydag nnlryd- edd mawr, er mai Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf) a'm cynygiodd yn Sea- combe noson y wledd flynyddol.
Y GWYDDELOD.
Y GWYDDELOD. Yr oedd Mr. William Parry, Bir- kenhead, y cerddor penigamp, a minau yn gwibdeithio drwy'r heol fawr ar warthaf Waterloo a Clarence Dock, dydd Sadwrn diweddaf (19 cyfisol), pan y deuai llu mawr 0 Wyddelod i'n cyfarfod, "Look! look!" meddai Parry, "they remind me of the Welsh people G-allasem gyfrifrhyw 3,000 neu 4,000 o wyr yr Iwerddon yn cael eu dadlwytho yn Clarence Dock, ar eu taith i wahallol barthau o Caerwrangon, Gaerhirfin, Caerefrawg, neu Caer Ebranc, yn ol yr' awdurdodo'u mwyaf clasurol mewn dwnedicieth. Yr oedd eu gwisgoedd a'u gwynebweddau yn dwyn y tebygolrwy del mwyaf i'r Cymry, ac nid rhytedd i Mr. Parry waeddi y geiriau uchod. [
YMFUDIAETH.
YMFUDIAETH. Y mae llawer o ymfudo o'r dref aruthrol hon bob dydd nid yw yn ddim i chwi weled rhyw gant neu ddau o Ellmyniaid, Is-ellmyniaid, neu Almaeniaid, yn piysuro ar garlam ar ol en nwyddau tua rhyw Borth" neu gilydd llenwir yr heolydd weithiau gan y tramorwvr phenomenaidd uchod, ac er eu bod yn nghanol gwyr aillt ac ymchwyddol, siaradanteu lénnan" n'u lau" mor bur a diofn a phe buasent yn ngwlad eu genedigaeth. Y mae lluaws o agerlougau mawrion wedi myned i mewn ac allan yn ddi- weddar, ac y mae rhagolygon trafnid- iaeth yn adfywio yn rhagorol. Ym- fudodd mintai fawr 0 Sataniaid y Dyddiau Diweddaf oddi yma yr wyth- nos ddiweddaf, o dan arweiniad un o feibion y gau-brolfwyd Yonng, ac yr oeddynt oil a'u gwynebau tua'r Llyn Halen. Yr oeddynt gan amlaf o Gaerwrangon, Caerefrawg, a'r Albaen, ac yn wir yr oedd un Cymro jargoon- aidd yn eu plith. Bum yii siarad ag ef, ac yr oedd yn atgas genym feddwl fod ein gwlad wedi magu'r fath yn- fytyn!
TAIIAXAU.
TAIIAXAU. Brawyahwyd y dref hon dydd Mawrth drweddaf gan gynddeiriogrwydd ofn- adwy taranau ystormus; yr oedd yr ergydion taranfolltawl yn gyfryw ag a greuasant fraw o'r fath fwyaf calon- rwygol yn mynwesau trigolion Lyre- pole (nid Lyrepoll, fel y dywedodd diawl y wasg yn Manion y DARIAN" ddiweddaf). Yn Oldham dinystriwyd muriau'r Gerddorfa newydd gan ys- gydwaddaeargrynfaol y taranau. Yn Goole Uaddwyd dyn a dan geffyl gan wefrebion cludyddol y daran Ym- welodd rhuthrgyrchoedd y daran a Ripley, swydd Derby, Sheffield, Neithrop, yn Banbury, Birmingham, Llundain, Trefnewydd, swydd Trefald- wyn, Newhaven, Balmoral, a Dundee, Caledonia. Nid yw'r Ysgotiaid yn cofio dim yn hafal i'r mellt a'r taranau hyn er ys llawer blwyddyn a dyna sydd yn rhyfedd, tranoeth yr oedd rhai o fynyddoedd uchel swydd Aberdeen yn orchuddiedig gan eira mawr! Yr oedd ein Brenines enwog ni yn Bal- moral ar y pi yd, ac y mae'r papyrau yn dweyd iddi gael trochfa fendigedig pan yn gyru o Balmoral at ddylif- gwympiadau y Juoich."
Y PARCH. J. P. CHOWN.
Y PARCH. J. P. CHOWN. Y mae'r siaradwr hyawdl a gwir dalentog hwn wedi ymadael a Brad- ford, swydd Gaerefrog, er cymeryd gofal ysbrydol eglwys Dr. Brooke, Llundain. ir ei ymadawiad a Brad- ford, anrhegwyd ef a £ 1,000 gan yr eglwys. Y mae'r gwr parchedig yn un o'r siaradwyr mwyaf nerthol ac hyglyw a ddaeth i'n rhan i'w wrando erioed. Treiddia ei lais peroiiaethus drwy bob gwrthwynebiad, fel y gall ugain mil o greaduriaid rhesymol idd ei ddeall a'i glywed gyda'r rhwyddineb mwyaf. Bedyddiwr rhydd-gymunol yw efe, a chyfaill mawr i'r Parch. C. H. Spurgeon; a phan oedd yr ysgrif- enydd yn Bradford, Mr. Chown a'r Parch. Mr. Manners, M.A., ofFeir- iad, oeddynt yr unig wyr a wnai efe ddim a hwynt. Yr oedd Mr. Chown yn siarad yn barchus iawn am that wonderful phenomenon—Dr. Price, Aberdare."
ERLEDIGAETHAU AR IUDDEWON.
