Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

EFFEITHIAU OFNADWY CLEP-IAN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EFFEITHIAU OFNADWY CLEP- IAN YN RHYMNI. DYMUNAE gael traethu gair neu ddau yn mhellach i'r cyfeiriad a nodwyd, OS caniatewch ychydig ofod i mi. An- ivyi ddarlienydd, gwyddost fy mod wedi galw dy sylw at hyn yn flaenorol, fel nad oes achos iddo beidio gadael rhyw effaith ar ei ol, naill ai da neu ddrwg; felly gellir dywedyd am yr arfcriad blentvnaidd crybwylledig, ei bod wedi achosi i ddegau orfod crwydro fel defaid i gilfachau y mynyddcedd am eu bywyd, megys o flaen y bleiddiaid ysglyfaethgar. Tebyg i hyn y bu bob amser o ddechreu- ad hanesyddiaeth byd yn awr. Onid yw yn syn gweled dyn, neu ddyn- ion yn wir, yn ymhyfrydu ar fyned i Wrandaw yr hyn a draefchir yma athraw, ac yn casglu yr hyn a dybiant allai fod yn fanteisiol iddynt i'w sachau, a'u cadw fel gemau, gan eu cyfhvyno gyda'r wen fwyaf Judasaidd a allai yr affiwys argraffu ar eu gwynebau, o flaen prif swyddog y gwaith. Wrth gwrs dyna hwy yn def- nyddio eu talentall i baentio yr hyn oedd ganddynt yn ell sachau, fel y pysgotwr yn taflll pluen i liw y dwfr. Gan dde- chreu mewn araeth benigamp, tebyg i hyn,- Yr oeddynt yn yraosod arnoch chwi gyda'r dirmyg mwyaf, a chan ein bod yn gyfeillion calon i chwi, ac yn teimlo i'r byw dros eich urddas fel meistr, nis gallasem lai na'ch hysbysu o'u haerllugrwydd. 0 ddull gwrach- laidd, onide ? Ac mor wracluaidd a hyny yw rhoddi clust o wrandawiad i wehilion felly i wasgar eu gwenwyn ar draws cym eriadau dynion, pan na fydd- ent wedi gwneud na Ilefa-ru dim allai fod yn galw am y driniaeth arno a ddef- nyddir atynt, a hyny yn gyfangwbl o herwydd bodau bradwrus fel hyn. Ond dyna sydd yn nodedig yn y peth hwn, yw eu bod yn cael eu gyru ymaith fel cwn, pan yn cynyg ail ddychwelydjit eu goruchwylion, heb gael clywed beth yn y byd oedd eu trosedd, er ymbil lawer gwaith am hyny a bernir mai yr achos o hyny yw cadw yn ddyogel y rhai sydd yn arfer carlo y cydau hyn, os ydynt trwy hyn yn cael tipyn o ysgafnder coriforol. Cynghorwn hwynt, er mwyn yr ychydig ddynoliaeth a f eddant, i adael yr hen ddull bawaidd yna, gan ymestyn i godi eu hunain trwy deilyngdod, ac nid trwy glepian. Dymunwn allu bod yn gyfrwng i wneud i'r hen arferiad ífiaidd hon dchewi yn ffroenan pob dyn y cynygir y fath sothach iddo; oherwydd credwyf ein bod yn yr ardal hon wedi gorfod teimlo yn ddwys o'i herwydd lawer gwaith. Bodau fel hyn yn myned ac yn dywedyd -Y mae nhw yn meddwl ei gwneud hi yn galch eto. fel ar fel; a dyma fellt yn dechreu gwibio, a'r taranau yn canlyn, nes ydym- fel gweithwyr a meistri mewn anghydfodbeunyddiol a'n gilydd; a chan ein bod wedi cael hen ddigon ar y fath i'ywyd anghysurus, hoffwn allu cyhoeddi heddwch trwy yr holl ororau, a hyny trwy gau safetau y bodau hyn. Oblegyd I I ,y credwn yn gydwybodol fod llawer o hyn yn gorphwys wrth ddrws giwaid y fall a nodwyd, fel y mae yn syn meddwl bod dynion o urddas yn rhoi croesawiad i'r fath gymeriadau, ac sydd yn ymhyfrydu yn ngweled eu cyd-ddynion dros eu pen a'u clustiau mewn helbulon. Credwn pe llwyddem i roddi atalfa ar hyn, y caem heddwch i ddylifo i mewn fel yr afon, a chariad fel tonau'r mor. Y mae dau gyfaill parchus i mi wedi bod ar faes y DORIAN yn cyhoeddi nad yw fy ysgrifan ond swp o gelwydd a gaf- odd fodolaeth yn rhywle rhyngof fi a thad y celwydd, er eu bod wedi gofalu rhag ceisio profi hyny mewn un modd, ac mai ar gais gweithwyr y gyrodd y m.mjddogion y dynion y soniaf am danynt ymaith. Gweli, ddarllenydd, nad yw hyn yna yn ddim ond prawf o'm geirwir- edd, am eu haflonyddwch, meddai efe. A fy mod wedi gwneud fy lie yn rhy dwym yma; ond credaf ei fod yn cam- gymeryd: a bod yn well i mi fod yn ddystaw, neu y byddai yn sicr o roddi nod arnaf. Wel hai ati, gyfaill anwyl. Cymhellodd hefyd frawd arall i ddyfod i'r maes i ddadlenu eyi twyll i'r byd; ond chwareu teg i hwnw, bu yn bur gynil. Ar yr un pryd, heriaf hwy i brofi fy nywediadau yn gelwyddog, a dywedaf nad wyf wedi traethu chwarter y gwir- ioneddau allwn gyflwyno ger bron y dar- llenydd, oherwydd byddai, fel y dywed- wyd yn flaenorol, yn gyfrol na allai y byd ei chynwys. Yr eiddoch, &c., ANUNDEBWK.

LLANWRTYD.

-.. MUDTAD CYDWEITHIOL GLOFAOL,…

EISTEDDFOD BETHLEHEM, TY'NYCOED.

AMDDIFFYNIAD.

---LLANSAMLET.

CAERPHILI AC UNDEB Y G-LOWYE.

YSTAFELL Y MYEYBDOD.

YR HEN LANC.

AT Y BEIRDD."

[No title]

MARWOLAETH MYNYDDYK*

Y CAWRFIL.

Y WAWR.

ELEANOR,