ERLEDIGAETHAU AR IUDDEWON. Y mae'r barbariaid dwyreiniol yn ymosod ar y genedl Iuddewig mewn modd damniol. Danfonodd gwyr Abra- hamaidd glanau Tiberias frys-neges at Sir Moses Montefiore yr wythnos ddiw- eddaf, yn ymbil ar yr hen batriarch cenedlgarol i ddyfod drosodd i'w gwar- edu oddidan law ormesol eu gelynion llymdost ac annghristionogol; ac y mae yntau, er ei fod yn hen wr 90 mlwydd oed, wedi cychwyn tua gwlad Canaan er mwyn ceisio dylanwadu ar yr awdurdodau i ganiatau rhyddid barn a llafar i'w gyd wlad wyr anffortu- nus yrluddewon.
Y PABYDBIOK".
Y PABYDBIOK". Gynaliodd y trrfenusicn uchod gyfar- fod eglwysig yma dydd Merc-her diw. eddaf. Nid oedd caniatad i gynrych- iolwyr ywasg fod yn bresenol, canys dygid gweitlirediadau y gynghorfa yn mlaen a arysau cauedig Pa fodd bynag, arnbvg yw fod arwyddnodau peroriaethus Mozart, Haydn, a Bee- thoven, wedi bod dan farn-condemniad gan yr offeiriaid, y canoniaid, a'r esgob; ac yn mhen ychydigyn eto, ni chlywir I y swn Haydn, Mozart, na Beethoven yn
jY GALON DOREDIG.
fel pe wedi eu llyncu i fudandod bythol, a hithau yn ddisylw a anadlai allan ei cherdd brudd, druenus, nes y byddai pob meddwl fel pe yn syfrdanol, a phob calon wedi gorlenwi, ac yn y diwedd yn tori allan yn ffrwdlifoedd o ddagrau. Ha! a allasai un mor bur, mor ddi- dwyll, mor addfwyn a chalon-dyner beidio creu teimlad ac edmygedd gwlad oedd mor neillduol o frwdfrydig? O na, er fod y byd yn ddrwg a chellweirus, y mae yr elfen blanedig serchgarol, er hyny, yn fyw mewn rhai dynion, ac nis medr lai na thori allan ambell dro, fel y gwna yr afon ymgodi dros ei cheulanau. Do, enillodd yn hollol galon swyddog dewr, talentog, a chyfoethog, yr hwn a dalai ymwelia.dau mynych a hi, gan gywir gredu y buasai yr hon oedd mor ddidwyll i'r marw, a'r hon oedd yn dal mor ddiysgog olygiadau ei meddwl ar yr hwn nad oedd gobaith mwy iddo ddychwelyd, yr hwn oedd wedi darfod siarad, rhodio, cyfeillachu, a gweinyddu cysur am byth yn y byd hwn, a'r hwn oedd wedi rhoddi y ffarwel olaf i'r ddaear credai gan ei fod yn ei gweled yn talu ymweliadau mor fynych a llan- erch oer ac unig y bedd, ac yn eneinio y pridd oedd yn cueldio corff ei cliariad cyntaf a'i dagrau; ïe, credai fod yn anmhosibl i hon beidio profi ei hun yn ddidwyll i garu y byw; ond yn hyn cafodd ei siorni i raddau. Gwnaeth ar y cyntaf ymwrthod a'i gais yn syml, o herwydd fod ei clialon yn anwrfchwyneb- ol feddianol i adgofion y cariad cyntaf; eithr ni ddigalonodd hyn ef, ond parha- odd yn ei ymgais, gan adael ei chariad yn ei mynwes, a thaer ofyn yn unig am ei nawdd a'i pharch, ac yn hyn cy- northwywyd ef, trwy ei hymwybodol- rwydd o'i dalent a'i gyfoeth, yn nghyd a'i wybodaeth o'i hunigedd, amddifad- rwydd, a'i hymddibyndod, gan nad oedd yn awr ond byw ar garedigrwydd a nawdd cyfeillioii; felly trwy y pethau hyn efe a lwyddodd i enill ei Haw, ond nid heb rybuddiad dwys fod ei chalon eto yr un, ac yn anghyfnewidiol eiddo i arall. Wedi hyn, efe a'i cymerodd ymaith i Sicily, gan obeithio y buasai gadael yr hen breswylfod, y rhodfeydd, a'r cyf- eillion, yn gwneud lleshad iddi, yn nghyd a chyfnewid golygfeydd natur, a thrwy gael cyfeillion a gweledigaeth- au newyddion, a gwahanol bethau dy- eithrol i'r llygaid, y buasent yn treulio ymaith yr adgofion, a sychn ffynonellau y gwaeau, y loesion, a'r dirdyniadau blaenorol, o herwydd yr oedd yn wraig brydweddol a da, ac yn esiampl i fil- oedd y dyddiau hyn. Ymdrechai yn egniol i fod yn hawddgar, serchog, a dedwydd, er cysur a llawenydd i'w gwr. Ond, ond er pob ymdrech meddyliol, gwenan a serchawgrwydd cyfeillion, nid oedd dim a wnai wella y pruddglwyf dystaw oedd wedi suddo i'w henaid anwyl a hynaws, ie, yr oedd bob mynyd ac awr yn traflyneu ei bywyd yn raddol, graddol, nes yn y diwedd deifiodd a gwywodd fel blodeuyn ter yn araf. Ond yn yr anobeithiol ddarfodedigaeth, suddodd i anamserol fedd, fel aberth olaf y galon wir doredig. Trecynon. CYNONFRYN.